Dafydd Roberts Gogledd Dwyrain Cymru 1

Ardal Arbennig: Rhyfeddodau Gogledd Dwyrain Cymru 1 / The Marvels of North-East Wales 1: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Tybed ydych chi wedi clywed y pennill yma?

[simple_tooltip content=’spout / fountain’]Pistyll[/simple_tooltip] Rhaeadr Yr Wyddfa [simple_tooltip content=’high’]fry[/simple_tooltip]
Yr [simple_tooltip content=’ywen/yw = yew tree’]yw[/simple_tooltip] yn Owrtyn [simple_tooltip content=’in their hoards’]yn eu llu[/simple_tooltip]
[simple_tooltip content=’Belfry’]Clochdy[/simple_tooltip] Wrecsam a’r bont yn y Llan
[simple_tooltip content=’Well’]Ffynnon[/simple_tooltip] Gwenffrwd,  Gresffordd a’u hyfryd gân

Wel, pennill yw e yn sôn am saith [simple_tooltip content='(a) wonder’]rhyfeddod[/simple_tooltip] Cymru, sef:

1. Pistyll Rhaeadr

Pistyll Rhaeadr

2. Clochdy Wrecsam

Clochdy Wrecsam

3. Yr Wyddfa

Yr Wyddfa

4. Coed Ywen Owrtyn

Coed ywen Owrtyn

5. Ffynhonnau Gwenffrwd Treffynnon

Ffynhonnau Gwenffrwd Treffynnon

6. Pont Llangollen

Pont Llangollen

7. Clychau Eglwys Gresffordd

Clychau Eglwys Gresffordd

Ydych chi’n gwybod beth sy gyda phob un mewn cyffredin? Wel, [simple_tooltip content=’apart from’]ar wahân i[/simple_tooltip] un, (Yr Wyddfa), maen nhw i gyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru!

Seven Wonders of Wales

Mae’r pennill yn hen iawn. Beth am inni ddarllen am [simple_tooltip content=’rhyfeddodau = wonders’]ryfeddodau[/simple_tooltip] eraill yn yr ardal yma?

Y Cae Ras, Wrecsam

Clwb pêl-droed Wrecsam yw’r clwb pêl-droed [simple_tooltip content=’third oldest’]trydydd hynaf[/simple_tooltip] yn y byd. Dechreuodd y clwb yng ngwesty’r Turf yn 1864 gan aelodau clwb criced y dref. Roedden nhw’n edrych am gêm i’w chwarae yn ystod y gaeaf!

Hefyd, Y Cae Ras ydy’r stadiwm pêl-droed [simple_tooltip content=’international’]rhyngwladol[/simple_tooltip] hynaf yn y byd.

Dyma [simple_tooltip content=’manylion = details’]fanylion[/simple_tooltip] gêm gyntaf Cymru ar y Cae Ras – mis ar ôl y cyfarfod i ffurfio Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yng Ngwesty’r Wynnstay, Rhiwabon, Wrecsam.

Gêm Gyntaf Tîm Pêl-Droed Cymru

  • Pryd: Mawrth 25 1876
  • Ble: Y Cae Ras, Wrecsam
  • Yn erbyn pwy: Yr Alban
  • Y sgôr:  Cymru 0 – Yr Alban 4
  • Yn nhîm Cymru: Dau [simple_tooltip content=’cyfreithiwr = solictitor’]gyfreithiwr[/simple_tooltip], meddyg, [simple_tooltip content=’minister’]gweinidog[/simple_tooltip], clerc, [simple_tooltip content=’miner’]glöwr[/simple_tooltip], [simple_tooltip content=’chimney sweep’]dyn simnai[/simple_tooltip] a [simple_tooltip content=’carpenter’]saer[/simple_tooltip].

Dyma raglen y gêm:

Rhaglen- Gem gyntaf Cymru

Gem gyntaf Cymru

Cymdeithas Bêl-Droed Cymru     

  • Dechrau: Chwefror 22, 1876
  • Ble: Gwesty’r Wynnstay, Rhiwabon, ger Wrecsam
  • Cartref ar y dechrau: Wrecsam (1876-1986)
  • Cartref nawr: Caerdydd (1986 tan heddiw)

Ar y Cae Ras, cafodd y ffilm gyntaf o gêm bêl-droed ryngwladol ei [simple_tooltip content='(to) shoot’]saethu[/simple_tooltip] yn 1906. ‘Match of the Day 1906!!!’ Nefi wen!

Y ffilm gyntaf o gêm bêl-droed ryngwladol

  • Pryd: 1906
  • Ble: Y Cae Ras, Wrecsam
  • Y timau: Cymru a Gogledd Iwerddon
  • Y sgôr: 4 – 4

Gwyliwch uchafbwyntiau’r gêm yma: https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-wales-v-ireland-at-wrexham-1906-1906-online

Oeddech chi’n gwybod?

Gwesty’r Turf yw’r unig dafarn ym Mhrydain sy’n rhan o stadiwm pêl-droed. Tan yn ddiweddar, roedd hi’n bosibl gwylio’r gem o eisteddle bach yn y dafarn.

Gwesty’r Turf

Gwesty’r Turf Tua 1978 – edrychwch ar yr eisteddle bach ar ochr y dafarn!!

Traphont Pontcysyllte

Traphont Pontcysyllte

Dylai pawb fynd dros y [simple_tooltip content=’traphont = aquaduct’]draphont[/simple_tooltip] anhygoel yma o leiaf unwaith . Gallwch chi deithio ar droed neu mewn cwch. Cafodd y draphont ei hadeiladu gan Thomas Telford ac mae’n cludo [simple_tooltip content=’canal’]Camlas[/simple_tooltip] Llangollen dros [simple_tooltip content=’the River Dee’]yr Afon Ddyfrdwy[/simple_tooltip]. Dyma rai ffeithiau diddorol am draphont Pontcysyllte:

  1. Agorodd hi yn 1805
  2. Costiodd hi £47,000 i’w hadeiladau (bron tair miliwn o bunnoedd yn arian heddiw!)
  3. Mae’r draphont yn [simple_tooltip content='(to) extend’]ymestyn[/simple_tooltip] am 1,000 o droedfeddi ac mae hi dros 126 o droedfeddi o uchder.
  4. Mae’r draphont yn un o dri [simple_tooltip content=’World Heritage Sites’]Safle Treftadaeth y Byd[/simple_tooltip] yng Nghymru. Y ddau arall yw Gwaith Haearn Blaen-afon, Gwent a Chestyll gogledd Cymru.
  5. Hon yw’r reid [simple_tooltip content=’highest’]uchaf[/simple_tooltip] yn y byd y gallwch fynd arni mewn cwch camlas.

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk/cy

Plasty Erddig, Wrecsam

Plasty Erddig

Dyma un o dai hanesyddol mwyaf crand yng Nghymru. Cafodd y plasty ei adeiladu yn y 18fed ganrif gynnar. Dyw Downton Abbey yn ddim byd [simple_tooltip content=’compared with’]o’i gymharu ag[/simple_tooltip] Erddig. Dyma rai ffeithiau am y plasty:

  • Lawr llawr mae [simple_tooltip content=’collection’]casgliad[/simple_tooltip] unigryw o luniau’r [simple_tooltip content=’servants’]gweision[/simple_tooltip] oedd yn gweithio yn y plasty.
  • I fyny’r grisiau, mae [simple_tooltip content=’treasure store’]trysorfa[/simple_tooltip] o hen ddodrefn, tecstilau a phapur wal.
  • Tu allan, mae llawer o adeiladau diddorol er enghraifft y stablau, yr [simple_tooltip content=’the smithy’]efail[/simple_tooltip], gweithdy’r saer a’[simple_tooltip content=’the sawmill’]r felin lifio[/simple_tooltip].
  • Mae’r gerddi yn anhygoel. Yn y gerddi, mae pob math o goed ffrwythau a blodau
  • Teulu’r Yorke oedd [simple_tooltip content=’owned by’]yn berchen ar[/simple_tooltip] y tŷ ers dros 240 o flynyddoedd.
  • Enw pob aelod [simple_tooltip content=’male’]gwrywaidd[/simple_tooltip] o deulu’r Yorke oedd naill ai Simon neu Phillip.
  • Yn 1973, rhoddodd Phillip Yorke y tŷ i’[simple_tooltip content=’The National Trust’]r Ymddiriedolaeth Genedlaethol[/simple_tooltip]. Doedd dim plant gan Phillip na’i frawd Simon i’w [simple_tooltip content='(to) inherit’]etifeddu[/simple_tooltip].
  • Roedd Phillip Yorke yn ddyn [simple_tooltip content=’strange’]rhyfedd[/simple_tooltip]! Mae pobl Wrecsam yn cofio Phillip Yorke yn reidio hen feic peni ffardding o gwmpas y dref. Roedd e hefyd yn cadw defaid yn y plasty!!

Plasty Erddig

Prif arddwr y Plasty yn trafod y beic pennifardding gyda Phillip Yorke

Ewch i’r wefan: www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/erddig

Mwy o ryfeddodau’r gogledd ddwyrain i ddod y tro nesaf…


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.