Cyfres Amdani Gêm Beryglus

Cyfres Amdani: Y Gêm Beryglus- Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell

Awdur: Richard MacAndrew
Addasiad Cymraeg o Man Hunt
Wedi'i addasu gan: Pegi Talfryn

Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.

Amdani Canolradd Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261291

Disgrifiad Gwales: Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae'r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.

Pegi Talfryn:  Ro'n i wrth fy modd pan ges i’r gwaith o gyfieithu’r llyfr hwn, gan fy mod i’n hoff iawn o lyfrau trosedd.  Buan y sylweddolais i y byddai’n rhaid lleoli’r nofel yn ardal Aberhonddu, gan fod y tirlun yn gymharol debyg i dirlun Swydd Efrog lle mae’r stori wreiddiol yn digwydd a hefyd gan fod catrawd milwrol yna.  Digwydd bod, ron i wedi bod ar wyliau yn yr ardal ddwy flynedd ynghynt.  Ond roedd rhaid i mi fynd at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gofyn am gymorth.  Gofynnais i gwestiynau fel ‘ble byddai’n hawdd cuddio yn ymyl llwybr poblogaidd er mwyn neidio allan a llofruddio person?’ a ‘ble mae ffordd fach lle mae car cyffredin (ddim car pedair olwyn) yn gallu mynd i guddio corff?’  Ar ôl mynd adre roedd rhaid astudio pob lleoliad ar-lein er mwyn ceisio creu disgrifiadau realistig.

Adolygiad gan Sue Ward, Dysgwraig o Say Something in Welsh: Stori dditectif gyffrous. Oedd diddordeb gyda fi yn syth o’r frawddeg gyntaf. Doeddwn i ddim eisiau stopio darllen! Mae’r iaith yn addas ar gyfer dysgwyr, ac mae’r geirfa ddefnyddiol hefyd.

Gwales description: The Brecon Beacons National Park is famous for its natural beauty and for its walking trails. However the place reaches the news for another reason; people are being killed in the area.

Pegi Talfryn:  I was thrilled when I was given the work of translating this book, as I adore crime novels.  I quickly realised that I would have to locate the novel in the Brecon area, as the landscape is quite similar to the Yorkshire landscape where the original story happens, and because there is a military base there.  As it happens, I’d been on holidays in the area two years earlier.  But I had to go to the Brecon Beacons National Park Authority to ask for help.  I asked questions such as ‘where would it be easy to hide on a popular footpath and jump out and kill a person?’ and ‘where’s a small road where a normal car (not a 4x4) could go to hide a body?’.  After going home I researched each area online to try to create realistic descriptions.

Review by Sue Ward, learner from Say Something in Welsh: An exciting detective story. I had an interest straight from the first sentewnce. I didn't want to stop reading! The language is suitable to learners, and the vocabulary is very useful.

Y Gêm Beryglus: Tasgau

Gobeithio byddwch chi’n mwynhau darllen stori ‘Y Gêm Beryglus’ cymaint â wnes i!  Dw i wedi paratoi tasgau i gyd-fynd â phob pennod yn y llyfr.  Mae tasgau ar gyfer grwpiau os dych chi’n darllen y llyfr mewn clwb darllen neu ddosbarth ond hefyd mae tasgau ar gyfer unigolion i chi wneud ar eich pen eich hunan gartref.
Dw i’n awgrymu eich bod chi’n darllen pennod cyn trio gwneud y tasgau ar gyfer y bennod honno.  Mwynhewch!

Y Gêm Beryglus:  Tasks

I hope you enjoy reading ‘Y Gêm Beryglus’ as much as I did!  I have prepared tasks to go with each chapter in the book.  If you are reading the book in a reading club or a class have a go at the group tasks together but there are also individual tasks for those of you reading the book at home.
I suggest reading a chapter before trying the tasks for that chapter.  Have fun!

Am Jo Knell

Mae Jo wedi bod yn athrawes ac ymgynghorydd Cymraeg ers dros ugain mlynedd gyda’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw mewn ysgolion uwchradd ail iaith.  Bu’n ddarlithydd Cymraeg hefyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn hyfforddi darpar athrawon. Mae Jo yn awdur pedwar o lyfrau Cymraeg, a llyfr adolygu i ymgeiswyr TGAU yw’r un mwyaf diweddar: https://www.cantamil.com/cynnyrch/welsh-second-language-wjec-gcse-revision/?lang=cy

Mae siop llyfrau Cymraeg gyda Jo yng Nghaerdydd sy’n stocio’r holl lyfrau newydd ynghyd â llyfrau ail law, cardiau, nwyddau ac anrhegion. Mae Cant a Mil yn ardal Mynydd Bychan, Caerdydd.

About Jo Knell

Jo has been a Welsh teacher and consultant for more than twenty years, with most of that time being in second language comprehensive schools.  She has also been a Welsh lecturer in Cardiff Metropolitan University training student teachers. She has written four Welsh language books, the most recent being a revision book for GCSE students: cantamil.com/product/welsh-second-language-wjec-gcse-revision

Jo runs a Welsh language bookshop in Cardiff which stocks a full range of new and second-hand books, cards and gifts. Cant a Mil is in the Heath area of Cardiff.

Tasgau i Grwpiau ac Unigolion

Pennod Un
Pennod Dau
Pennod Tri
Pennod Pedwar
Pennod Pump
Pennod Chwech
Pennod Saith
Pennod Wyth

 

Atebion

Pennod Un: Atebion
Pennod Dau: Atebion
Pennod Tri: Atebion
Pennod Pedwar: Atebion
Pennod Pump: Atebion
Pennod Chwech: Atebion
Pennod Saith: Atebion
Pennod Wyth: Atebion

Cyfres Amdani Gêm Beryglus

Welsh Second Language WJEC GCSE Revision Jo Knell

Y diweddaraf oddi wrth Learners