Dafydd Roberts Stonewall Cymru

Mudiad Arbennig: Stonewall Cymru: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy'n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw'n cynnwys geiriau wedi'u tanlinellu, fel y byddwch chi'n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Ar drothwy Penwythnos Mawr ‘Pride Cymru’ yng Nghaerdydd, beth am i ni edrych ar hanes y mudiad sy’n ymladd dros hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol Cymru. Stonewall Cymru yw’r elusen lesbiaidd, hoyw, a deurywiol (LHDT) ar gyfer Cymru gyfan.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2003 gyda help Llywodraeth Cymru a Stonewall Prydain. Mae’r elusen yn gweithio dros anghenionhawliau pobl *LHDT ledled Cymru a'u nod yw sicrhau cydraddoldebchyfiawnder ar gyfer pobl LHDT - gartref, yn yr ysgol, ac yn y gwaith.

Gartref

Mae Stonewall Cymru yn cynghori Llywodraeth Cymru, yr Heddlu a’r llysoedd er mwyn tynnu sylw at droseddau homoffobig. Diolch i Stonewall, mae Cymru yn wlad fwy diogel i bobl LHDT.

Yn yr Ysgol

Mae dros 90% o bobl ifanc yn clywed iaith homoffobig yn yr ysgol. Mae Stonewall Cymru yn gweithio trwy’r cynllun ‘Addysg i Bawb’ i greu awyrgylch dysgu diogel i’n pobl ifanc.

Mae’r mudiad wedi cynhyrchu deunyddiau dysgu ar gyfer athrawon er enghraifft ffilmiau, llyfrynnau a thaflenni. Mae mudiad Stonewall wedi helpu’r Urdd i drefnu stondinau ac i gynhyrchu deunyddiau dwyieithog.

Oeddech chi'n gwybod?

Yn Ysgol Plas-mawr, Caerdydd, mae mudiad o’r enw ‘Digon’ - mudiad gwrth-fwlio homoffobaidd. Mae’r disgyblion yn gwisgo breichledau lliwiau’r enfys ac yn codi arian i fudiad Stonewall. Gwyliwch fideo’r ysgol ar wefan y BBC: http://www.bbc.co.uk/schoolreport/26682844

Gwyliwch ddrama ‘Digon’ am homoffobia yn yr ysgol ar wefan vimeo:

 

Yn y Gweithle

Wrth reswm, mae pobl yn perfformio’n well mewn awyrgylch diogel yn y gweithle. Mae Stonewall Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr er mwyn creu awyrgylch ble mae pobl LHDT yn gallu gweithio heb fygythiad.

Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Chwaraeon Cymru i gyd yn aelodau o Stonewall Cymru.

Mae mudiad Stonewall yn hyrwyddo cydraddoldeb cymunedolgwleidyddol ac ieithyddol yn ogystal â chydraddoldeb i bobl LHDT.

Hybeseb Stonewall

Dyma wefan y mudiad:

stonewallcymru.org.uk/cy. Mae’n gwbl ddwyieithog. Beth am gael cip arni?

DVD PrideY Ffilm 'Pride'

Mae’n siŵr bod pob un ohonoch chi wedi gwylio, neu wedi clywed am y ffilm ‘Pride’. Mae’r ffilm yn cofio digwyddiadau yn ystod streic y glowyr yn 1984 ac 1985.

Yr Hanes tu ôl y Ffilm

Yn 1984, roedd llywodraeth Llundain wedi rhewi coffrau Undeb Cenedlaethol y Glowyr. O ganlyniad, fe wnaeth mudiadau gwahanol ledled y wlad "efeillio" gyda chymunedau’r glowyr. Penderfynodd grŵp LHDT Llundain efeillio gyda Grwpiau Cefnogi Glowyr Cwm Nedd.

Doedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr ddim yn hapus i dderbyn cefnogaeth y grŵp ar y dechrau, felly aeth y mudiad â’r arian yn syth i bentref bach Onllwyn ger Blaendulais, Cwm-Nedd. Dyma ddechrau cyfeillgarwch agos rhwng y ddwy gymuned - cyfeillgarwch sy’n parhau hyd heddiw.

Cododd y grŵp £20,000 ar gyfer y teuluoedd a oedd ar streic. Y digwyddiad a gododd fwyaf o arian oedd cyngerdd "Pits and Perverts" yn yr Electric Ballroom, Llundain ar y 10fed o Ragfyr, 1984 pan berfformiodd y grŵp enwog Bronski Beat gyda’i brif leisydd Jimmy Somerville.

Yn wir, mae’n ffilm werth ei gweld!

Dyma ddangos sut roedd dau fudiad, sy’n hollol wahanol ar yr wyneb, wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.

Actorion 'Pride'

Dyma Rhodri Meilir; chwaraeodd e ran Martin yn y ffilm Pride.

Rhodri Meilir Pride

Ffeithlen Rhodri

Geni: 18 Tachwedd 1978 yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Addysg: Ysgol Maes Garmon ac Adran Ddrama a Theatr Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa actio: Alfie Butts – My Family
Doctor Who
Y Pris (S4C)
Teulu (S4C)
Gwlad yr Astra Gwyn (S4C)
Byw Celwydd
Y Gwyll / Hinterland
Craith / Hidden
Gwaith theatr

 

Oeddech Chi’n Gwybod?

Rhodri Meilir ydy’r rapiwr Rapsgaliwn ar raglenni plant S4C

Dyma Menna Trussler; chwaraeodd hi ran Gwen yn y ffilm Pride.

Menna Trussler

Ffeithlen Menna

Geni: 1937. Cwm Tawe
Gyrfa actio: Torchwood
Doctors
Casual Vacancy
Yr Heliwr / A Mind to Kill (S4C)
Stella
Alys (S4C)
Casualty
District Nurse
Jam and Jerusalem
Gwaith Theatr

Oeddech chi'n gwybod?

Wrth galon stori ‘Pride’ mae Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Siân James. Helpodd hi fwydo 1,000 o deuluoedd yr wythnos yn ystod y streic. Yn dilyn y streic, fe aeth Siân i Brifysgol Abertawe i wneud gradd yn y Gymraeg. Yr actores Jessica Gunning chwaraeodd ran Siân yn y ffilm.

Oeddech chi'n gwybod?

Yn 1986, cafodd ffilm o’r enw Dancing in Dulais ei chynhyrchu gan grŵp LHDT (lesbiaid, hoywon, deurywiol, trawsrywiol). Ffilm ddogfen yw hi sy’n dilyn hanes cefnogaeth hoywon a lesbiaid i’r glowyr yng Nghwm Dulais. Mae’n werth gwylio’r ffilm i weld baner Cyfrinfa Blaenant yn arwain gorymdaith Balchder Lesbiaid a Hoywon yn 1985 ac aelodau LHDT yn cael trafferth gyda’r gêm bingo yn y neuadd leol.

Mae’r ffilm ar gael ar YouTube – beth am ei gwylio?

 

stonewallcymru.org.uk/cy

 


Tasgiau: Lluosog Geiriau Cymraeg

Mae sawl ffordd o ffurfio’r lluosog yn Gymraeg. Sawl ffordd wahanol gallwch chi ei gweld yn yr erthygl?

Ydych chi'n hoffi idiomau?

Beth am ddefnyddio’r idiomau canlynol o’r darn yn eich dosbarth neu yn eich sgyrsiau bob dydd:

  • Ar drothwy
  • Wrth reswm
  • O ganlyniad
  • Hyd heddiw
  • Ar yr wyneb
  • At ei gilydd
  • Wrth galon
  • Ar y dechrau

Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda'r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts