Cefnogi Dysgu Anffurfiol

Cefnogi Dysgu Anffurfiol / Supporting Informal Learning

Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw’r i rannu’r ieithoedd.  Trwy gyflwyno deunyddiau darllen ochr yn ochr, yn paralel, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd, gall siaradwyr a dysgwyr o bob gallu fwynhau darllen a chefnogi’u datblygiad i’r lefel nesaf.  Dyma mae cynnwys parallel.cymru yn ei wneud- mae’n gwneud darllen Cymraeg yn hygyrch i bawb.

People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as a binary Welsh/English option. By presenting reading materials side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency, speakers and learners of all abilities can enjoy reading and support their progression to the next level. This is exactly what parallel.cymru does- it makes reading Welsh accessible to all.

Fel deunydd dysgu anffurfiol, mae llawer o fanteision:

  • Mae pob erthygl ar gael yn rhad ac am ddim, ac ni fydd tâl ar gyfer mynediad byth.
  • Mae'r wefan yn gweithio’n dda ar dabledi a ffônau clyfar- ac nid oes angen lawrlwytho ap.
  • Nid oes angen cofrestru na mewngofnodi.
  • Bydd pob erthygl yn aros arlein gydag URL unigryw, ee parallel.cymru/siarad.
  • Yn wahanol i gylchgronau traddodiadol, dydy’r cynnwys ddim yn diflannu ar ôl y cyhoeddiad nesaf, felly cewch fynediad i’r URL am flynyddoedd i ddod.
  • Gallwch ofyn i’ch dosbarth ddarllen erthygl cyn cwrdd, a’i thrafod yn y dosbarth.
  • Gallwch ddefnyddio erthygl neu ddyfyniad i gefnogi hysbyseb- e.e. defnyddio dyfyniad o gyfweliad awdur ar gyfer dosbarth darllen.
  • Gallwch lawrlwytho unrhyw erthgyl fel PDF i’w defnyddio all-lein (mae botwm coch ‘Llwytho i lawr fel PDF’ ar waelod pob erthygl).
  • Mae sain gyda sawl erthygl, felly mae pobl yn gallu gwrando ar sut mae'r iaith yn swnio, a darllen ar yr un pryd.  Gyda rhai erthyglau fel y Newyddion, mae Huw yn darllen ar ddau gyflymder- rheolaidd ac araf.  Mae mwy o wybodaeth am y sain ar y wefan.

As a resource for informal learning, there are lots of advantages:

  • Every article is available for free, and there will never be a charge for access.
  • The site works well on tablets and smart phones- and there is no need to download an app.
  • There is no requirement to register or log in.
  • Every article will stay online with a unique URl, such as parallel.cymru/siarad.
  • Unlike traditional magazines, the content doesn't disappear after the next edition, so you can reference the URL for years to come.
  • You can ask your class to read an article before meeting, and then discuss in the class.
  • You can use an article or quotes to support an advertisement- for example using quotes from an author for a reading group.
  • You can download any article as a PDF to use off-line (there is a red 'Download as a PDF' button on the bottom of each article).
  • Many articles include a narration, so that that people can listen to how the language sounds, and read at the same time. With some articles such as the News, Huw reads the article at two speeds- normal and slow. There is more information on the sound here.

"Mae parallel.cymru yn agor y ffordd i’r byd Cymraeg, yn cyflwyno llawer o bethau diddorol, ac yn rhoi golwg newydd ar faterion Cymraeg, ac mae digon o ddiddordeb yma hefyd i siaradwyr Cymraeg" - Heini Gruffudd

Tiwtoriaid sydd yn defnyddio'r wefan hon:
"Ar ôl pori trwy parallel.cymru, penderfynais i ddefnyddio rhan o'r safle mewn gwers wythnos diwethaf. Buon ni, fel dosbarth Uwch, yn adolygu arddodiaid, ac wedi gwneud ychydig o waith arnyn nhw'r wythnos flaenorol. Felly dyma fi'n cyflwyno adran Dr Gramadeg - Arddodiaid i'r dosbarth, gan fynd dros ba arddodiad sy'n mynd gyda pha ferf. Ro'n nhw'n hoff o'r rhestr sy'n dangos y berfau mewn trefn yr wyddor. Roedd hefyd yn fuddiol gallu dangos yr arddodiaid sy'n rhedeg, a drilio ambell i un. Ond y peth gorau oedd chwarae'r gêm ar waelod y sgrîn, sy'n dangos cerdiau fflach gyda'r ferf ar un ochr y cerdyn a'r arddodiad cywir ar yr ochr arall. Roedd rhaid i'r dosbarth weiddi'r arddodiad cywir cyn i'r cerdyn droi. Gwnaethon nhw dasg ysgrifenedig wedyn. Maen nhw wedi addo ymarfer gartref, ond o leiaf gaethon nhw gyfle i adolygu'r gwaith yn y dosbarth. Diolch am greu ffordd hwylus o ymarfer gramadeg- a rhwydd i'r tiwtor, doedd dim rhaid i fi baratoi dim byd o ran y cyflwyno!"
- Helen Morfydd Young - tiwtor Dysgu Cymraeg Gwent.

"Dydy dysgu iaith trwy destunau parallel ddim yn rhywbeth newydd. Cymeradwywyd yn y bedwaredd ganrif ar hugain gan yr ysgolhaig a’r fforiwr, Syr Richard Burton a siaradodd pump ar hugain o ieithoedd. Ond doedd bron dim byd yn yr iaith Gymraeg tan syniad gwych Parallel.cymru gan Neil Rowlands, dysgwr profiadol ac arbenigwr ym myd cyfrifiaduron sy wedi casglu detholiad o erthyglau gan awduron gwahanol ers iddo fe sefydlu’r wefan yn 2017.
Mae llawer o ddysgwyr sy eisiau cyfathrebu gyda siaradwyr rhugl yn benodol yn esgeuluso darllen Cymraeg, heb sylweddoli bod darllen ail iaith yn cynorthwyo ehangu geirfa ac yn helpu hunanhyder, sy ar goll gyda nifer helaeth o ddysgwyr. Mae rhai yn rhoi’r ffidl yn y to ar ôl iddyn nhw ddysgu am oriau yn y dosbarth a darganfod nad ydynt yn gallu deall siaradwyr rhugl. Yn aml mae hyn yn fater o eirfa, fel rwy’n pwysleisio yn fy llyfr Speak Welsh Outside Class: You can do it!  Mae sgiliau gwrando yn datblygu pan mae geirfa yn tyfu. Mae darllen Cymraeg gyda help cyfieithiad Saesneg yn mwyhau geirfa dysgwyr yn eithaf di-boen.
Rwy’n credu, fel llawer o diwtoriaid ar hyn o bryd, bod hunanhyder yn fwy hanfodol wrth ddysgu iaith na thalent. Wrth ddarllen testunau parallel mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau heb deimlo dan fygythiad, yn adeiladu hyder i ddefnyddio beth maen nhw wedi dysgu yn y byd go iawn.
Dysgwyr – triwch ddarllen Parallel.cymru am o leiaf deg munud bron bob dydd, yn nodi geiriau ac ymadroddion newydd dych chi’n credu sy’n berthnasol yn eich bywyd chi. Byddwch chi’n synnu ar eich cynnydd. Gwnewch yn siwr dy fod ti’n gwybod sut i ynganu’r ymadroddion newydd – geirfa eang ac ynganiad da ydy’r ddwy elfen sy’n adeiladu sylfaen sy’n arwain at ddefnydd ail iaith hyderus a llwyddiannus."
- Dr Lynda Pritchard Newcombe, awdur Speak Welsh Outside Class

Tutors who are using this website:
"After browsing through parallel.cymru, I decided to use part of the site in a class last week. We were, as a Higher level class, revising prepositions, and a little bit of work on them the previous week. So I presented the Dr Gramadeg Prepositions section to the class, and went over which preposition goes with which verb. We were fond of the list which shows the verbs in the order of the alphabet. It was also helpful to show the prepositions which conjugate, and to drill some of them. But the best thing was playing the game at the bottom of the screen, which shows flash cards with the verb on one side of the card and the correct preposition on the other side. The class had to shout the correct preposition before turning the card over. We then did a written task. They promised to practice at home, but at least they had a chance to practice in the class. Thanks for creating a convenient way to practise grammar- and for the tutor, there was no need to plan the delivery!"
- Helen Morfydd Young - tutor Dysgu Cymraeg Gwent

"Learning language through parallel texts is not a new phenomenon.  It was highly commended by the 19th century scholar and explorer, Sir Richard Burton who spoke 25 languages. Little parallel text material existed in Welsh, however, until the birth of Parallel.cymru, the brainchild of Neil Rowlands, an advanced learner and a computer expert who has amassed an eclectic mix of articles by diverse authors since launching the site in 2017.
Many learners whose main motivation is to converse with fluent speakers neglect reading Welsh, little realising that reading in a second language helps extend vocabulary and aids self-belief, an attribute many learners lack. Some learners give up because even after many hours of classroom learning they find they cannot follow what fluent speakers are saying. This is often a vocabulary issue, as I stress in my book Speak Welsh Outside Class: You can do it! Listening skills develop as vocabulary grows.  Reading Welsh aided by the English translation will enhance learners’ vocabulary relatively painlessly.
Like many language tutors today I believe that self-belief is more crucial to language learning than talent.  By reading parallel texts learners can develop skills in a non-threatening way, building confidence to use what they know in the real world.
Learners - try reading Parallel.cymru for at least ten minutes most days, noting all new words and phrases you consider relevant to you. You will be surprised at your progress.  Make sure you know how to pronounce the new expressions you acquire - a wide vocabulary and good pronunciation are the twin elements that build a foundation for successful confident second language use."
- Dr Lynda Pritchard Newcombe, author Speak Welsh Outside Class

Fel dysgwr fy hunan, dw i’n hapus iawn i gydweithio gyda thiwtoriaid i wella’r wefan hon.  Os oes syniadau gyda chi gallwch drafod gyda’ch Swyddog Dysgu Anffurfiol, neu i rannu cyfraniadau, cysylltwch â fi’n syth ar [email protected].

I gydweithio gyda'n gilydd, gallaf anfon pamffledi atoch drwy’r post i’w dosbarthu.  Hefyd, mae poster A4/A3 isod, a thempled ar gyfer pamffled A5:

As a learner myself, I'm very happy to co-work with tutors to improve this website. If you have any ideas you can go through your Informal Learning Officer to share suggestions or contact me directly on [email protected].

To publicise the wesbite, I can send you leaflets through the post to distribute. Also, there is an A4/A3 poster below, and a template for A5 fliers:


Adnoddau Poblogaidd / Popular Resources

Ask Dr Gramdeg

Y Darllenydd Penwythnos

Ffilmiau i Lawrlwytho

Yr Erthyglau Mwyaf Poblogaidd

Y Darllenydd Penwythnos

Geirfa Themateg

Silff Llyfrau Digidol

Llefydd i Siarad Cymraeg

Dysgu Cymraeg- Sut a Ble?

Enwau Cymraeg i Blant

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr