Dafydd Roberts Arferion Blwyddyn Newydd y Cymry

Arferion Blwyddyn Newydd y Cymry: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau pythefnosol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Canolradd. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a fortnightly series of themed articles for learners at the Canolradd/Uwch level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Yr Hen Galan

Pryd byddwch chi’n dathlu’r flwyddyn newydd? Cwestiwn twp meddech chi. Wel, ar Ionawr y 1af wrth gwrs!! Ond, nid fel’na mae hi ym mhob rhan o Gymru.

Mewn cornel fach o Sir Benfro, ym mhentrefi  Pontfaen a Llanychâr yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, ac yn nhref Llandysul, Sir Aberteifi, Ionawr 13eg yw dechrau’r flwyddyn newydd. Bydd plant yr ardal yn canu caneuon ac yn hel calennig a bydd trigolion hen ac ifanc yn dathlu dechrau’r flwyddyn newydd.

Pam? Wel, dyma’r stori….

O’r flwyddyn 45CC, dilynodd pob rhan o’r byd y calendr Iwlaidd (ar ôl Iwl Cesar). Yn y flwyddyn 1582, cyflwynodd y Pab Gregor XIII y calendr Gregoraidd er mwyn cysoni’r gwahanol wyliau gyda thymhorau’r flwyddyn. Yn y calendr Iwlaidd, roedd tri diwrnod ychwanegol pob pedair canrif. Felly, yn y flwyddyn 1582, collodd mis Hydref un ar ddeg o ddiwrnodau.

Mabwysiadodd Prydain y calendr yn 1752, bron 200 o flynyddoedd ar ôl gweddill Ewrop ac felly, collodd pobl Prydain 13 o ddiwrnodau!! Un o ganlyniadau’r newid yma oedd bod y flwyddyn newydd yn symud o Ionawr y 13eg i Ionawr y 1af.

Roedd llawer o wrthwynebiad i’r newid. Roedd pobl yn credu y bydden nhw’n colli 13 diwrnod o’u bywydau. O ganlyniad, roedd sawl ardal ym Mhrydain yn dal i ddathlu’r flwyddyn newydd ar Ionawr y 13eg.

Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd pobl wedi dod i arfer â’r calendr newydd a dechreuodd pobl ddathlu ar Ionawr y 1af – pawb hynny yw heblaw am drigolion Cwm Gwaun a Llandysul. Anwybyddon nhw’r calendr newydd a pharhau i ddathlu’r flwyddyn newydd ar Ionawr 13eg.

Yr Hen Galan

Mae plant y cylch heddiw yn parhau’r traddodiad ac ar Ionawr y 13eg. Byddan nhw’n cerdded o dŷ i dŷ yn canu caneuon traddodiadol sy ddim wedi newid ers canrifoedd. Fel gwobr am ganu, bydd y plant yn cael anrhegion y flwyddyn newydd – fferins, losin, arian neu ffrwyth, fel arfer, oddiwrth berchnogion y tai.

Bydd rhai ohonoch chi’n ddigon hen i gofio Fyfe Robertson. Wel, yn ei raglen deledu o fis Ionawr 1966, talodd e ymweliad â Thafarn Y Dyffryn Arms neu i’w galw wrth ei henw pob dydd, Tafarn Bessie, Cwm Gwaun adeg dathlu’r hen Galan.

Gallwch chi wylio’r clip yma – https://www.bbc.co.uk/programmes/p01502yz

Mae tafarn Bessie yn dal i ffynnu – beth am i chi dalu ymweliad â Chwm Gwaun ar noson y 12fed o Ionawr 2019?

Tafarn Bessie
Tafarn Bessie, Cwm Gwaun heddiw

Mae’r clip yma’n ddiddorol hefyd:

Hel Calennig

Cyn ac ar ôl y newid yn y calendr, roedd y traddodiad o Hel Calennig yn boblogaidd dros Gymru gyfan. Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, roedd y plant yn edrych ymlaen at gael cyfle i lenwi eu pocedi ag arian ac anrhegion calennig.

Byddai’r plant yn mynd i gasglu calennig yn ystod y bore ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn. Bydden nhw’n ymweld â’r ffermydd a’r tai yn yr ardal gan ganu penillion a gofyn am galennig.

Plant yn Hen Calennig
Plant yn Hel Calennig ym mhentref Trefeurig ger Aberystwyth yn yr 1960au

Ond byddai’n rhaid gwneud hyn i gyd cyn hanner dydd.

Gwrandewch ar Mair Davies o Gwm Gwaun yn esbonio hanes Yr Hen Galan. Mae hi’n siarad yn nhafodiaith gogledd Sir Benfro: http://www.byw20ganrif.org/detail.php?sID=50893

Dyma’r pennill roedd hi’n ei adrodd:

Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod, dydd i’w gofio
Dydd i roi a dydd i dderbyn
Yw y trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn
Rhowch yn hael i’r rhai gwael
Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
Yw’r rhai hynny sydd yn cael

Y Berllan

Y Berllan
Bechgyn ifanc yn hel calennig yn ardal Hirael, Bangor yn 1948 – edrychwch ar y ‘berllan’ yn nwylo’r bechgyn

Byddai’r plant yn cario afal wedi’i addurno gyda nhw o dŷ i dŷ er mwyn dod â lwc dda. Rhan bwysig o ddydd Calan oedd addurno afal.

Bydden nhw’n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn a dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei ben.

Wedi’r daith o gwmpas yr ardal byddai’r afal yn cael ei arddangos yn y cartref neu’n cael ei roi’n anrheg i ffrindiau fel arwydd o lwc dda.

Y Berllan
‘Perllan’ – afal calennig wedi ei addurno

Mewn rhai ardaloedd o’r de ‘perllan’, oedd yr enw am yr afal calennig yma. Roedd yr afal yn cael ei addurno â gwahanol blanhigion am wahanol resymau, e.e. llawryf er gogoniantcelyn ar gyfer rhagweld; rhosmari er mwyn cofio; bocs er mwyn dewrderlafantsicrhau digonedd dros y flwyddyn.

Beth am i chi droi eich llaw at wneud eich ‘perllan’ eich hun:

Dyma’r rhigwm calennig mwyaf poblogaidd:

Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Dyma fy nymuniad i
Blwyddyn Newydd dda i chi

Dilynwch y geiriau a’r alaw yma:

Dyma bennillion eraill o wahanol rannau o Gymru:

Sir Aberteifi a Sir Benfro:

Mi godais heddiw ma’s o’m tŷ
A’m cwd a’m pastwn gyda mi,
A dyma’m neges ar eich traws,
Sef llanw‘m cwd â bara a chaws.

Cwm Tawe:

Calennig wyf yn ‘mofyn
Ddydd Calan, ddechrau’r flwyddyn,
bendith fyth fo ar eich tŷ
Os tycia im’ gael tocyn

Llangadfan:

Calennig i mi, Calennig i’r ffon,
Calennig i fwyta’r noswaith hon
Calennig i’m tad am glytio’m sgidie
Calennig i mam am drwsio’m sane

Blaenau Ffestiniog:

Rhowch galennig yn galonnog,
I blant bach sydd heb un geiniog,
Gymaint rhoddwch, rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw ‘chydig.

Tal-y-bont, Ceredigion:

Blwyddyn Newydd Dda i chi, bob un drwy’r tyˆ,
Rhowch galenning yn galonnog i blant bach sydd heb un geiniog,
Ceiniog ne’ ddima p’run a fynno chithe,
Ceiniog sy’ ore,
Blwyddyn Newydd Dda i chi

Talgarreg:

Fe godais yn fore
Fe gynnais y tân
Fe redes i’r ffynnon i mofyn dŵr glan
Diling, diling,
Ma pwdin yn brin
Ma pawb yn cael tamed
A finne’n cael dim.

Gemau Pêl

Roedd yr hen galan yn ddiwrnod o hwyl a gŵyl ac roedd bwyta’n rhan hanfodol o’r dathlu. Hyd at 1833 roedd pobl yn arfer dathlu’r calan yn Llandysul drwy gêm gicio pêl – gyda phorth eglwys Llanwenog yn un gôl a phorth eglwys Llanwenog y llall. Ar doriad y wawr – a chyn hynny’n aml – roedd gwledd fawr, neu ‘frecwast’, ac erbyn dechrau’r gêm am naw o’r gloch y bore, roedd llawer o’r bechgyn yn feddw gaib. Roedd y gêm yn esgus da iddyn nhw lambastio‘i gilydd – gyda thorri esgyrn yn rhan o’r hwyl. Ceisiodd y Parchedig Evan James stop i’r holl giamocs yn 1833 gan ddweud y dylai’r plwyfolion ddod i’r capel i adrodd o’r Beibl a chanu emynau yn lle. Erbyn heddiw, mae ‘Gŵyl Cicio’r Bêl’ wedi diflannu o Landysul a phob tref arall oedd yn arfer ei chwarae.

Gemau Pel

Ysbrydion

Coel arall yn ymwneud â’r Calan oedd bod ysbrydion y meirw yn crwydro‘r wlad ar ddiwrnod ola’r flwyddyn er mwyn ffarwelio â’r flwyddyn honno.

Dyma pam mae’n debyg fod pobl yn closio at ei gilydd ar y noson arbennig hon gan adrodd straeon a chynnal noson lawen.

Coelcerth y Calan

Ers talwm hefyd byddai pobl yn croesawu’r flwyddyn newydd drwy adeiladu coelcerth fawr. Byddai pobl yn codi’r goelcerth yng nghanol y dref neu’r pentref a byddai pawb yn sefyll o’i chwmpas. Byddai’r trigolion wedyn yn gadael i’r tanau oedd yn eu cartrefi ddiffodd. Byddai hyn yn rhoi diwedd ar yr hen flwyddyn. Byddai’r goelcerth yn rhoi croeso gwresog i’r flwyddyn newydd.

 Dyledion

Roedd pobl yn credu byddai eich gweithredoedd ar ddydd Calan yn penderfynu beth fyddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn.

Dylech chi felly wneud yn siŵr i beidio â benthyg arian i neb na benthyg arian eich hun ar ddydd Calan.

Hefyd roedd hi’n bwysig gwneud yn siŵr bod pob dyled wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddech mewn dyled am flwyddyn gyfan.

Ymwelydd

Mae’r bobl sy’n dod i ymweld â chi gyntaf ar ddydd Calan yn bwysig.

Yn draddodiadol dim ond dynion â gwallt tywyll sy’n derbyn croeso yng nghartrefi Cymru ar fore Calan. Bydd gŵr tywyll sy’n troedio dros y trothwy yn dod â lwc dda i’r cartref drwy’r flwyddyn.

Ond er mwyn i chi gael lwc wirioneddol dda fe ddylai’r dyn yma gario darn o lo, tafell o fara a darn o arian. Byddai hyn yn sicrhau cynhesrwydd, bwyd a chyfoeth i chi drwy’r flwyddyn.

Ers talwm roedd yr arferiad hwn yn amrywio ar hyd a lled Cymru.

Mewn rhannau o Geredigion roedd hi’n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf.

Yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro roedd hi’n anlwcus i ferch weld merch yn gyntaf. Mewn rhai ardaloedd wedyn roedd hi’n anlwcus i weld dyn â gwallt coch yn gyntaf.

Cludo dŵr

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru roedd hi’n arferiad i gludo dŵr i gartrefi cyfagos.

Byddai grwpiau o fechgyn yn ymweld â chartrefi’r ardal yn gynnar yn y bore gan gludo dŵr ffres o’r ffynnonchangen o ddail bytholwyrdd.

Fe fydden nhw wedyn yn cael eu gadael i bob ystafell ac fe fydden nhw’n gwasgaru‘r dŵr yn ysgafn ar ddwylo a wynebau’r teulu gan adrodd pennill.

Arferion Blwyddyn Newydd y Cymry map


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.