Luke Williams Analysis

Luke Williams: Dadansoddi gemau pêl-droed Cymru / Analysing Wales’ Football Matches

Helo, Luke dw i, a dw i’n mynd i siarad am bêl-droed yn yr iaith Gymraeg! Dw i ddim yn berffaith efo’r iaith Gymraeg ond dw i’n mynd i drio ysgrifennu Cymraeg derbynniol wrth i mi ddal i ddysgu mwy. Dw i’n falch iawn o weithio efo parallel.cymru achos ei fod e’n gylchgrawn anhygoel ar gyfer dysgwyr.

Hello, I’m Luke and I’m going to speak about football in the Welsh language! I’m not perfect with the Welsh language but I am going to try and write in better Welsh as I continue to learn more. I’m very proud to share this with parallel.cymru as it is an amazing magazine for learners.

Yn ddiweddar mae Luke wedi orffen ei gwrs UEFA B Licence gyda’r Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn wreiddiol o Gonwy, mae Luke wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Staffordshire, wedi hyfforddi ar lefel ieuenctid ac efo’r tîm cyntaf yn Stafford Town FC ac erbyn hyn yw sgowt i Mansfield Town.

Luke has recently finished his UEFA B Licence course with the Football Association of Wales. Originally from Conwy, Luke is currently based in Staffordshire, has coached at youth level and with the first team at Stafford Town FC and is now scout at Mansfield Town.

Mis Medi 2019: Cymru 2-1 Azerbaijan

Roedd Cymru’n chwarae efo’r un siâp ag arfer – 1-4-4-1-1/1-4-2-3-1 (Hennessey; C. Roberts, Mepham, Rodon, N. Taylor; Allen, Ampadu; Bale, Wilson, James; T. Lawrence). Medrwch chi weld Cymru’n amddiffyn yn eu 4-2-3-1 siâp isod. Roedd Cymru’n presio’n uchel, ceision nhw ddechrau’n gyflym cyn i’r tîm oddi cartref fedru setlo. Wales played with the same shape as usual – 1-4-4-1-1/1-4-2-3-1 (Hennessey; C. Roberts, Mepham, Rodon, N. Taylor; Allen, Ampadu; Bale, Wilson, James; T. Lawrence). You can see Wales defend in their 4-2-3-1 shape below. Wales pressed high, trying to start quickly before the away team were able to settle.

Luke Williams Cymru Azerbaijan 1

Ar ôl y gêm, weles i lawer o bobl yn gofyn cwestiynau am Ryan Giggs, oherwydd doedden nhw ddim yn medru gweld y cynllun tactegol. Ond a bod yn deg, dydy fawr o ddim wedi newid yng ngemau Cymru yn 2019. Dydy o ddim yn deg dweud nad oes gan Ryan Giggs gynllun. Yn y blog hwn, dw isio rhoi cip ar gynllun Gymru, ac wedyn byddwch chi’n rhydd i benderfynu sut ydach chi’n teimlo am y cynllun. After the game, I saw a lot of people ask questions of Ryan Giggs, because they were not able to see the tactical plan. But to be fair, not a lot has changed across the Wales games in 2019. It is not fair to say that Ryan Giggs does not have a plan. In this blog, I want to give an overview of the Wales plan, and then you can feel free to decide how you feel about the plan.
Yn aml, mae Cymru’n chwarae allan o’r cefn fel yn y llun isod, efo’r “ballside” (oes ‘na unrhyw un sy’n gwybod ffordd i ddweud hyn yn y Gymraeg?) chwaraewr canol cae fel opsiwn yn fyr am yr amddiffynnwr canol-dde (Chris Mepham yma). Mae hyn yn caniatáu i’r amddiffynnwr de, Connor Roberts, symud uchel yn y sianel ochr dde, ar yr ochr arall i ganol cae Azerbaijan. Ar yr un amser, mae’r chwaraewr canol cae arall yn aros yn y canol ac mae’r amddiffynnwr chwith yn aros yn ôl yn yr hanner gofod chwith. Dw i wedi siarad am hyn mewn blogiau eraill.Often, Wales play out from the back like below, with the ballside (anyone know a way to say this in Welsh?) centre midfielder as a short option for the right-centre back (Chris Mepham here). This allows the right back, Connor Roberts, to move high in the right channel, on the other side of Azerbaijan’s midfield. At the same time, the other centre midfielder stays in the centre and the left back stays back in the left halfspace. I have spoken about this in other blogs.

Luke Williams Cymru Azerbaijan 2

Pan mae Joe Allen yn cymryd y bêl a dechrau symud ymlaen, gallwn ni weld beth mae Cymru isio ei neud o’i flaen o yn y llun nesaf. Roedd Allen yn pasio’r bêl i Tom Lawrence, oedd wedi dropio’n fyr, tra mae Gareth Bale yn yr hanner gofod de, ac mae Harry Wilson, fel “10” y tîm, yn yr hanner gofod chwith. Mae Connor Roberts “off-screen” yn y sianel ochr dde, a Daniel James “off-screen” yn y sianel ochr chwith. Dyma enghraifft gyffredin o “positional play” Cymru.When Joe Allen takes the ball and starts to move forward, we can see what Wales want to do in front of him in the next photo. Allen passed the ball to Tom Lawrence, who has dropped short, while Gareth Bale is in the right halfspace, and Harry Wilson, as the “10” of the team, is in the left halfspace. Connor Roberts is off-screen in the wide right channel, with Daniel James off-screen in the wide left channel. This is an example of Wales’ positional play.

Luke Williams Cymru Azerbaijan 3

Nesaf, medrwch chi weld enghraifft o batrwm y mae Cymru yn ei ddefnyddio. Mae’r llinell goch yn dangos Joe Allen yn rhedeg ac mae’r llinell werdd yn dangos llwybr y bêl. Next, you can see an example of a pattern that Wales use. The red line shows the run of Joe Allen and the green lines show the path of the ball.

Luke Williams Cymru Azerbaijan 4

Tynnais y diagram hwn i ddangos rhan arall o “positional play” Cymru yn y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mawrth. Mae’r saethau du yn dangos y bàs i Neil Taylor, sy’n gwneud pàs “in-behind” amddiffynnwr de Trinidad a Tobago am Ryan Hedges. Mae Hedges yn dropio’n ôl cyn rhedeg “in-behind” am y bàs. Roedd Cymru’n defnyddio’r un syniad yn erbyn Slofacia, gyda Ben Davies a Daniel James. Ers hynny, mae timau wedi dysgu a dydyn nhw ddim yn gadael gofod “in-behind” i James ar y chwith. I drew this diagram to show part of Wales’ positional play in the game against Trinidad & Tobago in March. The black arrows show the pass to Neil Taylor, who makes a pass in-behind the right back of Trinidad & Tobago for Ryan Hedges. Hedges drops back before making the run in-behind for the pass. Wales used this same idea against Slovakia, with Ben Davies and Daniel James. Since then, teams have learned and they do not leave space in-behind for James on the left.

Luke Williams Cymru Azerbaijan 4A

Hefyd, roedd Azerbaijan yn cadw eu hasgellwr de yn uchel i bresio Neil Taylor yn gynnar. Roedden nhw’n chwarae efo dau amddiffynnwr de – un sy’n dilyn Harry Wilson yn hanner gofod chwith Cymru. Oherwydd hyn, roedd amddiffynnwr de arall Azerbaijan yn rhydd i jyst amddiffyn yn erbyn James sy’n dros y llinell glas isod.Also, Azerbaijan kept their right winger high to press Neil Taylor early. They played with two right backs – one who followed Harry Wilson in the Wales left halfspace. Because of this, the other Azerbaijan right back was free to just defend against James (who is above the blue line below).

Luke Williams Cymru Azerbaijan 5

Yn y llun blaenorol ac yn y llun nesaf, medrwch chi weld y gofod mawr iawn yn hanner gofod chwith Cymru. Nodwch sut mae Taylor ac Ampadu yn pwyntio at y gofod yn yr ail lun (isod).In the previous and next, you can see the very large space in the left half space of Wales. Note how Taylor and Ampadu point to space in the second picture (below).

Luke Williams Cymru Azerbaijan 6

Roedd gan Gymru broblem achos eu bod nhw angen rhywun i symud “goalward” efo’r bêl ar ôl ei derbyn yn yr hanner gofod chwith. Mae Harry Wilson yn hoffi symud efo’r bêl i’r chwith, felly roedd yn syniad da ei swapio fo gyda Jonny Williams, sy’n symud y ffordd arall achos ei fod o’n droed dde.Wales had a problem because they needed someone to move goalward with the ball after receiving in the left halfspace. Harry Wilson likes to move with the ball to the left, so it was a good move to swap him with Jonny Williams, who likes to move the other way because he is right footed.
Diolch am ddarllen y blog. Gobeithio fod e’n glir mod i wedi gwella efo’r iaith Gymraeg -- dw i’n mynd i drio dal ati i neud hynny. Dw i’n erych ymlaen at drafod y gemau yn erbyn Slofacia a Croatia fis nesa…Thank you for reading the blog. Hopefully, it is clear that I have improved with the Welsh language a I am going to try to continue. Onwards to next month against Slovakia and Croatia…

 

Mis Medi 2019: Ynysoedd Faroe & Gogledd Iwerddon

Roedd tîm Merched Cymru yn dechrau eu taith i EURO 2021 yn gynharach y mis hwn efo gemau yn erbyn Ynysoedd Faroe a Gogledd Iwerddon. Roeddwn i wedi cynhyrfu’n fawr cyn gwylio’r gemau ac yn edrych ymlaen at neud y blog hwn achos bod gan Gymru gyfle gwych i gyrraedd y twrnamaint yn Lloegr yn 2021.Wales Women started their journey to EURO 2021 earlier this month with games against the Faroe Islands and Northern Ireland. I was excited to watch these matches and do this blog, because Wales have a great chance of reaching the final tournament in England in just under two years’ time.
Gêm 1 – Ynysoedd Faroe 0-6 CymruGame 1 – Faroe Islands 0-6 Wales
Enillodd Cymru’r gêm gyntaf yn dda iawn oddi cartref yn erbyn Ynysoedd Faroe. Hwn oedd y cyfle cyntaf i mi i ddadansoddi tîm merched Cymru ac roedd eu gwylio nhw’n ddiddorol iawn. Heb y bêl, roedd Cymru’n dechrau mewn 1-5-2-3 siâp – gallwch chi weld hwn ar y llun yma.The first game was a very good win away from home against the Faroe Islands. It was the first chance that I have had to analyse the women’s team and I found them very interesting to watch. Without possession of the ball, Wales played with a 1-5-2-3 shape – you can see this in the photo here.

Luke Williams- Blog Pêl-droed Medi 2019 Llun 1

Ond, pan oedd Cymru’n cael y bêl roedd Sophie Ingle yn symud allan o’r amddiffyniad i chwarae fel “pivot” - i ddefnyddio gair Saesneg- o flaen y ddau amddiffynnwr canol arall. Roedd hon yn un rhan o’r ffordd bod Cymru’n chwarae allan o’r amddiffyniad. Yn yr ail hanner, roedd Hayley Ladd a Sophie Ingle’n swapio rolau. However, when Wales had the ball, Sophie Ingle moved out of defence to play as a “pivot” – in front of two other centre backs. In the second half, Hayley Ladd and Sophie Ingle swapped roles.

Luke Williams- Blog Pêl-droed Medi 2019 Llun 2

Nesaf, os oedd Loren Dykes yn pasio’r bêl ar draws i Ladd, roedd un o'r ddau chwaraewr canol cae (Angharad James ac Elise Hughes) yn symud rhwng Ladd a’r amddiffynnwr de Rhiannon Roberts. Yn y ddau lun isod, gwelwch ble mae Angharad James (cylch glas) wedi symud, a Sophie Ingle yn dal yn y canol. Achos symud James, mae Rhiannon Roberts yn medru symud ymlaen ar yr ochr dde. Hefyd, mae'n golygu bod Natasha Harding yn medru symud i mewn i’r hanner gofod de yn yr ail lun achos bod James wedi symud allan o’r gofod. Mae’n ddiddorol gwylio achos bod tîm dynion Cymru’n defnyddio’r un syniadau yn aml. If Loren Dykes passed the ball across to Ladd, one of the two centre midfielders (Angharad James and Elise Hughes) moved between Ladd and the right back Rhiannon Roberts. In the two images below, see where Angharad James (blue circle) has moved to, with Sophie Ingle still in the centre. Because of James’ movement, Rhiannon Roberts is able to move up higher and wider on the right hand side. Natasha Harding is also able to move into the right halfspace in the second photo because of the movement out of this space by James. It is interesting to watch because the Wales men’s team often use the same ideas.

Luke Williams- Blog Pêl-droed Medi 2019 Llun 3

Luke Williams- Blog Pêl-droed Medi 2019 Llun 4

Mae tîm Cymru’n medru chwarae’n hir neu’n fyr – mae pawb yn gyffyrddus ar y bêl a hefyd mae’r tri ymosodwr (Harding, Green a Jones) yn medru cymryd y bêl i draed neu yn yr awyr ac maen nhw’n medru rhedeg y sianeli hefyd. Wales are able to play long or short – everybody is comfortable on the ball and the three attackers (Harding, Green and Jones) are able to take the ball to feet or in the air, and they are able to run the channels too.
Roedd yn ddechrau perffaith i ymgyrch Cymru, gyda chwe gôl dda. Hefyd, roedd yn braf iawn gweld “début” Carrie Jones – mae hi’n 15 oed! Mae gan Ferched Cymru lawer o chwaraewyr ifanc fydd â dyfodol gwych, ac fe fydd y sefyllfa’n gyffrous iawn!It was the perfect start to the campaign for Wales, with six good goals. It was also very nice to see a “début” for Carrie Jones – she is 15 years old! Wales Women have a lot of young players with great futures so be excited!
Gêm 2 – Cymru 2 – 2 Gogledd IwerddonGame 2 – Wales 2-2 Northern Ireland
Roedd yn siomedig gweld sgôr cyfartal yn y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, felly dw i ddim yn mynd i ddweud gormod amdani. Roedd Cymru’n chwarae efo’r un siâp ac roedd Gogledd Iwerddon yn chwarae efo “double pivot” (4. McFadden a 10. Furness) pan oedden nhw’n chwarae allan o’r cefn. O achos hyn, roedd yn anodd i ymosodwyr Cymru amddiffyn ac roedd amddiffynnwr de Gogledd Iwerddon (2. Newborough) yn agor yn eithaf aml. Roedd amddiffynnwr chwith Cymru (3. Evans) yn cael lot o waith wrth bresio Newborough ac am yr ail hanner, roedd Ingle yn symud i’r chwith o dri amddiffynnwr Cymru, efallai i helpu Evans. It was disappointing to draw the game against Northern Ireland so I’m not going to say too much about it. Wales played with the same shape and Northern Ireland played with a “double pivot” (4. McFadden and 10. Furness) when they played out from the back. Because of this, it was hard for Wales’ forwards to defend and the Northern Irish right back (2. Newborough) was open quite often. This gave Wales’ left back (3. Evans) a lot of work pressing Newborough and for the second half Ingle moved to the left of the three Welsh central defenders, possibly to help Evans.
Dw i’n hollol ddisgwyl gweld Merched Cymru yn yr EUROs yn Lloegr yn 2021. Dw i wedi trio defnyddio’r blog hwn, fel cyntaf y gyfres, i ddangos sut maen nhw’n chwarae i ryw raddau. Yn eu gêm nesaf, edrych allan am sut mae Cymru’n chwarae allan o’r cefn, a ble mae Sophie Ingle yn dechrau pan fydd y tîm arall yn cael cic gôl hir. Dw i’n gobeithio‘ch bod chi wedi mwynhau’r cyflwyniad i Ferched Cymru. Maen nhw angen ein cefnogaeth, felly cefnogwch nhw a chredwch!I totally expect to see Wales Women at the EUROs in England in 2021. I have tried to use this blog, as the first in the series, to show parts of how they play. In their next game, look out for how Wales play out from the back, and where Sophie Ingles starts on opposition long goal kicks. I hope you have enjoyed this introduction to the Wales Women’s team. They need our support, so support and believe!

 

Mis Mehefin 2019: Croatia & Hungary

Dw i wedi aros tan i mi fedru edrych yn ôl ar gemau Cymru yn erbyn Croatia a Hwngari ar y cyd. Mae yna lawer o bethau i siarad amdanyn nhw ac yn amlwg mae’n siomedig iawn gweld Cymru’n colli ddwywaith yn yr un wythnos. Mae bob amser yn anodd chwarae yn erbyn Croatia yng Nghroatia a hefyd mae’n anodd chwarae yn erbyn timau gyda momentwm – ac mae gan Hwngari lot o hwn ar hyn o bryd! Clywes i lot o bethau negyddol ar ôl y gemau hyn, ond dw i isio gwneud chwarae teg â Ryan Giggs, y staff a’r chwaraewyr. Yn y blog hwn dw i’n mynd i edrych ar y ddwy gêm.I have waited until I could look back on both the game against Croatia and the game against Hungary together. There are a lot of things to say about them and obviously it is very disappointing to see Wales lose twice in one week. It is always difficult to play against Croatia in Croatia and it is also difficult to play against teams with momentum – and Hungary have a lot of this at the moment! I have heard a lot of negative things after these games but I want to be fair to Ryan Giggs, the staff and the players. In this blog I will look at both games.
Gêm 1: Croatia 2-1 CymruGame 1: Croatia 2-1 Wales
Dw i ddim isio treulio gormod o amser ar y gêm yn Osijek achos mod i’n hoffi rhai o’r pethau bod Cymru wedi’u trio yn ystod y gêm, a bod yn onest. Mae’n anodd chwarae yn erbyn timau sy’n hoffi cadw’r bêl, ac mewn tywydd poeth hefyd. Dw i’n hollol ddeall pam roedd Cymru wedi newid y ffurfiad [“formation” ?] 1-4-4-1-1 a ddefnyddion nhw fis Mawrth, am ffurfiad yn fwy tebyg i 1-4-3-3 yn Osijek efo Gareth Bale a Daniel James yn barod i ymosod ar yr hanner. Nes i weld Croatia’n chwarae ym mis Mawrth, ac yn erbyn Sbaen y flwyddyn ddiwethaf hefyd – maen nhw’n cael trafferth amddiffyn yn yr hanner gofod. Yn anffodus i Gymru, roedd Croatia wedi newid sut maen nhw’n chwarae allan a fyny’r cae – i helpu nhw i gau’r hanner gofod. Edrychwch ar y llun yma – mae Cymru’n barod yn y ffurfiad 1-4-3-3, ond mae Cefnwr De Croatia yn agos at y dyn sy’n pasio’r bêl. Fydd dim gofod os bydd Cymru’n ennill y bêl.I don't want to spend too much time on the game in Osijek because to be honest I like some of the things that Wales tried during the game. It is difficult to play against teams who like to keep the ball, and in hot weather too. I totally understand why Wales changed formation from the 1-4-4-1-1 used in March to more of a 1-4-3-3 in Osijek with Gareth Bale and Daniel James ready to attack the halfspaces. I saw Croatia play in March and also against Spain last year - they have trouble defending in the halfspace. Unfortunately for Wales, Croatia had changed how they play out and progress up the pitch to help them close the halfspaces. Look at the photo here – Wales are ready in their 1-4-3-3 but the Croatian right back is close to the man passing the ball. There is no space for Wales should they win the ball.

Luke Williams Croatia 2-1 Cymru

Rhaid i mi ddweud ei fod yn anodd bod yn bositif o gwbl o ystyried sut y collodd Cymru’r gêm efo’r goliau. Dw i’n synnu ar pa mor agored oedd ochr dde Cymru am y gôl gyntaf. Dw i’n esbonio yn fy mlog Saesneg peldroed.blog) nad ydw i’n siŵr a oedd Will Vaulks yn y lle anghywir neu a oedd system Cymru o ran chwarae’r bêl yn anghywir. Dw i ddim isio deud dim byd negyddol am neb os nad ydw i’n hollol siŵr.I must say though that it is hard to be positive at all when considering how Wales lost the game with the goals that were conceded. I am surprised at how open Wales’ right side was for the first goal. I explain in my English language blog (at peldroed.blog) that I am not sure whether Will Vaulks is in the wrong place or if Wales’ system when with the ball was wrong. I do not want to say anything negative about somebody if I am not completely sure.
Gyda’r ail gôl – dw i ddim yn synnu ar sut y digwyddodd hon. Canolbwynt chwarae Cymru oedd James Lawrence. Felly roedd yn hawdd i Groatia ddysgu ac addasu i hyn. Dw i’n licio timau sy’n chwarae allan ond liciwn i weld mwy o amrywiaeth o ran gwneud hyn yn y dyfodol.With the second goal – I am not surprised with how this happened. Wales’ build-up play was centred around James Lawrence. It was easy for Croatia to learn and adapt to this. I like teams that play out from the back but I would like to see more variation when doing so in the future.
Gêm 2: Hwngari 1-0 CymruGame 2: Hungary 1-0 Wales
Dw i’n dal yn siomedig efo’r gêm hon achos mod i’n credu i Gymru chwarae’n dda. Doedd Cymru ddim yn chwarae yn y ffordd mae pobl ar Twitter yn meddwl, ond yn y pen draw, dych chi angen cymryd siawnsiau i sgorio. Hefyd, roedd Cymru wedi ildio gôl yn hawdd i ffordd eto [ ?? “off again”. Roedd Cymru wedi chwarae yn y ffurfiad 1-4-4-1-1 (gan newid i’r ffurfiad 1-4-2-3-1 pan gaethion nhw’r bêl) a dw i’n licio’r dacteg hon. Mae Joe Allen ac Ethan Ampadu yn wych wrth chwarae gyda’i gilydd yn y canol, a dw i’n hoffi sut roedd Cymru’n newid lle roedd yr ymosodwyr yn chwarae yn ystod y gêm i greu problemau gwahanol i Hwngari. I am still disappointed with this game because I believe Wales played well. Wales did not play in the way people on Twitter think they did but, ultimately, you have to take your goal-scoring chances. Also, Wales gave an easy goal away again. Wales played in the 1-4-4-1-1 formation (which changed to a 1-4-2-3-1 with the ball) and I like this setup. Joe Allen and Ethan Ampadu are excellent together in the middle and I like how Wales changed the positioning of their attackers throughout the game to give Hungary different problems.
Remember that Hungary are a good team – they are top of the group at the moment. In open play Wales played well but we conceded a goal after changing to a 1-4-2-3-1 when without the ball. I know that “hindsight is a wonderful thing” but a point would have been a good result. Cofiwch fod Hwngari yn dîm da – maen nhw ar dop y grŵp ar hyn o bryd. Yn ystod y chwarae agored roedd Cymru’n chwarae yn dda, ond nes i ni golli gôl ar ôl newid i 1-4-2-3-1 pryd ni’n heb y bêl. Dw i’n gwybod mai “peth rhyfeddol yw ôl-doethineb” ond byddai pwynt wedi bod yn dda.
I am confident that Wales will win their next game against Azerbaijan because their ideas with the ball are clear to see and it will be difficult for Azerbaijan to defend against them. I still believe in this Welsh team. Dw i’n hyderus bod Cymru yn mynd i ennill yn y gêm nesaf yn erbyn Azerbaijan achos bod y syniadau efo’r bêl yn glir a bydd yn anodd i Azerbaijan amddiffyn yn eu herbyn nhw. Dw i’n credu yn nhîm Cymru o hyd, felly.
Sorry but I can’t clearly explain a lot of the things that I want to talk about because I can’t speak good enough Welsh. Having said that, I am going to continue learning and hopefully improve more. Hopefully, this blog will help other learners too!Mae’n ddrwg gen i na fedra i esbonio rhai o’r pethau dw i isio siarad amdanyn nhw yma’n gliriach, achos nad ydw i’n gallu siarad Cymraeg yn ddigon da. Wedi dweud hynny, dw i’n mynd i barhau i ddysgu, a gobeithio bydda i’n gwella mwy. Gobeithio bydd y blog hwn yn helpu dysgwyr eraill hefyd!

Oes ‘na unrhyw gamgymeriadau yn y blog? Os oes, wddyn e-bostiwch fi ar [email protected] – dw i wastad yn falch o ddysgu. Diolch am ddarllen, gwela i chi ym mis Medi efo’r gemau yn erbyn Azerbaijan a Belarws.

Are there any mistakes in this blog? If so, please email me at [email protected] – I am always happy to learn. Thank you for reading, I will see you in September with the games against Azerbaijan and Belarus.

peldroed.blog / lukewilliamspd

Luke Williams- Blog Pel-droed

 

Ymwadiad / Disclaimer
Ysgrifennwyd rhai o’r erthyglau 'Dysgwyr' gan bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu Cymraeg. Efallai y dewch ar draws rhai camgymeriadau ieithyddol yn y Gymraeg o bryd i’w gilydd.
Some of the 'Learner' articles have been written by those who are still learning Welsh. You may therefore come across some linguistic errors in the Welsh from time to time.

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr