Dafydd Roberts Clybiau Ffermwyr Ifanc

Mudiad Arbennig: Clybiau Ffermwyr Ifanc: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy'n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw'n cynnwys geiriau wedi'u tanlinellu, fel y byddwch chi'n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Am beth ydych chi’n meddwl pan rydych chi’n clywed y geiriau Mudiad Y Ffermwyr Ifanc / Clybiau Ffermwyr Ifanc? Anifeiliad brwnt? Caeau mwdlyd? Pobl ddiflas? Bywyd diflas?

Wel, os ydych chi, darllenwch ymlaen, ac o bosib, byddwch chi wedi newid eich meddwl.

Beth yw Clybiau Ffermwyr Ifanc?

Hwn ydy’r mudiad ieuenctid gwledig mwyaf yng Nghymru. Mae’r mudiad yn gyfrifol am redeg 12 ffederasiwn a 155 o glybiau ffermwyr ifanc dros Gymru gyfan. Yn wir, mae CFfI Cymru yn darparu cyfleoedd i dros 5,000 o aelodau. Mae’r mudiad yn annog yr aelodau i gael y gorau allan o CFfI drwy ddatblygu sgiliau newydd, ennill hyfforddiant gwerthfawr, teithio’r byd, helpu’r gymuned leol a gwneud ffrindiau am oes.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Dai Jones
Dyma Dai Jones yn annerch cyfarfod o’r mudiad

Pwy sy'n rhedeg y clybiau?

Mae’r clybiau’n cael eu rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 26 oed. Mae cadeirydd ac is-gadeirydd yn arwain pob clwb ac yn sicrhau bod rhaglenni gwaith diddorol ac amrywiol.

Llywydd anrhydeddus y clybiau eleni ydy’r cyflwynydd teledu Dai Jones (Llanilar). Mae Dai’n enwog am gyflwyno rhaglenni fel Siôn a Siân a Cefn Gwlad ar S4C.

Gweithgareddau’r Clybiau

Synnech chi pa mor amrywiol mae gweithgareddau’r clybiau.

Y Panto

Bob blwyddyn, bydd Clybiau Ffermwyr Ifainc ar hyd a lled y wlad yn newid neuaddau cymunedol a theatrau lleol i gestyll hudolus, coedwigoedd a rhywle dros yr enfys wrth baratoi ar gyfer eu Cystadlaethau Pantomeim a Dramâu Sirol.

Gwledd o Adloniant

Bydd dros 100 o glybiau’n brwydro am gyfle i gynrychioli eu Ffederasiwn Sirol yn Gwledd o Adloniant CFfI Cymru. Eleni roedd y wledd yn Theatr Brycheiniog ar y 15fed o Ebrill (Cymraeg) ac yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot ar y 18fed o Fawrth (Saesneg).

Pob blwyddyn, bydd y pantomeimiau a’r dramâu yn cael eu perfformio yn Gymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau berfformio ar lwyfan proffesiynol gyda’r cyfleusterau diweddaraf. Mae’r cystadleuaethau pantomeim a drama yn un esiampl o sut mae’r mudiad yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn rhywbeth na fydden nhw’n breuddwydio am ei wneud fel arfer.

Yr Eisteddfod

Bydd Eisteddfod CFfI Cymru yn cael ei noddi gan Ffederasiwn gwahanol bob blwyddyn. Y llynedd, roedd yr Eisteddfod yn Venue Cymru Llandudno, ym mis Tachwedd gyda Ffederasiwn Eryri yn noddi.

Yn ystod yr Eisteddfod, bydd dros 700 o aelodau, rhwng 10 a 26 oed yn dangos eu talentau amrywiol drwy gymryd rhan mewn bob math o gystadlaethau fel canu, llefaru, sgetsys a meim. Gan ei fod yr Eisteddfod yn ddwyieithog, bydd aelodau’n gallu cystadlu yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd cystadlu neu ymweld ag Eisteddfod CFfI Cymru yn rhoi blas o ddiwylliant Cymru yn yr unig Eisteddfod ddwyieithog o’i math yng Nghymru.

Fel ym mhob Eisteddfod, mae cystadlaethau’r Gadair a’r Goron. Bydd Cadair a Choron yn cael eu gwobrwyo am y stori fer a’r gerdd orau.

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu o’r Eisteddfod bob blwyddyn. Hefyd, bydd rhaglenni gyda’r nos yn cynnwys uchafbwyntiau’r cystadlu.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Eisteddfod

Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol Cymru ydy uchafbwynt y flwyddyn i lawer o aelodau’r CFfI. Bydd y rhaglen ar gyfer yr wythnos yn llawn cystadlaethau fel cneifio, dawnsio, barnu anifeiliaid a threfnu blodau yn ogystal â rhaglen lawn o adloniant.

Bydd Canolfan CFfI Cymru yn ganolbwynt i fwrlwm o weithgareddau yn ystod yr wythnos.

Mae’r wythnos hon hefyd yn un o'r achlysuron cymdeithasol mwyaf yng nghalendr y CFfI gyda dros 15,000 o bobl ifanc yn mynychu Pentref Ieuenctid CFfI Cymru.

Y Ffair Aeaf

Yn ystod y Ffair Aeaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, bydd aelodau’r CFfI yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau dros y ddau ddiwrnod, fel barnu anifeiliaid ac addurno coed Nadolig.

Diwrnod Chwaraeon

Bydd y diwrnod chwaraeon blynyddol yn gyfle i aelodau CFfI brofi eu ffitrwydd. Bydd y cystadlaethau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac yn cynnwys pob math o gampau o bêl-rwyd i rownderi.

Roedd Diwrnod Chwaraeon 2017 ar y 25ain o Fehefin ar gaeau campws Prifysgol Aberystwyth..

Siarad Cyhoeddus

Bydd y Diwrnod Siarad Cyhoeddus yn gyfle i aelodau ddangos eu sgiliau siarad mewn cystadlaethau fel dadlau, siarad ar ôl cinio a darllen.

Roedd Diwrnod Siarad Cyhoeddus 2018 ar Faes y Sioe Frenhinol Cymru ar y 24ain o Fawrth.

Felly, beth ydych chi’n meddwl nawr am y clybiau ffermwyr ifanc?
Beth am ymuno gyda’ch clwb lleol? Byddwch chi’n siŵr o gael croeso mawr a gwneud ffrindiau newydd.

 

yfc-wales.org.uk     CFfICymru

Clybiau Ffermwyr Ifanc Logo

 


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda'r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts