Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Dyma un o ardaloedd harddaf Cymru – traethau euraidd, golygfeydd godidog a digon o bethau i’w gweld ac i’w gwneud. Beth am i ni gymryd cip ar rai ohonyn nhw?
Parc Gwledig Pen-Bre
Heddiw, mae Parc Gwledig Pen-bre ar arfordir Sir Gâr yn un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru, ond dyw’r ardal ddim wedi bod yn barc godidog drwy gydol ei hanes. Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd e’n safle ar gyfer Ffatri Arfau‘r Goron. Roedd twyni tywod Pen-bre yn ddelfrydol ar gyfer y gwaith peryglus o gynhyrchu ffrwydron!
Wrth i’r ail ryfel byd agosáu, cafodd y ffatri ei hail-agor a’i hailadeiladu o dan yr enw ‘Royal Ordnance Factory’. Er ei bod hi’n bosibl gweld olion o’r hen weithfeydd yn y parc heddiw, mae’r lle wedi newid yn gyfan gwbl. Gyda’i wyth milltir o dywod euraidd, mae traeth baner glas Cefn Sidan yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Os ydych chi’n hoffi gweithgareddau egnïol, gallwch chi seiclo trwy goedwigoedd y parc neu ar y llwybr arfordirol cyfagos; sgïo ar y llethr sgïo sych neu brofi’r rhedfa tobogan hiraf yng Nghymru. I’r plant bach, mae parc antur, golff gwirion a rheilffordd fach.
Mae rhywbeth i bawb heddiw ym Mharc Gwledig Pen-bre!
Tref Llanelli- Tref y Sosban
Llysenw tref Llanelli yw Tinopolis achos ei hanes hir fel canolfan cynhyrchu tunplat. Yn Llanelli, mae:
- Cartref tîm rygbi byd-enwog Y Sgarlets. Awr fawr y tîm oedd curo Seland Newydd ar Barc y Strade ar Hydref 31ain 1972 o 9 pwynt i 3.
- Mae stadiwm newydd gyda’r clwb nawr – Parc y Sgarlets ar gyrion y dref.
- Plas Llanelly – un o’r adeiladau Sioraidd mwyaf pwysig yng Nghymru. Mae’r Plas wedi cael ei adnewyddu ac mae e nawr ar agor i’r cyhoedd.
Cafodd y plas ei adeiladu gan deulu’r Stepney yn 1714. Un o drigolion enwocaf y plas oedd ŵyr Syr John Stepney, sef John Chambers. Cafodd John ei eni yn y plas yn 1843. Fe oedd yn gyfrifol am ddyfeisio rheolau modern paffio, athletau a rhwyfo.
Ei dad, William Chambers oedd perchennog Crochenwaith Llanelly.
- Cartref yr olwyn sbâr fodern – y brodyr Davies o ardal Tŷ Isha, Lanelli ddyfeisiodd yr olwyn sbâr yn 1904. Gallwch chi weld yr olwynion gwreiddiol yn Amgueddfa Parc Howard Llanelli ac yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe.
- Bragdy Felin-foel – Y bragdy cyntaf ym Mhrydain a’r ail yn y byd i roi cwrw mewn caniau. Mae’n bosibl gweld y caniau gwreiddiol yn amgueddfa’r bragdy. Mae’r caniau gwreiddiol yn debyg iawn i rai Brasso.
- Y llwybr placiau glas hiraf yng Nghymru. Mae Treftadaeth Gymuned Llanelli wedi codi dros 50 o blaciau glas ers 2004 i goffáu pobl, adeiladau a digwyddiadau o bwys yn yr ardal.
- llanellich.org.uk/projects/blue-plaques
Llwybr y Mileniwm
Mae’r llwybr yn ymestyn am 13 milltir o Bont Llwchwr yn y dwyrain i bentref Pen-bre yn y gorllewin.
Ar y llwybr, mae Canolfan Gwlyptir Penclacwydd (yr unig un o’i math yng Nghymru), Clwb Golff Machynys, Traeth Llanelli, a Marina Porth Tywyn.
Ar bwys pentref Pwll ar Fehefin 18fed, 1928, glaniodd awyren Amelia Earhart – y fenyw gyntaf i hedfan dros Fôr yr Iwerydd.
Pentrefi Glan y Môr- cocos, traethau, cestyll a llawer mwy
Pentywyn
Cartref record cyflymder dros y tir – Malcolm Campbell oedd y person cyntaf i ddefnyddio Traeth Pentywyn i dorri’r record. Ar Fedi 25ain 1924, cyrhaeddodd ei gar ‘Blue Bird’ gyflymder o 146.16 m.y.a. (235.22 km/a). Cafodd y Cymro J.G. Parry Thomas ei ladd yn ceisio torri’r record yn 1927 yn teithio ar gyflymder o 170 m.y.a..
Talacharn
Mae sied ysgrifennu Dylan Thomas ar lan yr afon Taf ar agor i’r cyhoedd.
Mae castell godidog yma hefyd a sawl lle da i gael bwyd a diod fel tafarn ‘Browns’ ble gallwch chi weld lluniau o’r bardd enwog ar waliau’r bar.
Llansteffan
Mae castell nodedig Normanaidd o’r 12fed ganrif yn edrych i lawr dros y pentref hyfryd hwn. Mae’n werth cerdded i’r castell i weld y porthdy enfawr a phrofi’r golygfeydd gwych dros aber yr afon Tywi.
Glanyfferi
Am y tro cyntaf ers dros 60 o flynyddoedd, mae’n bosibl dal fferi er mwyn teithio rhwng Glanyfferi a phentref Llansteffan, ar ochr arall y bae. Mae’r daith ar y cwch modern hwn yn torri’r 16 milltir o daith mewn car i lawr i filltir yn unig.
Yn y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd yr hen fferi’n boblogaidd iawn. Roedd twristiaid yn dal y trên i Lanyfferi, yn cerdded i lawr i’r lanfa ac yn mwynhau’r daith fer ar draws y bae er mwyn treulio gwyliau yn Llansteffan. Glanyfferi yw canolfan casglu cocos Bae Caerfyrddin.
Capten y llong Glansteffan: Y capten fu’n achub ffoaduriaid (BBC Cymru Fyw)
Cydweli
Mae Castell Cydweli yn un o berlau’r ardal. Mae e mewn cyflwr arbennig o dda gyda’i borthdy enfawr.
Cafodd y Dywysoges Gwenllian ei lladd yma yn 1136 yn ymladd ar ran ei gŵr Gruffudd ap Rhys yn erbyn y Normaniaid.
Cath ddu ydy arfbais Cydweli – ond pam? Un o’r enwau cynnar ar Gydweli oedd Catwelli a’r gath ddu oedd yr anifail cyntaf i’w weld yn fyw yn dilyn y pla du! Stori ddiddorol – ond hollol ffug!!
Beth am orffen ein golwg ar Fae Caerfyrddin gyda’r pennill enwog hwn? Dwi’n siŵr bod pob un ohonoch chi wedi ei ganu rywbryd neu’i gilydd yn y gorffennol:
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Yn rhifo deg am ddimai Ond un ar ddeg i mi.
O dyna’r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
Yn rhifo deg am ddimai
Ond un ar ddeg i mi.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.