Dafydd Roberts- Llanelli Community Heritage

Treftadaeth Cymuned Llanelli / Llanelli Community Heritage: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Dwi’n falch iawn o gyhoeddi dechrau cyfres o erthyglau pythefnosol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg. Yn ystod 2018 ac yn gynnar ym 2019, bydd Dafydd yn eich arwain chi ar daith sy’n ymweld â broydd, sefydliadau, gweithleoedd a llwyddiannau Cymru, yn ogystal â gwibdaith i Batagonia. Ar ddiwedd pob erthygl, bydd e’n awgrymu ymarfer i’ch helpu chi i ddysgu mwy.

I’m very excited to announce the start of a fortnightly series of themed articles for learners at the Uwch level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word. Through 2018 and early 2019 Dafydd will take you on a tour of areas, organisations, workplaces and achievements of Wales, plus an excursion to Patagonia. The end of each article also includes a suggested exercise to help you study.

Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.


Tybed ydych chi’n gwybod ym mha ardal:

  • Cafodd yr olwyn sbâr gyntaf i geir ei dyfeisio
  • Cafodd rheolau rhai o’r campau yn y gemau Olympaidd eu sefydlu
  • Cafodd cwrw ei roi mewn caniau am y tro cyntaf ym Mhrydain
  • Cafodd y cerddor a gyfansoddodd rhai o ganeuon Cliff Richard ei eni

Wel, yr ateb ydy ardal Llanelli.

Y mudiad sy’n gyfrifol am ddarganfod a chofio’r ffeithiau diddorol yma ydy ‘Treftadaeth Cymuned Llanelli’.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ar Dydd Gŵyl Dewi 2004. Y darlledwr Huw Edwards yw llywydd y mudiad. Ers ei sefydlu, mae’r mudiad wedi gosod dros bum deg o blaciau glas yn cofnodi adeiladau, digwyddiadau a phobl o bwys. Yn wir, diolch i’r mudiad, mae gyda Llanelli y llwybr placiau glas mwyaf yng Nghymru.

Dyma hanes rhai o’r placiau mwyaf diddorol:

Pobl

  1. Gareth Hughes – actor ffilmiau di-sain a seren Broadway cyntaf Cymru
  2. Ronnie Cass – cerddor proffesiynol. Ronnie gyfansoddodd llawer o’r gerddoriaeth ar gyfer ffilm enwog Cliff Richard ‘Summer Holiday’. Cliff yw noddwr y plac.
  3. Dorothy Squires – cantores enwog a chyn-wraig i’r actor James Bond, Roger Moore (The Saint a James Bond). Roger yw noddwr y plac. Cafodd y plac ei ddardorchuddio gan yr actores Ruth Madoc. Hi chwaraeodd ran Dorothy yn y ddrama o’i bywyd ‘Say It With Roses’.
  4. John Chambers. Mab i William Chambers oedd yn perchennog grochendy oedd John. Cafodd John ei eni ym Mhlasty Llanelly. Fe oedd yn gyfrifol am ddyfeisio rheolau modern athletau, rhwyfo a phaffio. Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan y paffiwr enwog Colin Jones ym mis Tachwedd, 2014.

Digwyddiadau

  1. Terfysgoedd Ardal Llanelli oedd canolbwynt rhai o ddigwyddiadau pwysicaf Terfysgoedd ‘Beca. Mae placiau ym mhentref Pum Heol i gofio David Davies a John Jones, sef ‘Dai’r Cantwr’ a ‘Shoni Sgubor Fawr’ sef dau o’r arweinwyr mwyaf y terfysgoedd. Defnyddion nhw ac eraill dafarndai Pum Heol fel eu mannau cyfarfod, Eu pencadlys oedd Tafarn y Stag & Pheasant.
  2. Streic y Rheilffyrdd 1911. Cafodd dau wyliedydd diniwed, sef Jack John a Leonard Worsell, eu lladd gan filwyr y llywodraeth ar Awst 19eg, 1911. Cawson nhw eu claddu ym Mynwent y Box yn Llanelli. Gallwch chi weld eu beddau hyd heddiw.
  3. Glaniad y fenyw gyntaf i hedfan dros for yr Iwerydd sef Amelia Earhart, ym mhentref Pwll ger Llanelli, Mehefin 18, 1928.

Adeiladau / Lleoedd

  1. Plas Llanelly – enghraifft ardderchog o blasty Sioraidd. Cafodd y plasty ei adeiladau yn 1714 gan deulu’r Stepney. Roedd y Plas yn gartref i deulu’r Chambers yn y 19eg ganrif. Mae sôn bod ysbryd un o forwynion y Plas, sef Mira Turner, yn cerdded y coridorau hyd heddiw!!! Cafodd y rhaglen deledu ‘Most Haunted’ ei ffilmio yn y Plas yn 2006. (http://www.llanelly-house.org.uk/cy/tours-w/)
  2. Bragdy Felin-foel – y bragdy cyntaf ym Mhrydain a’r ail yn y byd i roi cwrw mewn caniau yn 1935.
  3. Tŷ Highfield – cartref y brodyr Thomas a Walter Davies, dyfeiswyr yr olwyn sbâr cyntaf yn y byd ar gyfer ceir yn 1904.
  4. Pentrefi ‘coll’ Machynys a Bwlch-y-gwynt. Cafodd y ddau bentref yma, ar arfordir tref Llanelli, eu dymchwel yn 1971 fel rhan o ‘gynlluniau adnewyddu’ tref Llanelli.
  5. Rheilffordd Sir Gaerfyrddin – y rheilffordd weithredol gyhoeddus gynharaf ym Mhrydain yn 1801. Cafodd y cerbydau eu tynnu gan geffylau ar y dechrau.

Noddwyr

Mae’r placiau’n cael eu noddi gan bobl leol, pobl sy â chysylltiad â gwrthrych y plac, cymdeithasau a busnesau lleol a chyngor y dref neu’r cyngor gwledig.

Yn ogystal â’r placiau, mae’r mudiad wedi gosod 14 o baneli deongliadol o gwmpas yr ardal. Gallwch chi ddilyn y llwybr ar y paneli er mwyn darganfod ffeithiau diddorol am hanes yr ardal.

Ar bob un o’r paneli ac ar rai o’r placiau, mae cod QR. Gallwch sganio’r cod er mwyn cael mwy o wybodaeth am gynnwys y plac neu’r panel.

Mae’r mudiad hefyd wedi cyhoeddi dau lyfr sef, ‘Placiau Glas Llanelli Cyfrol 1’ a ‘Llwybr Canol y Dref’

Os oes diddordeb gyda chi, gallwch chi ymweld â gwefan y mudiad sef: llanellich.org.uk

Tybed oes mudiad hanes tebyg yn eich ardal chi? Os oes, beth am i chi ymuno a darganfod mwy am hanes eich ardal leol chi?

Cliff Richard gyda phlac Ronnie Cass
Cliff Richard gyda phlac Ronnie Cass
Ruth Madoc gyda phlac Dorothy Squires
Ruth Madoc gyda phlac Dorothy Squires
Plac Gareth Hughes
Plac Gareth Hughes
Plac John Chambers
Plac John Chambers
Cwrw Felin Foel
Cwrw Felin Foel
Huw Edwards
Huw Edwards
Olwyn Sbar Stepney
Olwyn Sbar Stepney

Treftadaeth Cymuned Llanelli / Llanelli Community Heritage- llanellich.org.uk


Ymarfer Gramadeg – Yr Amhersonol

Sylwch bob brawddeg sy’n cynnwys:

Cafodd …. ei…..

Copiwch y brawddegau ac ysgrifennwch yr ystyr yn Saesneg.

Creuwch frawddegau tebyg eich hunain am bobl, lleoedd a digwyddiadau pwysig eich ardal chi.


Sgrôlwch lawr am yr atebion

 

 

 

 

 

 

 

 

  • Cafodd yr olwyn sbâr gyntaf i geir ei dyfeisio
  • Cafodd rheolau rhai o’r campau yn y gemau Olympaidd eu sefydlu
  • Cafodd cwrw ei roi mewn caniau am y tro cyntaf ym Mhrydain
  • Cafodd y cerddor a gyfansoddodd rhai o ganeuon Cliff Richard ei eni
  • Cafodd y mudiad ei sefydlu
  • Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan yr actores Ruth Madoc.
  • Cafodd John ei eni ym Mhlasty Llanelly.
  • Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan y paffiwr enwog Colin Jones ym mis Tachwedd, 2014.
  • Cafodd dau wyliedydd diniwed, Jack John a Leonard Worsell, eu lladd gan filwyr y llywodraeth ar Awst 19eg, 1911.
  • Cawson nhw eu claddu ym Mynwent y Box yn Llanelli. Gallwch chi weld eu beddau hyd heddiw.
  • Cafodd y plasty ei adeiladau yn 1714 gan deulu’r Stepney.
  • Cafodd y ddau bentref yma, ar arfordir tref Llanelli, eu dymchwel yn 1971 fel rhan o ‘gynlluniau adnewyddu’ tref Llanelli.
  • Cafodd y cerbydau eu tynnu gan geffylau ar y dechrau.
  • Mae’r placiau’n cael eu noddi

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts