Dafydd Roberts Bannau Brycheiniog

Ardal Arbennig: Bannau Brycheiniog: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Yng Nghymru mae:

  • Milltiroedd o wlad gefn brydferth
  • Heolydd troellog
  • Fforestydd dwfn
  • Digon o wynt

Ac wrth gwrs – mynyddoedd godidog.

Felly, mae gweithgareddau mynyddig yn boblogaidd iawn yng Nghymru.

Y Bannau

Mae Bannau Bryncheiniog yn ardal enfawr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n ardal fynyddig gyda llawer o afonydd a llynnoedd.Mae’n bosibl gwneud llawer o weithgareddau gwahanol yn y Bannau.

  • Mynydd-Fyrddio

Mae canolfan mynydd-fyrddio ym mhentref Penpont ger Aberhonddu

Mae mynydd-fyrddio yn debyg iawn i eirfyrddio ond heb yr eira wrth gwrs. Mae’r mynydd-fyrddwyr yn reidio ar draciau arbennig mewn coedydd, fforestydd ac ar y mynyddoedd. Maen nhw’n reidio ar fwrdd arbennig – tebyg i sglefrfwrdd.

  • Marchogaeth

Os ydych chi’n hoffi marchogaeth ar y mynyddoedd, beth am roi cynnig ar deithio’r Bannau ar gefn ceffyl? Mae canolfan farchogaeth ym mhentref Capel y Ffin, Y Fenni.

  • Seiclo

Gallwch chi seiclo ar lwybrau’r Bannau o sawl canolfan yn yr ardal. Yn yr haf ac ar wyliau’r banc, mae bws arbennig sy’n mynd â chi a’ch beiciau o Gaerdydd i ganol y Bannau. Gallwch chi seiclo yn ôl i Gaerdydd ar lwybr seiclo Afon Taf.

  • Gwylio Adar

Mae llawer o adar gwahanol yn y Bannau fel yr hebog, y boncath, y grugiar a’r cudyll coch. Gallwch chi fod yn hebogydd am y diwrnod ar fferm Wern Ddu, Y Fenni. Yn y nos, mae pobl yn dod i’r Bannau i weld ystlum arbennig – yr ystlum pedol lleiaf!!

  • Archwilio Ogofau

Mae’r Bannau yn lle delfrydol i archwilio ogofau. Yr ogof fwya poblogaidd ydy Porth Yr Ogof. Mae un deg pump gwahanol fynedfa i’r ogof gan gynnwys y fynedfa fwya yn Ne Cymru. Mae enwau rhyfedd ar y llwybrau –  ‘Worm Hole’, ‘Death Ledge’, ‘Rat Trap’,’Cork Screw’ heb anghofio’r ‘Letter Box’. Peidiwch â mentro os oes ofn lleoedd cyfyng arnoch chi!

  • Paragleidio

Gyda’r mynyddoedd uchel a’r gwynt cryf, mae’r Bannau yn lle perffaith i baragleidio. Meddyliwch am hedfan ochr yn ochr a’r cudyll coch a’r hebog – WAW!!!!!

  • Mynydda

Mae’n bosibl ymarfer ar gyfer teithio trwy fynyddoedd uchaf y byd yng nghanolfan Rhiw yr Hwch, Llanymddyfri.

  • Campau dŵr

Mae sawl cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn y Bannau. Mae canŵio a chaiaco yn boblogaidd ar yr  Afon Gwy. Os ydych chi’n hoffi gweithgareddau mwy tawel, beth am ddiwrnod ar gamlas Sir Frycheiniog? Gallwch chi deithio’n hamddenol braf am dri deg milltir rhwng Aberhonddu a Phont-y-pŵl.

  • Cerdded Trwy’r Ceunentydd

Dyma ffordd gyffrous i ddarganfod golygfeydd godidog y Bannau. Byddwch chi’n cerdded trwy afonydd a rhaeadrau’r ardal, dringo dros y creigiau, deifio i mewn i’r pyllau dŵr a chael lot lot o hwyl. Rhaid gwisgo helmed a siwt wlyb wrth gwrs!!

Ond beth allwch chi wneud yn y nos?

  • Gwylio’r Sêr

Oeddech chi’n gwybod bod y Bannau yn warchodfa awyr tywyll – yr un cyntaf yng Nghymru ac un o ychydig yn y byd? Ar noson glîr uwchben Bannau Brycheiniog, gallwch chi weld y Llwybr Llaethog, llawer o’r prif gytserau ac hyd yn oed cawodydd meteor. Yn y Bannau, mae’r awyr tywyll gorau ym Mhrydain gyfan! Mae twristiaid awyr tywyll yn heidio i’r Bannau ers i’r ardal ennill ei statws fel Gwarchodfa Awyr Tywyll Ryngwladol. Gwyliwch y fideo:

Ie – Bannau Brycheiniog – y lle gorau i brofi gwyliau gwahanol.

Brecon Beacons National Park Authority logo


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts