Un o'r artistiaid mwyaf adnabyddus yn y maes cyhoeddi Cymraeg yw Huw Aaron, ac mae pobl wedi gweld e waith yn y cylchgronau Mellten a LOL, cloriau llyfr fel y gyfres Trio gan Manon Steffan Ros, Llyfr Hwyl y Lolfa, ac yn nawr yr holl lyfrau Ble Mae Boc? / Find The Dragon! a'r pecynnau Cardiau Brwydro. Mae tîm parallel.cymru wedi gofyn cwestiynau ato fe i ffeindio mas mwy...
Huw Aaron is one of the most recogniseable artists in the Welsh-language publishing field, and people have seen in his work in the Mellten and LOL magazines, book covers such as the Trio series by Manon Steffan Ros, Llyfr Hwyl from Y Lolfa and now the whole books Ble Mae Boc? / Find The Dragon! and Battle Cards packs. The parallel.cymru team have asked him some questions to find out more...
O ble cest ti'r syniad ar gyfer creu Cardiau Brwydro? (Elen Jones, Atebol)
Fel un sydd wrth fy modd gyda chwedloniaeth Cymru, o'n i'n awyddus i ledaenu'r straeon hynod sydd gyda ni yn ein diwylliant i gynulleidfa ehangach. Mae plant Cymru yn wybodus iawn am chwedlau Groeg er enghraifft, ond prin yn gwybod am ein straeon ni. Mae yna ddigonedd o lyfrau grêt ar y Mabinogi ag ati gan amryw o gyhoeddwyr Cymru, ond o'n i'n meddwl y byddai gêm fel hyn yn ffordd wahanol o wneud.
Dwi wastad wedi caru Top Trumps a gemau cardiau eraill tebyg, ers yn blentyn. Mae rhyw hud yn digwydd wrth gyfuno llun, ychydig o destun, a 'stats' - mae'r wybodaeth yna yn tanio dychymyg plentyn ac yn troi'r cerdyn yn gymeriad fyw.
Beth yw'r proses o greu Cardiau Brwydro - sut wyt ti'n delweddu'r ffigurau a throsglwyddo nhw i mewn i waith celf? (Elen)
Mae'r holl beth yn hollol 'nerdy', sy'n siwtio fi i'r dim. Yn gyntaf dwi'n ymchwilio, a chasglu straeon diddorol newydd neu ail-ddarllen hen straeon cyfarwydd.
Wedyn dwi'n creu bas data yn Excel o'r cymeriadau yma - yn dethol 30 am bob pecyn, ac yn penderfynu ar y ffigyrau i fynd gyda nhw - i sicrhau bod yna gydbwysedd o ran y pecyn, a bod yna ystod o gymeriadu gwan, canolig a chryf. Hefyd mae'n rhaid ysgrifennu pwt o frawddeg am y cymeriad - sy'n gallu bod yn her, ond dwi'n trio cadw rhain yn fyr, a gydag ychydig o hiwmor.
Y cam nesaf yw paentio'r delweddau - dwi'n defnyddio technegau traddodiadol - inc a phaent dyfrlliw - does dim byd gwell nac arlunio angenfilod o ran rhyddid creadigol!
Mae'r lluniau yma yn fawr- tua A3 - felly mae'n rhaid ei sganio i'r cyfrifiadur i'w ddigideiddio, ac yn mireinio ychydig yn Photoshop.
Wedyn, dwi'n defnyddio 'mail merge' i ffitio'r lluniau a'r testun mewn i'r templed cerdyn dwi wedi creu yn InDesign. Dwi'n checio bod popeth yn iawn, ac wedyn mae'r ffeil yn mynd i'r argraffwr. Ffiw!
Beth yr dy hoff gymeriad yn Cardiau Brwydro a pham? (Neil Rowlands, parallel.cymru)
Hafgan neu Caswallon siŵr o fod - er eu bod yn gymeriadau ymylol yn y Mabinogi, maen nhw'n 'baddies', ac felly yn rhoi sgôp i luniau eithaf cŵl.
Dych chi'n dilyn iaith cartwnwyr blaenorol/eraill yn y Gymraeg o gwbl yn arbennig o ran iaith onomatopeia? Neu ydych chi'n creu beth dych chi'n meddwl sy'n swnio'n addas? (Siŵr o fod, mae hynny'n rhan o'r hwyl!) (Rosie Berry, siop Cant a Mil)
Ydy, mae'n gallu fod yn anodd - ond yn hwyl. Mae gwaith cwmni Dalen, sydd yn cyfieithu Asterix a Tintin, yn help, ond yn aml mae'n rhaid imi greu synau newydd. Mae yna ambell un sy'n gweithio'n well yn y Gymraeg - fel 'chchchch' yn lle 'zzzz' am chwyrnu - mae'n neud cymaint fwy o synnwyr! Neu 'Llyrp!' yn lle 'slurp' - agosach i'r wir sŵn. Ond mae 'gulp' yn un anodd - a 'Yawn' - os oes syniad gan rhywun o ffurf onomatopeia o rhain yn y Gymraeg, gadewch imi wybod.
Dych chi'n gwneud gwaith i Mellten (eich cylchgrawn eich hunan) ond hefyd i awduron a chylchgronau eraill. Dw i'n dychmygu bod y ddau'n gallu bod yn hwyl (ond yn anodd!) achos bod nhw'n wahanol gyda disgwyliadau gwahanol. Ydy hynny'n iawn? (Rosie)
Mae'r cymysgedd o weithio ar brosiectau personol a chomisiynau yn siwtio fi, dwi'n meddwl. Ar y cyfan, fi'n hoffi gweithio ar fy mhen fy hun - o bosib dwi'n fach o 'control freak'! Ond mae'n hyfryd hefyd i gyd-weithio gydag awduron, a chael y cyfle i ychwanegu bach o liw a hwyl i'w straeon.
Dwi'n ffodus iawn fy mod wedi cael y cyfle i weithio gydag awduron mor dalentog â Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Meilyr Siôn, Dan Anthony a Wendy White.
Dwi newydd orffen gweithio'n agos iawn gyda'r awdur newydd gwych Elidir Jones ar lyfr newydd o'r enw Yr Horwth, fydd allan yn fuan iawn - ac yn wompyn o lyfr da (os ga' i ddweud!)
Wyt ti'n defnyddio unrhyw aps cyfrifiadur i greu eich gwaith, neu ydy popeth yn llawrydd? (Neil)
Rwy'n defnyddio Photoshop a 'graphic tablet' Wacom yn eithaf cyson - yn enwedig ar Mellten - ond mae'n well gen i weithio gyda phensil neu 'dip pen' a phapur. Mae dianc o'r sgrin bondigrybwyll yn helpu i'r ymennydd i ymlacio a'r creadigrwydd i lifo. Mae'n dda i gyffwrdd a'r celf 'go iawn', yn hytrach na trwy gwydr.
Am rywun sydd yn newydd dechrau darlun wrth ddefnyddio Cymraeg, sut y byddech chi'n argymell bod pobl yn dechrau hyrwyddo eu gwaith? (Neil)
Dangoswch eich gwaith i bobl - a pheidiwch â bod yn rhy 'precious' - mae'n haws nag erioed o'r blaen i rannu gwaith creadigol gyda'r byd. Mae gweithio yn y Gymraeg wedi bod yn gymaint o fantais i mi - mae'n cynnig rhwydwaith cefnogol o bobl sydd eisiau i ti lwyddo - ac mae'r holl gyhoeddwyr sydd gyda ni yng Nghymru yn gefnogol ac yn hapus iawn i drafod syniadau gydag awduron ac arlunwyr newydd.
Fersiwn dwyieithog / Bilingual version
O ble cest ti'r syniad ar gyfer creu Cardiau Brwydro? (Elen Jones, Atebol) | Where did you get the idea from for creating Battle Cards? (Elen Jones, Atebol) |
Fel un sydd wrth fy modd gyda chwedloniaeth Cymru, o'n i'n awyddus i ledaenu'r straeon hynod sydd gyda ni yn ein diwylliant i gynulleidfa ehangach. Mae plant Cymru yn wybodus iawn am chwedlau Groeg er enghraifft, ond prin yn gwybod am ein straeon ni. Mae yna ddigonedd o lyfrau grêt ar y Mabinogi ag ati gan amryw o gyhoeddwyr Cymru, ond o'n i'n meddwl y byddai gêm fel hyn yn ffordd wahanol o wneud. | As someone who delights in the mythology of Wales, I was keen to spread the remarkable stories that we have in our culture to a wider audience. Welsh children are very knowledgeable about Greek legends, for example, but know little about our own stories. There is an abundance of great books on the Mabinogi and so on, from a variety of Welsh publishers, but I though that a game like this would be a different way of proceeding. |
Dwi wastad wedi caru Top Trumps a gemau cardiau eraill tebyg, ers yn blentyn. Mae rhyw hud yn digwydd wrth gyfuno llun, ychydig o destun, a 'stats' - mae'r wybodaeth yna yn tanio dychymyg plentyn ac yn troi'r cerdyn yn gymeriad fyw. | I have always loved Top Trumps and other similar card games, ever since I was a child. Some sort of magic happens when you combine a picture, a bit of text and ‘stats’ – the information fires a child’s imagination and turns the card into a living character. |
Beth yw'r proses o greu Cardiau Brwydro - sut wyt ti'n delweddu'r ffigurau a throsglwyddo nhw i mewn i waith celf? (Elen) | What is the process involved in creating Battle Cards – how do you create the figures and transform them into a work of art. (Elen) |
Mae'r holl beth yn hollol 'nerdy', sy'n siwtio fi i'r dim. Yn gyntaf dwi'n ymchwilio, a chasglu straeon diddorol newydd neu ail-ddarllen hen straeon cyfarwydd. | The whole thing is very ‘nerdy’, which suits me to a T. To begin with, I do research, and collect interesting new stories of reread old familiar stories. |
Wedyn dwi'n creu bas data yn Excel o'r cymeriadau yma - yn dethol 30 am bob pecyn, ac yn penderfynu ar y ffigyrau i fynd gyda nhw - i sicrhau bod yna gydbwysedd o ran y pecyn, a bod yna ystod o gymeriadu gwan, canolig a chryf. Hefyd mae'n rhaid ysgrifennu pwt o frawddeg am y cymeriad - sy'n gallu bod yn her, ond dwi'n trio cadw rhain yn fyr, a gydag ychydig o hiwmor. | Then I create an Excel database of these characters – choosing 30 for each pack, and deciding on the figures to go with them – ensuring that the pack is balanced and that there is a range of weak, medium and strong characters. One also has to write a bit of a sentence about the character – which can be a challenge, but I try to keep them short, and with a little humour. |
Y cam nesaf yw paentio'r delweddau - dwi'n defnyddio technegau traddodiadol - inc a phaent dyfrlliw - does dim byd gwell nac arlunio angenfilod o ran rhyddid creadigol! | The next step is to paint the images – I use traditional techniques – ink and water-colour – when it comes to creative freedom there is nothing better than depicting monsters. |
Mae'r lluniau yma yn fawr- tua A3 - felly mae'n rhaid ei sganio i'r cyfrifiadur i'w ddigideiddio, ac yn mireinio ychydig yn Photoshop. | These pictures are large – about A3 – so I have to scan them into the computer to digitise them, and touch them up a bit in Photoshop. |
Wedyn, dwi'n defnyddio 'mail merge' i ffitio'r lluniau a'r testun mewn i'r templed cerdyn dwi wedi creu yn InDesign. Dwi'n checio bod popeth yn iawn, ac wedyn mae'r ffeil yn mynd i'r argraffwr. Ffiw! | Then, I use ‘mail merge’ to fit the pictures and the text into the card template that I have created using InDesign. I check that everything is OK, and then the file goes to the printer. Phew! |
Beth yr dy hoff gymeriad yn Cardiau Brwydro a pham? (Neil Rowlands, parallel.cymru) | What is your favourite character in Battle Cards, and why? (Neil Rowlands, parallel.cymru) |
Hafgan neu Caswallon siŵr o fod - er eu bod yn gymeriadau ymylol yn y Mabinogi, maen nhw'n 'baddies', ac felly yn rhoi sgôp i luniau eithaf cŵl. | It has to be Hafgan or Caswallon – although they are ‘minor’ characters in the Mabinogi they are ‘baddies', and so give scope for really cool pictures. |
Dych chi'n dilyn iaith cartwnwyr blaenorol/eraill yn y Gymraeg o gwbl yn arbennig o ran iaith onomatopeia? Neu ydych chi'n creu beth dych chi'n meddwl sy'n swnio'n addas? (Siŵr o fod, mae hynny'n rhan o'r hwyl!) (Rosie Berry, siop Cant a Mil) | Do you follow the language of other/leading cartoonists in Welsh at all, especially with regards to onomatopoeic language? Or do you create what you think sounds appropriate? (Surely that’s part of the fun!). (Rosie Berry, Cant a Mil shop) |
Ydy, mae'n gallu fod yn anodd - ond yn hwyl. Mae gwaith cwmni Dalen, sydd yn cyfieithu Asterix a Tintin, yn help, ond yn aml mae'n rhaid imi greu synau newydd. Mae yna ambell un sy'n gweithio'n well yn y Gymraeg - fel 'chchchch' yn lle 'zzzz' am chwyrnu - mae'n neud cymaint fwy o synnwyr! Neu 'Llyrp!' yn lle 'slurp' - agosach i'r wir sŵn. Ond mae 'gulp' yn un anodd - a 'Yawn' - os oes syniad gan rhywun o ffurf onomatopeia o rhain yn y Gymraeg, gadewch imi wybod. | Yes, it can be difficult – but fun. The work of the Dalen company, who translate Asterix and Tintin, is a help, but often I have to create new sounds. There are a few that work better in Welsh – like ‘chchchch’ instead of ‘zzzz’ for snoring – it makes so much more sense. Or ‘Llyrp’ instead of ‘slurp’ – closer to the true sound. But ‘gulp’ is a difficult one, and ‘Yawn’ – if anyone has an idea of an onomatopoeic form for these in Welsh, let me know. |
Dych chi'n gwneud gwaith i Mellten (eich cylchgrawn eich hunan) ond hefyd i awduron a chylchgronau eraill. Dw i'n dychmygu bod y ddau'n gallu bod yn hwyl (ond yn anodd!) achos bod nhw'n wahanol gyda disgwyliadau gwahanol. Ydy hynny'n iawn? (Rosie) | You do work in Mellten, your own magazine (a quarterly comic for boys and girls aged 7 to 13) and also for other authors and magazines. I image that the two can be fun (but difficult) because they are different with different expectations. Is that right? (Rosie) |
Mae'r cymysgedd o weithio ar brosiectau personol a chomisiynau yn siwtio fi, dwi'n meddwl. Ar y cyfan, fi'n hoffi gweithio ar fy mhen fy hun - o bosib dwi'n fach o 'control freak'! Ond mae'n hyfryd hefyd i gyd-weithio gydag awduron, a chael y cyfle i ychwanegu bach o liw a hwyl i'w straeon. Dwi'n ffodus iawn fy mod wedi cael y cyfle i weithio gydag awduron mor dalentog â Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Meilyr Siôn, Dan Anthony a Wendy White. | The mixture of working on personal projects and commissions suits me, I think. On the whole, I like to work on my own – possibly I am a bit of a ‘control freak’. But it is also nice to work with authors, and get the opportunity to add a bit of colour and fun to their stories. I am very fortunate to have had the opportunity to work with authors as talented as Manon Stefan Ros, Bethan Gwanas, Meilyr Siôn, Dan Anthony and Wendy White. |
Dwi newydd orffen gweithio'n agos iawn gyda'r awdur newydd gwych Elidir Jones ar lyfr newydd o'r enw Yr Horwth, fydd allan yn fuan iawn - ac yn wompyn o lyfr da (os ga' i ddweud!). | I have just finished working very closely with a very talented author Elidir Jones on a new book called Yr Horwth, coming out very soon – and a stonking good book it is (if I may say so). |
Wyt ti'n defnyddio unrhyw aps cyfrifiadur i greu eich gwaith, neu ydy popeth yn llawrydd? (Neil) | Do you use any computer apps to create your work, or is everything done by hand? (Neil) |
Rwy'n defnyddio Photoshop a 'graphic tablet' Wacom yn eithaf cyson - yn enwedig ar Mellten - ond mae'n well gen i weithio gyda phensil neu 'dip pen' a phapur. Mae dianc o'r sgrin bondigrybwyll yn helpu i'r ymennydd i ymlacio a'r creadigrwydd i lifo. Mae'n dda i gyffwrdd a'r celf 'go iawn', yn hytrach na trwy gwydr. | I use Photoshop and a Wacom graphic tablet fairly constantly – especially on Mellten – but I prefer to work with pencil or pen and paper. Strange to say, getting away from the screen helps the brain to relax and the creative juices to flow. It’s good to be in contact with the ‘real’ art, rather than through glass. |
Am rywun sydd yn newydd dechrau darlun wrth ddefnyddio Cymraeg, sut y byddech chi'n argymell bod pobl yn dechrau hyrwyddo eu gwaith? (Neil) | For someone who has just begun to create using Welsh, how do you get people to begin promoting their work? (Neil) |
Dangoswch eich gwaith i bobl - a pheidiwch â bod yn rhy 'precious' - mae'n haws nag erioed o'r blaen i rannu gwaith creadigol gyda'r byd. Mae gweithio yn y Gymraeg wedi bod yn gymaint o fantais i mi - mae'n cynnig rhwydwaith cefnogol o bobl sydd eisiau i ti lwyddo - ac mae'r holl gyhoeddwyr sydd gyda ni yng Nghymru yn gefnogol ac yn hapus iawn i drafod syniadau gydag awduron ac arlunwyr newydd. | Show people your work – and don’t be too ‘precious’ – it is easier than ever before to share creative work with the world. Working in Welsh has been so much of an advantage to me – it offers a supporting network of people who want you to succeed – and all the publishers we have in Wales are supportive and very happy to talk ideas with new authors and artists. |