Roger Scully- Reflections on the Welsh language

Yr Athro Roger Scully: Myfyrdodau ar yr iaith Gymraeg / Professor Roger Scully: Reflections on the Welsh language

Mae’r Athro Roger Scully yn arbenigwr ar ddatganoli, ar wleidyddiaeth, ac ar etholiadau a phleidleisio yng Nghymru. O gyfuno hyn oll â’i brofiad o ddysgu’r Gymraeg, mae ganddo ddealltwriaeth neilltuol ynglŷn â chyflwr yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw.  Mae’n ymchwilio i hyn ymhellach yn yr erthygl hon, sydd wedi’i haddasu a’i chyfieithu o erthygl a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwleidyddol a chelfyddydol y New Statesman

Professor Roger Scully is an expert on devolution, politics, elections and voting in Wales. Together with his experience of learning Welsh gives him a unique insight into the state of the language in modern Wales. He explores this in this article, which was is adapted and translated from an article in the political and cultural monthly magazine New Statesman.

Yn haf 2017 gwelwyd lansio papur gwyn newydd ynghylch yr iaith Gymraeg gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg yn sôn am gynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg i un filiwn erbyn 2050. Roedd y nod hwnnw wastad yn bod, ond mae’r ddogfen yn rhoi rhagor o fanylion ar sut y cynigir ei gyrraedd. Mae llawer o bwyslais ar addysg: ar gynyddu darpariaeth feithrinfa yn y Gymraeg, ar ddysgu mwy o blant mewn ysgolion cynradd gan ddefnyddio’r iaith, ac ar wella safonau dysgu ar gyfer y rhai sy’n dysgu’r Gymraeg.

Mae’r ddogfen yn anelu at dwf sylweddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, ac at gynyddu defnydd o’r iaith trwy fywyd pob dydd yng Nghymru. Ychydig yn llai trawiadol yw’r realiti heddiw. Dyw’r iaith Gymraeg ddim wedi dioddef y farwolaeth a ddaroganwyd gan Saunders Lewis ym 1962. Ond prin y gallem ddweud ei bod yn mynd o nerth i nerth. Er bod addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu, mae’r nifer o gymunedau lleol lle mae’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif yn dal i ostwng. Mewn gwirionedd, dangosodd cyfrifiad 2011 ostyngiad bach yn y nifer o bobl yn honni eu bod yn siarad Cymraeg.

Nid pwnc yw hwn lle gallaf honni fy mod yn amhleidiol; na dyheaf am fod yn niwtral, ychwaith. Cefais fy ngeni a’m magu yn Lloegr, a symudais i Aberystwyth i fyw ac i weithio yn Ionawr 2000. Rwy’n cofio, ar y dechrau, y cawsai rhai o’m cyfeillion Cymraeg eu siomi ar yr ochr orau wrth sylwi ar fy agwedd cadarnhaol tuag at eu hiaith. Cychwynnais ar wersi ffurfiol ychydig yn hwyrach, ac ar ôl cyfnod byr, dywedais wrth gwpl o ffrindiau da yn y gweithle y byddem yn dechrau pob sgwrs yn y Gymraeg o hynny ymlaen. I ddechrau, byddwn i’n cyrraedd y pwynt lle y byddai rhaid i fi droi i’r Saesneg yn eithaf buan. Wedyn, aeth yn hwyrach, ac erbyn hyn ni chyrhaeddai byth.

Fy ail iaith yw’r Gymraeg- er bod hynny, yn rhannol, yn mynegi rhywbeth am safon wael fy Ffrangeg, sy’n nodweddiadol o’r Saeson. Nid yn aml y breuddwydiaf yn y Gymraeg, ac anfynych y byddwn yn cyfrif gan ei defnyddio. Ond defnyddio’r Gymraeg a wnaf bob dydd. Rwy wedi dysgu ac wedi darlledu gan ddefnyddio’r Gymraeg; yn haf 2017 rhoddais ddarlith ynghylch yr etholiad cyffredinol yn y Brifwyl yn Ynys Môn. Cynhelir rhan o’m seremoni briodas yn y Gymraeg hefyd. (O gofio etifeddiaeth ddiwylliannol fy mhartner, cynhelir rhan ohoni yn Pwnjabeg hefyd – er mai hyhi a anwyd yn y Cymoedd). Ni’m ganwyd yn Gymro Cymraeg, na magwyd fi yn y Gymraeg. Ond, yn hwyrach yn fy mywyd, rhoddwyd i fi gipolwg rhannol o leiaf ar ddiwylliant sy’n eithriadol o gyfoethog a hanesyddol. Mae hyn o bwys mawr i fi.

Ar hyd fy nhaith gyda’r iaith Gymraeg, pan wyf wedi baglu ar adegau, dim ond anogaeth a chefnogaeth rwy wedi’u derbyn. Yn aml rwy wedi bod yn falch iawn o hyn – ond hefyd, rwy ambell waith wedi cael fy nigalonni’n ddwfn. Ar ormod o achlysuron, mae gormod o bobl wedi ymddangos bron yn druenus o ddiolchgar fy mod wedi dangos rhyw barch at eu diwylliant. Dylent fod â hawl i ddisgwyl hwnnw yn ôl yr arfer. Ond hollol groes i hyn yw profiad gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg yn ystod eu bywyd beunyddiol. Yn ddiamheuol, mae parch at yr iaith Gymraeg ac at ddiwylliant Cymreig, yn ychwanegiad dewisol yng Nghymru, heb sôn am y Deyrnas Unedig fel cyfanwaith.

Os bydd y targed o filiwn o siaradwyr i’w gyflawni, bydd rhaid i ddatblygiad fod yn llawer myw cyflym nag a welwyd yn y blynyddoedd diweddar. Bydd hynny yn golygu newid ymddygiad dros lawer o gymunedau ac mewn llawer o adrannau bywyd, yng Nghymru. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwrthsefyll yn aml gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft. Ac ar adegau, gall hybu’r iaith Gymraeg dynnu yn erbyn egwyddorion a nodau eraill sy’n ganmoladwy. Bydd cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu recriwtio rhagor o bobl sy’n medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu sy’n gallu dysgu’r Gymraeg. Ond y rhan amlaf o lawer o’r rhai a all wneud hynny sydd – ar hyn o bryd o leiaf – yn groenwyn. Mae Cymru’n dioddef hefyd o ddiffyg o athrawon sy’n groenddu neu sy’n dod o leiafrifoedd ethnig. Bydd yr awydd am weithlu sy’n fwy amrywiol yn tueddu i wrthdaro â blaenoriaethu rhagor o athrawon sy’n medru’r Gymraeg.

Ond bydd rhaid newid agweddau’n sylfaenol er mwyn ategu newidiadau ymarferol. Mae hynny’n dal i fod yn frwydr go galed. Yng Nghymru, mae arolygon yn cyson ddangos bod agwedd cadarnhaol at yr iaith gan y rhan fwyaf o bobl. Ond mae Cymru’n bodoli fel rhan o’r Dalaith Brydeinig. Ac, i’r graddau y maent yn meddwl am y fath bethau o gwbl, mae llawer o’r rhai sydd a hunaniaeth Brydeinig gref ganddynt, yn ddirmygus ofnadwy o ieithoedd brodorol yr ynysoedd hyn nad ydynt yn Saesneg. Prin y trysorir Cymraeg, na Gaeleg, na Gwyddeleg, fel rhan o’r etifeddiaeth ddiwylliannol rydym ni i gyd yn ei rhannu yn yr ynysoedd hyn. Fe ddylai hon yn perthyn i ni i gyd.

Os bydd y targed o filiwn o siaradwyr i’w gyflawni, bydd rhaid i ddatblygiad fod yn llawer myw cyflym nag a welwyd yn y blynyddoedd diweddar.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Yn haf 2017 gwelwyd lansio papur gwyn newydd ynghylch yr iaith Gymraeg gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg yn sôn am gynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg i un filiwn erbyn 2050. Roedd y nod hwnnw wastad yn bod, ond mae’r ddogfen yn rhoi rhagor o fanylion ar sut y cynigir ei gyrraedd. Mae llawer o bwyslais ar addysg: ar gynyddu darpariaeth feithrinfa yn y Gymraeg, ar ddysgu mwy o blant mewn ysgolion cynradd gan ddefnyddio’r iaith, ac ar wella safonau dysgu ar gyfer y rhai sy’n dysgu’r Gymraeg.Summer 2017 saw the launch of a new white paper on the Welsh language by the Labour Welsh government. Cymraeg 2050: Welsh language strategy talks of increasing the number of Welsh speakers to one million by 2050. That target already existed, but the document gives more detail on how it is proposed to get there. Much of the emphasis is placed on education: increasing nursery provision in Welsh, having more primary school children taught in the language, and improving teaching to Welsh learners.
Mae’r ddogfen yn anelu at dwf sylweddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, ac at gynyddu defnydd o’r iaith trwy fywyd pob dydd yng Nghymru. Ychydig yn llai trawiadol yw’r realiti heddiw. Dyw’r iaith Gymraeg ddim wedi dioddef y farwolaeth a ddaroganwyd gan Saunders Lewis ym 1962. Ond prin y gallem ddweud ei bod yn mynd o nerth i nerth. Er bod addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu, mae’r nifer o gymunedau lleol lle mae’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif yn dal i ostwng. Mewn gwirionedd, dangosodd cyfrifiad 2011 ostyngiad bach yn y nifer o bobl yn honni eu bod yn siarad Cymraeg.The document targets a substantial expansion in the number of speakers of Welsh, and in the use of the language across daily life in Wales. The current reality is rather less impressive. The Welsh language has not suffered the death foretold by Saunders Lewis in 1962. But it could hardly be said to be going from strength to strength. Although Welsh-medium schooling is growing, the number of local communities where Welsh is the majority language continues to erode. The 2011 census actually showed a showed a small decline in the numbers claiming to speak Cymraeg.
Nid pwnc yw hwn lle gallaf honni fy mod yn amhleidiol; na dyheaf am fod yn niwtral, ychwaith. Cefais fy ngeni a’m magu yn Lloegr, a symudais i Aberystwyth i fyw ac i weithio yn Ionawr 2000. Rwy’n cofio, ar y dechrau, y cawsai rhai o’m cyfeillion Cymraeg eu siomi ar yr ochr orau wrth sylwi ar fy agwedd cadarnhaol tuag at eu hiaith. Cychwynnais ar wersi ffurfiol ychydig yn hwyrach, ac ar ôl cyfnod byr, dywedais wrth gwpl o ffrindiau da yn y gweithle y byddem yn dechrau pob sgwrs yn y Gymraeg o hynny ymlaen. I ddechrau, byddwn i’n cyrraedd y pwynt lle y byddai rhaid i fi droi i’r Saesneg yn eithaf buan. Wedyn, aeth yn hwyrach, ac erbyn hyn ni chyrhaeddai byth. This is not an issue on which I can claim, or aspire to, neutrality. Born and raised in England, I moved to live and work in Aberystwyth in January 2000. I recall, early on, some of my new Welsh friends remarking with a tone of pleasant surprise on my positive attitude to their language. I began formal lessons a little later, and after a bit told a couple of good friends at work that we would now begin every conversation in Welsh. At first, the point at which I would feel the need to switch to English usually arrived quite soon. Then it got later; and now it would never arrive.
Fy ail iaith yw’r Gymraeg- er bod hynny, yn rhannol, yn mynegi rhywbeth am safon wael fy Ffrangeg, sy’n nodweddiadol o’r Saeson. Nid yn aml y breuddwydiaf yn y Gymraeg, ac anfynych y byddwn yn cyfrif gan ei defnyddio. Ond defnyddio’r Gymraeg a wnaf bob dydd. Rwy wedi dysgu ac wedi darlledu gan ddefnyddio’r Gymraeg; yn haf 2017 rhoddais ddarlith ynghylch yr etholiad cyffredinol yn y Brifwyl yn Ynys Môn. Cynhelir rhan o’m seremoni briodas yn y Gymraeg hefyd. (O gofio etifeddiaeth ddiwylliannol fy mhartner, cynhelir rhan ohoni yn Pwnjabeg hefyd – er mai hyhi a anwyd yn y Cymoedd). Ni’m ganwyd yn Gymro Cymraeg, na magwyd fi yn y Gymraeg. Ond, yn hwyrach yn fy mywyd, rhoddwyd i fi gipolwg rhannol o leiaf ar ddiwylliant sy’n eithriadol o gyfoethog a hanesyddol. Mae hyn o bwys mawr i fi.Welsh is my second language- although that in part says something about the typically English, and poor, standard of my French. I don’t often dream in it, and would rarely count in it. But I use Cymraeg every day. I have taught and broadcast in Welsh; in summer 2017 I gave a lecture on the general election at the National Eisteddfod in Anglesey. Part of my wedding ceremony will also be in Welsh. (Reflecting my other half’s cultural inheritance, part will also be in Punjabi – although she is the one who was born in the Valleys). I was not born into, or raised in, the Welsh language. But, later in life, I have been given at least partial insight into a culture of extraordinary richness and history. This matters to me a great deal.
Ar hyd fy nhaith gyda’r iaith Gymraeg, pan wyf wedi baglu ar adegau, dim ond anogaeth a chefnogaeth rwy wedi’u derbyn. Yn aml rwy wedi bod yn falch iawn o hyn – ond hefyd, rwy ambell waith wedi cael fy nigalonni’n ddwfn. Ar ormod o achlysuron, mae gormod o bobl wedi ymddangos bron yn druenus o ddiolchgar fy mod wedi dangos rhyw barch at eu diwylliant. Dylent fod â hawl i ddisgwyl hwnnw yn ôl yr arfer. Ond hollol groes i hyn yw profiad gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg yn ystod eu bywyd beunyddiol. Yn ddiamheuol, mae parch at yr iaith Gymraeg ac at ddiwylliant Cymreig, yn ychwanegiad dewisol yng Nghymru, heb sôn am y Deyrnas Unedig fel cyfanwaith.Along my sometimes stumbling journey with the Welsh language, I have met with nothing but encouragement and support. I have often been very glad of this – but also occasionally deeply saddened. Too many people have appeared, on too many occasions, to be almost pathetically grateful that I have shown their culture some respect. They should be entitled to expect that as a matter of course. But the daily lived experience of far too many Welsh speakers is the exact opposite. Respect for the Welsh language, and Welsh culture, is distinctly an optional extra in Wales, never mind across the UK as a whole.
Os bydd y targed o filiwn o siaradwyr i’w gyflawni, bydd rhaid i ddatblygiad fod yn llawer myw cyflym nag a welwyd yn y blynyddoedd diweddar. Bydd hynny yn golygu newid ymddygiad dros lawer o gymunedau ac mewn llawer o adrannau bywyd, yng Nghymru. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwrthsefyll yn aml gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft. Ac ar adegau, gall hybu’r iaith Gymraeg dynnu yn erbyn egwyddorion a nodau eraill sy’n ganmoladwy. Bydd cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu recriwtio rhagor o bobl sy’n medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu sy’n gallu dysgu’r Gymraeg. Ond y rhan amlaf o lawer o’r rhai a all wneud hynny sydd – ar hyn o bryd o leiaf – yn groenwyn. Mae Cymru’n dioddef hefyd o ddiffyg o athrawon sy’n groenddu neu sy’n dod o leiafrifoedd ethnig. Bydd yr awydd am weithlu sy’n fwy amrywiol yn tueddu i wrthdaro â blaenoriaethu rhagor o athrawon sy’n medru’r Gymraeg.If the one million speakers target is to be achieved, there will need to be much more rapid progress than has been evident in recent years. That will require changed behaviours across many communities, and many areas of life, in Wales. Increasing Welsh medium education, for instance, has often been resisted by some local authorities. And advancing the Welsh language can sometimes be in tension with other laudable principles and aims. Increasing Welsh-medium education will mean recruiting more people who can teach through Welsh, or teach Welsh. Yet those who can do so are – currently at least – overwhelmingly white. Wales also suffers a shortage of black and minority ethnic teachers, and the desire for a more diverse workforce will tend to conflict with prioritising more Welsh-speaking teachers.
Ond bydd rhaid newid agweddau’n sylfaenol er mwyn ategu newidiadau ymarferol. Mae hynny’n dal i fod yn frwydr go galed. Yng Nghymru, mae arolygon yn cyson ddangos bod agwedd cadarnhaol at yr iaith gan y rhan fwyaf o bobl. Ond mae Cymru’n bodoli fel rhan o’r Dalaith Brydeinig. Ac, i’r graddau y maent yn meddwl am y fath bethau o gwbl, mae llawer o’r rhai sydd a hunaniaeth Brydeinig gref ganddynt, yn ddirmygus ofnadwy o ieithoedd brodorol yr ynysoedd hyn nad ydynt yn Saesneg. Prin y trysorir Cymraeg, na Gaeleg, na Gwyddeleg, fel rhan o'r etifeddiaeth ddiwylliannol rydym ni i gyd yn ei rhannu yn yr ynysoedd hyn. Fe ddylai hon yn perthyn i ni i gyd.But to underpin practical changes there will need to be a fundamental change in attitudes. That remains an uphill struggle. Within Wales, surveys consistently indicate most people have a positive attitude to the language. But Wales exists within the British state. And, to the extent they think about such things at all, many of those with a strongly British identity are deeply contemptuous of the native non-English languages of these islands. Welsh, along with Gaelic and Irish, is rarely valued as part of the collective cultural heritage of all of us in these islands. This should belong to all of us.

Mae’r erthygl wreiddiol ar gael ar-lein: / The original article is available online:
www.newstatesman.com/politics/devolution/2017/07/how-learning-welsh-opened-my-eyes-progressive-smugness

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Deall ein Hiaith