Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Yn gartref i Nawddsant Cymru, Dewi Sant a’r corgi, mae Sir Benfro yn un o siroedd mwyaf diddorol Cymru.
Yr Hen
Castell Henllys

Does unman arall tebyg i Gastell Henllys. Mae’n bosibl [simple_tooltip content='(to) step’]camu[/simple_tooltip] yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd yn y [simple_tooltip content=’bryngaer = hillfort’]fryngaer[/simple_tooltip] Oes Haearn yma.

Mae Castell Henllys yn unigryw. Gallwch chi fynd i mewn i un o’r [simple_tooltip content=’dŷ crwn = round house’]tai crwn[/simple_tooltip], [simple_tooltip content='(to) grind flour’]malu blawd[/simple_tooltip] a phobi bara fel roedd y Celtiaid yn arfer ei wneud!

Cromlech Pentre Ifan

[simple_tooltip content=’Burial chamber’]Siambr Gladdu[/simple_tooltip] Pentre Ifan, ar bwys pentref Nanhyfer ydy’r safle megalithig mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae’r [simple_tooltip content=’ancient monument’]heneb[/simple_tooltip] yma’n [simple_tooltip content='(to) date’]dyddio[/simple_tooltip] yn ôl i tua 3,500 Cyn Crist. Mae’r [simple_tooltip content=’capstone’]maen capan[/simple_tooltip], sef y garreg ar y pen, yn pwyso dros 16 [simple_tooltip content=’ton(s)’]tunnell[/simple_tooltip]. Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n bosibl gweld [simple_tooltip content=’fairies’]Tylwyth Teg[/simple_tooltip] o dan y Gromlech.
Cestyll
Mae nifer o gestyll [simple_tooltip content=’splendid’]ysblennydd[/simple_tooltip] yn y sir er enghraifft Castell Penfro, Castell Caeriw a Castell Maenorbŷr.

Eglwys Sant Gofan

Roedd Sant Gofan yn [simple_tooltip content=’meudwy = hermit’]feudwy[/simple_tooltip]. Roedd e’n byw mewn [simple_tooltip content=’recess’]cilfach[/simple_tooltip] ar lan y môr ar bwys pentref Bosherston. Cafodd yr eglwys ei adeiladu yn y gilfach yn y 13eg ganrif. Gallwch chi ddringo’r [simple_tooltip content=’stairs/steps’]grisiau[/simple_tooltip] i lawr i’r eglwys. Mae nifer y grisiau yn wahanol – yn [simple_tooltip content='(to) depend’]dibynnu[/simple_tooltip] ydych chi’n mynd i fyny neu i lawr.
Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Dyma le mae [simple_tooltip content=’grave’]bedd[/simple_tooltip] Dewi Sant. [simple_tooltip content=’Sefydlu = (to) establish’]Sefydlodd[/simple_tooltip] Dewi [simple_tooltip content=’mynachdy = monastery’]fynachdy[/simple_tooltip] ar safle’r eglwys bresennol. Roedd Dewi Sant yn teithio llawer (fel y seintiau i gyd yn y [simple_tooltip content=’period’]cyfnod[/simple_tooltip] hwnnw), yn dysgu pobl am Iesu Grist. [simple_tooltip content=’He died’]Buodd e farw[/simple_tooltip] yn y flwyddyn 589.
Mae nifer o eglwysi yng Nghymru (a Lloegr) yn [simple_tooltip content='(to) take’]dwyn[/simple_tooltip] ei enw.
Dyma rai o eglwysi Dewi yng Nghymru: Llanddewi Felfrey, Capel Dewi, Llan-non, Llenddewy, Llanddewi Fach, Capel Dewi, Llanddewi Rhydderch, Llanddewi Skyrrid, Llanddew, Llanddewi fach, Llanddewibrefi, Llanddewi Aberarth, Ffynnon Dewi.
Yr Hardd
Llwybr yr Arfordir
Mae’r llwybr yn [simple_tooltip content='(to) extend/stretch’]ymestyn[/simple_tooltip] am dros 186 milltir o gwmpas yr [simple_tooltip content=’coast/coastline’]arfordir[/simple_tooltip].

Mae’r [simple_tooltip content=’scenery’]golygfeydd[/simple_tooltip] yn ddigon i [simple_tooltip content=’tynnu’r gwynt o’ch anadl = (to) take your breath away’]dynnu’r gwynt o’ch anadl[/simple_tooltip]. Parc Cenedlaethol Sir Benfro ydy’r unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain!!
Mynyddoedd y Preseli
Mae Mynydd y Preseli yn lle [simple_tooltip content=’ideal’]delfrydol[/simple_tooltip] i gerdded a marchogaeth. Ar ddiwrnod clir, mae’n bosibl gweld Yr Wyddfa, Iwerddon, Bannau Brycheiniog a Lloegr o ben y Preseli.
Roedd y bardd Cymraeg Waldo Williams yn hoffi ysgrifennu am fynyddoedd y Preseli.
Waldo yr athro
Dyma bennill cyntaf ei gerdd enwog, Preseli. Yn y gerdd, mae Waldo’n dangos ei gariad at ei fro. Yn y pennill yma, mae e’n enwi lleoedd pwysig iddo fe yn ardal y Preseli.

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.
A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail
Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.
Dyma ychydig o eiriau i’ch helpu chi i ddeall y pennill:
Mebyd = plentyndod
Annibyniaeth = independence
Tasgu = (to) flare
Gwreichion = sparks
Hŷn na harn = older than iron

Ynys Bŷr

Ynys sy’n gorwedd oddi ar arfordir de Penfro ydy [simple_tooltip content=’Caldey Island’]Ynys Bŷr[/simple_tooltip]. Mae’n ynys [simple_tooltip content=’holy’]sanctaidd[/simple_tooltip] ers oes y Celtiaid. Heddiw, mae’r [simple_tooltip content=’Cistercian monks’]mynachod Sistersaidd[/simple_tooltip] yn byw ar yr ynys. Mae croeso i ymwelwyr.
Yr Hwyl
Traeth Trefdraeth

Mae traethau Sir Benfro yn enwog am eu [simple_tooltip content=’beauty’]prydferthwch[/simple_tooltip] – er enghraifft Traethau Barafundle, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Broadhaven.
Dinbych y Pysgod

Cafodd ran o ffilm ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’ ei ffilmio ar draeth Freshwater West.

Bae Barafundle

Dydy hi ddim yn bosibl cyrraedd y traeth mewn car – mae’n rhaid i chi gerdded!
Parc Hamdden Oakwood
Mae’r Parc Antur hwn yn gartref i rolercoster mwyaf cyffrous Prydain ac un o’r rhai pren mwyaf yn y byd! – Megaffobia!

Canolfan Twr y Felin, Tyddewi
Mae Cymru’n enwog am gampau dŵr [simple_tooltip content=’extreme’]eithafol[/simple_tooltip]. Mae canolfan chwaraeon eithafol rhwng Tyddewi a Freshwater East o’r enw Twr y Felin. Yn y ganolfan, mae llawer o weithgareddau cyffrous:
- [simple_tooltip content=’Coasteering’]Arfordira[/simple_tooltip]
- Dringo creigiau
- Syrffio
- [simple_tooltip content='(to) explore’]Archwilio[/simple_tooltip]’r arfordir
- Caiaco
Mae arfordira yn gamp newydd. Rhaid ichi wisgo siwt wlyb, helmed a hen bâr o dreinyrs. Byddwch chi’n dringo a nofio o gwmpas arfordir [simple_tooltip content=’rocky’]creigiog[/simple_tooltip] Sir Benfro. Gallwch chi neidio oddi ar y [simple_tooltip content=’cliffs’]clogwyni[/simple_tooltip] i’r môr! Gallwch chi archwilio ogofeydd yr arfordir.

Cafodd arfordira ei ddyfeisio gyntaf yma yn Sir Benfro!!
Melin Tregwynt
Mae Melin Tregwynt yn [simple_tooltip content='(to) produce’]cynhyrchu[/simple_tooltip] blancedi, cotiau, sliperi, sanau, hetiau, bagiau, sgarffiau a mwy. Mae’r felin yn newid hen batrymau Cymreig i wneud patrymau newydd, lliwgar.

Iaith
O ran iaith, mae Sir Benfro mewn dwy ran. Cymraeg yw iaith gogledd y sir. Saesneg yw iaith y de gan amlaf. Mae’r Landsker yn llinell [simple_tooltip content=’imaginary’]ddychmygol[/simple_tooltip] sy’n gwahanu’r de a’r gogledd.

Mae tafodiaith Gymraeg Sir Benfro yn [simple_tooltip content=’amazing/strange]rhyfedd[/simple_tooltip]! Mae Cymry Cymraeg Sir Benfro yn dweud ‘wes’ yn lle ‘oes’, ‘cwêd’ yn lle coed a ‘trwêd’ yn lle ‘troed’. Gwrandewch ar y sgwrs yma gyda Mrs Elizabeth John o Ben-caer, Sir Benfro ar wefan Amgueddfa Cymru:
https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2011-03-29/Tafodiaith-Pen-caer-Sir-Benfro/
Cafodd Mrs John ei geni yn 1891. Mae’r sgript ar y wefan i’ch helpu chi hefyd.
Sir Benfro – Sir Hudolus!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.