Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Ydych chi wedi clywed sôn am gylchoedd meithrin neu gylchoedd ‘Ti a Fi’? Tybed a oes un neu ddau eich ardal chi? Yn fwy na thebyg, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, fyddwch chi ddim yn fwy na thafliad carreg o un o ganolfannau’r Mudiad Meithrin.
Ond beth ydy hanes y mudiad sy’n gyfrifol am gylchoedd meithrin Cymraeg dros Gymru Gyfan?
Am y Mudiad
Mae’r Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol. Mae’r mudiad yn cael ei gydnabod fel prif ddarparwr addysg Cymraeg i blant bach. Nod y mudiad ydy rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg – o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol.
Mae’r mudiad yn cyflogi tua 200 o staff trwy Gymru benbaladr ac mae dros 1,500 yn gweithio yn y 500 o gylchoedd. Mae Swyddogion Datblygu gyda’r mudiad sy’n gweithio’n lleol ym mhob un o siroedd Cymru. Mae’r swyddogion yn rhoi arweiniad a chyngor ymarferol i staff y cylchoedd, y gwirfoddolwyr a’r rhieni.
Achos bod chwarae yn rhan bwysig iawn o addysg gynnar, mae llawer o weithgareddau dysgu’n digwydd trwy gyfrwng chwarae yn y cylchoedd meithrin. Mae pwyslais arbennig ar ddatblygiad iaith, ar ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn y cylchoedd.
Yn ystod y dydd, bydd y plant yn cael clywed storïau difyr ac yn cael y cyfle i ganu hwiangerddi Cymraeg.
Hanes y Mudiad
Beth ydy hanes y mudiad?. Wel, cafodd y mudiad ei sefydlu yn ôl yn 1971. Y nod ar y dechrau oedd cefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg.
Erbyn 1981, roedd 350 o gylchoedd meithrin a 40 o gylchoedd Ti a Fi ar hyd a lled Cymru. Roedd hi’n amlwg bod y mudiad yn llwyddiannus dros ben. Beth ydy’r dystiolaeth? Wel, yn ôl ystadegau cyfrifiad 1971, roedd 11.3% o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 3-4 oed. Erbyn cyfrifiad 1981, roedd y ffigur wedi cynyddu i 13.3%. Roedd hi’n braf gweld erbyn cyfrifiad 2011 bod y ffigur wedi cynyddu’n sylweddol gyda 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg.
Heb os nag oni bai, gwaith caled y cylchoedd meithrin a’r cylchoedd Ti a Fi dros y blynyddoedd sy’n bennaf gyfrifol am y ffigurau calonogol yma.
Penblwydd y Mudiad
Yn 2011 roedd y Mudiad yn dathlu ei benblwydd yn 40 oed. Fel rhan o’r dathliadau, cafodd y mudiad logo newydd. Hefyd, cafodd enw’r mudiad ei newid o ‘Mudiad Ysgolion Meithrin’ i ‘Mudiad Meithrin’.
Dyma hen logo Mudiad Ysgolion Meithrin.
Dyma’r cyflwynydd teledu Angharad Mair gyda Hywel Jones a Geraint Ellis (Cadeirydd y Mudiad) yn dadorchuddio’r plac arbennig gyda logo ac enw newydd y Mudiad.
Beth ydy ‘Cylch Ti a Fi’?
Mae’r ‘Cylch Ti a Fi’ yn rhoi cyfle i rieni gwrdd mewn awyrgylch Gymreig a Chymraeg i fwynhau chwarae gyda’u plant bach a chymdeithasu dros baned neu ddisgled o de!
Yn y Cylch Ti a Fi bydd y plant lleiaf yn gwneud gweithgareddau llawn hwyl er enghraifft – chwarae gyda phob math o deganau, dysgu caneuon bach syml, gwrando ar storïau, chwarae gyda thywod a chlai ac wrth gwrs….joio!!
Erbyn heddiw mae dros 500 o gylchoedd Ti a Fi, ac mae dros 8,000 o blant yn mwynhau mynd iddyn nhw.
Wel wel… Mae’r mudiad wedi casglu hoff hwiangerddi’r plant bach mewn un llyfr lliwgar. Dilynwch y ddolen yma er mwyn gweld y llyfr. Mae’n siŵr bydd rhai ohonyn nhw’n gyfarwydd ichi!!
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/llyfryn_terfynol_-_fersiwn_gwefan.pdf
Dewin a Doti- ffrindiau plant bach Cymru
Dewin yw cymeriad unigryw‘r Mudiad. Mae ffrind ffyddlon gyda fe o’r enw Doti y ci.
Dim ond Cymraeg mae Dewin a Doti yn ei deall. Dydy Doti ddim yn gallu siarad ond mae hi’n gallu sibrwd yn Gymraeg yn eich clust.
Mae Dewin a Doti yn byw yn y Balalŵn fawr yn uchel yn yr awyr, ac maen nhw wrth eu boddau yn gwibio i lawr i chwarae gyda phlant bach yn y cylchoedd meithrin ar hyd a lled Cymru.
Mae Doti yn cael mynd adre gyda phlant sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i siarad Cymraeg neu wedi bod yn garedig yn helpu plant eraill yn y cylch meithrin.
Mudiad Meithrin yn y Wladfa
Ie – mae’r mudiad ar waith yn Y Wladfa hefyd. Yn y llun, mae plant a gwirfoddolwyr ‘Cylch Ti a Fi’ Esquel.
Am fwy o wybodaeth am y mudiad, ewch i’r dolenni yma.
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/taflen_cylch_meithrin.pdf
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/croeso-ir-cylch-meithrin-cym-2010-_terfynol.pdf
Idiomau
Ydych chi wedi sylwi ar yr idiomau Cymraeg yn y darn? Mae idiom yn ffordd arbennig o ddweud rhywbeth. Mae llawer o idiomau diddorol yn Gymraeg. Dyma’r idiomau sy yn y darn:
Yn fwy na thebyg = more than likely
Tafliad carreg = yn llythrennol ‘a stone’s throw’
Gymru benbaladr = the length and breadth of Wales
Ar hyd a lled = throughout
Dros ben = extremely
Yn ôl = according to
Heb os nag onibai = there is no doubt
Wrth eu boddau = delighted
Ar waith = active
meithrin.cymru MudiadMeithrin
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.