Simon Rodway- Was St Patrick Welsh?

Simon Rodway o Brifysgol Aberystwyth: Ai Cymro oedd Padrig Sant? / Was Saint Patrick Welsh?

Heb amheuaeth cafodd Padrig Sant ei eni yng ngorllewin Prydain, mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith, ond wedi dweud hyn oll, fe ddewisodd Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Beth arall ydym ni’n ei wybod am ei gysylltiadau â Chymru yn y bumed ganrif?

Saint Patrick was certainly born in the west of Britain, his first language was almost certainly the ancestor of Welsh, and yet he chose Ireland over the land of his birth. What else do we know about his connections with fifth century Wales?

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, ‘St Patrick: he’s Welsh, you know’. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi’r Chwe Chenedl bythefnos o’r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e’n gywir?

Dylai’r ateb fod yn weddol syml. Wedi’r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai’n wreiddiol, mewn un o’r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o’r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i’r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae’n eitha posibl, er nad yw’n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru.

Efallai nad yw’r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni’n ei hadnabod ddim yn bodoli. ‘Brythoniaid’ oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni’n ei galw’n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio’r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i’r de o Fur Hadrian – sef y dalaith Rufeinig gynt o’r enw Britannia.

Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai’r math o Gelteg Ynysol o’r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i’r Gymraeg, i’r Gernyweg, ac i’r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O’r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw’r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru’n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi’n ‘Cymru’ erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p’un a gâi’r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio.

Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i’r ‘gens Anglorum’ hynny yw ‘y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o’u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i’r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd ‘Saeson’, a hyd yn oed heddiw yr un enw sy’n cael ei ddefnyddio (a ‘Sasanaigh’ yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw’r Brythoniaid yn ‘Wealas’ a’r term hwn yw tarddiad y gair ‘Welsh’. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro.

Iaith a llenyddiaeth
Mae sawl ysgolhaig (y rhai o’r Oesoedd Canol a’r rhai o’r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw’n ‘lingua aliena’ (hynny yw, ‘iaith estron’). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi’n ddewis amlwg i’w defnyddio pan oedd e’n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi’n ‘lingua franca’ yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu’n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn.

Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o’r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi’i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae’r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau’r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi’i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi’n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.

Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef ‘modebroth’ a ‘gra(t)zacham’. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt.

Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg ‘myn duw brawd’ yw ‘modebroth’. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad ‘gra(t)zacham’ yw’r ymadrodd Lladin ‘gratias agam’ (‘gadewch imi fendigo’), neu ‘gratias agamus’ (‘gadewch inni fendigo’).

Mae’n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na’n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am ‘gra(t)zacham’, fe allai fod wedi bod yn anghywir am ‘modebroth’, hefyd. Mewn gwirionedd, gallai ‘modebroth’ fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy’n golygu ‘cosb ddwyfol’, wedi’i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir ‘asu’ neu ‘iesgob’ yn lle ‘God’ a ‘Jesus’). P’un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o’r blaen.

Wel, beth yw’r dyfarniad? Mae’n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e’n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon.

Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o’r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’

Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, 'St Patrick: he’s Welsh, you know'. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi'r Chwe Chenedl bythefnos o'r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e'n gywir?I wandered the streets of Galway, on St Patrick’s Day 2002, wearing a t-shirt which stated “St Patrick: he’s Welsh, you know”. It was intended, and received, as friendly banter, in the context of a resounding Irish victory over Wales in the Six Nations rugby tournament a fortnight previously. But is it true?
Dylai'r ateb fod yn weddol syml. Wedi'r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai'n wreiddiol, mewn un o'r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o'r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i'r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae'n eitha posibl, er nad yw'n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru.The answer should be pretty straightforward. After all, Patrick tells us, in one of the two Latin works of his that have survived, where he was from: a town named Banna Venta Berniae. Unfortunately, we don’t know where that was, except that it was somewhere in Britain. As he was captured there by Irish raiders, it must have been reasonably close to the west coast of Britain. So it is quite possibly, but by no means necessarily, somewhere in Wales.
Efallai nad yw'r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni'n ei hadnabod ddim yn bodoli. 'Brythoniaid' oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni'n ei galw'n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio'r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i'r de o Fur Hadrian - sef y dalaith Rufeinig gynt o'r enw Britannia.Perhaps its precise location doesn’t really matter. In Patrick’s lifetime (some time in the fifth century AD), Wales, as we know it, did not exist. The inhabitants of the various kingdoms which made up the geographical area which we now call Wales called themselves “Britons”, as indeed did many other people in the part of Britain south of Hadrian’s Wall – the old Roman province of Britannia.
Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai'r math o Gelteg Ynysol o'r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i'r Gymraeg, i'r Gernyweg, ac i'r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O'r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw'r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru'n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi'n 'Cymru' erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p'un a gâi'r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio.But those Britons who spoke the British Celtic language known as Brittonic (the ancestor of Welsh, Cornish and Breton) began to use another name for themselves, Combrogī – “fellow countrymen”. This term is the ancestor of the English place name Cumbria, and of the word the Welsh use today to describe themselves: Cymry (in the Middle Ages, this term was also used for the country of Wales, which is now spelled Cymru). Whether or not this term was in use in the fifth century, however, is impossible to say.
Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i'r 'gens Anglorum' hynny yw 'y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o'u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i'r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd 'Saeson', a hyd yn oed heddiw yr un enw sy'n cael ei ddefnyddio (a 'Sasanaigh' yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw'r Brythoniaid yn 'Wealas' a'r term hwn yw tarddiad y gair 'Welsh'. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro.By this time, Germanic-speaking kingdoms were forming in the south and east of the island of Britain. They were the forerunners of what historian, and later saint, Bede, in the eighth century would call the “gens Anglorum”, “the English people”. These people were not Britons, either to themselves, or to their neighbours to the west, who, then and now, called them “Saxons” (Welsh “Saeson”, Gaelic “Sasanaigh”). They, in turn, called the Britons, “Wealas”, the origin of the word “Welsh”. So from a contemporary English point of view at least, Patrick would have been Welsh.
Iaith a llenyddiaeth
Mae sawl ysgolhaig (y rhai o'r Oesoedd Canol a'r rhai o'r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw'n 'lingua aliena' (hynny yw, 'iaith estron'). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi'n ddewis amlwg i'w defnyddio pan oedd e'n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi'n 'lingua franca' yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu'n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn.
Language and literature
It has been claimed, by scholars both medieval and modern, that St Patrick spoke Brittonic. We know that he could write good Latin, but he called it lingua aliena, “a foreign language”. It was not his native tongue, but, as a high status language with a venerable literary tradition, and the lingua franca of the church, it was the obvious choice for him to write in. Without any further evidence, we could quite confidently deduce that Brittonic would be his native tongue (Irish, English and Pictish are much less likely candidates for a native of western Britannia at this time). But perhaps we can go further than this.
Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o'r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi'i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae'r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau'r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi'i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi'n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.In the seventh century, an Irish monk named Muirchú wrote a Life of St Patrick in Latin. In it, the few historical facts about Patrick recoverable from his own writings are almost completely obscured by the numerous miracles that were de rigueur in medieval writings on the lives of saints, and the blatant propaganda of the ambitious church of Armagh, which was in the process of appropriating Patrick for itself.
Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef 'modebroth' a 'gra(t)zacham'. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt.Nonetheless, Muirchú records verbatim two of Patrick’s sayings: “modebroth” and “gra(t)zacham”. Muirchú does not tell us what language these utterances are in, but both were interpreted as being in Brittonic by a ninth-century Irish lexicographer, Cormac mac Cúilennáin, the bishop-king of Cashel.
Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg 'myn duw brawd' yw 'modebroth'. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad 'gra(t)zacham' yw'r ymadrodd Lladin 'gratias agam' ('gadewch imi fendigo'), neu 'gratias agamus' ('gadewch inni fendigo').Modebroth, he claimed, is a corrupt form of the Welsh “myn duw brawd” – “by the god of judgement”. This could be right, but gra(t)zacham derives ultimately from the Latin “gratias agam” (“let me give thanks”), or gratias agamus (“let us give thanks”).
Mae'n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na'n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am 'gra(t)zacham', fe allai fod wedi bod yn anghywir am 'modebroth', hefyd. Mewn gwirionedd, gallai 'modebroth' fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy'n golygu 'cosb ddwyfol', wedi'i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir 'asu' neu 'iesgob' yn lle 'God' a 'Jesus'). P'un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o'r blaen.Cormac seems to have interpreted it as Brittonic on the eminently reasonable ground that Patrick was a Briton, and that anything he is reported to have said which was not obviously Irish or Latin must have been Brittonic. So if he was wrong about gra(t)zacham, he may have been wrong about modebroth, too, which may, in fact, have been an Irish phrase meaning “divine judgment”, subjected to the sort of modification common in religious oaths (see, for instance, the English “gosh” and “jeepers” instead of “God” and “Jesus”). At any rate, there is no very compelling reason to believe that Muirchú really did have access to the exact words which Patrick had uttered 200 years previously.
Wel, beth yw'r dyfarniad? Mae'n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai'r Saeson wedi ei gyfrif fel un o'r 'Wealas'. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e'n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon.So what’s the verdict? Patrick may very well have been born in present-day Wales. He was certainly born in the west of Britain. He may have thought of himself as a Cymro, and the English would doubtless have classified him as Welsh. His first language was almost certainly the ancestor of Welsh. And yet, we know that he chose Ireland over the land of his birth. He is a footnote in the history of Wales, but utterly central to that of Ireland.
Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o'r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’In the game of rugby which inspired my St Patrick’s Day t-shirt, one of the (many) try scorers for Ireland was a certain Ronán O’Gara, born San Diego, California. When it comes to identity, place of birth isn’t everything.

Yn enedigol o Gaeredin, enillodd Simon gradd mewn Astudiaethau Celtaidd a PhD mewn Cymraeg Canol o Aberystwyth. Ar ol cyfnod ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, daeth yn ol i Aberystwyth i ddarlithio yn 2003.

Simon was born in Edinburgh, studied for a degree in Celtic Studies and then a PhD in Middle Welsh in Aberystwyth. After a period at the National University of Ireland, Galway, he returned to Aberystwyth as a lecturer in 2003.

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru