Emyn Cymraeg a ysgrifennwyd yn y canrif 19eg gyda geiriau gan Daniel James (Gwyrosydd) a thôn gan John Hughes yw Calon Lân.
Calon Lân is a Welsh hymn that was written in the 19th century with words by Daniel James and tune by John Hughes.
Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na’i berlau mân: Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân. | I don’t ask for a luxurious life, the world’s gold or its fine pearls: I ask for a happy heart, an honest heart, a pure heart. |
Cytgan: Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na’r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu- Canu’r dydd a chanu’r nos. | Chorus: A pure heart is full of goodness, More lovely than the pretty lily: Only a pure heart can sing – Sing day and night. |
Pe dymunwn olud bydol, Hedyn buan ganddo sydd; Golud calon lân, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. | If I wished worldly wealth, He has a swift seed; The riches of a virtuous, pure heart, Will be a perpetual profit. |
Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i’r nef ar edyn cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân. | Late and early, my wish Rise to heavan on the wing of song, To God, for the sake of my Saviour, Give me a pure heart. |
Gift cards and large prints of the featured image above are available online from the Welsh Gift Shop.
Learn to sing Calon Lân with Wynne Evans: www.bbc.co.uk/guides/z9f8tfr
Mark Stonelake: Dadansoddi'r gramadeg yn Calon Lân / Analysing the grammar in Calon Lân
Calon (b) heart
Geiriau / ymadroddion defnyddiol wedi'u selio ar 'calon'
Diolch o galon thank you very much
Codi calon to cheer up
Digalon downhearted/depressed
Glân 'clean', ond hefyd, 'pure/holy', e.e. Yr Ysbryd Glân – The Holy Spirit
Gair benywaidd yw 'calon'. Mae'r ansoddair ‘glân’ sy'n disgrifio 'calon' yn treiglo'n feddal – calon lân.
* Bydd ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal, fel mewn yr esiampl uchod. Ond, fydd ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo'n feddal., e.e:
pure heart calon lân
pure hearts calonnau glân
a leafy tree coeden ddeiliog
leafy trees coed deiliog
* Bydd enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod ('the'). Fydd enwau benywaidd lluosog ddim yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod, e.e:
Calon (b) y galon (the heart)
Y calonnau (the hearts)
Coeden (b) y goeden (the tree)
Y coed (the trees)
* Fydd enwau benywaidd unigol sy'n dechrau gyda 'rh / ll' ddim yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod ('the'), e.e:
llinell (b) y llinell
line the line
rhaw (b) y rhaw
shovel the shovel
Calon (b) heart
useful words/phrases based on calon:
Diolch o galon thank you very much
Codi calon to cheer up
Digalon downhearted/depressed
Glân clean, but also pure/holy, e.g. Yr Ysbryd Glân - The Holy Spirit
Calon is a feminine noun. The adjective that is used to describe it ‘glân’ takes a soft mutation - calon lân.
*Adjectives that describe feminine singular nouns take a soft mutation, as the example above. Plurals of feminine words do not take a soft mutation, e.g:
pure heart calon lân
pure hearts calonnau glân
a leafy tree coeden ddeiliog
leafy trees coed deiliog
*Feminine singular nouns take a soft mutation after ‘the’. Plural nouns do not. e.g:
Calon (b) y galon (the heart)
Y calonnau (the hearts)
Coeden (b) y goeden (the tree)
Y coed (the trees)
* Feminine singular nouns that begin with the letters ‘ll’ and ‘rh’ do not take a soft mutation after ‘the’. e.g:
llinell (b) y llinell
line the line
rhaw (b) y rhaw
shovel the shovel
Nid wy’n gofyn
Mae llawer o ffurviau gwahanol i berson cyntaf unigol y ferf 'bod' yn yr amser presennol yn Saesneg, e.e., 'I am/I am not/don’t'. Yr un peth sy'n wir yn Gymraeg hefyd. Mewn iaith lyneddol, bydd tuedd i hepgor y rhagenwau personol, sef ‘i,/fi, ti, e/fe, hi', ac ati. Dyma enghriafft o'r gân:
Nid wy’n gofyn < Nid wyf i’n gofyn. Mae'r rhannau sy wedi'u tanllinellu, wedi'u dileu. Sylwch y bydd y sain 'f' ar ddiwedd geiriau yn cael ei hepgor yn aml. Ar lafar bob dydd, bydden ni'n dweud:
Dw i ddim yn gofyn or Sa i’n gofyn… I am not asking…
Yma rydyn ni wedi defnyddio ‘ddim’ yn lle'r ffurf lenyddol ‘nid’.
gofyn wyf 'asking I am…'
wyf < yr wyf yn < rwy’n < wy’n
Dyma ffurf arall ar y person cyntaf unigol yn yr amser presennol 'bod', sef, 'I am', yn llawn – '(Yr) wyf (i)'.
Dyma restr lawn o'r ffurfiau i gyd sydd ar gael i olygu'r person cyntaf unigol yn amser presennol y ferf 'bod' - sef, 'I am'. Rydyn ni'n dangos y ffurf hiraf yn gyntaf (hynny yw, y ffurf fwyaf llenyddol, sy'n cael ei hysgrifennu gan amlaf), ac wedyn y ffurfiau byrraf (y rhai y bydd pobl yn eu defnyddio ar lafar gan amlaf). Rydyn ni wedi defnyddio'r ffurfiau hyn ar 'bod' gyda'r berfenw 'gofyn ('to ask'). Sylwch fod sillaf neu sain yn cael ei hepgor bob tro. Pob un o'r ffurfiau hyn sy'n golygu 'I ask / I am asking':
yr ydwyf (i)
Ffurfiau llythennol:
Yr ydwyf (i) yn gofyn yr wyf (i) yn gofyn
Rydwyf (i) yn gofyn rwyf yn gofyn
Rydw i’n gofyn rwy’n gofyn
Ffurfiau ar lafar:
Dw i’n gofyn (North Wales)
W i’n gofyn (South Wales) wy’n gofyn (South Wales)
Ynganiad:
(ween govin) (oo-een govin)
Nid wy'n gofyn
There is a lot of variety in the use of the first person present tense, i.e. I am/I am not/don’t. The tendency in the literary form is to leave out the personal pronouns, such as ‘i,/fi, ti, e/fe, hi, etc. There is an example of this in the song:
Nid wy'n gofyn < Nid wyf i’n gofyn. The parts highlighted have been ommitted. ‘f’ at the end of words is often left out. In everyday speech this would be:
Dw i ddim yn gofyn or Sa i’n gofyn… I am not asking…
ddim is used rather than the literary form, nid.
gofyn wyf asking I am…
wyf < yr wyf yn < rwy’n < wy’n
Another version of the 1st person present tense, i.e. I am. In full - (Yr) wyf (i).
Here is a list of all the possible forms of the 1st person of the verb ‘to be’ - I am, from the longest (most literary/written) form to the shortest forms(most used in speech), with the verb ‘gofyn’ - to ask. A letter or syllable is dropped at each stage. All have the meaning I ask/I am asking:
yr ydwyf (i)
Literary:
Yr ydwyf (i) yn gofyn yr wyf (i) yn gofyn
Rydwyf (i) yn gofyn rwyf yn gofyn
Rydw i’n gofyn rwy’n gofyn
Speech
Dw i’n gofyn (North Wales)
W i’n gofyn (South Wales) wy’n gofyn (South Wales)
Pronounced:
(ween govin) (oo-een govin)
Daioni da+ioni goodness
Tecach yw na… fairer is than…
Byddwch ni'n ychwanegu'r terfyniad -ach at ansoddeiriau byr i ffurfio'r radd gymharol, e.e:
tal > talach
tall taller
tew > tewach
fat fatter
Pan fyddwch chi'n ychwanegu -ach at ansoddeiriau sy'n terfynu mewn b d g, bydd y saeiniau hyn yn caledu (bydd y newid hwn yn 'dadwneud treiglad meddal', fel petai). e.e:
gwlyb > gwlypach b > p
wet > wetter
drud > drutach d > t
expensive > expensiver (lit.)
teg > tecach g > c
fair > fairer
Daioni da+ioni goodness
Tecach yw na… fairer is than…
The ending -ach may be added to short adjectives to make the comparative, e.g:
tal > talach
tall taller
tew > tewach
fat fatter
When -ach is added to adjectives ending in b, d and g, the sound hardens. It is like the reverse of a soft mutation, e.g:
gwlyb > gwlypach b > p
wet > wetter
drud > drutach d > t
expensive > expensiver (lit.)
teg > tecach g > c
fair > fairer
Y lili dlos the fair/pretty lily
Ffurf fenywaidd ar tlws (pert yn Gymraeg, pretty yn Saesneg), yw tlos. Mae tlos yn treiglo'n feddal i roi dlos gan ei fod wastad yn dilyn gair benywaidd, e.e lili (b) > lili dlos. Dyma enghraifft arall:
gwyrdd – green (m)
gwerdd – green (f)
Plaid (b) Y Blaid Werdd The Green Party
Ddim yn aml o gwbl y bydd pobl yn defnyddio ffurfiau benywaidd ansoddeiriau fel 'tlos' (uchod) ar lafar. Ond, byddwn ni'n eu clywed rywbryd mewn ymadroddion wedi'u ffosileiddio, cerddi a chaneuon.
Hefyd, byddwn ni'n clywed lluosog ansoddeiriau mewn ymadroddion wedi'u ffosileiddio, e.e:
Mwyar duon (black berries) (Lit. blacks berries)
Y crysau cochion (the red shirts) (Lit. the reds shirts, i.e. Wales)
Y lili dlos the fair/pretty lily
tlos is the feminine form of ‘tlws’ - pert - pretty. ‘Tlos’ is mutated to ‘dlos’ because it always follows a feminine noun, e.g. ‘lili (b) - lili dlos. Another example:
gwyrdd - green (m)
gwerdd - green (f)
Plaid (b) Y Blaid Werdd The Green Party
Feminine forms of adjectives like the one above are very rarely used in everyday speech, but they are sometimes heard in fossilised phrases, poems and songs.
Some plural adjectives are heard in fossilised phrases, e.g:
Mwyar duon (black berries) (Lit. blacks berries)
Y crysau cochion (the red shirts)(Lit. the reds shirts, i.e. Wales)
Dim ond calon lân all ganu
(It’s) only a pure heart (which) can sing Dim ond calon lân (a) all ganu
Mae'r geiryn a wedi'i ddilyn gan dreiglad meddal yn golygu'r un peth â 'sy' ('who is / who are' yn yr amser presennol). Fodd bynnag, byddwn ni'n defnyddio 'a' guda berfau cryno (lle byddwn ni'n ychwanegu terfyniad at fôn y berf).
Yn aml, bydd y geiryn 'a' yn cael ei hepgor ar lafar, ac mae'n cael ei hepgor yn y gân hefyd.
Gall trydydd person unigol y ferf 'gallu' yn yr amser presennol / dyfodol – is able to/can
A all 'which can..' Sylwch fod y geiryn a yn achosi treiglad meddal
Dim ond calon lân all ganu
(It’s) only a pure heart (which) can sing Dim ond calon lân (a) all ganu
a followed by a soft mutation is the equivalent of ‘sy’ (who is/are which is/are, used in the present tense), but is used with short form verbs (verbs with an ending added).
It is often omitted in speech, as it is in the song.
Gall Third person present/future of the verb ‘gallu’ - is able to/can
A all which can.. ‘a’ causes a soft mutation.
Mae Parallel.cymru yn gylchgrawn arlein i roi llais i unrhyw un sydd yn gwneud pethau trwy Iaith y Nefoedd, ac i gyflwyno erthyglau, straeon, diwylliant Cymraeg a llyfrau i’r byd.
Parallel.cymru is an online magazine that gives a voice to anyone who is using the language of heaven, and to introduce articles, stories, Welsh culture and books to the world.
Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), gall darllenwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.
People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Informal, Formal, Literary), readers of all abilities can enjoy reading and ensure the language is accessible to all.