Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Ble arall yng Nghymru cewch chi:
- Castell Normanaidd
- [simple_tooltip content=’Cathedral’]Eglwys Gadeiriol[/simple_tooltip]
- Pont gludo
- Canolfan wyliau [simple_tooltip content=’enormous’]anferth[/simple_tooltip]
- Safle [simple_tooltip content=’Roman’]Rhufeinig[/simple_tooltip]
- Plasty [simple_tooltip content=’characteristic’]nodweddiadol[/simple_tooltip]
- Llong [simple_tooltip content=’canol oesol = medieval’]ganol oesol[/simple_tooltip] [simple_tooltip content=’unique’]unigryw[/simple_tooltip]
- Timau pêl-droed a rygbi proffesiynol yn rhannu’r un stadiwm
Wel, Casnewydd ydy’r ateb wrth gwrs.
Mae’n siŵr bod pawb yn [simple_tooltip content=’cyfarwydd â = familiar with’]gyfarwydd â[/simple_tooltip] dinas Casnewydd, yn enwedig yn dilyn y gân ‘Newport Ymerodraeth State of Mind’ yn 2010. Aeth y fideo yn feiral erbyn Awst 2010 ar YouTube. Cafodd YouTube wared â’r fideo achos problemau [simple_tooltip content=’copyright’]hawlfraint[/simple_tooltip].
Mae’r grŵp rap o’r ddinas Goldie Lookin’ Chain wedi recordio parodi gwych o’r gân:
https://www.youtube.com/watch?v=Eijc2tGe-zM
Hanes Byr Dinas Casnewydd
- Yn y flwyddyn 75, adeiladodd y Rhufeiniaid [simple_tooltip content=’caer = fort’]gaer[/simple_tooltip] yng Nghaerllion er mwyn [simple_tooltip content='(to) defend’]amddiffyn[/simple_tooltip] y [simple_tooltip content=’croesfan = (a) crossing’]groesfan[/simple_tooltip] dros yr afon Wysg.
- Yn y 5ed ganrif, [simple_tooltip content=’founded’]sefydlodd[/simple_tooltip] San Gwynllyw ([simple_tooltip content=’patron saint’]nawddsant[/simple_tooltip] Casnewydd a Brenin Gwynllwg) eglwys o’r un enw – [simple_tooltip content=’cathedral’]eglwys gadeiriol[/simple_tooltip] Casnewydd erbyn hyn.

- Mae Casnewydd wedi bod yn [simple_tooltip content=’porthladd = port’]borthladd[/simple_tooltip] ers yr [simple_tooltip content=’middle ages/medieval times’]oesoedd canol[/simple_tooltip]. Tyfodd yn gyflym yn y 19eg ganrif achos y [simple_tooltip content=’industry’]diwydiant[/simple_tooltip] glo.
- Casnewydd oedd safle’r [simple_tooltip content=’last armed insurrection’]gwrthryfel arfog olaf[/simple_tooltip] ym Mhrydain yn 1839 – [simple_tooltip content=’the Chartist uprising’]gwrthryfel y Siartwyr[/simple_tooltip].
- Enillodd Casnewydd statws ‘Dinas’ yn y flwyddyn 2002.
- Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Chasnewydd dair gwaith – yn 1897, 1988 a 2004.
- Cymraeg oedd prif iaith Casnewydd tan yr 1830au. Heddiw, tua 10% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg.
Pobl Enwog
Aeth yr actores Josie D’Arby i ysgol Llysweri yng Nghasnewydd.
Cafodd yr actor Desmond Llewelyn (Q yn ffilmiau James Bond) ei eni yn y ddinas.

Mae aelodau’r grwpiau enwog ‘GLC’ (Goldie Lookin’ Chain), ‘60ft Dolls’ a ‘Bullet for My Valentine’ yn dod o Gasnewydd.

O’r byd chwaraeon, Casnewydd yw man geni’r athletwyr Christian Malcom a Darren Campbell yn ogystal â [simple_tooltip content=’a host of’]llu o[/simple_tooltip] chwaraewyr rygbi [simple_tooltip content=’of renown’]o fri[/simple_tooltip]. Y person mwyaf enwog i ddod o’r ddinas [simple_tooltip content=’perhaps’]efallai[/simple_tooltip] ydy’r bardd W.H. Davies (1871-1940). Gallwch chi glywed [simple_tooltip content=’lines’]llinellau[/simple_tooltip] o’i gerdd fwyaf enwog ar hysbysebion ‘Center Parcs’ ar y teledu.

Pont Gludo Casnewydd (1906)
Mae pont [simple_tooltip content=’cludo = (to) transport’]gludo[/simple_tooltip] Casnewydd yn un o ddwy yn unig ym Mhrydain (mae’r llall yn Middlesbrough yng ngogledd-ddwyrain Lloegr) ac wyth yn y byd. Mae’n bosibl i geir a phobl deithio ar y gondola [simple_tooltip content=’hanging/suspension’]crog[/simple_tooltip] bron bob dydd. Gallwch chi hefyd gerdded ar ben y [simple_tooltip content=’steel frame’]fframwaith dur[/simple_tooltip]. Roedd y bont yn [simple_tooltip content=’feature’]nodwedd[/simple_tooltip] amlwg yn y ffilm ‘Tiger Bay’, 1959 gyda John Mills a’i ferch Hayley Mills yn serennu.

Gwesty’r Westgate a’r Siartwyr
Ar Dachwedd 4, 1839, [simple_tooltip content=’led’]arweiniodd[/simple_tooltip] John Frost [simple_tooltip content=’gorymdaith = (a) prcoession’]orymdaith[/simple_tooltip] o 3,000 o siartwyr i ganol Casnewydd. Roedd y Siartwyr yn ymladd dros [simple_tooltip content=’voting rights’]hawliau pleidleisio[/simple_tooltip] cyfartal i bawb. [simple_tooltip content=’tanio = (to) fire’]Taniodd[/simple_tooltip] milwyr oedd yn [simple_tooltip content='(to) defend’]amddiffyn[/simple_tooltip] gwesty’r Westgate ar y siartwyr. [simple_tooltip content=’Lladd = (to) kill’]Lladdon[/simple_tooltip] nhw dros 20 ac [simple_tooltip content='(to) injure’]anafu[/simple_tooltip] 50 arall. Gallwch chi weld y [simple_tooltip content=’holes’]tyllau[/simple_tooltip] bwled ym mhrif ddrws y gwesty hyd heddiw.


Tan 2013, roedd [simple_tooltip content=’mural’]murlun[/simple_tooltip] i gofio’r [simple_tooltip content=’Chartists’]siartwyr[/simple_tooltip] mewn [simple_tooltip content=’subway’]tanffordd[/simple_tooltip] yng nghanol y ddinas.

Plasty Tredegar
Mae’r tŷ yn enghraifft wych o blasty o’r 17eg ganrif. Roedd y plasty’n gartref i deulu’r Morgan am dros 500 mlynedd tan 1951. Un aelod o’r teulu oedd y [simple_tooltip content=’pirate’]môr-leidr[/simple_tooltip] enwog Henry Morgan. Mae’r tŷ wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglenni teledu ‘The Hairy Bikers’ a ‘Doctor Who’.


Y Celtic Manor
Canolfan golff, spa a gwesty. Yn y ganolfan mae dau westy, tafarn wledig, dau spa, chwe thŷ bwyta, cwrs rhaffau uchel, tag laser, [simple_tooltip content=’archery’]saethyddiaeth[/simple_tooltip] a chanolfan [simple_tooltip content=’cynadledda = conference’]gynadledda[/simple_tooltip]. Canolfan wyliau’r ‘Celtic Manor’ oedd cartref Pencampwriaeth Golff Ryder yn 2010.

Syr Terry Matthews, [simple_tooltip content=’millionaire’]miliynydd[/simple_tooltip] cyntaf Cymru, sy’n [simple_tooltip content='(to) own’]berchen ar[/simple_tooltip] y ganolfan. Cafodd Syr Terry ei eni yn yr adeilad yn 1943 pan oedd e’n ysbyty (Ysbyty Lydia Beynon).
Llong Casnewydd
Yn 2002, yn ystod adeiladau’r [simple_tooltip content=’arts centre’]ganolfan gelfyddydau[/simple_tooltip] newydd, cafodd llong fawr ei [simple_tooltip content='(to) discover’]darganfod[/simple_tooltip] ar lannau’r afon Wysg. Mae’r llong yn [simple_tooltip content='(to) date’]dyddio[/simple_tooltip] o’r cyfnod 1445-1469 a dyma’r unig un o’i math yn y byd.

Chwaraeon yng Nghasnewydd
Rygbi – Clwb rygbi Casnewydd ydy un o’r ychydig dimau i [simple_tooltip content=’curo = (to) beat’]guro[/simple_tooltip] pob un o dimau mawr hemisffer y de – [simple_tooltip content=’The Black Shirts (The All Blacks)’]Y Crysau Duon[/simple_tooltip], De Affrica ac Awstralia.

Pêl-droed – Mae’r tîm pêl-droed wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf Cwpan F.A. Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Mae’r ‘[simple_tooltip content=’Exiles’]Alltudion[/simple_tooltip]’ (llysewn’r tîm) yn ôl yn y Gynghrair Bêl-droed ers ennill y gêm ail-gyfle yn erbyn tîm Wrecsam yn Wembley yn 2013.
Seiclo – Mae Casnewydd yn gartref i felodrôm cenedlaethol Cymru ac yn [simple_tooltip content=’pencadlys = headquarters’]bencadlys[/simple_tooltip] Seiclo Cymru.
Pel-fâs – Dim ond mewn tair dinas ym Mhrydain mae pêl-fâs yn cael ei chwarae – Caerdydd, Lerpwl a Chasnewydd. Mae dinas Casnewydd yn gartref i gêm ryngwladol rhwng timau Cymru a Lloegr pob pedair blynedd.
Gwyliwch [simple_tooltip content=’highlights’]uchafbwyntiau[/simple_tooltip] gêm 1980 yma –
Ie, mae Casnewydd yn ddinas unigryw!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.