Dafydd Roberts Eyri 2

Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts: Ardal Arbennig: Parc Cenedlaethol Eryri (Rhan 2)

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau pythefnosol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Canolradd. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a fortnightly series of themed articles for learners at the Canolradd level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Ras y Wyddfa logoRas Arbennig – Marathon Yr Wyddfa, Marathon Unigryw Cymru

Pob mis Hydref, mae ras o gwmpas troed mynydd Yr Wyddfa. Enw’r ras yw Marathon Yr Wyddfa. Ond pam cynnal ras ar fynydd?

Wel – mae’r marathon yn ras boblogaidd iawn mewn trefi a dinasoedd fel Llundain, Caerdydd ac Efrog Newydd. Roedd rhedwyr Gogledd Cymru’n meddwl ei bod hi’n amser cael marathon newydd, ffres. Dyma syniad marathon Yr Wyddfa. Dechreuodd y ras yn 1982 ac erbyn hyn mae tua 1,500 o redwyr yn cymryd rhan pob blwyddyn.

Dyw’r ras ddim yn digwydd ar lwybrau’r mynydd ond ar yr heolydd o gwmpas y mynydd. Mae darnau uchel a serth yn ystod y ras. Un peth sy’n gwneud Marathon yr Wyddfa yn unigryw yw’r golygfeydd hyfryd.

Ffaith ddiddorol: Mae enillydd y ras yn derbyn Tlws Michael Forte. Cafodd y tlws ei wneud gan gwmni Fattorini, Bradford, Lloegr yn 1922. Prynodd Michael Forte y tlws oddi wrth y cwmni. Mae Cwmni Fattorini’n enwog am wneud Cwpan Pêl-Droed Lloegr (Cwpan yr F.A.). Mae Tlws Michael Forte’n dalach ac yn drymach na Chwpan yr F.A.

Rasys Eraill yn yr Ardal: Mae rasys eraill yn Eryri hefyd. Yn Ras y Moelwyn, mae’r rhedwyr yn rhedeg o Flaenau Ffestiniog, i fyny ac i lawr y mynyddoedd, dros Foelwyn Mawr, Moelwyn Bach a Moel yr Hydd am ddeng milltir a hanner. Bobl bach!

Chwaraeon Dŵr Yn Y Parc

Mae digon o lynnoedd, afonydd, ac arfordir i bobl fwynhau bob math o chwaraeon dŵr. Ar Lyn Padarn ger tref Llanberis, gallwch chi ddysgu canŵio, caiaco a hwylio. Mae Canolfan Genedlaethol Dŵr Gwyn ar lannau’r Afon Tryweryn ger tref Y Bala. Mae dŵr yr afon yn llifo’n gyflym o argae Llyn Celyn ac felly mae’n bosibl mwynhau canŵio a rafftio dŵr gwyn trwy’r flwyddyn – hyd yn oed mewn tywydd sych. Llyn Tegid, eto ger tref y Bala, yw llyn naturiol mwyaf Cymru – lle delfrydol ar gyfer bwrddhwylio, canŵio a hwylio. Gan fod Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ar lan Llyn Tegid, beth am dalu ymweliad gyda’ch teulu yn ystod un o’r gwersylloedd arbennig ar gyfer teuluoedd?

Dafydd Roberts Eyri 2 Yr Urddurdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/llangrannog/pethau-iw-gwneud/cyrsiau/gwyliau-teulu-2018/

Seiclo a Beicio Mynydd

Mae dewis eang o lwybrau seiclo yn Eryri. Un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw Llwybr Mawddach – llwybr 9 milltir o Ddolgellau i Forfa Mawddach.

Canolfannau Dringo

Mae mynydda’n gamp boblogaidd yn yr ardal, fel basech chi’n disgwyl, ac mae sawl ffordd o fwynhau’r cyffro:

Mae Canolfan Plas y Brenin yn cynnig cyrsiau dringo dan do a thu allan yn ogystal â chwaraeon dŵr. Hefyd, mae Canolfan Ddringo Dan Do Y Bannau yn nhref Caernarfon. I’r rhai ohonoch chi sy’n hoffi chwa o adrenalin, ewch ar un o’r cyrsiau rhaffau uchel yn yr ardal.

Neu, beth am brofi:

Y Wifren Wib– Yr un hiraf a chyflymaf yn Ewrop

Ydych chi’n hoffi hedfan? Beth am hedfan heb awyren? Wel, os ydych chi, safle ‘Zip World’ yn chwarel y Penrhyn, Bethesda yw’r lle i chi! Mae dwy wifren arbennig – un sy’n mynd â chi lawr i waelod y chwarel. Byddwch chi’n mynd yn ôl i ben y chwarel mewn cerbyd arbennig cyn ‘gwibio’ ‘nôl i’r dechrau, dros filltir i ffwrdd. Yn teithio ar gyflymder o 100 m.y.a. thua 500 troedfedd uwchben llyn y chwarel, byddwch chi fel seren wib go iawn!

Dafydd Roberts Eyri 2 Zip Worldzipworld.co.uk

Diddordeb mewn Llenyddiaeth Gymraeg? Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynhyrchu ‘llenorion o fri’ (chwedl yr Anthem!!)

‘Tŷ Mawr’, Wybrnant ger pentref Penmachno yw man geni yr Esgob William Morgan. Fe oedd y dyn cyntaf i drosi’r beibl i’r iaith Gymraeg yn 1588. Mae Tŷ Mawr yn ffermdy Cymreig traddodiadol.

Dafydd Roberts Eyri 2 Y Beibl

William Morgan
Dyma’r Esgob William Morgan a thudalen gyntaf ei feibl

Ym mhentref Trawsfynydd, mae man geni’r bardd Hedd Wyn neu Elis Evans, ‘Yr Ysgwrn’. Enillodd Hedd Wyn gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917. Cafodd Elis e ei ladd ym mrwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf chwech wythnos cyn yr Eisteddfod. Mae ei gadair yn ‘Yr Ysgwrn’ o hyd. Yn 1992, cafodd ffilm ei gwneud am fywyd Hedd Wyn. Yn ddiweddar, prynodd y parc cenedlaethol ffermdy Yr Ysgwrn a’i droi’n amgeuddfa i gofio am y bardd ac i bortreadu bywyd ardal Trawsfynydd ar droad y 19eg ganrif.

Mae nai Hedd Wyn, Gerald, yn byw ar y fferm o hyd!!

Dafydd Roberts Eyri 2 Yr Ysgwrnyrysgwrn.com

Dyma un o gerddi mwyaf enwog Hedd Wyn:

Rhyfel gan Hedd Wyn

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, 
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

Pam deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A’i gysgod ar fythynnod tlawd.

Mae’r hen delynau genid gynt
Yng nghrog ar gangau’r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.

Mae’r gerdd yn anodd iawn deall. Mae cyfieithiad Saesneg yma: http://www.ballinagree.freeservers.com/rhyfel.html

Ym mhentref Rhyd-ddu ger Beddgelert, mae Tŷ’r Ysgol, man geni y bardd Cymraeg enwog T.H. Parry Williams. Tad y bardd oedd ysgolfeistr y pentref. Ysgrifenodd T.H. lawer am brydferthwch Eryri yn ei waith.
Dyma soned T.H.P.W. i’w hen gartref:

Tŷ’r ysgol gan T.H. Parry-Williams

Mae’r cyrn yn mygu er pob awel groes,
A rhywun yno weithiau’n sgubo’r llawr
Ac agor y ffenestri, er nad oes
Neb yno’n byw ar ôl y chwalfa fawr;
Dim ond am fis o wyliau, mwy neu lai,
Yn Awst, er mwyn cael seibiant bach o’r dre
A throi o gwmpas dipyn, nes bod rhai
Yn synnu’n gweld yn symud hyd y lle;
A phawb yn holi beth sy’n peri o hyd
I ni, sydd wedi colli tad a mam,
Gadw’r hen le, a ninnau hyd y byd,
-Ond felly y mae-hi, ac ni wn paham,
Onid rhag ofn i’r ddau sydd yn y gro
Synhwyro rywsut fod y drws ynghlo.

Yn y gerdd, mae’r bardd yn hiraethu am ei hen gartref. Mae’r tŷ yn wag erbyn hyn ond mae’r bardd a’i chwaer yn dal i fynd yn ôl am fis o wyliau bob haf rhag ofn bod ei rieni yn synhwyro bod y drws ar glo.

Dyna ni – digon o bethau diddorol ar gyfer eich cyflwyniad am ardal Eryri.

 

Snowdonia National Park logo


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.