Dafydd Roberts Cymdeithas yr Iaith

Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts: Mudiad Arbennig – Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau pythefnosol, pob un gyda thema wahanol, sydd yn addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau lefel Canolradd. Maen nhw wedi eu 'sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu. Gallwch chi hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i'w trosi i'r Saesneg.

This article is a part of a fortnightly series of themed articles, which are suitable for learners that are following courses at the Canolradd level. They have been written in Welsh only, and they include words that are underlined. You can hover over or press the mouse button to reveal the English.

Yng nghanol y ganrif ddiwethaf, roedd statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn isel iawn. Doedd dim ffurflenni swyddogol yn Gymraeg nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Roedd pob cyfrifiad yn dangos bod llai a llai o siaradwyr Cymraeg.

Blwyddyn

189119011911193119511961
 Canran54.5%49.9%43.5%36.8%28.9%26.0%

Roedd rhaid gwneud rhywbeth...a hynny ar frys.

Dyma hanes un o fudiadau pwysicaf Cymru erioed - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Eileen Beasley o'r 60au
Eileen Beasley o'r 60au, gyda'i mab Elidyr a'i merch Delyth

Eileen a Trefor Beasley

Ar ddechrau’r 50au, penderfynodd pâr priod o bentref Llangennech ger Llanelli wneud rhywbeth am y safiad dros yr iaith yn yr ardal. Eu henwau oedd Eileen a Trefor Beasley. Athrawes oedd Eileen a glöwr oedd Trefor. Penderfynon nhw wrthod talu'r dreth ar eu tŷ nes i Gyngor Tref Llanelli gyhoeddi’r papur treth dwyieithog.

Ar y pryd, Cymraeg oedd iaith gyntaf dros 80% o boblogaeth Llanelli ond doedd y rhan fwyaf ddim yn cytuno gyda safiad y Beasleys. Roedden nhw’n meddwl bod y teulu yn actio’n afresymol. Llysenw Eileen Beasley oedd "mam gweithredu uniongyrchol" neu Rosa Parks Cymru. Aeth y pâr i’r llys 16 o weithiau ac anfonodd cyngor Llanelli y beilïaid i’w ty er mwyn mynd â’u celfi.

Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu caled, derbyniodd Eileen a Trefor eu papur treth yn ddwyieithog yn 1960.

Mae pennill yng nghân enwog Dafydd Iwan Daw fe Ddaw yr Awr yn ein hatgoffa o ddewrder y Beasleys:

Wyt ti'n cofio teulu'r Beasleys yn gwrthod talu'r dreth?
A gwŷr Llanelli'n gofyn, 'Y ffylied dwl, i beth?'
Cofio'u haberth,
a'u gweledigaeth.
Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Gwrandewch ar y gân trwy ddilyn y linc yma:

Ôl-Nodyn: Bu farw Trefor Beasley ym 1994. Bu farw Eileen Beasley yn 2012. Mae cymdeithas ‘Treftadaeth Gymuned Llanelli’ wedi gosod plac glas ar wal y tŷ ble roedden nhw’n byw yn ardal Yr Allt, Llangennech.

Plac Eileen a Trefor Beasley

Dilynwch y linc yma i weld clip o’r rhaglen ‘Heno’ ar ddiwrnod dadorchuddio’r plac:

Mae’r cyfweliad yma gyda Trefor ac Eileen Beasley yn werth ei wylio: http://www.llinellamser.cymru/web#llinell-amser/y-beasleys ac mae’r erthygl yma o Golwg 360 yn werth ei darllen:: https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/183803-plac-yng-nghartre-r-ymgyrchwyr-iaith-cyntaf.

Saunders Lewis a Tynged yr Iaith

Ar Chwefror 13, 1962, cyflwynodd y darlith ar y radio gan y darlithiwr, llenor a gwleidydd Saunders Lewis ddarlith bwysig ar y radio. Traddododd e’r ddarlith cyn cyhoeddi cyfrifiad 1961. Enw’r ddarlith oedd "Tynged yr Iaith". Gwrandewch ar y ddarlith yma - mae’n siŵr byddwch chi’n gallu deall llawer ohoni hi: parallel.cymru/?p=1031.

Yn y ddarlith, dywedodd Saunders Lewis fod yr iaith Gymraeg yn mynd i farw fel iaith fyw tua’r flwyddyn 2000. Roedd Saunders Lewis hefyd yn sôn am deulu’r Beasleys yn ei ddarlith.

Fel rydyn ni i gyd yn gwybod, dydy’r iaith Gymraeg ddim wedi marw fel iaith fyw. A bod yn onest, mae hi’n iaith sy’n tyfu, yn arbennig gyda phobl ifanc Cymru. I Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mae llawer o’r diolch am hyn.

Sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Roedd ymgyrch y Beasleys a darlith Saunders Lewis yn hwb ac yn ysbrydoliaeth wrth sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dechreuodd y Gymdeithas ar y 4ydd o Awst, 1962 ym Mhontarddulais (pentref bach rhwng Llanelli ac Abertawe). Penderfynodd y mudiad o’r cychwyn cyntaf y basen nhw’n gweithredu’n uniongyrchol ond yn ddi-drais dros hawliau i’r iaith Gymraeg..

Yn Chwefror 1963, gwelwyd protest gyntaf y Gymdeithas. Stopiodd aelodau’r Gymdeithas y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth er mwyn tynnu sylw at ddiffyg statws swyddogol i’r iaith Gymraeg.

Yn ystod y 1960au a'r 1970au cynhaliwyd llawer o brotestiadau di-drais tebyg. Aeth nifer o aelodau’r Gymdeithas i’r carchar er enghraifft ei harweinydd a'r canwr protest poblogaidd Dafydd Iwan. O ganlyniad i weithredu gan y Gymdeithas, cyhoeddodd y Llywodraeth Ddeddf Iaith 1967, Hefyd, dechreuodd rhai cyrff cyhoeddus gyhoeddi ffurflenni dwyieithog

.

Llwyddiannau'r Mudiad

Poster: Gwnewch Bopeth yn Gymraeg
Un o bosteri cynnar y Gymdeithas yn annog pobl Cymru i wneud popeth yn Gymraeg

Mae ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith wedi sicrhau nifer o fuddugoliaethau, er enghraifft:

  • 1960au - Arwyddion Ffyrdd Cymraeg
  • 1970/80au - Sianel Deledu Cymraeg
  • 1990au - Deddf Iaith 1993
  • 2000au - Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd
  • 2000au – Ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo i Gymru
  • 2010 – Ennill Statws Swyddogol i'r Gymraeg yn 2011
  • 2011 - Sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y brotest gyntaf

Y brotest gyntaf, ar Bont Trefechan.

Protest 1972

Un o brotestiadau'r Gymdeithas yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog, 1972

Rali Deddf Iaith

Poster yn hysbysebu Rali Deddf Iaith Newydd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2005.

Yr Iaith Gymraeg Heddiw

Mae newid mawr wedi bod ers y dyddiad safiad y Beasleys a darlith Saunders Lewis pan oedd Cymraeg yn iaith y cartref a'r capel a dim llawer mwy. Erbyn heddiw, mae llawer o fudiadau, cymdeithasau a busnesau yn gweithredu yn ddwyieithog. Mae llawer mwy o lyfrau poblogaidd Cymraeg ar gael a dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru.

Mae mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus nag erioed o’r blaen. I Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mae llawer o’r diolch am hyn.

Y Tafod

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw'r Tafod. Mae'n cael ei gyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn i gyd-fynd â digwyddiadau pwysig calendr Cymru fel Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.

 Y Tafod

Tri Aelod Blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Ffred Ffrancis

Geni: Bae Colwyn, Mehefin 14, 1948

Ffaith ddiddorol: Mae Ffred wedi dysgu Cymraeg

Hobi: Cefnogi Tîm Pêl-droed Y Rhyl.

Angharad Tomos

Geni: Bangor, Gwynedd, Gorffennaf 19, 1958

Ffaith ddiddorol: Mae Angharad yn awdures Cymraeg adnabyddus yn yr iaith Gymraeg. Mae ei llyfrau i blant yn boblogaidd dros ben

Gwobrau: Mae Angharad wedi ennill sawl gwobr a thlws am ei chyfraniadlenyddiaeth Gymraeg – yn enwedig llenyddiaeth i blant.

Dafydd Iwan

Geni: Brynaman, Sir Gaerfyrddin Awst 24, 1943

Byw: Caeathro, Gwynedd

Gwaith: Cyfarwyddwr Cwmni Recordio Sain

Mae e’n ganwr protest o fri.  Mae e wedi rhyddhau un deg wyth albwm

Canran Siaradwyr Cymraeg ers 1981

Blwyddyn1981199120012011
 Canran18.9%18.6%20.8%19%

OND 37.7% o blant 3-15 oed Cymru yn gallu siarad yr iaith.

Ewch i wefan y Gymdeithas am ragor o wybodaeth:

http://cymdeithas.org/what-is-cymdeithas-yr-iaith


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda'r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.