Dafydd Roberts Clybiau Ffermwyr Ifanc

Mudiad Arbennig: Clybiau Ffermwyr Ifanc: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Am beth ydych chi’n meddwl pan rydych chi’n clywed y geiriau Mudiad Y Ffermwyr Ifanc / Clybiau Ffermwyr Ifanc? Anifeiliad brwnt? Caeau mwdlyd? Pobl ddiflas? Bywyd diflas?

Wel, os ydych chi, darllenwch ymlaen, ac o bosib, byddwch chi wedi newid eich meddwl.

Beth yw Clybiau Ffermwyr Ifanc?

Hwn ydy’r mudiad ieuenctid [simple_tooltip content=’rural’]gwledig[/simple_tooltip] mwyaf yng Nghymru. Mae’r mudiad yn [simple_tooltip content=’cyfrifol = responsible’]gyfrifol[/simple_tooltip] am redeg 12 ffederasiwn a 155 o glybiau ffermwyr ifanc dros Gymru gyfan. Yn wir, mae CFfI Cymru yn [simple_tooltip content='(to) provide opperunities’]darparu cyfleoedd[/simple_tooltip] i dros 5,000 o aelodau. Mae’r mudiad yn [simple_tooltip content='(to) encourage’]annog[/simple_tooltip] yr aelodau i gael y gorau allan o CFfI drwy ddatblygu sgiliau newydd, ennill [simple_tooltip content=’valuable training’]hyfforddiant gwerthfawr[/simple_tooltip], teithio’r byd, helpu’r [simple_tooltip content=’cymuned = community’]gymuned[/simple_tooltip] leol a gwneud ffrindiau am oes.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Dai Jones
Dyma Dai Jones yn annerch cyfarfod o’r mudiad

Pwy sy’n rhedeg y clybiau?

Mae’r clybiau’n cael eu rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 26 oed. Mae [simple_tooltip content=’chairperson’]cadeirydd[/simple_tooltip] ac is-gadeirydd yn arwain pob clwb ac yn sicrhau bod rhaglenni gwaith diddorol ac [simple_tooltip content=’varied’]amrywiol[/simple_tooltip].

Llywydd anrhydeddus y clybiau eleni ydy’r [simple_tooltip content=’presenter’]cyflwynydd[/simple_tooltip] teledu Dai Jones (Llanilar). Mae Dai’n enwog am gyflwyno rhaglenni fel Siôn a Siân a Cefn Gwlad ar S4C.

Gweithgareddau’r Clybiau

[simple_tooltip content=’You would be amazed’]Synnech chi[/simple_tooltip] pa mor amrywiol mae gweithgareddau’r clybiau.

Y Panto

Bob blwyddyn, bydd Clybiau Ffermwyr Ifainc ar hyd a lled y wlad yn newid neuaddau cymunedol a theatrau lleol i gestyll [simple_tooltip content=’magical’]hudolus[/simple_tooltip], coedwigoedd a rhywle dros yr [simple_tooltip content=’rainbow’]enfys[/simple_tooltip] wrth baratoi ar gyfer eu Cystadlaethau Pantomeim a Dramâu Sirol.

Gwledd o Adloniant

Bydd dros 100 o glybiau’n [simple_tooltip content='(to) battle’]brwydro[/simple_tooltip] am gyfle i [simple_tooltip content=’cynrychioli = (to) represent’]gynrychioli[/simple_tooltip] eu Ffederasiwn Sirol yn [simple_tooltip content='(a) feast’]Gwledd[/simple_tooltip] o Adloniant CFfI Cymru. Eleni roedd y wledd yn Theatr Brycheiniog ar y 15fed o Ebrill (Cymraeg) ac yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot ar y 18fed o Fawrth (Saesneg).

Pob blwyddyn, bydd y pantomeimiau a’r dramâu yn cael eu perfformio yn Gymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau berfformio ar lwyfan proffesiynol gyda’r [simple_tooltip content=’facilities’]cyfleusterau[/simple_tooltip] diweddaraf. Mae’r cystadleuaethau pantomeim a drama yn un esiampl o sut mae’r mudiad yn [simple_tooltip content='(to) encourage’]annog[/simple_tooltip] pobl ifanc i gymryd rhan mewn rhywbeth na fydden nhw’n [simple_tooltip content=(to) dream’]breuddwydio[/simple_tooltip] am ei wneud fel arfer.

Yr Eisteddfod

Bydd Eisteddfod CFfI Cymru yn cael ei [simple_tooltip content='(to) sponsor’]noddi[/simple_tooltip] gan Ffederasiwn gwahanol bob blwyddyn. Y llynedd, roedd yr Eisteddfod yn Venue Cymru Llandudno, ym mis Tachwedd gyda Ffederasiwn Eryri yn noddi.

Yn ystod yr Eisteddfod, bydd dros 700 o aelodau, rhwng 10 a 26 oed yn dangos eu talentau [simple_tooltip content=’various’]amrywiol[/simple_tooltip] drwy gymryd rhan mewn bob math o gystadlaethau fel canu, llefaru, sgetsys a meim. Gan ei fod yr Eisteddfod yn [simple_tooltip content=’dwyieithog = bilingual’]ddwyieithog[/simple_tooltip], bydd aelodau’n gallu cystadlu yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd cystadlu neu [simple_tooltip content=’ymweld â = (to) visit’]ymweld ag[/simple_tooltip] Eisteddfod CFfI Cymru yn rhoi blas o ddiwylliant Cymru yn yr unig Eisteddfod ddwyieithog o’i math yng Nghymru.

Fel ym mhob Eisteddfod, mae cystadlaethau’r Gadair a’r Goron. Bydd Cadair a Choron yn cael eu gwobrwyo am y stori fer a’r gerdd orau.

Bydd BBC Radio Cymru yn [simple_tooltip content='(to) broadcast’]darlledu[/simple_tooltip] o’r Eisteddfod bob blwyddyn. Hefyd, bydd rhaglenni gyda’r nos yn cynnwys [simple_tooltip content=’highlights’]uchafbwyntiau[/simple_tooltip]’r cystadlu.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Eisteddfod

Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol Cymru ydy [simple_tooltip content='(a) highlight’]uchafbwynt[/simple_tooltip] y flwyddyn i lawer o aelodau’r CFfI. Bydd y rhaglen ar gyfer yr wythnos yn llawn cystadlaethau fel [simple_tooltip content='(to) shear’]cneifio[/simple_tooltip], dawnsio, [simple_tooltip content='(to) judge’]barnu[/simple_tooltip] anifeiliaid a [simple_tooltip content=’trefnu = (to) organise’]threfnu[/simple_tooltip] blodau yn ogystal â rhaglen lawn o adloniant.

Bydd Canolfan CFfI Cymru yn ganolbwynt i fwrlwm o weithgareddau yn ystod yr wythnos.

Mae’r wythnos hon hefyd yn un o’r achlysuron cymdeithasol mwyaf yng nghalendr y CFfI gyda dros 15,000 o bobl ifanc yn mynychu Pentref Ieuenctid CFfI Cymru.

Y Ffair Aeaf

Yn ystod y Ffair Aeaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, bydd aelodau’r CFfI yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau dros y ddau ddiwrnod, fel [simple_tooltip content='(to) judge’]barnu[/simple_tooltip] anifeiliaid ac [simple_tooltip content='(to) decorate’]addurno[/simple_tooltip] coed Nadolig.

Diwrnod Chwaraeon

Bydd y diwrnod chwaraeon blynyddol yn gyfle i aelodau CFfI [simple_tooltip content='(to) test’]brofi[/simple_tooltip] eu ffitrwydd. Bydd y cystadlaethau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac yn cynnwys pob math o gampau o bêl-rwyd i rownderi.

Roedd Diwrnod Chwaraeon 2017 ar y 25ain o Fehefin ar gaeau campws Prifysgol Aberystwyth..

Siarad Cyhoeddus

Bydd y Diwrnod Siarad [simple_tooltip content=’public’]Cyhoeddus[/simple_tooltip] yn gyfle i aelodau ddangos eu sgiliau siarad mewn cystadlaethau fel dadlau, siarad ar ôl cinio a darllen.

Roedd Diwrnod Siarad Cyhoeddus 2018 ar Faes y Sioe Frenhinol Cymru ar y 24ain o Fawrth.

Felly, beth ydych chi’n meddwl nawr am y clybiau ffermwyr ifanc?
Beth am ymuno gyda’ch clwb lleol? Byddwch chi’n siŵr o gael croeso mawr a gwneud ffrindiau newydd.

 

yfc-wales.org.uk     CFfICymru

Clybiau Ffermwyr Ifanc Logo

 


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.