Newyddion i Ddysgwyr Newydd

Newyddion i Ddysgwyr Newydd

Yn Dysgwyr/Newyddion

Yma, mae Peter Mescall yn ysgrifennu a Huw Rowlands yn adrodd newyddion i ddysgwyr newydd yn Gymraeg (eithaf) syml. Mae’n cael eu cyhoeddi ar benwythnosau.

Here, Peter Mescall writes and Huw Rowlands reads the news in (quite) simple Welsh. It is published on weekends. Words that are underlined can be clicked or pressed to show an English translation.

Newyddion i Ddysgwyr Newydd ddydd Sul 27/10

Rygbi
Yn y rownd cyn derfynol, collodd Cymru eu gêm yn erbyn De Affrica a mynd allan o Gwpan Rygbi’r Byd. Bydd De Affrica yn wynebu Lloegr yn y rownd derfynol ond y diwrnod cynt mi fydd gan Gymru un gêm yn weddill yn erbyn Seland Newydd am y [simple_tooltip content=’third place’]trydydd safle[/simple_tooltip].

Maes Awyr Caerdydd
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi [simple_tooltip content='(to) demand/insist’]mynnu[/simple_tooltip] nad ydy’r llywodraeth yn cynllunio i werthu Maes Awyr Caerdydd. Roedd [simple_tooltip content=’The Welsh Conservaties’]y Ceidwadwyr Cymreig[/simple_tooltip] wedi awgrymu y dylai’r maes awyr gael ei ddychwelyd i’r sector preifat ar ôl i weinidogion gytuno i fenthyg swm ychwanegol o £21.2m.

Etholiad Cyffredinol
Mae Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n [simple_tooltip content='(to) welcome’]croesawu[/simple_tooltip] cynllun Boris Johnson i gynnal [simple_tooltip content=’general election’]etholiad cyffredinol[/simple_tooltip]. Ond mi wnaethon nhw ychwanegu eu bod nhw angen manylion am estyniad posib i’r broses Brexit cyn gwthio am etholiad cyn y Nadolig.

Terfysg Yr Wyddgrug
Mae Theatr Clwyd wedi ail-greu terfysg a ddigwyddodd yn yr Wyddgrug mewn perfformiad byw ar strydoedd y dref. 150 o flynyddoedd yn ôl, bu farw pedwar person yng nghanol terfysg a ddechreuodd ar ôl i berchennog pwll glo, yn ardal Coed-llai gyflogi [simple_tooltip content=’miners’]glowyr[/simple_tooltip] o Loegr a lleihau cyflogau glowyr lleol.


Newyddion i Ddysgwyr Newydd ddydd Sul 20/10

Rygbi
Yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd yn Oita, Siapan, roedd rhaid i Gymru frwydro yn ôl i sicrhau buddugoliaeth dros Ffrainc. Ar ddechrau’r ail hanner roedd ‘na gerdyn coch i [simple_tooltip content=’clo = (a) lock’]glo[/simple_tooltip] Ffrainc, Vahaamahina ar ôl iddo fo roi [simple_tooltip content='(a) elbow’]penelin[/simple_tooltip] i wyneb [simple_tooltip content=’wing forward’]blaen asgellwr[/simple_tooltip] Aaron Wainwright, ond roedd rhaid i Gymru aros tan yr wyth munud olaf cyn iddyn nhw sgorio’r cais i ennill y gêm. Bydd Cymru yn wynebu De Affrica yn y rownd gynderfynol ddydd Sadwrn.

Swyddi
Mae cwmni [simple_tooltip content='(to) produce’]cynhyrchu[/simple_tooltip] peis wedi cyhoeddi eu bod nhw’n mynd i greu 110 o swyddi newydd ym Medwas, ger Caerffili. Mae Peter’s Food Service yn mynd i ychwanegu shifftiau eraill ac mae angen iddyn nhw recriwtio rhagor o staff. Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi siarad â rhai o’r gweithwyr a gollodd eu swyddi ar ôl i’r wmni dodrefn Triumph fynd i’r wal yn gynharach yn y mis.

Gwleidyddiaeth
Mi wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford alw ar Boris Johnson i “[simple_tooltip content=’to obey the law’]ufuddhau i’r gyfraith[/simple_tooltip]”. Yn ôl Mr Drakeford, dylai Mr Johnson fod wedi gofyn am estyniad mewn llythyr er mwyn atal Brexit heb gytundeb. Ond mi wnaeth Mr Johnson anfon y llythyr at yr Undeb Ewropeaidd heb ei [simple_tooltip content=’llofnod = (a) signature’]lofnod[/simple_tooltip] ac anfon llythyr arall sy’n mynegi ei fod o isio osgoi rhagor o [simple_tooltip content=’delays’]oediadau[/simple_tooltip]. Mae Llywodraeth San Steffan yn cynllunio i gynnal pleidlais arall er mwyn cytuno gadael yr Undeb cyn diwedd y mis.


Newyddion i Ddysgwyr Newydd ddydd Sul 13/10

Rygbi
Yn rygbi Cwpan y Byd, mi wnaeth Cymru orffen [simple_tooltip content=’on the top’]ar frig[/simple_tooltip] eu grŵp ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Ffiji ac Wrwgwái. Bydd eu gem nesaf yn erbyn Ffrainc yn rownd [simple_tooltip content=’the last eight’]yr wyth olaf[/simple_tooltip]. Sut bynnag, mi wnaeth [simple_tooltip content=’arrival’]dyfodiad[/simple_tooltip] teiffŵn Hagibis arwain at ganslo gemau rhwng Lloegr a Ffrainc a Seland Newydd a’r Eidal.

Pêl-droed
Mi wnaeth Cymru sicrhau pwynt pwysig oddi cartref yn erbyn Slofacia. Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw’n cadw’r gobaith o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn fyw.

Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu un o’r fersiynau gwreiddiol o’r darlun enwog Salem. Yn wreiddiol y bwriad oedd cynnig y darlun mewn [simple_tooltip content=’auction’]arwerthiant[/simple_tooltip]. Dywedodd arwerthwyr Rogers Jones & Co fod perchnogion y darlun yn falch bod Salem yn aros yn rhan o [simple_tooltip content=’casgliad cyhoeddus = (a) public collection’]gasgliad cyhoeddus[/simple_tooltip].

Pentre Cythraul
Yn New Brighton, Sir y Fflint mae ymdrech i gael [simple_tooltip content=’recognition’]cydnabyddiaeth[/simple_tooltip] i ffurf Gymraeg ar enw’r pentref. Yn ôl rhai sy’n byw yn y pentref, Pentre Cythraul ydy’r enw gwreiddiol ac mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud y byddan nhw’n adolygu enwau lleoedd yn y sir cyn hir. Ond mae yna rai / gryn amheon gyda golwg ar a ddylai’r enw fod “Pentre Catherall, ar ôl y [simple_tooltip content=’industrialist’]diwydiannwr[/simple_tooltip] Josiah Catherall neu Pentre Cythrel”.


Newyddion i Ddysgwyr Newydd ddydd Sul 06/10

Annibyniaeth
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud y bydd refferendwm yn cael ei gynnal ar [simple_tooltip content=’indepedence’]annibyniaeth[/simple_tooltip] Cymru erbyn 2030. Roedd Mr Price yn siarad â BBC Cymru a dywedodd y bydd refferendwm yn bendant yn ystod y “[simple_tooltip content=’decade’]degawd[/simple_tooltip] nesaf”. Ychwanegodd ei fod o’n disgwyl “na fydd y DU ry’n ni’n gyfarwydd â hi yn bodoli ymhen blynyddoedd”.

Brecsit
Yn San Steffan, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi galw cynnig Brecsit newydd y Prif Weinidog, Boris Johnson yn “ffantasi”. Mae’r cynllun newydd yn cynnwys cael gwared ar y ‘backstop’, y polisi [simple_tooltip content=’insurance’]yswiriant[/simple_tooltip] i sicrhau nad oes ffin galed rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig. Ond yn ôl Mr Johnson oedd yn siarad yng [simple_tooltip content=’cynhadledd = conference’]nghynhadledd[/simple_tooltip] y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth, heb y cynllun newydd, yr unig ddewis sydd ar ôl fyddai dim [simple_tooltip content=’agreement / contract’]cytundeb[/simple_tooltip].

Eisteddfod yr Urdd
Ymgasglodd tua 1,600 o bobl yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn er mwyn [simple_tooltip content='(to) journey’]ymdeithio[/simple_tooltip] o Ysgol Uwchradd Prestatyn i [simple_tooltip content=’croesawu = (to) welcome’]groesawu[/simple_tooltip] Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2020. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Fferm Kilford ger [simple_tooltip content=’Denbeigh’]Dinbych[/simple_tooltip] rhwng 25 a 20 Mai flwyddyn nesaf.

Rygbi
Mae Cymru wedi dechrau ei hymgyrch yng Nghwpan y Byd efo [simple_tooltip content=’victories’]buddugoliaethau[/simple_tooltip] dros Georgia ac Awstralia. Mae’r [simple_tooltip content=’results’]canlyniadau[/simple_tooltip]’n golygu bod Cymru ar frig eu grŵp. Bydd y gêm nesaf yn erbyn Fiji.


 


Ymwadiad
Ysgrifennwyd rhai o’r erthyglau ‘Dysgwyr’ gan bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu Cymraeg. Efallai y dewch ar draws rhai camgymeriadau ieithyddol yn y Gymraeg o bryd i’w gilydd.

Disclaimer
Some of the ‘Learner’ articles have been written by those who are still learning Welsh. You may therefore come across some linguistic errors in the Welsh from time to time.


Ask Dr Gramadeg

Geirfa Thematig