Meleri Wyn James Na Nel!

Meleri Wyn James: Darganfod mwy am Na, Nel! / Finding out more about Na Nel!

Mae Meleri wedi ysgrifennu'r casgliad mawr o lyfrau poblogaidd i blant, Na Nel!, a llyfrau i oedolion fel Blaidd Wrth Y Drws, yn ychwanegol i fod yn olygydd i gyhoeddwr Y Lolfa. Yma, mae'n ddigon caredig i ateb rhai cwestiynau gan Ilid o'r siop Cant a Mil a Neil o Parallel.cymru.

Meleri has written a large collection of popular books for children, Na Nel!, and books for adults such as Blaidd Wrth Drws (Wolf At The Door), and in addition to being an editor at the publisher Y Lolfa. Here, she is kind enough to answer some questions from Ilid at the Cant a Mil shop and Neil from Parallel.cymru.

O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth am y cymeriad Nel - oddi wrth blentyn rwyt ti'n nabod?

Dwi ddim yn meddwl i'r ysbrydoliaeth ar gyfer Nel ddod wrth un plentyn - mae'n siwr bod y ferch fach fywiog, ddireidus hon yn gyfuniad o sawl un - gan gynnwys fi! Dwi'n fam i ddwy o ferched, ac yn fodryb, ac rwy'n nabod llawer o ffrindiau fy mhlant i. Erbyn hyn, dwi'n mynd i lawer o ysgolion, i wyliau ac i Eisteddfodau i arwain gweithdai yn annog plant i ddarllen ac ysgrifennu, ac fe fydda i'n gwrando ar beth sydd gan y plant i'w ddweud, ac yn eu gwylio nhw hefyd. Mae plant yn ddigri iawn!

Beth sy’n well gyda ti, ysgrifennu ar gyfer plant neu ysgrifennu ar gyfer oedolion?

Mae hwnna'n gwestiwn anodd iawn i'w ateb. Dwi'n cael lot o sbort yn meddwl am anturiaethau newydd i Nel a'i ffrindiau, ac yn creu sefyllfaoedd bach doniol (gobeithio) ar eu cyfer nhw.

Roedd ysgrifennu'r nofel ddiwethaf i oedolion yn brofiad hollol wahanol. Mae Blaidd Wrth y Drws yn nofel ddirgel sy'n dechrau gyda cholled. Mae yna ymosodiad ar blentyn bach, gan gath wyllt, yn ôl y rhieni. Roedd ei hysgrifennu'n brofiad emosiynol iawn, ac roeddwn yn llefain wrth fyw rhai o'r golygfeydd.

Hoffet ti weld dy lyfrau Na, Nel! yn cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill?

Cwestiwn difyr. Mae e wedi croesi fy meddwl i, ond rwy wedi bod mor brysur gyda'r straeon Cymraeg, a sioe theatr Arad Goch haf llynedd, dwi heb gael cyfle i drafod hyn. Cymraes fach yw Nel, ac mae hynny'n hollbwysig i mi. Yn fwriadol, mae'r straeon yn llawn cyfeiriadau at chwedlau, hanes, caneuon, llyfrau a phobol Cymreig. Felly, fe fyddai'n rhaid ystyried hyn wrth addasu i iaith arall. Ond os yw plant Cymraeg yn eu mwynhau, mae'n bosib iawn y bydden nhw'n boblogaidd y tu hwnt i Gymru hefyd.

Ydy dy ddwy swydd, fel golygydd ac fel awdur, yn helpu ei gilydd?

Rwy'n ddigon ffodus i gael cydweithio gyda rhai o olygyddion, awduron, artistiaid a dylunwyr gorau Cymru, a rwy'n siwr fy mod i wedi elwa'n fawr o'r profiad hynny. Pan fydda i'n sgrifennu, rhaid 'anghofio' am fy hun fel golygydd dros dro, er mwyn bod yn rhydd i greu.
Sut roedd y profiad o addasu'r straeon i mewn i sioe lwyfan y llynedd?

Ro'n i wrth fy modd i gael y cyfle hwn gan gwmni theatr mor uchel ei barch ag Arad Goch, a chael cydweithio gyda'r Cyfarwyddwr Jeremy Turner.

Mae ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn wahanol iawn i ysgrifennu straeon mewn llyfr. Does dim naratif wrth gwrs, ac felly mae'n rhaid cyfleu pob dim trwy ddeialog, ystum, props, sain neu olau. Roedd yna gyfyngiadau ymarferol o ran sawl actor fyddai yn y sioe, ac felly pa gymeriadau fyddai'n bosib eu cynnwys. Fe fuais i'n ysgrifennu geiriau ar gyfer rap a chaneuon i Nel am y tro cyntaf. Rwy'n meddwl i'r criw wneud gwaith gwych, ro'n i'n hapus iawn gyda'r sioe derfynol a dwi'n gobeithio bod plant - ac athrawon - wedi ei mwynhau hi cymaint â fi! Pwy a wyr, efallai y bydd Nel a'i ffrindiau ar antur newydd ar lwyfan yn y dyfodol agos...

Dw i'n deall bod dy ŵr, Siôn Ilar, yn dylunio'r cloriau - ydy e'n hwyl i baratoi'r llyfrau gyda'ch gilydd?

Yr artist John Lund sy'n creu'r lluniau ar gyfer y llyfrau, ac Alan Thomas, sy'n ddylunydd yn y Lolfa, sy'n dylunio'r llyfrau darllen, a Dyfan Williams ddyluniodd y llyfr creu Na, Nel! - Waw!. Ond, ie, Sion, sy'n dylunio'r cloriau a fe ddyluniodd Dyddiadur Nel. Dwi'n meddwl fy mod i'n lwcus iawn i fod yn briod â dylunydd!

Rydyn ni'n aml yn cydweithio ar wahanol brosiectau ac mae ein chwaeth gweledol yn debyg iawn. Mae bywyd yn brysur, achos rydym yn rhedeg llety gwyliau Cae Bach (@underthethatch) hefyd, ond ry'n ni'n lwcus ein bod yn rhannu'r un hiwmor, ac yn dal i wneud i'n gilydd chwerthin.

Fersiwn dwyiethiog / Bilingual version

O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth am y cymeriad Nel - oddi wrth blentyn rwyt ti'n nabod?Where did the inspiration for the character Nel come from – was it from a child you knew?
Dwi ddim yn meddwl i'r ysbrydoliaeth ar gyfer Nel ddod wrth un plentyn - mae'n siwr bod y ferch fach fywiog, ddireidus hon yn gyfuniad o sawl un - gan gynnwys fi! Dwi'n fam i ddwy o ferched, ac yn fodryb, ac rwy'n nabod llawer o ffrindiau fy mhlant i. Erbyn hyn, dwi'n mynd i lawer o ysgolion, i wyliau ac i Eisteddfodau i arwain gweithdai yn annog plant i ddarllen ac ysgrifennu, ac fe fydda i'n gwrando ar beth sydd gan y plant i'w ddweud, ac yn eu gwylio nhw hefyd. Mae plant yn ddigri iawn!I don’t think that the inspiration for Nel came from any one child – I have no doubt that the lively, mischievous little girl is a combination of many – including me! I am a mother to two daughters, and an aunt, and I know many of my children’s friends. By now I have been to many schools, on holidays and to Eisteddfods to lead workshops encouraging children to read and write, and I listen to what the children have to say, and also watch them. Children are very funny!
Beth sy’n well gyda ti, ysgrifennu ar gyfer plant neu ysgrifennu ar gyfer oedolion?Which do you prefer, writing for children or for adults?
Mae hwnna'n gwestiwn anodd iawn i'w ateb. Dwi'n cael lot o sbort yn meddwl am anturiaethau newydd i Nel a'i ffrindiau, ac yn creu sefyllfaoedd bach doniol (gobeithio) ar eu cyfer nhw. That’s a very difficult question to answer. I have a lot of fun thinking up new adventures for Nel and her friends, and in creating what I hope are entertaining little situations for them.
Roedd ysgrifennu'r nofel ddiwethaf i oedolion yn brofiad hollol wahanol. Mae Blaidd Wrth y Drws yn nofel ddirgel sy'n dechrau gyda cholled. Mae yna ymosodiad ar blentyn bach, gan gath wyllt, yn ôl y rhieni. Roedd ei hysgrifennu'n brofiad emosiynol iawn, ac roeddwn yn llefain wrth fyw rhai o'r golygfeydd.Writing my latest novel for adults was a quite different experience. Blaidd Wrth Y Drws (Wolf At The Door) is a mystery novel that opens with a loss. There is an attack on little children, by a wildcat, according to the parents. Writing it was a very emotional experience, and I was in tears as I lived out some of the scenes.
Hoffet ti weld dy lyfrau Na, Nel! yn cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill?Would you like to see your Na, Nel! books translated into other languages?
Cwestiwn difyr. Mae e wedi croesi fy meddwl i, ond rwy wedi bod mor brysur gyda'r straeon Cymraeg, a sioe theatr Arad Goch haf llynedd, dwi heb gael cyfle i drafod hyn. Cymraes fach yw Nel, ac mae hynny'n hollbwysig i mi. Yn fwriadol, mae'r straeon yn llawn cyfeiriadau at chwedlau, hanes, caneuon, llyfrau a phobol Cymreig. Felly, fe fyddai'n rhaid ystyried hyn wrth addasu i iaith arall. Ond os yw plant Cymraeg yn eu mwynhau, mae'n bosib iawn y bydden nhw'n boblogaidd y tu hwnt i Gymru hefyd.A good question. It has crossed my mind, but I have been so busy with the Welsh stories, and an Arad Goch theatre show last summer (Arad Goch is a theatre company in Aberystwyth) that I haven’t had time to deal with this. Nel is a little girl who is Welsh, and that is all-important to me. The stories are deliberately full of references to Welsh stories, history, songs, books and people. So, this would have to be taken into account when adapting for another language. But if Welsh children enjoy them, it is very possible that they would be popular beyond Wales too.
Ydy dy ddwy swydd, fel golygydd ac fel awdur, yn helpu ei gilydd?Do your two jobs, as editor and as author, help each other?
Rwy'n ddigon ffodus i gael cydweithio gyda rhai o olygyddion, awduron, artistiaid a dylunwyr gorau Cymru, a rwy'n siwr fy mod i wedi elwa'n fawr o'r profiad hynny. Pan fydda i'n sgrifennu, rhaid 'anghofio' am fy hun fel golygydd dros dro, er mwyn bod yn rhydd i greu.I am fortunate enough to get to work together with some of the best editors, authors, artists and illustrators in Wales, and I am sure that I have profited greatly from this experience. When I write, I have to ‘forget’ myself as editor for a while, so as to be free to create.
Sut roedd y profiad o addasu'r straeon i mewn i sioe lwyfan y llynedd?What was the experience like of adapting the stories for a stage show last year?
Ro'n i wrth fy modd i gael y cyfle hwn gan gwmni theatr mor uchel ei barch ag Arad Goch, a chael cydweithio gyda'r Cyfarwyddwr Jeremy Turner. Mae ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn wahanol iawn i ysgrifennu straeon mewn llyfr. Does dim naratif wrth gwrs, ac felly mae'n rhaid cyfleu pob dim trwy ddeialog, ystum, props, sain neu olau. Roedd yna gyfyngiadau ymarferol o ran sawl actor fyddai yn y sioe, ac felly pa gymeriadau fyddai'n bosib eu cynnwys. Fe fuais i'n ysgrifennu geiriau ar gyfer rap a chaneuon i Nel am y tro cyntaf. Rwy'n meddwl i'r criw wneud gwaith gwych, ro'n i'n hapus iawn gyda'r sioe derfynol a dwi'n gobeithio bod plant - ac athrawon - wedi ei mwynhau hi cymaint â fi! Pwy a wyr, efallai y bydd Nel a'i ffrindiau ar antur newydd ar lwyfan yn y dyfodol agos...I was in my element having this opportunity with so highly respected a theatre company as Arad Goch, and getting to work together with the Director Jeremy Turner. Writing for the stage is very different from writing stories in a book. There is no narrative, of course, and so everything has to be conveyed through dialogue, gesture, props, sound or lighting. There were practical restrictions on how many actors could be in the show, and so on what characters it would be possible to include. I was writing words for rap and songs for Nel for the first time. I think the crew did great work, I was very happy with the final show and I hope that children – and teachers – enjoyed themselves as much as I did. Who knows, perhaps Nel and her friends will appear in a new venture on stage in the not too distant future…
Dw i'n deall bod dy ŵr, Siôn Ilar, yn dylunio'r cloriau - ydy e'n hwyl i baratoi'r llyfrau gyda'ch gilydd?I understand that your husband, Siôn Ilar, designs the covers – is it fun preparing books together?
Yr artist John Lund sy'n creu'r lluniau ar gyfer y llyfrau, ac Alan Thomas, sy'n ddylunydd yn y Lolfa, sy'n dylunio'r llyfrau darllen, a Dyfan Williams ddyluniodd y llyfr creu Na, Nel! - Waw!. Ond, ie, Sion, sy'n dylunio'r cloriau a fe ddyluniodd Dyddiadur Nel. Dwi'n meddwl fy mod i'n lwcus iawn i fod yn briod â dylunydd!The artist John Lund creates the illustrations for the books, and Alan Thomas, who is a designer for Lolfa, designs the reading books, and Dyfan Williams did the book creation for Na, Nel! – Waw!. But yes, it is Siôn who designs the covers and he designed Dyddiadur Nel (Nel’s Journal). I think I am very lucky to be married to a designer!
Rydyn ni'n aml yn cydweithio ar wahanol brosiectau ac mae ein chwaeth gweledol yn debyg iawn. Mae bywyd yn brysur, achos rydym yn rhedeg llety gwyliau Cae Bach (@underthethatch) hefyd, ond ry'n ni'n lwcus ein bod yn rhannu'r un hiwmor, ac yn dal i wneud i'n gilydd chwerthin.We often work together on different projects and our visual tastes are very similar. Life is busy, because we also run a holiday let Cae Bach (@underthethatch), but we are lucky in sharing the same sense of humour, and in constantly making each other laugh.

Meleri Wyn James Na Nel

Meleri Wyn James Na Nel Help

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol