Dafydd Roberts Penrhyn Gŵyr

Ardal Arbennig: Penrhyn Gŵyr- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Cafodd Penrhyn Gŵyr ei nodi’n Barc Cenedlaethol cyntaf Prydain yn 1956. Ar y Penrhyn, mae 34 milltir o arfordir, 50 o draethau bendigedig, clogwyni ysblennydd, pentrefi deniadol, a chefn gwlad heddychlon. Yn ol pob sôn, dyma’r 7fed man mwyaf poblogaidd yn y byd i dynnu llun y machlud. Pob blwyddyn, mae’r arfordir yn ennill llawer o wobrau er enghraifft Y Faner Las a’r Traethau Gwledig Gorau.

Hanes

Mae olion bywyd ym Mhenrhyn Gŵyr yn mynd nôl i gyfnod cynhanes ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae dros 1,200 o safleoedd archaeoleg- tomenni claddu a siambrau cerrig fel Carreg Arthur ar bwys Cefn Bryn. Mae’r creigiau wedi’i gwneud o gerrig calch felly, mae nifer o ogofeydd yn yr ardal.

Carreg Arthur
Carreg Arthur

Yn 1823, daeth y Parchedig William Buckland o hyd i sgerbwd o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl yn Ogof Paviland. Mae’r sgerbwd yn cael ei adnabod fel ‘Menyw Goch Paviland’.

Menyw Goch Paviland
Menyw Goch Paviland

Beth bynnag, profodd ymchwil mai sgerbwd dyn nid menyw oedd e. Mae chwe chastell ar y Penrhyn, Caer o’r Oes Haearn a nifer fawr o eglwysi. Ym mhob pentref, mae rhywbeth o ddiddordeb – eglwys, croes, neu gerflun.

Castell Pennard
Castell Pennard
Castell Ysumllwynarth
Castell Ysumllwynarth

Yr Iaith

Saesneg ydy prif iaith Penrhyn Gŵyr ers amser hir. Dros y canrifoedd, ymsefydlodd Fflemiaid, Normaniaid a Saeson yn ne a gorllewin y Penrhyn achos dyna le oedd y tir ffermio gorau.

Roedd Gŵyr yn ynys o Saesneg mewn môr o Gymraeg ac felly, datblygodd tafodiaith Saesneg arbennig. Mae tafodiaith Saesneg Penrhyn Gŵyr yn unigryw ac mae gwahaniaeth mawr yn yr acen a’r ffordd o siarad. Mae trigolion yr ardal yn dal i ddefnyddio’r dafodiaith Saesneg arbennig. Dyma rai o’r geiriau byddwch chi’n clywed os ewch chi i’r Penrhyn:
• Casn’t – ddim yn gallu
• Dree – tri
• Pill – nant
• Raal – real
• Tacker – person ifanc
• Umman – menyw
• Vather – tad
• Viel/Vile – cae / maes
• Zz’thee knaw – wyt ti’n gwybod
• ‘dowset’ a ‘whitepot’ – prydau bwyd yn cynnwys cig a llaeth

Cymraeg oedd iaith gogledd y Penrhyn. Hyd heddiw byddwch chi’n clywed Cymraeg ar y strydoedd ac yn y siopau yn enwedig ym mhentref Pen-clawdd. Mae enwau Cymraeg a Saesneg ar bentrefi Penrhyn Gŵyr – rhai pentrefi gydag enwau Cymraeg yn unig fel Pen-rhys a Llanrhidian, rhai gydag enwau yn y ddwy iaith er enghraifft Tre-gŵyr (Gowerton) a Llandeilo Ferwallt (Bishopston) a rhai eraill ag enwau Saesneg yn unig er enghraifft Oxwich a Reynoldston.

Twristiaeth

Heddiw mae Penrhyn Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid trwy’r flwyddyn.

Campau Dŵr
Mae’n bosibl gwneud llawer o gampau dŵr ym Mhenrhyn Gŵyr – plymio, pysgota, syrffio dŵr, syrffio barcud, bwrddhwylio, canŵio, sgïo dŵr a hwylio i enwi ond rhai. Un o’r traethau gorau am syrffio ydy traeth Llangennith.

Syrffio
Syrffio

Dechreuodd pobl syrffio ym Mro Gwyr yn 1962. Mae llawer o syrffwyr gwych yn dod o Benrhyn Gŵyr. Yr un mwya enwog ydy Peter Jones. Enillodd Peter bencampwriaeth Cymru wyth gwaith yn y 1970au a’r 1980au. Syrffiodd e dros Gymru a Phrydain ym Mhencampwriaeth Ewrop a’r Byd. Mae Peter yn rhedeg siop syrffio yn Llangennith heddiw.

Cerdded
Mae Penrhyn Gŵyr yn baradwys i gerddwyr. Mae cilgant Bae Rhosili (rhyw 3 milltir o hyd) yn un o’r lleoedd mwyaf delfrydol yn y wlad i gerddwyr.

Traeth Rhosili
Traeth Rhosili

Mae’n bosib cerdded llwybr yr arfordir o gwmpas y Penrhyn – rhyw 45 milltir. Mae’r mynydd rhwng de a gogledd Gŵyr (Twyn Rhosili) yn codi i dros 600 troedfedd, ac o ben y mynydd, gallwch chi weld mor bell â Chulfor Bryste, Dyfnaint, Penfro, Brycheiniog a Sir Gâr.

Twyn Rhosili
Twyn Rhosili

Mae llawer o’r Penrhyn yn warchodfa natur bwysig ac gallwch chi weld amrywiaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion yno.

Bwyd a Diod

Ar ochr ogleddol y Penrhyn, mae nifer o bentrefi deniadol fel Llanmorlais, Llanrhidian a Pen-clawdd. Mae gogledd Bro Gŵyr yn enwog am fwyd môr fel cocos, crancod a bara lawr (math o wymon).

Cocos
Menyw’n casglu cocos ym Mhen-clawdd yn y 1950au

Gallwch chi brynu bwyd ffres o Benrhyn Gŵyr ym marchnad Abertawe.

Bara Lawr
Bara Lawr

Karl Jenkins

Cafodd y cyfansoddwr byd-enwog, Karl Jenkins, ei eni a’i fagu ym mhentref Pen-clawdd, Penrhyn Gŵyr. Mae Karl yn enwog am gyfansoddi cerddoriaeth roc, jas a chlasurol. Mae e wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer fawr o hysbysebion gan gynnwys Levi’s a Renault.

Karl Jenkins

Mae Penrhyn Gŵyr yn lle poblogaidd dros ben. Ar ôl “darganfod” y Penrhyn, mae pobl yn dod yn ôl dro ar ol tro i fwynhau’r rhan unigryw yma o Gymru.

 


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts