Dafydd Roberts Mudiad Meithrin

Mudiad Arbennig: Mudiad Meithrin: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Ydych chi wedi clywed sôn am gylchoedd meithrin neu gylchoedd ‘Ti a Fi’? Tybed a oes un neu ddau eich ardal chi? Yn fwy na thebyg, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, fyddwch chi ddim yn fwy na thafliad carreg o un o ganolfannau’r Mudiad Meithrin.

Ond beth ydy hanes y mudiad sy’n gyfrifol am gylchoedd meithrin Cymraeg dros Gymru Gyfan?

Am y Mudiad

Mae’r Mudiad Meithrin yn fudiad [simple_tooltip content=’voluntary’]gwirfoddol[/simple_tooltip].  Mae’r mudiad yn cael ei [simple_tooltip content=’cydnabod – (to) recognise’]gydnabod[/simple_tooltip] fel prif [simple_tooltip content=’provider’]ddarparwr[/simple_tooltip] addysg Cymraeg i blant bach.  Nod y mudiad ydy rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru [simple_tooltip content=’manteisio ar = (to) take advantage of’]fanteisio ar[/simple_tooltip] addysg [simple_tooltip content=’through the medium of’]trwy gyfrwng[/simple_tooltip] y Gymraeg – o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol.

Mae’r mudiad yn [simple_tooltip content='(to) employ’]cyflogi[/simple_tooltip] tua 200 o staff trwy Gymru benbaladr ac mae dros 1,500 yn gweithio yn y 500 o gylchoedd. Mae Swyddogion Datblygu gyda’r mudiad sy’n gweithio’n lleol ym mhob un o siroedd Cymru. Mae’r swyddogion yn rhoi [simple_tooltip content=’leadership’]arweiniad[/simple_tooltip] a [simple_tooltip content=’cyngor ymarferol = practical advice’]chyngor ymarferol[/simple_tooltip] i staff y cylchoedd, y [simple_tooltip content=’volunteers’]gwirfoddolwyr[/simple_tooltip] a’r rhieni.

Achos bod chwarae yn rhan bwysig iawn o addysg gynnar, mae llawer o weithgareddau dysgu’n digwydd trwy gyfrwng chwarae yn y cylchoedd meithrin. Mae [simple_tooltip content=phasis’]pwyslais[/simple_tooltip] arbennig ar [simple_tooltip content=’datblygiad = development’]ddatblygiad[/simple_tooltip] iaith, ar ddatblygiad personol, [simple_tooltip content=’social’]cymdeithasol[/simple_tooltip] ac emosiynol plant yn y cylchoedd.

Yn ystod y dydd, bydd y plant yn cael clywed storïau difyr ac yn cael y cyfle i ganu [simple_tooltip content=’nursery rhymes’]hwiangerddi[/simple_tooltip] Cymraeg.

Hanes y Mudiad

Beth ydy hanes y mudiad?. Wel, cafodd y mudiad ei sefydlu yn ôl yn 1971. Y nod ar y dechrau oedd cefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg.

Erbyn 1981, roedd 350 o gylchoedd meithrin a 40 o gylchoedd Ti a Fi ar hyd a lled Cymru. Roedd hi’n amlwg bod y mudiad yn llwyddiannus dros ben. Beth ydy’r dystiolaeth? Wel, yn ôl [simple_tooltip content=’census statistics’]ystadegau cyfrifiad[/simple_tooltip] 1971, roedd 11.3% o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 3-4 oed. Erbyn [simple_tooltip content=’census’]cyfrifiad[/simple_tooltip] 1981, roedd y ffigur wedi [simple_tooltip content='(to) increase’]cynyddu[/simple_tooltip] i 13.3%. Roedd hi’n braf gweld erbyn cyfrifiad 2011 bod y ffigur wedi cynyddu’n [simple_tooltip content=’substantial’]sylweddol[/simple_tooltip] gyda 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg.

Heb os nag oni bai, gwaith caled y cylchoedd meithrin a’r cylchoedd Ti a Fi dros y blynyddoedd sy’n [simple_tooltip content=’pennaf gyfrifol = mainly responsible’]bennaf gyfrifol[/simple_tooltip] am y ffigurau calonogol yma.

Mudiad Ysgolion Meithrin logoPenblwydd y Mudiad

Yn 2011 roedd y Mudiad yn dathlu ei benblwydd yn 40 oed. Fel rhan o’r [simple_tooltip content=’celebrations’]dathliadau[/simple_tooltip], cafodd y mudiad logo newydd. Hefyd, cafodd enw’r mudiad ei newid o ‘Mudiad Ysgolion Meithrin’ i ‘Mudiad Meithrin’.

Dyma hen logo Mudiad Ysgolion Meithrin.

Dyma’r [simple_tooltip content=’presenter’]cyflwynydd[/simple_tooltip] teledu Angharad Mair gyda Hywel Jones a Geraint Ellis (Cadeirydd y Mudiad) yn [simple_tooltip content='(to) unveil’]dadorchuddio[/simple_tooltip]’r plac arbennig gyda logo ac enw newydd y Mudiad.

Mudiad Meitthin dathlu 40 Angharad Mair

Beth ydy ‘Cylch Ti a Fi’?

Mae’r ‘Cylch Ti a Fi’ yn rhoi cyfle i rieni gwrdd mewn [simple_tooltip content=’environment’]awyrgylch[/simple_tooltip] Gymreig a Chymraeg  i fwynhau chwarae gyda’u plant bach a [simple_tooltip content=’cymdeithasu = (to) socialise’]chymdeithasu[/simple_tooltip] dros baned neu ddisgled o de!

Yn y Cylch Ti a Fi bydd y plant [simple_tooltip content=’least’]lleiaf[/simple_tooltip] yn gwneud gweithgareddau llawn hwyl er enghraifft – chwarae gyda phob math o deganau, dysgu caneuon bach syml, gwrando ar storïau, chwarae gyda [simple_tooltip content=’tywod = sand’]thywod[/simple_tooltip] a chlai ac wrth gwrs….joio!!

Erbyn heddiw mae dros 500 o gylchoedd Ti a Fi, ac mae dros 8,000 o blant yn mwynhau mynd iddyn nhw.

Wel wel… Mae’r mudiad wedi casglu hoff [simple_tooltip content=’nursery rhymes’]hwiangerddi[/simple_tooltip]’r plant bach mewn un llyfr lliwgar. Dilynwch y ddolen yma er mwyn gweld y llyfr. Mae’n siŵr bydd rhai ohonyn nhw’n [simple_tooltip content=’cyfarwydd = familiar’]gyfarwydd[/simple_tooltip] ichi!!
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/llyfryn_terfynol_-_fersiwn_gwefan.pdf

Dewin a Doti- ffrindiau plant bach Cymru

Dewin yw cymeriad [simple_tooltip content=’unique’]unigryw[/simple_tooltip]’r Mudiad. Mae ffrind [simple_tooltip content=’faithful’]ffyddlon[/simple_tooltip] gyda fe o’r enw Doti y ci.

Dim ond Cymraeg mae Dewin a Doti yn ei deall. Dydy Doti ddim yn gallu siarad ond mae hi’n gallu [simple_tooltip content='(to) whisper’]sibrwd[/simple_tooltip] yn Gymraeg yn eich clust.

Mae Dewin a Doti yn byw yn y Balalŵn fawr yn uchel yn yr awyr, ac maen nhw wrth eu boddau yn [simple_tooltip content='(to) dart / whizz’]gwibio[/simple_tooltip] i lawr i chwarae gyda phlant bach yn y cylchoedd meithrin ar hyd a lled Cymru.

Mae Doti yn cael mynd adre gyda phlant sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i siarad Cymraeg neu wedi bod yn garedig yn helpu plant eraill yn y cylch meithrin.

Mudiad Meithrin- Dewin

Mudiad Meithrin Y WladfaMudiad Meithrin yn y Wladfa

Ie – mae’r mudiad ar waith yn Y Wladfa hefyd. Yn y llun, mae plant a gwirfoddolwyr ‘Cylch Ti a Fi’ Esquel.
Am fwy o wybodaeth am y mudiad, ewch i’r dolenni yma.
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/taflen_cylch_meithrin.pdf
http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/croeso-ir-cylch-meithrin-cym-2010-_terfynol.pdf

Idiomau

Ydych chi wedi sylwi ar yr idiomau Cymraeg yn y darn? Mae idiom yn ffordd arbennig o ddweud rhywbeth. Mae llawer o idiomau diddorol yn Gymraeg. Dyma’r idiomau sy yn y darn:
Yn fwy na thebyg = more than likely
Tafliad carreg = yn llythrennol ‘a stone’s throw’
Gymru benbaladr = the length and breadth of Wales
Ar hyd a lled = throughout
Dros ben = extremely
Yn ôl = according to
Heb os nag onibai = there is no doubt
Wrth eu boddau = delighted
Ar waith = active

meithrin.cymru   MudiadMeithrin  

Mudiad Meithrin logo


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.