Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Ble arall yng Nghymru cewch chi:
- Castell Normanaidd
- Eglwys Gadeiriol
- Pont gludo
- Canolfan wyliau anferth
- Safle Rhufeinig
- Plasty nodweddiadol
- Llong ganol oesol unigryw
- Timau pêl-droed a rygbi proffesiynol yn rhannu’r un stadiwm
Wel, Casnewydd ydy’r ateb wrth gwrs.
Mae’n siŵr bod pawb yn gyfarwydd â dinas Casnewydd, yn enwedig yn dilyn y gân ‘Newport Ymerodraeth State of Mind’ yn 2010. Aeth y fideo yn feiral erbyn Awst 2010 ar YouTube. Cafodd YouTube wared â’r fideo achos problemau hawlfraint.
Mae’r grŵp rap o’r ddinas Goldie Lookin’ Chain wedi recordio parodi gwych o’r gân:
https://www.youtube.com/watch?v=Eijc2tGe-zM
Hanes Byr Dinas Casnewydd
- Yn y flwyddyn 75, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion er mwyn amddiffyn y groesfan dros yr afon Wysg.
- Yn y 5ed ganrif, sefydlodd San Gwynllyw (nawddsant Casnewydd a Brenin Gwynllwg) eglwys o’r un enw – eglwys gadeiriol Casnewydd erbyn hyn.
- Mae Casnewydd wedi bod yn borthladd ers yr oesoedd canol. Tyfodd yn gyflym yn y 19eg ganrif achos y diwydiant glo.
- Casnewydd oedd safle’r gwrthryfel arfog olaf ym Mhrydain yn 1839 – gwrthryfel y Siartwyr.
- Enillodd Casnewydd statws ‘Dinas’ yn y flwyddyn 2002.
- Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Chasnewydd dair gwaith – yn 1897, 1988 a 2004.
- Cymraeg oedd prif iaith Casnewydd tan yr 1830au. Heddiw, tua 10% o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg.
Pobl Enwog
Aeth yr actores Josie D’Arby i ysgol Llysweri yng Nghasnewydd.
Cafodd yr actor Desmond Llewelyn (Q yn ffilmiau James Bond) ei eni yn y ddinas.
Mae aelodau’r grwpiau enwog ‘GLC’ (Goldie Lookin’ Chain), ‘60ft Dolls’ a ‘Bullet for My Valentine’ yn dod o Gasnewydd.
O’r byd chwaraeon, Casnewydd yw man geni’r athletwyr Christian Malcom a Darren Campbell yn ogystal â llu o chwaraewyr rygbi o fri. Y person mwyaf enwog i ddod o’r ddinas efallai ydy’r bardd W.H. Davies (1871-1940). Gallwch chi glywed llinellau o’i gerdd fwyaf enwog ar hysbysebion ‘Center Parcs’ ar y teledu.
Pont Gludo Casnewydd (1906)
Mae pont gludo Casnewydd yn un o ddwy yn unig ym Mhrydain (mae’r llall yn Middlesbrough yng ngogledd-ddwyrain Lloegr) ac wyth yn y byd. Mae’n bosibl i geir a phobl deithio ar y gondola crog bron bob dydd. Gallwch chi hefyd gerdded ar ben y fframwaith dur. Roedd y bont yn nodwedd amlwg yn y ffilm ‘Tiger Bay’, 1959 gyda John Mills a’i ferch Hayley Mills yn serennu.
Gwesty’r Westgate a’r Siartwyr
Ar Dachwedd 4, 1839, arweiniodd John Frost orymdaith o 3,000 o siartwyr i ganol Casnewydd. Roedd y Siartwyr yn ymladd dros hawliau pleidleisio cyfartal i bawb. Taniodd milwyr oedd yn amddiffyn gwesty’r Westgate ar y siartwyr. Lladdon nhw dros 20 ac anafu 50 arall. Gallwch chi weld y tyllau bwled ym mhrif ddrws y gwesty hyd heddiw.
Tan 2013, roedd murlun i gofio’r siartwyr mewn tanffordd yng nghanol y ddinas.
Plasty Tredegar
Mae’r tŷ yn enghraifft wych o blasty o’r 17eg ganrif. Roedd y plasty’n gartref i deulu’r Morgan am dros 500 mlynedd tan 1951. Un aelod o’r teulu oedd y môr-leidr enwog Henry Morgan. Mae’r tŷ wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglenni teledu ‘The Hairy Bikers’ a ‘Doctor Who’.
Y Celtic Manor
Canolfan golff, spa a gwesty. Yn y ganolfan mae dau westy, tafarn wledig, dau spa, chwe thŷ bwyta, cwrs rhaffau uchel, tag laser, saethyddiaeth a chanolfan gynadledda. Canolfan wyliau’r ‘Celtic Manor’ oedd cartref Pencampwriaeth Golff Ryder yn 2010.
Syr Terry Matthews, miliynydd cyntaf Cymru, sy’n berchen ar y ganolfan. Cafodd Syr Terry ei eni yn yr adeilad yn 1943 pan oedd e’n ysbyty (Ysbyty Lydia Beynon).
Llong Casnewydd
Yn 2002, yn ystod adeiladau’r ganolfan gelfyddydau newydd, cafodd llong fawr ei darganfod ar lannau’r afon Wysg. Mae’r llong yn dyddio o’r cyfnod 1445-1469 a dyma’r unig un o’i math yn y byd.
Chwaraeon yng Nghasnewydd
Rygbi – Clwb rygbi Casnewydd ydy un o’r ychydig dimau i guro pob un o dimau mawr hemisffer y de – Y Crysau Duon, De Affrica ac Awstralia.
Pêl-droed – Mae’r tîm pêl-droed wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf Cwpan F.A. Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Mae’r ‘Alltudion’ (llysewn’r tîm) yn ôl yn y Gynghrair Bêl-droed ers ennill y gêm ail-gyfle yn erbyn tîm Wrecsam yn Wembley yn 2013.
Seiclo – Mae Casnewydd yn gartref i felodrôm cenedlaethol Cymru ac yn bencadlys Seiclo Cymru.
Pel-fâs – Dim ond mewn tair dinas ym Mhrydain mae pêl-fâs yn cael ei chwarae – Caerdydd, Lerpwl a Chasnewydd. Mae dinas Casnewydd yn gartref i gêm ryngwladol rhwng timau Cymru a Lloegr pob pedair blynedd.
Gwyliwch uchafbwyntiau gêm 1980 yma –
Ie, mae Casnewydd yn ddinas unigryw!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.