Dafydd Roberts Traddodiadau’r Nadolig

Traddodiadau’r Nadolig yng Nghymru: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

 

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Canu Plygain

PlygainMae rhai o draddodiadau Gŵyl y Nadolig yng Nghymru wedi gorffen, ond mae eraill yn dal eu tir o hyd. Un o’r rhain yw gwasanaeth y Plygain sy’n gwbl unigryw i Gymru ac dal i gael ei gynnal mewn rhai rhannau o Gymru.

Gwasanaeth cwbl Gymreig yw’r Plygain sy’n cael ei gynnal mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore’r Nadolig neu ar noswyl Nadolig. Bydd dynion a merched yn canu carolau hynafoldigyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae’r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau’r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru.

Amser maith yn ôl, roedd Y Plygain yn cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd yn y plwyf dros gyfnod y Nadolig a hyd at yr Hen Galan, Ionawr 13eg. Roedd gwahaniaeth yn y mathau o garolau mewn plygeiniau dros Nadolig yn dibynnu pryd bydden nhw’n cael eu cynnal. Amser y Nadolig, Rhagfyr 25ain, genedigaeth Crist oedd pwnc y carolau. Yn nes at yr hen Nadolig ar Ionawr 6ed (Gŵyl Ystwyll), byddai’n carolau yn son am ddyfodiad y doethion a’r seren ŵyl.

Yn draddodiadol, byddai gwasanaeth y plygain rhwng tri a chwech o’r gloch y bore. Felly byddai’r gwasanaeth yn dechrau mewn tywyllwch ac yn gorffen yng ngolau dydd. Byddai’r eglwys neu’r capel yn cael ei addurno â chanhwyllau.

Roedd gwreiddiau gwasanaeth y plygain yn yr eglwys. Mae’r gair Plygain yn dod o’r gair Lladin pullicantio sy’n golygu ‘caniad y ceiliog’. Cafodd y traddodiad ei fabwysiadu gan y capel yn ddiweddarach.

Yn yr hen amser, tua’r 17eg ganrif, dim ond y dynion oedd yn mynd i’r capel i ganu tra byddai’r merched yn aros gartref i goginio a gwneud cyflaith (taffi triog). Ond erbyn y 19eg ganrif byddai’r merched a’r plant yn cael mynd i’r Plygain hefyd.

Gwasanaeth Plygain
Gwasanaeth Plygain yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog

Er bod y Plygain yn draddodiad sy’n perthyn i Gymru gyfan, mae’r traddodiad yn para’n gryfaf yn ardal Sir Drefaldwyn, mewn pentrefi a threfi fel Mallwyd, Llanerfyl, Llansilin, Pontrobert, Llanllyfni, Llanymawddwy, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Lloc, Llangynog, Llanfihangel yng Ngwynfa ac hyd yn oed dros y ffin yn Swydd Amwythig yn nhref Croesoswallt a phentrefi Cefnyblodwel a Llanyblodwel.

Y newyddion da yw bod y plygain yn mwynhau adfywiad mewn ardaloedd eraill yn yr unfed ganrif ar hugain. Gwyliwch y clip yma o hanes y traddodiad:

Geiriau un o’r carolau Plygain mwya adnabyddus –  Ar gyfer heddiw’r bore

Ar gyfer heddiw’r bore’n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Iesse’n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria ‘n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria’n faban bach.

Caed bywiol ddŵfr Eseciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel, ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
‘R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a’r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Meth’lem Jiwda,ar lin Mair.

Diosgodd Crist o’i goron,o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog, o’i wirfodd.

Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt,
I ‘mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.

Gwneud cyflaith

Byddai nosweithiau gwneud cyflaith yn achlysur cymdeithasol gyda’r taffi weithiau’n cael ei wneud ar garreg yr aelwyd ac yn cael ei ‘dynnu’ i’w siâp nodweddiadol.

Yn draddodiadol roedd gwneud cyflaith yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain.

Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o’r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren fyddai’n cael ei ffurfio.

Mae’r clip yma o Mrs Greta Jones a’i brawd Herbert Jones, Y Parc, Y Bala, yn gwneud cyflaith adeg y Nadolig yn wych:

Greta Jones
Greta Jones

Nos Ystwyll

Y Fari Lwyd

Y Fari LwydArferiad hynod o ryfedd sy’n cael ei gysylltu â’r Calan a chyfnod y Nadolig yw’r Fari Lwyd.

Penglog ceffyl wedi’i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari. Byddai’r penglog yn cael ei roi ar bolyn ac felly, byddai’r person oedd o dan y lliain yn gallu agor a chau’r geg.

Byddai grŵp o ddynion yn arwain y Fari Lwyd ac yn ymweld â phob tŷ neu dafarn yn yr ardal gan ganu penillion hwyliog yn gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb y penillion cyn penderfynu gadael y grŵp i mewn. Gallai’r canu (neu’r pwnco) yma barhau am dipyn o amser a byddai’n anlwcus gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd.

Yn y tŷ wedyn byddai’r grŵp yn diddanu‘r teulu ac yn derbyn bwyd a diod fel anrheg. Yn anffodus, dirywiodd yn yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif. Er bod traddodiadau’r Fari yn digwydd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae’n cael ei chysylltu’n arbennig â Nos Ystwyll, Ionawr 6ed.

Ond o ble mae’r traddodiad yn dod? Wel, mae gwreiddiau’r Fari, sy’n gyffredin i wledydd eraill hefyd, yn ddwfn mewn arferion hynafol o’r cyfnod cyn-Gristnogol pan ddaeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Mae’n bosibl hefyd bod y traddodiad yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon (Duwies y Ceffylau) yn y Mabinogi neu’n gysylltiedig â seremonïau ffrwythlondeb.

Y Fari Lwyd

Yr Hendy
Arwydd tafarn Yr Hendy yn Llangynwyd
sy’n dangos traddodiad y Fari Lwyd

Roedd penglog y ceffyl yn cael ei baratoi yn ofalus at yr achlysur drwy gael ei gladdu mewn calch am dri mis cyn cael ei sgwrio‘n lân. Wedi hynny, byddai’n cael ei wisgo a’i addurno.

Mae pentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn cael ei gysylltu’n arbennig â’r Fari Lwyd. Yn nhafarn Yr hendy, Llangynwyd, mae penglog Y Fari Lwyd wreiddiol ar wal y dafarn. Yn anffodus, mae tafarn Yr Hendy, y dafarn ail hynaf yng Nghymru, wedi cau ers dwy flynedd ac mae’r adeilad ar werth.

Gwyliwch y ffilm yma o dri o ddynion lleol, un wedi ei wisgo fel y Fari Lwyd, yn ymweld â ffermdy yn yr ardal. Maen nhw’n canu penillion ac yna mae’r ffermwr yn ateb, cyn cael eu gadael i mewn i fwynhau bwyd a diod. Ar ddiwedd y ffilm mae un o’r dynion yn adrodd ychydig o hanes traddodiad y Fari yn yr ardal yn nhafodiaith hyfryd Llangynwyd.

Parti tu allan
1) Wel dyma ni’n dwad, gyfeillion diniwad, x2
I ofyn am gennad x3
I ganu

2) Os na chawn ni gennad, Cewch glywed ar ganiad x2
Beth fydd ein dymuniad x3
Nos heno

3) Mae Mari Lwyd yma, a sêr a ribanau x2
Yn werth i roi golau x3
Nos heno

Parti tu fewn
4) O, cerwch ar gered, mae’ch ffordd yn agored x2
Mae’r ffordd yn agoredx3
Nos heno

Tu allan
5) Nid ewn ni ar gered, heb dorri ein syched, x2
Heb dorri ein sychedx3
Nos heno

Tu fewn
6) Rhowch glywad, wyr doethion, pa faint y’ch o ddynion x2
A beth yn wych union x3
Yw’ch enwau

Tu allan
7) Rhyw griw o wyr hawddgar, rhai gorau y ddaear x2
Yn canu mewn gwir air x3
Am gwrw

Tu fewn
8) Rhowch glywad, wyr difrad, o ble rych chi’n dwad x2
A beth yw’ch gofyniad x3
Gaf enwi

Tu allan
9) Mi ddown ni o Lundain, ‘fo Mari yn arwain, x2
Mi ganwn yn unsain x3
Am gwrwY Fari Lwyd

Tu fewn
10) O, cenwch eich nodau, Ac felly wnawn ninnau x2
A’r sawl a fo orau x3
Gaiff gwrw

Tu allan
11) Mi ganwn am wythnos, ac hefyd bythefnos x2
A mis os bydd achos x3
Baidd i chwi.

Tu fewn
12) Mi ganwn am flwyddyn, os cawn Dduw i’n canlyn x2
Heb ofni un gelyn x3
Y gwyliau

Tu allan
13) O tynnwch y bollta, agorwch y drysa, x2
I fois y cwrseila x3
Rhowch groeso

Tu fewn
14) Mi dynnwn y bollta, agorwn y drysa, x2
I fois y cwrseila x3
Mae croeso

Mae rhai o benglogau Y Fari Lwyd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Gwyliwch atgyfodiad o’r traddodiad yn nhafarn y Brit, Cwmafan

Hela’r dryw

Dafydd Roberts Nadolig DrywMae gŵyl y Nadolig yn dod i ben ar Nos Ystwyll, Ionawr 6ed, ddeuddeng niwrnod ar ôl dydd Nadolig. Ar y diwrnod hwn ers talwm byddai pobl yn arfer hela’r dryw, aderyn bach, cyflym â chân uchel. Mae’r dryw yn mesur tua phedair modfedd mewn hyd ac yn pwyso yr un peth â darn punt. Byddai dryw yn cael ei ladd, ei addurno a’i roi mewn tŷ bychan.

Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo‘r tŷ o gwmpas y pentref. Byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddyn nhw am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.

Wrth gwrs mae’r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro a does dim llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru y dyddiau yma.

Yn ôl traddodiad hefyd, mae’n rhaid sicrhau eich bod chi’n tynnu’r goeden Nadolig a’r holl addurniadau ar y diwrnod hwn neu fe fydd anlwc yn dod i chi weddill y flwyddyn.

Yr erthygla nesaf… Traddodiadau’r Calan…


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts