Dafydd Gwylon- Tafodiaith y Bont

Dafydd Gwylon: Tafodiaith y Bont: Cymraeg Dwy Ardal / Dialect of Pontarddulais: Two Regions of Welsh

Ledled Cymru, mae pob cymuned Gymraeg, boed yn dre’ neu’n gwm, yn defnyddio’i geiriau a’i hymadroddion ei hun i greu ystyron newydd sy ddim i’w clywed yn rhywle arall. Yma mae Dafydd Gwylon, sy’n dod o Bontarddulais yn wreiddiol, yn rhannu’i hoff enghreifftiau o dafodiaith ei fro.

Across Wales, each Welsh-speaking communitity, whether it’s a town or a valley, uses its own words and phrases to create new meanings that not to be heard anywhere else. Here Dafydd Gwylon, a native of Pontarddulais, shares his favourite examples of his region’s dialect.

Mae’n ddiddorol clywed a sylwi ar eiriau tafodiaith Cymru. Os ych chi’n blentyn ifanc neu yn ceisio deall beth mae rhywun yn ddweud a’r geiriau yn newydd i chi mae’n brofiad gwahanol iawn! Cȇs i fy magu nepell o Abertawe ym Mhontarddulais {y Bont} ac roedd fy rhieni yn siarad Cymraeg Ceredigion. Roedd fy rhieni wedi eu magu nepell o Aberystwyth.It is interesting to hear and take notice of Welsh dialect words. If you are a young child or are trying to understand what someone is saying and the words are new to you it is a very different experience! I was brought up not far from Swansea in Pontarddulais (y Bont) and my parents spoke Cardiganshire Welsh. My parents had been brought up not far from Aberystwyth.
Roedd cynifer o eiriau gwahanol gan bobol y Bont fel ‘taclu’ am wisgo, ‘carco’ am ofalu, ‘tyle’ am rhiw, ‘dishgwl’ am edrych, ‘can’ am flawd, ‘colfen’ am goeden, ‘llyched a thyrfe’ am fellt a tharanau a ‘siwrnai’ am unwaith. Yng Ngheredigion a nes i’r gogledd mae ‘siwrnai’ yn golygu taith.The people of y Bont had a number of different words, such as 'taclu for 'wisgo' (to dress), 'carco' for 'gofalu' (to care, mind), 'tyle' for 'rhiw' (hill), 'can' for 'blawd' (flour), 'colfen' for 'coeden' (tree), 'llyched a thyrfe' for 'mellt a tharannau' (thunder and lightning) and 'siwrnai' for 'unwaith' (once). In Cardiganshire and further north 'siwrnai' means 'taith' (journey).
Byddai fy Mamgu a’m Modryb ger Aberystwyth yn dweud wrtha’i yn blentyn gymaint o’n i wedi ‘prifio’ –eu gair nhw am ‘tyfu’. ‘Lodes’ oedd eu gair nhw am ferch ifanc ac os oedd anifail neu greadur wedi marw roedden’hw’n dweud ei fod wedi ‘trigo’. Pan oedd eisiau bwyd ofnadwy y disgrifiad oedd ein bod yn ‘clemio’. Disgrifien nhw ambell i ferch yn ‘haden’ os oedd hi’n blentyn/person bywiog llawn ysbryd.My grandmother and aunt from Aberystwyth way would tell me as a child how much I had grown using their word 'prifo' rather than 'tyfu'. Their word for a young girl was 'lodes' and if an animal or some creature had died they would say it had 'trigo' (to perish, die, especially of animals; trigo more commonly means to live, dwell). When someone was in great need of food they were said to 'clemio' (to be starving, cf. English dialect 'I'm fair clemmed'). They would describe some girl as a 'haden' (literally, a small seed) if she was a lively child/person full of spirit.
Yn ardal Pontarddulais ‘starfo’ oedd y gair am eisiau bwyd yn awgrymu efallai mwy o ddibynnu ar y Saesneg yno a pan oech chi’n oer iawn roech chi’n ‘sythu’.In the Pontarddulais area the word for wanting food was 'starfo', perhaps suggesting more of a dependency on English there, and when you were cold you would 'sythu'.
Yn ardal y Bont hefyd roedd y Cymry yn ynganu nifer o eiriau ychydig yn wahanol megis ‘lluwch’ am ‘llwch’, ‘llidi’ am lludw, ‘cenol’ am canol, ‘lo’s’ am loes, ‘tishen’ am teisen ‘sgidshe’ am esgidiau.In the Bont region the Welsh would also pronounce a number of words a little differently, like 'lluwch' for 'llwch' (dust), 'llidi' for 'lludw' (ash), 'cenol for 'canol' (centre), 'lo's' for loes (great pain), 'tishen' for 'teisen' (cake) and 'sgidshe' for 'esgidiau' (shoes).
Fe glywch ambell air o dafodiaith Pontarddulais wrth wrando ar Taro'r Post Radio Cymru pan mae Garry Owen yn cyflwyno’r rhaglen. Un o’r Bont yw Garry ac mae’n para i fyw yn yr ardal.You can hear some Pontaddurlais dialect words if you listen to Radio Cymru's Taro'r Post when Garry Owen is presenting the program. Garry is a Bont man and still lives in the area.
Roedd dywediadau lliwgar cofiadwy gan fy Mam (o Geredigion) oddi mewn i waliau’r cartre! Roedd rhywun anniben yn edrych ‘fel bwbach’ a rhywun tenau iawn ‘fel sgadenyn’ neu ‘fel sgilet’.My mother (from Cardiganshire) used some memorably colourful expressions within the walls of her own home! Someone untidy would look like a 'bwbach' (bogy, scarecrow) and someone very thin like a 'sgadenyn (= ysgadan, herring) or 'sgilet' (skillet, saucepan).
Roedd rhywun oedd yn holi llawer yn ‘holi perfedd’ ac os oedd rhywun heb ddangos llawer o ddeall a synnwyr cyffredin wedi ‘cael ei fagu dan badell’, ac ‘eisiau clymu ei phen’ am rywun yn gwneud rhywbeth ffȏl. Os oedd rhywun yn mynd yn dew neu yn bwyta gormod wel gwell ‘codi’r rhastal arno’.Someone who asked too many question was 'holi perfedd' (literally, asking guts), and someone showing a lack of understanding or commonsense had 'been brought up in a kettle', while someone doing something foolish 'needed to get his head together'. If someone was getting fat or was eating too much 'better get a manger for them'.
Roedd fy Nhad wedi ei fagu yn ardal Trefenter, Mynydd Bach, Ceredigion ac roedd yntau a’i deulu a’u dywediadau diddorol. Roedd rhywun oedd yn gwastraffu amser yn ‘hela wowcs’.My father had been brought up in the Trefenter, Mynydd Bach, Cardiganshire area and he and his family also had their interesting turns of phrase. Someone wasting time was 'hela wowcs' (= hela wewcs, pottering about).
Wrth sȏn am ddod a phethe i drefn fe ddywedai dod a phethe ‘i fwcwl’. Ambell waith wrth wneud ambell dasg roedd eisiau ‘panso’ sef cymryd pwyll a gofal. Roedd nhad hefyd wrth grymanu’r ardd a’r cae yn casglu ‘ffrwcs’ i’w llosgi.Talking about tidying up he said he was putting things 'in a buckle'. Sometimes when carrying out some task there was a need to 'panso', that is to take pains or great care. My father would also mow the garden and field with a sickle collecting 'ffrwcs' (weeds, grass mowings) to burn.
Ymadrodd cyffredin gan fy rhieni oedd ‘cwiro’ a sȏn am ‘gwiro sanau’. Dȇs i ddeall mwy am y defnydd o’r gair wrth glywed Emyr Evans o ardal Felinfach, Llanbed, yn dweud ar S4C am ‘gwiro tractor’. Rwy’n meddwl bod e’n dod o’r gair ‘cywiro’.A common expression with my parents was 'cwiro' (to mend) and they talked about 'cwiro sanau' (mending socks). I came to understand more about the use of the word when I heard Emyr Evans from the Felinfach, Llanbed area talking on S4C about 'gwiro tractor' (mending a tractor). I think that it comes from the word 'cywiro' (to correct, put right).
Ymadrodd cyffredin yn y capel adeg angladd oedd yn rhyfedd i glust plentyn oedd y cyhoeddiad ‘i wrywod yn unig’ . (Doedd y gair ‘gwrywod’ ddim yn air cyfarwydd i blentyn a phobl ifanc bryd hynny). In chapel, on the occasion of a funeral, a common saying which was strange to the ear of a child was the proclamation 'i wrywod yn unig’ (to males only). (The word ' gwrywod' was not a familiar one to children and young people at that time).
Pan oedd fy mam yn heneiddio ron i’n sylwi mwy ar ei hymadroddion. Pan ofynwn iddi sut oedd hi yn teimlo fe atebai ‘Purion’ sy’n air tafodiaith Ceredigion am ‘go lew’. Roedd mam wedi treulio rhan helaeth o’i hoes ym Morgannwg a sir Gȃr! Gair arall a ddefnyddiai wrth gynnig darn o ffrwyth neu frechdan imi: ‘Hwde’ am ‘cymer’ o cymeryd fel math ar orchymyn. As my mother got older I took more notice of her sayings. When I asked her how she was feeling she would answer 'Purion', which is Cardiganshire dialect for 'not too bad'. Mum had spent the greater part of her life in Glamorgan and Carmarthenshire. Another word she would use when offering me a piece of fruit or bread was 'Hwde', for 'cymer' from 'cymeryd' as a kind of command.
Rwy’n edrych mlaen at glywed sylwadau darllenwyr Parallel.Cymru am yr ymadroddion uchod: e.bost: [email protected].I am looking forward to hearing the observations of Parallel.Cymru readers concerning the above expressions: email: [email protected].
Rwy’n disgrifio pobol a mwy am yr ardaloedd yma yn fy llyfr Mȇs Bach a Gwreiddiau ac mae nifer o luniau a ‘dogfennau’ hanesyddol yn y llyfr hefyd.I describe the people and more about these areas in my book Mȇs Bach a Gwreiddiau ('Little Acorns and Roots', and there are also a number of illustrations and historical 'documents' in the book.

Dafydd Gwylon Mês Bach a Gwreiddiau

gwales.com/bibliographic/?isbn=9781903529249

 

Llwytho i Lawr fel PDF


Côr Meibion Pontarddulais

Y diweddaraf oddi wrth Deall ein Hiaith