Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
- Mae’r erthyglau blaenorol yn y gyfres hon ar gael yma: https://parallel.cymru/dafydd-roberts-y-daith-i-batagonia-1/ & https://parallel.cymru/dafydd-roberts-y-daith-i-batagonia-2/
Y Wladfa: 1900au hyd at Heddiw
Heddiw, mae gyda tua 50,000 o bobl ym Mhatagonia wreiddiau Cymreig ac mae tua 5,000 yn siarad Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg ar gynnydd ar bob lefel ar draws y dalaith ac mae dros fil o bobl Y Wladfa yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg bob blwyddyn. Ond, stori hollol wahanol oedd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Erbyn dechrau’r 1900au, roedd y Cymry yn y lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi ei sefydlu. Dechreuodd llywodraeth Yr Ariannin gymryd rheolaeth ar weinyddiaeth yr ardal gan gynnwys y system addysg. Doedd hyn ddim yn newyddion da, yn enwedig i’r iaith Gymraeg. Ers sefydlu’r Wladfa, roedd popeth yn digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dros nos felly, trodd y system addysg o fod yn uniaith Gymraeg i uniaith Sbaeneg.
Er gwaethaf hyn, parhaodd yr iaith yn gryf ar yr aelwyd, yn y capeli ac ar lefel gymdeithasol am genhedlaeth neu ddwy. Gwyliwch y clip yma o raglen BBC o 1962 ‘The Desert and the Dream’. Yn y clip, gallwch chi glywed ‘gauchos’ Cymraeg yn siarad yr iaith yn gwbl naturiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/p00krkrj
Ond, wrth gwrs, o dan system addysg gwbl Sbaeneg, heb statws swyddogol a rhyngbriodi rhwng y Cymry a phobl o ddiwylliannau eraill, dechreuodd sefyllfa’r iaith ddirywio’n eithaf cyflym. Yr ateb synhwyrol oedd cryfhau’r cysylltiadau rhwng Y Wladfa newydd a’r hen wlad.
Cymdeithas Cymru – Ariannin
Yn 1939, sefydlwyd Cymdeithas Cymru – Ariannin. Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi gwneud gwaith gwych fel dolen gyswllt rhwng y ddwy wlad.
Dyma rai o gyflawniadau’r gymdeithas:
- Trefnu a noddi teithiau cyfnewid i athrawon, myfyrwyr a gweinidogion rhwng Cymru a’r Ariannin.
- Noddi cystadleuaeth flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin.
- Noddi myfyrwyr o Ariannin sy’n dymuno dod i Gymru i ehangu eu gorwelion
- Noddi ysgolion Cymraeg Y Wladfa
- Cynnal pabell ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.
- Dathlu Gŵyl y Glaniad bob mis Gorffennaf yng Nghymru ac yn Y Wladfa
Cyhoeddwyd llyfryn yn 1989 ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yn rhoi hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu. Hefyd cyhoeddwyd llyfr yn 2014 gan Elvey MacDonald i ddathlu pen blwydd y Gymdeithas yn 75 oed.
Darllenwch ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yma. Mae’n ddiddorol dros ben: http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cymdeithas_cymry_ariannin_19391989.pdf
1960au
Daeth yr hwb mawr nesaf i’r iaith yn Y Wladfa yn y 1960au a hynny am ddau reswm yn bennaf – canmlwyddiant y glanio yn 1965 a theithiau awyrennau rhatach. O ganlyniad i’r ddau beth yma, dechreuodd llawer mwy o Gymry ymweld â’r Wladfa. Sylweddolodd yr ymwelwyr bod yr iaith Gymraeg yn yr ardal angen cymorth yn ei hunig gadarnle y tu allan i Gymru.
Teithiodd 73 o Gymry i’r Wladfa yn 1965 i gofio hanes anhygoel yr arloeswyr. Roedd tair wythnos o ddathlu yn Nhalaith Chubut ac ym mhrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires. Dyma ychydig o luniau o’r dathliadau: https://www.casgliadywerin.cymru/items/476421
Fel rhan o’r dathlu, aeth criw o bobl ifainc Y Wladfa i Gymru am dri mis yn yr haf y flwyddyn honno. Dyma ddechrau ail gynnau diddordeb pobl Y Wladfa yn eu gwreiddiau Cymreig a’r Cymry yn hanes eu cyn tadau.
Cynllun yr Iaith Gymraeg
Yn 1996, dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen lle mae athrawon yn treulio cyfnod yn Y Wladfa yn dysgu’r iaith yn yr ysgolion ac i oedolion. Diolch i’r cynllun yma, mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg, nid yn unig ymysg y bobl o dras Gymreig ond hefyd gydag Archentwyr pur a phobl o dras gwledydd eraill.
Heddiw, mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru – Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Oes diddordeb gyda chi ymuno â’r cynllun? Os oes, dilynwch y linc yma i ddarganfod mwy am y cyfleoedd i weithio fel athro neu athrawes Gymraeg yn Y Wladfa: https://wales.britishcouncil.org/en/programmes/education/welsh-language-project
Dilynwch y linc yma hefyd – ‘Angen athrawon Cymraeg i ateb galw ysgolion Patagonia’. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49722299
Gwyliwch y clip yma o blant ysgolion Cymraeg Y Wladfa yn galw am athrawon i’w dysgu nhw: https://www.facebook.com/watch/?v=936913273325617
Heddiw, mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y colegau, yr ysgolion ac mewn dosbarthiadau nos.
Menter Iaith Patagonia
Oeddech chi’n gwybod bod Menter Iaith ym Mhatagonia? Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2008 gyda help Yr Urdd, Y Cyngor Prydeinig ac ychydig o fusnesau lleol. Mae’r athrawon sy’n gweithio o dan gynllun yr iaith Gymraeg yn treulio tua chwarter o’u hamser gyda’r fenter iaith.
Dyma ychydig o bosteri yn hysbysebu digwyddiadau Menter Iaith Patagonia. Gallwch chi ddilyn hynt a helynt y fenter ar Drydar: https://twitter.com/menterpatagonia
Llais yr Andes a Clecs Camwy
Mae dau bapur bro Cymraeg yn gwasanaethu’r Wladfa – Llais yr Andes a Clecs Camwy. Mae’n bosibl darllen y ddau bapur ar lein.
Addysg
Fel y dywedwyd eisoes, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ac mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu ar bob lefel dros yr holl dalaith.
Yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf oedd Ysgol yr Hendre, Trelew a agorodd ei drysau yn 2006. Cafodd llawer o arian ei godi gan bobl Y Wladfa a Chymru er mwyn agor yr ysgol. Oherwydd y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, mae dwy ysgol arall wedi agor ers hynny – Ysgol y Gaiman yn 2013 ac Ysgol Trevelin yn 2016.
Mae’r tair ysgol yn llwyddiannus dros ben yn addysgu dros 100 o ddisgyblion yr un un o oedran meithrin hyd at11 oed. Ar ben hyn, mae Cymraeg nawr yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion uwchradd cyfrwng Sbaeneg ac mae Coleg Camwy yn cynnig Cymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng addysgu i bawb. At ei gilydd, mae dros fil a hanner o bobl Y Wladfa erbyn hyn naill ai’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg.
Mae dyfodiad y we fyd eang hefyd wedi helpu cadw cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wladfa’n gryf. Os hoffech chi ddarllen mwy am lwyddiant y Gymraeg yn Y Wladfa dros yr ugain mlynedd diwethaf, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/sites/default/files/welsh_language_report_2017_18_english.pdf
Seremoni i Gofio’r Mimosa
Ym mis Gorffennaf 2015, i ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa adael dociau Lerpwl, cafodd cofeb ei dadorchuddio yn y ddinas.
Ffeithiau Diddorol am Batagonia
- Ar y 28ain o fis Gorffennaf bob blwyddyn, mae dathliadau mawr i gofio’r glanio. Enw’r dathliad ydy ‘Gŵyl y Glaniad’. Mae pob un o gapeli’r cwm yn dod at ei gilydd. Maen nhw’n yfed te, adrodd cerddi a chanu caneuon Cymraeg.
- Mae enwau Cymraeg ar y trefi, yr heolydd, y mynyddoedd a’r afonydd – Bryn Gwyn; Bryn Crwn; Cwm Hyfryd; Trevelin (Tre + y felin); Trelew (ar ôl Lewis Jones); Dolavon
- Mae ystafelloedd tê ym Mhatagonia ble mae pobl Patagonia yn bwyta picie ar y maen / cacennau cri a bara brith.
- Yn 2006, chwaraeodd Cymru gêm rygbi yn erbyn Yr Ariannin ym Mhuerto Madryn, Y Wladfa.
- Yn 2010, cafodd y ffilm ‘Patagonia’ ei rhyddhau. Sêr y ffilm ydy Matthew Rhys, Duffy a Nia Roberts. Mae’r ffilm mewn tair iaith – Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Gallwch chi wylio’r ffilm ar DVD neu ar YouTube – https://www.youtube.com/watch?v=Xahhjs3Eu8I
Mwy am Batagonia, ei phobl a’i ffordd o fyw y tro nesaf.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.