Dwy ddysgwraig y Flwyddyn 2019

Dwy Ddysgwraig y Flwyddyn 2019

Dyma gyfweliadau gyda dwy fenyw sydd wedi ennill prif wobrau eleni- Fiona Collins a Francesca Sciarrillo- ac mae Eirian Wyn Conlon o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gofyn y cwestiynau. Gall eu hesiampl nhw ysbrydoli dysgwyr eraill!

Here are interviews with two ladies who have won major prizes this year- Fiona Collins and Francesca Sciarrillo- and Eirian Wyn Conlon of the National Centre for Learning Welsh is asking the questions. Their examples can inspire lots of other learners!

Fiona Collins- Dysgwr y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol 2019 Sir Conwy

Fedri di roi dy gefndir mewn 5 brawddeg? Can you give your background in 5 sentences?
Mi ges i fy ngeni a fy magu yn Hampshire, De Lloegr. Roedd mam yn Gymraes ddi-Gymraeg a dad yn Sais.I was born and brought up in Hampshire, in southern England. Mum was a non-Welsh-speaking Welshwoman and Dad was English.
Dwi’n byw yn Ngharrog, Sir Ddinbych ers 2003, gyda fy nghymar Ed. Mae’r tŷ yn nyffryn Dyfrdwy ac mae’n braf gallu clywed sŵn y nant ym mhob man yn y tŷ. Dwi’n gweithio fel chwedleuwraig, yn adrodd straeon traddodiadol ar lafar i oedolion neu blant. Since 2003 I have been living in Carrog, in Denbighshire, with my partner Ed. The house is in the Dyfrdwy valley and it is great being able to hear the sound of the river everywhere in the house. I work as a storyteller, telling traditional stories orally to adults or children.
Pam wyt ti wedi dysgu Cymraeg yn rhugl?Why have you become fluent in Welsh?
Wnes i ddysgu er mwyn gallu adrodd chwedlau Cymreig, fel straeon y Mabinogi, trwy gyfrwng iaith y wlad.I learnt so as to be able to tell Welsh legends, such as the Mabinogion stories, through the medium of their native language.
Sut wyt ti wedi dysgu Cymraeg yn rhugl?How have you become fluent in Welsh?
Gyda llawer o gymorth gan y Cymry Cymraeg, fy nghyd-ddysgwyr a fy nhwtoriaid. Diolch iddyn nhw i gyd.With a lot of support from the Welsh-speaking Welsh, my fellow learners and my tutors. Thanks to all of them.
Be ydy dy gyngor di i unrhyw un sy isio dysgu Cymraeg yn rhugl?What is your advice to anyone who wants to learn Welsh fluently?
Siaradwch a gwrandewch ar yr iaith, a mwynheuwch!
Cymerwch bob cyfle i siarad Cymraeg.
Dechreuwch bob sgwrs yn y Gymraeg.
Peidiwch ag ofni gwneud camgymeriadau. Dyma sut dan ni’n dysgu.
Talk and listen to the language, and enjoy!
Take every opportunity to speak Welsh.
Begin every conversation in Welsh.
Don’t be afraid to make mistakes. That is how we learn.
Be ydy’r peth gorau am siarad Cymraeg?What is the best thing about speaking Welsh?
Gallu cymdeithasu gyda phobl gan ddefnyddio eu hiaith naturiol. Being able to socialise with people using their natural language.
Be wnaeth ennill y teitl “Dysgwr y Flwyddyn 2019” olygu i ti?What did winning the title ‘Learner of the Year 2019’ mean to you?
Popeth! Am fraint … a gobeithio gallu manteisio ar y cyfle i fod yn llysgennad dros yr iaith er mwyn annog tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion i ddefnyddio chwedlau traddodiadol i gefnogi dysgwyr a chodi eu hyder.Everything! For the honour… and I hope to be able to take advantage of the opportunity to be an ambassador for the language to urge Welsh tutors for Adults to use traditional stories to support learners and build up their confidence.
Fiona Collins Eisteddfod 2

Francesca Sciarrillo- Ennillwr Medal y Dysgwyr, Eisteddfod yr Urdd 2019 Caerdydd a'r Fro

Fedri di roi dy gefndir mewn 5 brawddeg? Could you give your background in 5 sentences?
Helo! Francesca ydw i; rydw i’n 23 oed. Ym mis Hydref diwethaf, symudais yn ôl i’r Wyddgrug – y dref lle ces i fy magu – ar ôl astudio gradd a gradd meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Brifysgol Bangor. Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio fel Prentis Graddedig mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus i “Aura Llyfrgelloedd a Hamdden”. Hello! I am Francesca;l I am 23 years old. Last October I moved back to Mold in Flintshire, the town where I was brought up – after studying for a degree and a Master’s degree in English literature at Bangor University. At present, I am working as a graduate apprentice in Marketing and Public Communications for Aura Libraries and Leisure.
Mi ges i fy ngeni yn Wrecsam; ond rydw i’n dod o deulu Eidaleg. Symudodd fy Neinau a Theidiau i Gymru yn y chwe degau i greu bywydau gwell i fy rhieni, ac wedyn, wrth gwrs, i fi.I was born in Wrexham, but I come from an Italian family. My grandmothers and grandfathers moved to Wales in the sixties to create better lives for my parents and then, of course, for me.
Pam wyt ti wedi dysgu Cymraeg yn rhugl?Why have you become fluent in Welsh?
Oherwydd rydw i’n byw yng Nghymru: mae’n syml iawn fi. Mae gen i gyfrifoldeb tuag at yr iaith. Pan roeddwn i’n ifanc, rydw i’n cofio bod yn ddryslyd: “os rydw i’n byw yng Nghymru, pam dydw i ddim yn siarad y Gymraeg?”. Dyma ddechrau’r daith i ddarganfod y Gymraeg. Ers hynny, rydw i wedi darganfod bob math o bethau sy’n golygu’r byd i mi oherwydd y Gymraeg; rydw i wedi darganfod cymuned a rhywle rydw i’n perthyn. Because I live in Wales: it is very simple for me. I have a responsibility towards the language. When I was young, I remember being puzzled: ‘If I am living in Wales, why am I am not speaking Welsh?’ That is how my journey to discover Welsh began. Since then, I have discovered through Welsh all kinds of things which mean the world to me; I have discovered community and somewhere I belong.
Sut wyt ti wedi dysgu Cymraeg yn rhugl? How have you become fluent in Welsh?
Dechreuais ddysgu Cymraeg trwy’r ysgol ond go iawn pan ddechreuais lefel A yn y Gymraeg (ail iaith). Wedyn, defnyddiais Gymraeg pan roeddwn i’n byw ym Mangor ar gyfer prifysgol – dim ond trwy siarad gyda phobol lleol a myfyrwyr eraill. I began learning Welsh at school, but properly when I began A-level Welsh (second language). Then, I used Welsh when I was living in Bangor while I was at university – just through speaking with local people and other students.
I mi, y ffordd orau i ddysgu unrhyw iaith yw siarad – siarad gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. Yn ystod fy mlwyddyn olaf, mi wnes i gyfarfod fy nghariad, Harri, sy’n siarad Cymraeg. Mae Harri a’i deulu yn helpu fi gymaint – mae nhw wedi creu y cyfle i mi ddefnyddio’r iaith bob dydd. To me, the best way to learn any language is through speaking – speaking with learners and other speakers. During my last year, I met my beloved, Harri, who speaks Welsh. Harri and his family help me a lot – they have given me the opportunity to use the language every day.
Pan symudias yn ôl i’r Wyddgrug, dechreuais ddosbarth Hyfedredd wythnosol gyda Choleg Cambria yn Llaneurgain. Mynd i ddosbarth Cymraeg wythnosol yw uchafbwynt fy wythnos! Mae pawb yn hyfryd a rydw i wrth fy modd yn siarad a dysgu gyda nhw. When I moved back to Mold, I began weekly advanced classes with Cambria College in Llaneurgain. Going to a weekly Welsh class is the highlight of my week! Everyone is lovely and I am in my element speaking and learning with them.
Be ydy’r peth gorau am siarad Cymraeg? What is the best thing about speaking Welsh?
Mae’n anodd dewis dim ond un peth! Rydw i wrth fy modd efo llenyddiaeth Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg felly mi faswn i’n hoffi dweud rhywbeth fel darganfod diwylliant Cymraeg. Ond i fod yn onest, y peth gorau am siarad Cymraeg i mi yw’r bobol rydych chi’n cyfarfod ar y ffordd. Rydw wedi bod mor lwcus i gyfarfod llawer o bobol hyfryd ers dysgu Cymraeg: dydw i ddim yn gallu dychmygu fy mywyd heb Gymraeg!It is hard to chose just one thing! I love Welsh literature and Welsh music so I would like to say something like discovering Welsh culture. But to be honest, the best thing about speaking Welsh for me is the people that I meet on the way. I have been so lucky to meet so many lovely people since learning Welsh; I cannot imagine my life without Welsh!
Be wnaeth ennill Dysgwr y Flwyddyn 2019 olygu i ti?What did winning Learner of the Year 2019 mean to you?
Cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd 2019 yw profiad gorau fy mywyd. Mae’n golygu gymaint i mi; does ‘na ddim geiriau i ddisgrifio pa mor arbennig oedd y profiad. Roeddwn i wrth fy modd yn mynd lawr i Langrannog ar gyfer rownd gyntaf y gystadleuaeth. Cymerais ran mewn llawer o weithgareddau, gan gynnwys adeiladu cyfathrebu grŵp, tasg ysgrifenedig, a chyfweliad gyda’r beirniaid: Eirian Conlon a Martin Gwynedd. Yn ystod y rownd derfynol, rhoddais araith o flaen y Wasg a chymerais ran mewn sgwrs gyda’r Comisiynydd Cymraeg a chyfweliad gyda Radio Cymru. Roedd yr holl brofiad yn fythgofiadwy. Taking part in the 2019 Urdd Eisteddfod is the best experience of my life. It means so much to me, there are no words to describe how special the experience was. I was in my element going down to Llangrannog for the first round of the competition. I took part in many activities, including building group communications, a written task, and interviews with the judges: Eirian Conlon and Martin Gwynedd. During the final round I gave an address in front of the Press and took part in a conversation with the Welsh Commissioners and an interview with Radio Cymru. The whole experience was never to be forgotten.
Taset ti’n cael y cyfle i siarad Cymraeg efo unrhyw berson yn y byd, efo pwy faset ti’n hoffi cael sgwrs? If you had the opportunity to speak Welsh with anyone in the world, with whom would you like to have a conversation?
Mi faswn i’n dweud un o fy hoff gantorion - Gruff Rhys, neu un o fy hoff awduron -Manon Steffan Ros – mae’n rhy anodd i ddewis dim ond un!! I would say one of my favourite singers – Gruff Rhys – or one of my favourite authors – Manon Steffan Ros – but it is hard to choose just one!
Be nesa i ti efo’r Gymraeg? What next for you with Welsh?
Fy ngobaith yw parhau, byth stopio! Rydw i isio parhau gyda fy nosbarth Cymraeg bob wythnos a gobeithio cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau Cymraeg. Hoffwn ddyfodol lle rydw i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd a gobeithio, un diwrnod, pasio’r iaith ymlaen. My hope is to carry on, never to stop! I want to continue with my Welsh class each week and I hope to take part in many Welsh events. I would like a future in which I use Welsh every day and hope, one day, to pass the language on.
Unrhyw beth arall wyt ti isio ei ddeud? Anything else you want to say?
Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn am y profiadiau rydw i wedi cael erbyn hyn gyda’r Gymraeg. Dyma pam hoffwn fod yn esiampl ac yn annog eraill achos rydw i isio gweld pobl eraill yn cael yr un cyfleoedd. Rydw i isio dangos I bobol sut mae dysgu Cymraeg yn newid eich bywyd mewn sawl ffordd! Hoffwn ddweud diolch i gylchgrawn Parallel am greu cyfleoedd i ddysgwyr i ddod at ein gilydd a rhannu syniadau.I feel very lucky to have had the experiences I have had with Welsh to date. That is why I would like to be an example and to encourage others because I want to see everyone getting the same opportunities. I would like to say thank you to Parallel magazine for giving learners opportunities to come together and share ideas.
Seremoni Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd, Caerdydd 2019

dysgucymraeg.cymru / eisteddfod.cymru / urdd.cymru/cy/eisteddfod


Diolch yn fawr i Eirian Wyn Conlon, Swyddog Gweithredol Datblygu Cwricwlwm, o'r Ganolfan Dysgu Cymaeg Genedlaethol, am baratoi'r erthygl hon.
Thanks very much to Eirian Wyn Conlon, Executive Curriculum Development Officer, of the National Centre for Learning Welsh, for preparing this article.

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr