Dafydd Roberts Casnewydd

Ardal Arbennig: Dinas Casnewydd: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Ble arall yng Nghymru cewch chi:

  • Castell Normanaidd
  • Eglwys Gadeiriol
  • Pont gludo
  • Canolfan wyliau anferth
  • Safle Rhufeinig
  • Plasty nodweddiadol
  • Llong ganol oesol unigryw
  • Timau pêl-droed a rygbi proffesiynol yn rhannu’r un stadiwm

Wel, Casnewydd ydy’r ateb wrth gwrs.

Mae’n siŵr bod pawb yn gyfarwydd â dinas Casnewydd, yn enwedig yn dilyn y gân ‘Newport Ymerodraeth State of Mind’ yn 2010. Aeth y fideo yn feiral erbyn Awst 2010 ar YouTube. Cafodd YouTube wared â’r fideo achos problemau hawlfraint.

Mae’r grŵp rap o’r ddinas Goldie Lookin’ Chain wedi recordio parodi gwych o’r gân:

https://www.youtube.com/watch?v=Eijc2tGe-zM

Hanes Byr Dinas Casnewydd

  • Yn y flwyddyn 75, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion er mwyn amddiffyngroesfan dros yr afon Wysg.
  • Yn y 5ed ganrif, sefydlodd San Gwynllyw (nawddsant Casnewydd a Brenin Gwynllwg) eglwys o’r un enw – eglwys gadeiriol Casnewydd erbyn hyn.

Eglwys Gadeiriol Casnewydd

  • Mae Casnewydd wedi bod yn borthladd ers yr oesoedd canol. Tyfodd yn gyflym yn y 19eg ganrif achos y diwydiant glo.
  • Casnewydd oedd safle’r gwrthryfel arfog olaf ym Mhrydain yn 1839 – gwrthryfel y Siartwyr.
  • Enillodd Casnewydd statws ‘Dinas’ yn y flwyddyn 2002.
  • Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Chasnewydd dair gwaith – yn 1897, 1988 a 2004.
  • Cymraeg oedd prif iaith Casnewydd tan yr 1830au. Heddiw, tua 10% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg.

Pobl Enwog

Aeth yr actores Josie D’Arby i ysgol Llysweri yng Nghasnewydd.

Cafodd yr actor Desmond Llewelyn (Q yn ffilmiau James Bond) ei eni yn y ddinas.

Desmond Llewelyn

Mae aelodau’r grwpiau enwog ‘GLC’ (Goldie Lookin’ Chain), ‘60ft Dolls’ a ‘Bullet for My Valentine’ yn dod o Gasnewydd.

Goldie Lookin’ Chain

O’r byd chwaraeon, Casnewydd yw man geni’r athletwyr Christian Malcom a Darren Campbell yn ogystal â llu o chwaraewyr rygbi o fri. Y person mwyaf enwog i ddod o’r ddinas efallai ydy’r bardd W.H. Davies (1871-1940). Gallwch chi glywed llinellau o’i gerdd fwyaf enwog ar hysbysebion ‘Center Parcs’ ar y teledu.

W.H. Davies
W.H. Davies

Pont Gludo Casnewydd (1906)

Mae pont gludo Casnewydd yn un o ddwy yn unig ym Mhrydain (mae’r llall yn Middlesbrough yng ngogledd-ddwyrain Lloegr) ac wyth yn y byd. Mae’n bosibl i geir a phobl deithio ar y gondola crog bron bob dydd. Gallwch chi hefyd gerdded ar ben y fframwaith dur.  Roedd y bont yn nodwedd amlwg yn y ffilm ‘Tiger Bay’, 1959 gyda John Mills a’i ferch Hayley Mills yn serennu.

Ffilm Teigr Bay

Gwesty’r Westgate a’r Siartwyr

Ar Dachwedd 4, 1839, arweiniodd John Frost orymdaith o 3,000 o siartwyr i ganol Casnewydd. Roedd y Siartwyr yn ymladd dros hawliau pleidleisio cyfartal i bawb. Taniodd milwyr oedd yn amddiffyn gwesty’r Westgate ar y siartwyr. Lladdon nhw dros 20 ac anafu 50 arall. Gallwch chi weld y tyllau bwled ym mhrif ddrws y gwesty hyd heddiw.

Casnewydd Siartwyr
Y Siartwyr yn ymosod ar y gwesty yn 1839
Gwesty Casnewydd
Gwesty’r Westgate – mae cerfluniau tu allan i gofio gwrthryfel y Siartwyr

Tan 2013, roedd murlun i gofio’r siartwyr mewn tanffordd yng nghanol y ddinas.

Murlun Siartwyr

Plasty Tredegar

Mae’r tŷ yn enghraifft wych o blasty o’r 17eg ganrif. Roedd y plasty’n gartref i deulu’r Morgan am dros 500 mlynedd tan 1951. Un aelod o’r teulu oedd y môr-leidr enwog Henry Morgan. Mae’r tŷ wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglenni teledu ‘The Hairy Bikers’ a ‘Doctor Who’.

Plasty Casnewydd

Henry Morgan

Y Celtic Manor

Canolfan golff, spa a gwesty. Yn y ganolfan mae dau westy, tafarn wledig, dau spa, chwe thŷ bwyta, cwrs rhaffau uchel, tag laser, saethyddiaeth a chanolfan gynadledda. Canolfan wyliau’r ‘Celtic Manor’ oedd cartref Pencampwriaeth Golff Ryder yn 2010.

Celtic Manor

Syr Terry Matthews, miliynydd cyntaf Cymru, sy’n berchen ar y ganolfan. Cafodd Syr Terry ei eni yn yr adeilad yn 1943 pan oedd e’n ysbyty (Ysbyty Lydia Beynon).

Llong Casnewydd

Yn 2002, yn ystod adeiladau’r ganolfan gelfyddydau newydd, cafodd llong fawr ei darganfod ar lannau’r afon Wysg. Mae’r llong yn dyddio o’r cyfnod 1445-1469 a dyma’r unig un o’i math yn y byd.

Llong Casnewydd

Chwaraeon yng Nghasnewydd

Rygbi – Clwb rygbi Casnewydd ydy un o’r ychydig dimau i guro pob un o dimau mawr hemisffer y de – Y Crysau Duon, De Affrica ac Awstralia.

Clwb Rygbi Casnewydd
Gôl adlam John Uzzell – yr unig bwyntiau yn y gêm hanesyddol yn erbyn y Crysau Duon yn 1963.

Pêl-droed – Mae’r tîm pêl-droed wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf Cwpan F.A. Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Mae’r ‘Alltudion’ (llysewn’r tîm) yn ôl yn y Gynghrair Bêl-droed ers ennill y gêm ail-gyfle yn erbyn tîm Wrecsam yn Wembley yn 2013.

Seiclo – Mae Casnewydd yn gartref i felodrôm cenedlaethol Cymru ac yn bencadlys Seiclo Cymru.

Pel-fâs – Dim ond mewn tair dinas ym Mhrydain mae pêl-fâs yn cael ei chwarae – Caerdydd, Lerpwl a Chasnewydd. Mae dinas Casnewydd yn gartref i gêm ryngwladol rhwng timau Cymru a Lloegr pob pedair blynedd.

Gwyliwch uchafbwyntiau gêm 1980 yma –

Ie, mae Casnewydd yn ddinas unigryw!


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts