Cyfres cyffrous o lyfrau ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg
An exciting series of books for adults who are learning Welsh
Mae'r prosiect Cyfres Amdani yn cael ei ariannu gan y Cyngor Llyfrau ac mae pedair gwasg (Atebol, CAA Cymru, Gomer & Y Lolfa) wedi cyhoeddi pump llyfr yr un. Mae cydweithio agos hefyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae'r llyfrau'n cydymffurfio gyda'r cwricwlwm newydd. Mae lefelau llyfrau'r prosiect yn cydymffurfio â lefelau dysgu ail iaith Ewrop.
The Amdani Series project is funded by the Welsh Books Council and four presses (Atebol, CAA Cymru, Gomer & Y Lolfa) have published five books each. They are also working closely with the National Centre for Learning Welsh, and the books correlate with the new curriculum. The levels of the books align with European levels of second language learning.
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Mae’n bwysig bod ein dysgwyr yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, er mwyn datblygu eu sgiliau a magu hyder. Bydd y gyfres fywiog hon o lyfrau deniadol yn adnodd gwerthfawr iawn, yn enwedig gan fod y llyfrau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau’r sector Dysgu Cymraeg. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â’r Cyngor Llyfrau a dy’n ni’n gobeithio bydd y fenter hon yn ffordd o ddenu dysgwyr at ddarllen llyfrau Cymraeg yn gyffredinol, ac ar hyd eu siwrnai i ddysgu’r iaith.
Meinir Wyn Edwards, Golygydd, Y Lolfa: Fel golygydd rhai o’r llyfrau yn y prosiect, mae wedi bod yn brofiad grêt cydweithio gyda gweisg eraill. Gobeithio bydd mwy o lyfrau hamdden i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi ar ôl i’r prosiect cychwynnol o 20 llyfr ddod i ben. Os ydy nifer y siaradwyr Cymraeg yn mynd i gyrraedd y miliwn erbyn 2050 mae angen denu mwy o bobl i ddysgu’r iaith ac mae llyfrau fel hyn yn un cam bach pwysig arall tuag at gyrraedd y nod.
Helen Prosser, Strategic Director, the National Centre for Learning Welsh: It’s important our learners have plenty of opportunities to practise using their Welsh outside the classroom, so they can develop their skills and gain confidence. This new series of entertaining books will be a fantastic resource, especially so as the books reflect the different language patterns taught on our courses. It’s been a pleasure working with the Welsh Books Council and we hope this initiative will help attract learners to reading Welsh books in general, and all along their language journey.
Meinir Wyn Edwards, Editor, Y Lolfa: As an editor for some of the books in the project, it has been a great experience to collaborate with other presses. Hopefully more leisure books for learners will be released after the first project of 20 books comes to an end. If the number of Welsh speakers is going to reach a million by 2050 then there is a need to attract more people to learn the language, and books like this are an important extra step to help reach the goal.
More insight and opinion... Behind the Scenes of Cyfres Amdani.
LlyfrauAmdani LlyfrauAmdani LlyfrauAmdani
Neidiwch i safon - Jump to level: Mynediad - Entry / Sylfaen - Foundation / Canolradd - Intermediate / Uwch - Higher
Mynediad - Entry
Author: Margaret Johnson
Welsh adaption of Big Hair Day
Adapted by: Meinir Wyn Edwards
twitter.com/meinir_wyn
Price: £4.99
Language: Very simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Y Lolfa
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784615567
Darllen mwy: Am y llyfr a chwis / Read more: About the book and quiz
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Gwales: Mae'r nofel yn sôn am ddiwrnod ym mywyd Sophia Reynolds, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae'n gorfod ymweld â swyddfa'r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae'n ffansïo'r plismon yno!
Gwales description: This is a humorous romance about one memorable day in the life of Sophia Reynolds, who is on her way to be a film extra, but a number of incidents prevent her from reaching the set. She has to visit the police office several times, but she doesn't mind, as she fancies the policeman there!
Meinir Wyn Edwards: Roedd hi’n bleser cael addasu nofel Lefel Mynediad hyd at Uned 8. Ond roedd hi’n her a hanner, gan nad o’n i’n gyfarwydd â’r eirfa a’r patrymau iaith sydd yn y cwriwlwm Dysgu Cymraeg newydd. Mae’r ymateb i’r llyfr yn y siopau wedi bod yn dda ac mae cyhoeddi llyfrau ysgafn i ddysgwyr Cymraeg yn hollbwysig.
Stori syml, gyda digon o hiwmor, am Sophia yw Am Ddiwrnod! (What a day!). Mae hi ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm gydag un o’i hoff actorion, Fabio Facelli. Ond mae sawl peth yn digwydd iddi ar ei ffordd yno ac mae’n rhaid iddi alw yng ngorsaf yr heddlu sawl gwaith. Ond does dim ots gan Sophia, oherwydd mae llygaid neis iawn gan y plismon! Mae’n braf cael stori garu i godi calon!
Meinir Wyn Edwards: It was a pleasure to adapt an Entry level novel up to Unit 8. But it was a challenge and a half, since I was not familiar with the language patterns used in the new Learn Welsh curriculum. The response to the book in shops has been good and publishing light books for learners is vital.
Am Ddiwrnod! is a simple story about Sophia, with lots of humour. She is on her way to be an extra in a film with one of her favourite actors, Fabio Facelli. But several things happen to her on her way there and she has to call into the police station several times. But Sophia doesn't mind, because the policeman has very nice eyes! It's nice to have a love story to lift the heart!
Helen Prosser:
Elfen gyffrous bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd. Mae hyn yn meddwl y bydd yn bosib darllen y llyfr cyntaf Am Ddiwrnod! ar ôl wyth uned o’r cwrs Mynediad.
An exciting element is that authors who have written the Entry and Foundation books have followed the same patterns as the new national courses. This means that it is possible to read the first book Am Ddiwrnod! after eight units of the Entry course.
Gangsters yn y Glaw
Author: Pegi Talfryn
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae Elsa Bowen yn gweithio fel ditectif preifat; fel arfer mae'n ymchwilio i dwyll yswiriant. Ond mae hynny'n newid ar y bore Mercher yma. Mae sylw Elsa ar siop lyfrau Cymraeg yn nhre Caernarfon lle mae pethau annisgwyl yn digwydd. Mae'r stori yn canolbwyntio ar Lilith Lewis, gangster lleol sydd yn achosi trafferth.
Gwales description: Elsa Bowen works as a private detective; usually she deals with insurance fraud. But that all changes on this Wednesday morning. Elsa's attention is drawn to the bookshop in Caernarfon where strange things are happening. The story focuses on Lilith Lewis, a local gangster who causes trouble.
Darllen mwy: Cyfweliad â Pegi Talfryn / Read more: Interview with Pegi Talfryn
Pass Y Sugnydd Llwch Darling
Authors: Lucy Owen, Rhodri Owen & Mari George
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae Rhodri yn gweithio fel cyflwynydd ar rhaglen i S4C. Mae Lucy yn darllen y Newyddion ar y BBC. Gabs yw eu mab. Mae'n benblwydd ar Gabs. Mae'r teulu yn penderfynu mynd am dro i Ardal Ogwr.
Gwales description: Rhodri works as a presenter on a S4C programme. Lucy reads news for the BBC. Gabs is their son. It's a birthday for Gabs. The family decides to go for a walk to Ogmore.
Stryd y Bont
Author: Manon Steffan Ros
twitter.com/ManonSteffanRos
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Cyhoeddwr: Atebol
Disgrifiad Gwales: Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy'n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy'n adnabod pwy, ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion mewn gwirionedd?
Gwales description: We follow the stories of people living on the same street in a Welsh town. What secrets do they have and do they really know their neighbours?
Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare
Author: Wynne Evans with Elin Meek
twitter.com/wynneevans
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a'i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg.
Gwales description: A very personal and honest history of Wynne and his family, his experiences as a famous tenor, and his efforts to learn Welsh as an adult.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Sylfaen / Foundation
Samsara
Awdures: Sonia Edwards
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Mae Sam yn gaeth yn y corff anghywir ac mae arno awydd i newid rhyw. Wrth ymdrin â'r pwnc sensitif hwn gwelir rhwystredigaeth y cymeriad ac ymateb y bobl sydd agosaf ato.
Gwales description: Sam feels confined in the wrong body and wishes to change sex. The book deals with a sensitive subject as we follow the main character's frustration and the response of those closest to him.
Teithio Drwy Hanes
Awdur: Jon Gower
twitter.com/JonGower1
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Yn y llyfr hwn mae Jon Gower yn mynd â'r darllenydd i 30 o leoliadau sy'n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae'n esbonio pam mae'r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e'n disgrifio eu harddwch a'u naws yn ei ffordd arbennig ei hun.
Gwales description: In this book, Jon Gower takes the reader to 30 different locations connected to Wales' history. He explains why these places are important to Welsh history and describes their beauty and atmosphere in his own special way.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Y Fawr a'r Fach - Straeon o'r Rhondda
Awdur: Siôn Tomos Owen
twitter.com/sionmun
Pris: £5.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â hanesion pentrefi’r Rhondda.
Gwales description: A volume of short stories and anecdotes about villages in the Rhondda valley.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Y Stryd
Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o One Day
Wedi'i addasu gan Mared Lewis
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622397
Exclusive author insight:
Interview with Mared Lewis.
Disgrifiad Gwales: Un noson. Un stryd. Ac mae gan bob person ym mhob tŷ broblem. Sut mae Nina yn mynd i ddweud ei newyddion wrth Dafydd? Pam mae Magi yn gorfod ailfeddwl am Xavier? Beth mae Sam yn mynd i wneud am y broblem fawr? Sut mae bywyd Huw yn mynd i newid am byth? Bydd un nos Wener yn newid popeth.
Gwales description: One Night. One street. And everyone in every house has a problem. How will Nina tell Dafydd the news? Why does Magi have to rethink her relationship with Xavier? What will Sam do about his big problem? How will Huw's life change forever? One Friday night will change everything.
Mared Lewis: Mae'r stori yn galw i mewn ac allan o fywydau'r bobol sy'n byw drws nesa' i'w gilydd ar un stryd arbennig mewn tref yng Ngogledd Cymru. Mae pawb yn byw drws nesa, ond mae ganddyn nhw fywydau diddorol, ac mae gen pawb ei broblem ei hun. Mae'n lyfr difyr, a dyma'r tro cyntaf i mi addasu llyfr gan rhywun arall. Roedd hi'n anodd i ddechrau peidio rhedeg i ffwrdd efo'r stori fy hun, ond fe ddaeth pethau'n haws.
Mared Lewis: The story pops in and out of the lives of people living next door to one another in a particular street in a town in North Wales. Everyone lives next door, but they lead interesting lives, and all of them have their own problems. It is an entertaining book, and that’s the first time I have adapted a book by someone else. At first it was difficult to stop myself running away with the story myself, but then things became easier.
Yn ei Gwsg
Awdures: Bethan Gwanas
twitter.com/BethanGwanas
Gydag arlunwaith y cartwnydd Huw Aaron
With illustrations by cartoonist Huw Aaron
twitter.com/huwaaron
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261307
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Atebol: Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'r llyfr yn dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? A fydd yr heddlu yn arestio'r person cywir?
Atebol description: Dafydd walks in his sleep, and one morning he wakes up to see blood everywhere. The book follows the bloody footprints out of the house and through the village and discovers Mrs Roberts and her zimmerframe on the roadside hit by a car. Who hit her? Will the police arrest the right person?
Bethan Gwanas: Mi wnes i wir fwynhau sgwennu ar gyfer dysgwyr eto, a braf oedd gallu sgwennu am rywun gwahanol iawn i Blodwen Jones! Ro’n i’n hoff iawn o gymeriad Dafydd, ac roedd y broses o ddod i’w nabod o wrth sgwennu amdano yn ddiddorol. Dim ond y syniad o rywun yn cerdded yn ei gwsg ac yn deffro i weld bod gwaed dros y lle, oedd yn fy mhen i ar y dechrau. Doedd gen i ddim syniad gwaed pwy oedd o nes i mi ddechrau sgwennu, ac ro’n i’n ‘darganfod’ y stori yn union fel bod yn ddarllenydd. Gobeithio y bydd y dysgwyr yn mwynhau gymaint ag y gwnes i fwynhau!
Bethan Gwanas: I really enjoyed writing for learners again, and it was nice to be able to write about someone different different to Blodwen Jones! I liked Dafydd's character, and the process of getting to know him when writing about him was interesting. The idea of someone was walking in sleep and waking up to see that there was blood over the place was all that was in my head at the beginning. I had no idea who the blood was from before I started writing, and I just discovered the story in the same way as the reader. I hope that the learners will enjoy it as much as I enjoyed!
Exclusive author insight:
Awdures ydw i- ond tiwtor Cymraeg i Oedolion hefyd!
Creu Blodwen Jones.
Canolradd / Intermediate
C'Mon Reff
Awdur: Nigel Owens
Wedi'i addasu gan: Elin Meek
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Addasiad o hunangofiant poblogaidd Nigel Owens, Hanner Amser. Mae'r testun wedi ei rannu'n benodau byrion, ac yn sôn am ei blentyndod, ei yrfa fel un o reffaris rygbi gorau'r byd, ei deithiau, ei deulu, ei iselder a'i rywioldeb.
Gwales description: An adaptation of Nigel Owen's autobiography Hanner Amser. The text is arranged into short chapters, mentions his childhood, his career as one of the best referees in the in the world, his travels, his family, his depression and his sexuality.
Croesi'r Bont
Awdur: Zoê Pettinger
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Straeon byrion sy’n llawn hiwmor, gan awdures sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun.
Gwales description: Short stories with a good pinch of humour, by an author who is a Welsh learner herself.
Zoe Pettinger: Idiomau a diarhebion ydy teitlau’r straeon i gyd. Maen nhw mor bwysig a maen nhw’n cyfoethogi’r iaith. Mae pum stori yn y gyfrol ac mae pob un yn ‘genre’ gwahanol. Ro’n i eisiau apelio at bawb a ro’n i eisiau cynnwys straeon am ddysgwyr eu hunain. Dyn ni i gyd yn rhannu hiwmor am y treigladau a gramadeg, a dyn ni i gyd yn deall yr anawsterau o fod yn ddysgwr Cymraeg!
Zoe Pettinger: All the short stories have titles which are idioms or proverbs. They are so important and they enrich the language. There are five stories in the volume and each one is in a different genre. I wanted to appeal to everyone and I wanted to include stories about learners themselves. We all take part in the humour about mutations and grammar, and we all understand the difficulties of being Welsh learners!
Exclusive author insight: Croesi'r Bont gyda Zoe Pettinger
Gêm Beryglus
Awdur: Richard MacAndrew
Addasiad Cymraeg o Man Hunt
Wedi'i addasu gan: Pegi Talfryn
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261291
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Gwales: Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae'r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.
Gwales description: The Brecon Beacons National Park is famous for its natural beauty and for its walking trails. However the place reaches the news for another reason; people are being killed in the area.
Adolygiad gan Sue Ward, Dysgwraig o Say Something in Welsh: Stori dditectif gyffrous. Oedd diddordeb gyda fi yn syth o’r frawddeg gyntaf. Doeddwn i ddim eisiau stopio darllen! Mae’r iaith yn addas ar gyfer dysgwyr, ac mae’r geirfa ddefnyddiol hefyd.
Review by Sue Ward, learner from Say Something in Welsh: An exciting detective story. I had an interest straight from the first sentewnce. I didn't want to stop reading! The language is suitable to learners, and the vocabulary is very useful.
Gwers Mewn Cariad
Awdures: Beca Brown
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Nofel ysgafn am ddyn sy'n syrthio mewn cariad â'i diwtor. Mae Liam yn newydd i ddosbarth Liz ym mis Medi. Ar yr wyneb mae'n hollol wahanol i'w diwtor Cymraeg. Er gwaetha'r gwahaniaeth oed mae carwriaeth yn datblygu rhwng y ddau, a Liz yn wynebu creisus tipyn mwy cymhleth na sut i gyflwyno treigladau...
Gwales description: A light-hearted novel about a man who falls in love with his tutor. Liam is new to Liz's class in September. On the face of it, he is completely different from his Welsh tutor. Despite the age difference, a love affair develops between the two, and Liz faces a crisis that is a little more complex than how to introduce mutations...
Exclusive author insight:
Ysgrifennu'r nofel i ddysgwyr, Gwers Mewn Cariad
Y Llythyr
Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o Two Lives
Wedi'i addasu gan: Dwynwen Teifi
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Ym mhentref bach Treddafydd yng Nghymoedd de Cymru, mae Megan a Huw yn dod yn gariadon. Ond a fydd eu cariad yn ddigon cryf i oroesi'r amgylchiadau? Mae marwolaeth, eu teuluoedd, a'r blynyddoedd ar wahân i gyd yn eu herbyn nhw.
Gwales description: In the small village of Tredafydd in the south Wales valleys, Megan and Huw become lovers. But will their love conquer the circumstances? Death, their families and years apart are all against them.
Uwch / Higher
Cawl a Storïau Eraill
Wedi'i golygu gan Rhiannon Thomas
Pris: £5.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784616168
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgridiad Gwales: Casgliad o straeon cyfoes gan rai o awduron gorau Cymru.
Gwales description: Contemporary short stories by some of Wales’ best authors.
Cofio Anghofio
Awdur: Alan Maley
Addasiad Cymraeg o Forget to Remember
Wedi'i addasu gan: Elin Meek
Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: CAA Cymru
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216825
Exclusive author insight:
Elin Meek explains how she translated Roald Dahl's works into Welsh.
Disgrifiad Gwales: Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a'i effaith ar eu bywydau.
Gwales description: The story of two sisters who try to come to terms with their mother's illness, and its effect on their own lives.
Elin Meek: Mae nifer o themâu yn y nofel hon: problem gofalu am bobl sy'n heneiddio; dementia; tensiynau rhwng dwy chwaer; tensiynau rhwng pâr priod; beth sy'n ein gwneud ni'n hapus mewn gwirionedd. Dyna ro'n i'n ei deimlo beth bynnag, wrth ddarllen ac addasu'r nofel. Dw i wedi troi'r teitl yn Gymraeg - fel ei fod yn dangos bod angen i ni gofio anghofio am rai pethau yn y gorffennol, er mwyn symud ymlaen i'r dyfodol. Dyna mae'r prif gymeriad yn ei wneud yn y diwedd, dw i'n meddwl.
Roedd y nofel Saesneg wedi ei lleoli yn Llundain, Marlow a Brighton, felly newidiais i'r rhain i: Llanelli, Y Bont-faen a'r Mwmbwls, ger Abertawe. Mae Sarah, y prif gymeriad yn y nofel Saesneg, yn canu 'All Things Bright and Beautiful', felly yn Gymraeg, mae hi'n canu 'Calon Lân'. Dw i'n mwynhau meddwl am ffyrdd o Gymreigio nofelau fel hyn fel bod y darllenydd yn credu yn y nofel fel un sydd wedi'i lleoli yng Nghymru.
Elin Meek: There are a number of themes in this novel: the problem of caring for older people; dementia; tensions between two sisters; tensions between a married pair; and what makes us truly happy. This is what I was feeling anyway, when reading and adapting the novel. I've swapped the title in Welsh- so that it shows we need to remember to forget about some things in the past, in order to move on to the future. This is what the main character does in the end, I think.
The English novel was set in London, Marlow and Brighton, so I changed these to: Llanelli, Cowbridge and Mumbles, near Swansea. Sarah, the main character in the English novel, sings 'All Things Bright and Beautiful', so in the Welsh, she sings 'Calon Lân'. I enjoy thinking about ways to Welshify novels like this so that the reader believes the novel is one that is set in Wales.
Cyffesion Saesnes yng Nghymru
Awdures: Sarah Reynolds
twitter.com/sarahyngnghymru
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261284
Exclusive author insight:
Mae Sarah yn cyflwyno ei llyfr cyntaf, Dysgu Byw.
Disgridiad Gwales: Mae Katie newydd symud i Gymru gyda'i gŵr newydd, Dylan. Yn ôl Dylan roedden nhw am fyw mewn tŷ enfawr, ond mae pethau'n mynd o chwith ac mae'n rhaid i'r ddau symud i fyw gyda'i rieni ef. Sut fydd teulu Dylan yn ymdopi gyda Saesnes hollol ddi-glem yn eu plith?
Gwales description: Katie has just moved to live in Wales with new husband Dylan. She had hope to live in a large house but things don't work out as she had anticipated, and she has to live with Dylan's parents. How will Dylan's family cope with a clumsy English woman?
Sarah Reynolds: Mae pob priodas yn antur, ond mae priodi rhywun ry' chi ddim ond wedi nabod ers mis yn antur a hanner! Mae Cyffesion Saesnes yng Nghymru yn dilyn hynt a helynt Katie, sydd wedi cwrdd â Dylan o dan yr haul ar ynys rhamantus Sbaenaidd… ond mae Katie yn dysgu yn go gyflym, bod ei gŵr newydd yn dod fel bargen pecyn. Os yw’r briodas i fod yn llwyddiannus, fe fydd yn rhaid i Katie hefyd dderbyn ei deulu, ei wlad a’i iaith.
Mae Katie yn glanio yng nghefn gwlad Sir Gâr heb air o Gymraeg, a dim clem am ddiwylliant Cymru. Dyw ei siwrne ddim yn hawdd ac yn y nofel gomedïaidd hon; rydw i wir yn gobeithio fe fydd dysgwyr yn chwerthin a gwingo at rhai o’r camgymeriadau mae Katie yn gwneud ar hyd ei siwrne. Mae hon yn stori gariad nid yn unig rhwng Katie a Dylan ond hefyd rhwng Katie a Chymru.
Sarah Reynolds: Every wedding is an adventure, but marrying someone that you have only known for a month is an adventure and a half! Cyffesion Saesnes yng Nghymru follows the troubles of Katie, who has met Dylan under the sun of a romantic Spanish island... but Katie learns quickly that her new husband comes as a package. If the marriage is to be successful, Katie will have to accept his family, his country and his language.
Katie lands in rural Carmarthenshire without a word of Welsh, and not a clue of Welsh culture. Her journey isn't easy and this is a comic novel; I hope that every learner laughs and winces at some of the mistakes that Katie makes on her journey. This is a love story not only between Katie and Dylan but between Katie and Wales.
Llwybrau Cul
Awdur: Mared Lewis
Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae'r nofel yn agor ar olygfa damwain liw nos ar ffordd gul yng nghefn gwlad Cymru. Mae tri char wedi cael eu heffeithio. Ond beth sy'n plethu'r tri gyrrwr, a sut cyrhaeddon nhw'r sefyllfa hon?
Gwales description: There has been a three car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the driver's of these vehicles, and how did they end up here?
Exclusive author insight: Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws & Y Stryd.
Trwy'r Ffenestri
Awdur: Frank Brennan
Addasiad Cymraeg o Windows of the Mind
Wedi'i addasu gan: Manon Steffan Ros
twitter.com/ManonSteffanRos
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Atebol
Disgrifiad Gwales: Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siŵr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.
Gwales description: A collection of diverse short stories which will be sure to make you think. Get to know complex characters, remote locations, and stories that will stay in your mind for a long time.
Neidiwch i safon - Jump to level: Mynediad - Entry / Sylfaen - Foundation / Canolradd - Intermediate / Uwch - Higher
LlyfrauAmdani LlyfrauAmdani LlyfrauAmdani
aber.ac.uk/cy/caa atebol.com gomer.co.uk ylolfa.com