Dafydd Roberts Y Daith i Batagonia 1

Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 1: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

In Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Learners

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Ydych chi’n mynd ar wyliau i wlad dramor eleni? Os ydych chi, sut byddwch chi’n teithio? Hedfan? Llong efallai? Pa mor hir fydd y daith? Pedair neu pum awr ar y mwyaf siŵr o fod.

Sut fasech chi’n teimlo pe basai rhaid i chi [simple_tooltip content=’treulio – (to) spend (time)’]dreulio[/simple_tooltip] dros bedair wythnos yn aros am long, wedyn, [simple_tooltip content='(to) sail’]hwylio[/simple_tooltip] tua 8,000 o filltiroedd am dros ddau fis ar y môr cyn cyrraedd pen eich taith? Ddim yn hapus o gwbl baswn i’n meddwl.

Wel, dyna oedd hanes dros gant a hanner o Gymry yn y flwyddyn 1865.

Ddiwedd mis Mai 1865, gadawodd tua 160 o Gymry ddociau Lerpwl ar long Y Mimosa ar daith i dde America. Doedden nhw ddim yn mynd ar eu gwyliau. Eu [simple_tooltip content=’intention’]bwriad[/simple_tooltip] oedd [simple_tooltip content='(to) establish’]sefydlu[/simple_tooltip] Gwladfa (darn bach o Gymru) dramor a cheisio cadw’r hen ffordd Gymreig o fyw. Talodd y teithwyr £12.00 yr un am y siwrne (tua £1,500 yn arian heddiw), gyda phlant yn talu hanner pris.

Dafydd Roberts Patagonia Passenger Ticket
Tocyn y Parch. Abraham Matthews o Aberdâr, ei wraig Gwenllian, eu merch fach Mary Ann, John (Murray) Thomas, brawd Gwenllian, a Mary John.

Dyma Hanes y Daith…

Gadael Lerpwl

Cyrhaeddodd y teithwyr ddinas Lerpwl fis Ebrill 1865 yn barod i adael am Batagonia. Roedden nhw i fod i deithio ar long o’r enw Halton Castle. Yn anffodus, doedd honno ddim yn barod ac roedd rhaid i’r teithwyr aros am un arall. Y Mimosa oedd yr unig long ar gael. [simple_tooltip content=’freight ship’]Llong gludo nwyddau[/simple_tooltip] oedd Y Mimosa. Doedd hi ddim yn [simple_tooltip content=’suitable’]addas[/simple_tooltip] i [simple_tooltip content=’cludo = (to) transport’]gludo[/simple_tooltip] pobl.

Ar y 24ain o Fai 1865, ar ôl gwario £2,500 i addasu’r Mimosa, cafodd y teithwyr [simple_tooltip content=’caniatâd = permission’]ganiatâd[/simple_tooltip] i fynd ar fwrdd y llong. Am 4.00 o’r gloch ar y 28ain o Fai, pan roedd y gwynt yn ffafriol, cododd y capten yr angor a gadawodd y Mimosa y dociau.

Daeth cannoedd o bobl i ffarwelio â’r [simple_tooltip content=’emigrants’]ymfudwyr[/simple_tooltip] gan gynnwys [simple_tooltip content=’organiser’]trefnydd[/simple_tooltip] y prosiect, Michael D. Jones a’i wraig Anne. Roedd baner y Ddraig Goch yn hedfan yn uchel a chanodd y dorf anthem arbennig.

Dafydd Roberts Patagonia Michael D Jones
Michael D. Jones, trefnydd y prosiect

Y Capten a’r Criw

Capten y llong oedd dyn ifanc 25 oed o’r enw George Pepperell. Roedd criw o 18 gyda fe gan gynnwys [simple_tooltip content=’surgeon’]llawfeddyg[/simple_tooltip] – Thomas Greene, [simple_tooltip content=’Irishman’]Gwyddel[/simple_tooltip] o Kildare.

Roedd y rhan fwyaf o’r criw yn Saeson o Lerpwl. Pan [simple_tooltip content=’sylweddoli = (to) realise’]sylweddolodd[/simple_tooltip] Pepperell fod y teithwyr i gyd yn [simple_tooltip content=’monoglot Welsh speakers’]Gymry uniaith[/simple_tooltip], [simple_tooltip content=’cyflogi = (to) employ’]cyflogodd[/simple_tooltip] e un o’r teithwyr, Richard Jones (Berwyn), fel [simple_tooltip content=’purser’]pyrser[/simple_tooltip]. Gallwch chi ddarllen mwy am y dyn arbennig yma yn nes ymlaen yn y gyfres hon o erthyglau.

Dafydd Roberts Patagonia Richard Jones
Richard Jones (Berwyn)

Y Teithwyr

Roedd y teithwyr yn dod o bob rhan o Gymru [simple_tooltip content=’and beyond’]a thu hwnt[/simple_tooltip]. Does neb yn hollol siŵr faint o deithwyr ddechreuodd ar y daith, ond roedd tua:

  • 50 o oedolion [simple_tooltip content=’married’]priod[/simple_tooltip]
  • 40 o ddynion sengl neu [simple_tooltip content=’gweddw = widowed’]weddw[/simple_tooltip]
  • 17 o fenywod sengl (chwiorydd i aelodau o’r teuluoedd neu [simple_tooltip content=’maids’]forwynion[/simple_tooltip])
  • Llawfeddyg (1), Stiward (1), Pyrser (1)

Roedd y gweddill (52) yn blant neu’n bobl ifanc.

Dafydd Roberts Patagonia Catherine Davies
Catherine Davies o Landrillo yn Rhos gyda’i thri mab – William (8 oed), Henry (7 oed) a John (1 oed). Buodd John farw ar y daith i Batagonia.

Roedd bron hanner y teithwyr dod o ardaloedd diwydiannol Aberdâr, Aberpennar, Rhosllannerchrugog a Ffestiniog. Roedd y rhan fwyaf o’r dynion felly yn [simple_tooltip content=’glowyr = coalminers’]lowyr[/simple_tooltip] neu’n [simple_tooltip content=’slate quarrymen’]chwarelwyr[/simple_tooltip]. Roedd [simple_tooltip content=’cobbler’]crydd[/simple_tooltip], [simple_tooltip content=’preacher’]pregethwr[/simple_tooltip], adeiladwr a [simple_tooltip content=’teiliwr = tailor’]theiliwr[/simple_tooltip] ar y llong hefyd ond dim llawer o bobl o gefndir ffermio.

Dilynwch y linc yma i weld manylion y teithwyr:

http://www.clwydfhs.org.uk/miscellanea/themimosa.htm

Patagonia o ble daeth y teithwyr

Taith hir ac anodd

Map yn dangos y daithRoedd y Cymry ar Y Mimosa am 65 diwrnod. Roedd llawer o broblemau ar fwrdd y llong:

Roedd y tywydd yn ofnadwy ar ôl gadael Afon Merswy gyda gwyntoedd cryf a [simple_tooltip content=’thonnau anferth = massive waves’]thonnau anferth[/simple_tooltip] yn [simple_tooltip content='(to) hit’]taro[/simple_tooltip]’r llong. Wrth lwc, roedd gweddill y daith ar draws [simple_tooltip content=’Atlantic Ocean’]Môr Iwerydd[/simple_tooltip] yn eitha tawel.

Roedd y bwyd a’r [simple_tooltip content=’accommodation’]llety[/simple_tooltip]’n wael. Roedd rhaid i bawb yfed sudd lemwn a leim bob dydd er mwyn [simple_tooltip content='(to) avoid’]osgoi[/simple_tooltip] scyrfi!

Roedd llawer o’r teithwyr yn sâl iawn ar y llong. [simple_tooltip content=’Boils’]Cornwydydd[/simple_tooltip] a chegau’n gwaedu oedd y problemau mwyaf.

Roedd rhaid i’r merched olchi ac [simple_tooltip content='(to) shave’]eillio[/simple_tooltip]’u gwallt er mwyn [simple_tooltip content='(to) prevent’]rhwystro[/simple_tooltip] salwch.

Doedd dim llawer o le ar y dec ac felly doedd dim cyfle i weld llawer ar y siwrne. Roedd rhaid treulio llawer o amser [simple_tooltip content=’in the bowels of the ship’]yng nghrombil y llong[/simple_tooltip]. Roedd yr [simple_tooltip content='(a) smell’]arogl[/simple_tooltip] yn ofnadwy weithiau, yn enwedig yng ngwres yr haul pan oedd y llong yn croesi’r [simple_tooltip content=’tropics’]trofannau[/simple_tooltip].

Yn drist, erbyn i’r llong cyrraedd Patagonia, roedd pump o blant ifanc wedi marw.

Hwyl ar Y Mimosa

Ond doedd y daith ddim yn gwbl ddiflas.

Cafodd y teithwyr dipyn o hwyl weithiau yn [simple_tooltip content='(to) tell tales’]adrodd straeon[/simple_tooltip] a chanu.

Mae’n bosibl mai ar fwrdd y Mimosa roedd y [simple_tooltip content=’first ice bucket challenge’]sialens bwced iâ cyntaf[/simple_tooltip]! I ddathlu croesi’r [simple_tooltip content=’equator’]cyhydedd[/simple_tooltip] ar 28 Mehefin, 1865, [simple_tooltip content='(to) pour’]arllwysodd[/simple_tooltip] y criw lond bwcedi o ddŵr oer ar bennau ei gilydd a’r teithwyr!

Genedigaethau a Phriodasau

Ar yr 11eg o Fehefin, cafodd mab o’r enw John ei eni i Mary Jones, gwraig John Jones o Aberpennar.

Ar y 15fed o Fehefin, ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth eu mab dwy oed James, cafodd merch o’r enw Rachel ei geni i Aaron a Rachel Jenkins.

Priododd William ac Anne Lewis o Abergynolwyn ar fwrdd y Mimosa gyda’r gweinidog y Parch. Lewis Humphreys yn cynnal y gwasanaeth.

Yn yr erthygl nesaf, cewch chi ddarllen am y glanio a dyddiau cynnar Y Wladfa.

 


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.