Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Yn gartref i Nawddsant Cymru, Dewi Sant a’r corgi, mae Sir Benfro yn un o siroedd mwyaf diddorol Cymru.
Yr Hen
Castell Henllys
Does unman arall tebyg i Gastell Henllys. Mae’n bosibl camu yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd yn y fryngaer Oes Haearn yma.
Mae Castell Henllys yn unigryw. Gallwch chi fynd i mewn i un o’r tai crwn, malu blawd a phobi bara fel roedd y Celtiaid yn arfer ei wneud!
Cromlech Pentre Ifan
Siambr Gladdu Pentre Ifan, ar bwys pentref Nanhyfer ydy’r safle megalithig mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae’r heneb yma’n dyddio yn ôl i tua 3,500 Cyn Crist. Mae’r maen capan, sef y garreg ar y pen, yn pwyso dros 16 tunnell. Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n bosibl gweld Tylwyth Teg o dan y Gromlech.
Cestyll
Mae nifer o gestyll ysblennydd yn y sir er enghraifft Castell Penfro, Castell Caeriw a Castell Maenorbŷr.
Eglwys Sant Gofan
Roedd Sant Gofan yn feudwy. Roedd e’n byw mewn cilfach ar lan y môr ar bwys pentref Bosherston. Cafodd yr eglwys ei adeiladu yn y gilfach yn y 13eg ganrif. Gallwch chi ddringo’r grisiau i lawr i’r eglwys. Mae nifer y grisiau yn wahanol – yn dibynnu ydych chi’n mynd i fyny neu i lawr.
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Dyma le mae bedd Dewi Sant. Sefydlodd Dewi fynachdy ar safle’r eglwys bresennol. Roedd Dewi Sant yn teithio llawer (fel y seintiau i gyd yn y cyfnod hwnnw), yn dysgu pobl am Iesu Grist. Buodd e farw yn y flwyddyn 589.
Mae nifer o eglwysi yng Nghymru (a Lloegr) yn dwyn ei enw.
Dyma rai o eglwysi Dewi yng Nghymru: Llanddewi Felfrey, Capel Dewi, Llan-non, Llenddewy, Llanddewi Fach, Capel Dewi, Llanddewi Rhydderch, Llanddewi Skyrrid, Llanddew, Llanddewi fach, Llanddewibrefi, Llanddewi Aberarth, Ffynnon Dewi.
Yr Hardd
Llwybr yr Arfordir
Mae’r llwybr yn ymestyn am dros 186 milltir o gwmpas yr arfordir.
Mae’r golygfeydd yn ddigon i dynnu’r gwynt o’ch anadl. Parc Cenedlaethol Sir Benfro ydy’r unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain!!
Mynyddoedd y Preseli
Mae Mynydd y Preseli yn lle delfrydol i gerdded a marchogaeth. Ar ddiwrnod clir, mae’n bosibl gweld Yr Wyddfa, Iwerddon, Bannau Brycheiniog a Lloegr o ben y Preseli.
Roedd y bardd Cymraeg Waldo Williams yn hoffi ysgrifennu am fynyddoedd y Preseli.
Waldo yr athro
Dyma bennill cyntaf ei gerdd enwog, Preseli. Yn y gerdd, mae Waldo’n dangos ei gariad at ei fro. Yn y pennill yma, mae e’n enwi lleoedd pwysig iddo fe yn ardal y Preseli.
Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.
A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail
Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.
Dyma ychydig o eiriau i’ch helpu chi i ddeall y pennill:
Mebyd = plentyndod
Annibyniaeth = independence
Tasgu = (to) flare
Gwreichion = sparks
Hŷn na harn = older than iron
Ynys Bŷr
Ynys sy’n gorwedd oddi ar arfordir de Penfro ydy Ynys Bŷr. Mae’n ynys sanctaidd ers oes y Celtiaid. Heddiw, mae’r mynachod Sistersaidd yn byw ar yr ynys. Mae croeso i ymwelwyr.
Yr Hwyl
Traeth Trefdraeth
Mae traethau Sir Benfro yn enwog am eu prydferthwch – er enghraifft Traethau Barafundle, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Broadhaven.
Dinbych y Pysgod
Cafodd ran o ffilm ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’ ei ffilmio ar draeth Freshwater West.
Bae Barafundle
Dydy hi ddim yn bosibl cyrraedd y traeth mewn car – mae’n rhaid i chi gerdded!
Parc Hamdden Oakwood
Mae’r Parc Antur hwn yn gartref i rolercoster mwyaf cyffrous Prydain ac un o’r rhai pren mwyaf yn y byd! – Megaffobia!
Canolfan Twr y Felin, Tyddewi
Mae Cymru’n enwog am gampau dŵr eithafol. Mae canolfan chwaraeon eithafol rhwng Tyddewi a Freshwater East o’r enw Twr y Felin. Yn y ganolfan, mae llawer o weithgareddau cyffrous:
- Arfordira
- Dringo creigiau
- Syrffio
- Archwilio’r arfordir
- Caiaco
Mae arfordira yn gamp newydd. Rhaid ichi wisgo siwt wlyb, helmed a hen bâr o dreinyrs. Byddwch chi’n dringo a nofio o gwmpas arfordir creigiog Sir Benfro. Gallwch chi neidio oddi ar y clogwyni i’r môr! Gallwch chi archwilio ogofeydd yr arfordir.
Cafodd arfordira ei ddyfeisio gyntaf yma yn Sir Benfro!!
Melin Tregwynt
Mae Melin Tregwynt yn cynhyrchu blancedi, cotiau, sliperi, sanau, hetiau, bagiau, sgarffiau a mwy. Mae’r felin yn newid hen batrymau Cymreig i wneud patrymau newydd, lliwgar.
Iaith
O ran iaith, mae Sir Benfro mewn dwy ran. Cymraeg yw iaith gogledd y sir. Saesneg yw iaith y de gan amlaf. Mae’r Landsker yn llinell ddychmygol sy’n gwahanu’r de a’r gogledd.
Mae tafodiaith Gymraeg Sir Benfro yn rhyfedd! Mae Cymry Cymraeg Sir Benfro yn dweud ‘wes’ yn lle ‘oes’, ‘cwêd’ yn lle coed a ‘trwêd’ yn lle ‘troed’. Gwrandewch ar y sgwrs yma gyda Mrs Elizabeth John o Ben-caer, Sir Benfro ar wefan Amgueddfa Cymru:
https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2011-03-29/Tafodiaith-Pen-caer-Sir-Benfro/
Cafodd Mrs John ei geni yn 1891. Mae’r sgript ar y wefan i’ch helpu chi hefyd.
Sir Benfro – Sir Hudolus!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.