Suggested fiction for proficient learners

Llyfrau a ffuglen a awgrymir ar gyfer dysgwyr hyfedr / Suggested books and fiction for proficient learners

Here, parallel.cymru offers some suggestions for learners who have progressed from reading books for learners. Links to buy them from the publisher are available on the left hand side of each item or by clicking the book cover image.

 

Beibl.net

Wedi'i cyfieithu gan: Arfon Jones

Pris: £15 clawr caled neu yn rhad ac am ddim ar-lein: beibl.net

Ar gael o: Gwales



Available as Kindle ebook

Disgrifiad Gwales:
Y Beibl mewn iaith hawdd i'w deall. Mae beibl.net wedi'i gyfieithu o'r ieithoedd gwreiddiol (Hebraeg a Groeg) i Gymraeg llafar, syml - mae'n berffaith i bobl ifanc, i ddysgwyr ac i Gymry o bob oed sydd am ddeall neges y Beibl yn well.
Experience the Bible in your own language. Translated from the original Hebrew and Greek, beibl.net is the bible in everyday Welsh - perfect for young people, those learning the language and even those who are native Welsh speakers.

Review by Huw Rowlands
Nawr, mae'n gywir cyn belled ag mae'n mynd, ond nid yn ddigon pell. Mae 'Y beibl.net' ar gael mewn copi caled ac ar-lein gyda ffeiliau sain ar gyfer y rhan fwyaf o'r Hen Destament. Dwi ddim wedi mynd tu mewn yr un eglwys ers blynyddoedd ond dwi- fel llawer o bobl eraill- yn cofio ambell i straeon o'r Beibl. A mae hyn yn golygu bod defnyddio'r fersiwn ar-lein- ac mae'r darlleniad yn glir iawn ac yn bwyllog- mae'r atgofion (pa mor waeth) yn eich helpu chi'n casglu o'r cyd-destun ystyron geiriau nad ydych chi'n eu gwybod. Ac er mai geiriaduron ar-lein sy'n ffrindiau gorau i chi, weithiau mae'n ddigon pleserus peidio â'u defnyddio.
Now, this is correct as far as it goes but it doesn t go far enough. Beibl.net is available in hard copy and online complete with sound files for most of the Old Testament. I haven’t set foot in a church for years but I- like many other people- remember scraps of bible stories. This means that using the online version- and the reading is very clear and unhurried- the memories (however faint) help you to work out the meaning of words you don’t know from the context. And while online dictionaries are your best friends, it is quite pleasant to not use them sometimes.
Beibl.net cover
The Old Red Tongue

Gan: Gwyn Griffiths & Meic Stephens

Pris: £30

Pam addas: Mae pob eitem wedi cael ei chyfieithu i mewn i Saesneg

Cyhoeddwr: Francis Boutle
The Old Red Tongue is a major anthology of over 300 Welsh texts – poems, plays, memoirs, essays, extracts from novels and short stories, hymns, eulogies, elegies, medieval prose, political and theological commentaries – from nearly 200 writers covering every period from the 6th century to the present day. As well as being a comprehensive anthology, it is unique in that every item has an English translation plus an introduction to the author and context. It is a perfect introduction to Welsh literature for parallel.cymru readers.

Exclusive author insight:
An introduction from Gwyn Griffiths.
The Old Red Tongue
Y Llyfrgell

Gan: Fflur Dafydd

Pris: £8.95

Pam addas: Mae e wedi cael ei addasu i'r ffilm 'Y Llyfrgell' gwyliwch y ffilm yn cyntaf i ddod i nabod y stori a chymeriadau

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Y Llyfrgell (Welsh Edition)Available as Kindle ebook
Disgrifiad Y Lolfa:
Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.
On a cold morning in February 2020, Dan, a porter at the National Library of Wales, is rebelling as usual against the regime. This novel transforms the peaceful space of the National Library into a full theatrical set of possibilities. This won the Daniel Owen Memorial Prize at the Meirion and District National Eisteddfod, 2009.
Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd
The Speckled Band / Y Cylch Brith

Gan: Arthur Conan Doyle

Wedi'i cyfieithu gan: Eurwyn Pierce Jones

Pris: Yn rhad ac am ddim

Ar gael ar parallel.cymru
A full paragraph-by-paragraph translation of the Arthur Conan Doyle favourite, "The Adventure of the Speckled Band".

She Raised Her Veil
“Ofn, Mr Holmes. Arswyd a braw.” Fel y siaradai, cododd rwyden ei fêl yn ôl dros ei phen. “It is fear, Mr. Holmes. It is terror.” She raised her veil as she spoke.
Sherlock Holmes, wedi'i peintio gan Sidney Paget
Pam?

Gan: Dana Edwards

Pris: £8.99

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook
Disgrifiad Gwales:
Mae Pam? yn dilyn tri ffrind wrth iddynt adael coleg a dechrau gwneud eu ffordd yn y byd yn y degawd cythryblus a chyffrous sy'n arwain at sefydlu Cynulliad i Gymru. Mae'r tri yn rhannu'r un pen-blwydd, ond yn rhannu cyfrinach hefyd, cyfrinach sy'n bygwth dinistrio pob un ohonynt.

Pam? follows three friends as they step out into the world after their college days during the exciting and turbulent decade leading to the establishment of the Welsh Assembly. They share the same birthday, together with a secret that threatens to destroy them all.

Exclusive author insight:
Dana Edwards explains how she wrote here second novel, Am Newid.
Pam? gan Dana Edwards
Llinyn Trôns

Gan: Bethan Gwanas

Pris: £4.95

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook
Disgrifiad Gwales:
Nofel gyfoes ddifyr i ieuenctid gan nofelwraig boblogaidd yn adrodd hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch, methiannau a llwyddiannau criw brith o fyfyrwyr TGAU wrth iddynt ddysgu cydweithio ar gwrs mewn canolfan awyr agored. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2001.

A contemporary novel for young people by a popular novelist relating the frictions and friendships, failures and successes of a mottley crew of GCSE students as they learn to co-operate on an open-air adventure course. Tir na n-Og Award winner 2001.

Exclusive author insight:
Bethan is interviewed by Elin Meek
I’m an author- but a Welsh for Adults tutor as well!
Llinyn Trôns gan Bethan Gwanas
Y Nant

Gan: Bet Jones

Pris: £8.99

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook
Disgrifiad Gwales:
Nofel ddictectif wreiddiol, boblogaidd am ddirgelwch llofruddiaeth yn Nant Gwrtheyrn yn ystod cwrs penwythnos lle mae saith o gymeriadau amrywiol yn dod i loywi eu Cymraeg.

An original detective story about a murder mystery set against the backdrop of a weekend Welsh Learner course in Nant Gwrtheyrn.

Exclusive author insight:
Bet Jones: Sut Ysgrifennais i Y Nant / How I wrote Y Nant.
Y Nant gan Bet Jones
O'r Cyrion

Gan: Ioan Kidd

Pris: £5.99

Pam addas: Straeon byr

Cyhoeddwr: Gomer
Disgrifiad Gwales:
Casgliad o straeon byrion gafaelgar a modern. Ceir yma straeon wedi'u seilio ar themâu cyffredin, megis y natur ddynol, rhagrith, twyll a hunan-dwyll, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, - ond mewn cyd-destunau amrywiol iawn, ac mewn arddull gynnil a chan ddefnyddio ymadroddion bachog. Mae dwy o'r storiau'n cynnwys tafodiaith gyfoethog Cwm Afan.

A collection of gripping modern stories. It includes stories based on common themes, such as the human nature, hypocrisy, deceit and self-deceit, relationships, - but in different context, written in a subtle style and using catchy expressions. Two of the stories are written in the Cwm Afan dialect.
O'r Cyrion gan Ioan Kidd
Y Gwreiddyn

Caryl Lewis

Pris: £7.99

Pam addas: Straeon byr

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook


Disgrifiad Gwales:
Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â natur, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, cariad a cholled. Mae pob stori, fel y stori deitl, yn ceisio mynd i'r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau â'i gilydd.

A volume of short stories relating to nature, man's relationship with his fellow-man, love and loss. Every story, as the story title, tries to address the core of the relationships with each other.
Caryl Lewis Y Gwreiddyn
Dirgel Ddyn

Gan: Mihangel Morgan

Pris: £8.99

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales:
Cyfrol a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1993, ac a ddisgrifiwyd fel nofel glyfar, ddarllenadwy, sy'n torri cwys newydd yn ein llên.

The volume which was awarded the Prose Medal at the 1993 National Eisteddfod and which was described as a clever, readable novel which breaks new ground in our literature.
Dirgel Ddyn gan Mihangel Morgan
Diffodd y Sêr: Hanes Hedd Wyn

Gan: Haf Llewelyn

Pris: £5.95

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol. Hefyd, mae e fersiwn Seasneg

Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales:
Nofel hanesyddol yw Diffodd y Sêr. Mae'r stori wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2014.

Ellis has to become a soldier, like dozens of other young men from the Trawsfynydd area, during the First World War. But Anni looks up at the stars each night and wishes that her brother could come home to Yr Ysgwrn, especially after seeing the terrible effect the fighting has had on the father of her best friend. A special prize is waiting for Ellis if he returns home safely...

Exclusive author insight:
Creu Diffodd y Sêr: Nofel Hedd Wyn / Creating An Empty Chair: a novel about Hedd Wyn

Available as Kindle ebook (Cymraeg)

Available as Kindle ebook (English)
Diffod y Sêr gan Haf Llewelyn
Ceffyl Rhyfel

Wedi'i cyfieithu gan: Casia William

Pris: £6.00

Pam addas: Mae e wedi cael e cyfieithu o fersiwn Saesneg, War Horse

Cyhoeddwr: Carreg Gwalch
Disgrifiad Gwales:
Stori rymus am geffyl a'i gyfaill yn cael eu gwahanu ar eu fferm yn Nyfnaint ac yn cael eu dal ym merw erchyll brwydro y Rhyfel Byd Cyntaf yw hon. Mae'r awdur, Michael Morpurgo, yn feistr ar y grefft o adrodd stori afaelgar. Addasiad Cymraeg o War Horse.

From master storyteller Michael Morpurgo comes an incredibly moving story about one horse's experience in the deadly chaos of the First World War. In 1914, Joey, a young farm horse, is sold to the army and thrust into the midst of the war on the Western Front. With his officer, he charges towards the enemy, witnessing the horror of the frontline.
Ceffyl Rhyfel gan Michael Morpurgo
Pluen

Gan: Manon Steffan Ros

Pris: £5.99

Pam addas: Mae llawer o straeon Manon yn fyr a hygrych

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook
Disgrifiad Gwales:
Nofel i blant hŷn a phobl ifainc gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017.

A novel for older children and young adults by popular author Manon Steffan Ros, which follows Huw as he prepares his project on the Second World War during the summer holidays. Strange things happen as he begins to explore a secret relating to his grandmother's brother in this endearing story.

Mae Manon wedi ysgrifennu llawer o lyfrau sy'n addas am dysgwyr gyda phrofiad, gan gynnwys Inc, Hunllef ac AI

Enillodd Manon y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri (2005) ac Abertawe (2006). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 a 2012 gyda’r ddwy nofel i blant, Trwy’r Tonnau a Prism.
Manon Steffan Ros Pluen
Macbeth

Wedi'i cyfieithu gan: Gwyn Thomas

Pris: £6.95

Pam addas: Os dych chi'n hoffi Shakespeare, dych chi'n mynd i fod cyfarwydd gyda'r fersiwn Gymraeg

Cyhoeddwr: Barddas
Disgrifiad Barddas:
Cyfieithu trasiedi fawr Shakespeare, Macbeth ar gyfer cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru oedd un o gymwynasau olaf y diweddar Athro Gwyn Thomas i lenyddiaeth Cymru.
Shakespeare's great tragedy, Macbeth, for the exciting production of Theatr Genedlaethol Cymru was one of the last gifts to Welsh literature from the late Professor Gwyn Thomas.
Macbeth yn y Gymraeg
Dan y Wenallt

Wedi'i addasu gan: T. James Jones

Pris: £9.99

Pam addas: Os dych chi'n hoffi Dylan Thomas, dych chi'n mynd i fod cyfarwydd gyda'r fersiwn Gymraeg

Cyhoeddwr: Gomer
Disgrifiad Gwales:
Yr hen glasur Dan y Wenallt ar ei newydd wedd. Argraffiad newydd i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Rhagair gan Walford Davies.
A revised edition of Dan y Wenallt, the Welsh adaptation of Under Milk Wood, published to coincide with the Dylan Thomas centenary celebrations.
Dan y Wenallt
Paent!

Gan: Angharad Tomos

Pris: £5.99

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Carreg Gwalch
Disgrifiad Gwales:
Nofel sy'n dangos sut mae un haf tyngedfennol yn hanes ein gwlad yn effeithio Robert. Daw miri arwisgo Siarl yng Nghastell Caernarfon ac ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael arwyddion dwyieithog yn ystod haf 1969 yn fyw yn y nofel hon.

A novel for children based on events relating to the activities of Cymdeithas yr Iaith during the summer of 1969, when Prince Charles is invested at Caernarfon Castle and when the campaign for bilingual road signs gathers momentum.
Paent! gan Angharad Tomos
Chwynnu

Gan: Sioned Wiliam

Pris: £8.99

Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook
Disgrifiad Gwales:

Ail nofel lawn ffraethineb yr awdures Sioned Wiliam, enw cyfarwydd ym myd comedi y mae ei nofel gyntaf, Dal i fynd, yn cael ei datblygu'n gyfres deledu. Mae'r nofel ddiweddaraf yn llawn hiwmor wrth bortreadu cymeriadau difyr mewn sefyllfaoedd doniol a dwys.

A second witty novel from author Sioned Wiliam, whose popular first novel, Dal i Fynd, is being developed into a TV series.The latest novel is full of humour following the ups and downs of the lives of entertaining characters.
Chwynnu Sioned William

Llyfrau i Ddysgwyr Books for learners


Cyfres Amdani

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau