Dafydd Roberts Mentrau Iaith Cymru

Mudiad Arbennig: Mentrau Iaith Cymru: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau pythefnosol, pob un gyda thema wahanol, sydd yn addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau lefel Canolradd. Maen nhw wedi eu 'sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu. Gallwch chi hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i'w trosi i'r Saesneg.

This article is a part of a fortnightly series of themed articles, which are suitable for learners that are following courses at the Canolradd/Uwch level. They have been written in Welsh only, and they include words that are underlined. You can hover over or press the mouse button to reveal the English.

Ydych chi wedi clywed am Mentrau Iaith Cymru? Tybed oes Menter Iaith yn eich ardal chi? Beth ydy Menter Iaith? Beth mae’r Mentrau Iaith yn ei wneud?

Wel, dyma’r atebion …. a llawer mwy!

Beth ydy mentrau Iaith?

Mudiad lleol sy’n hybu’r iaith Gymraeg ydy’r Fenter Iaith. Mae pob Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer.
Erbyn heddiw, mae rhyw 22 Menter Iaith ar draws Cymru. Mae’n debygol iawn bod Menter Iaith yn eich ardal chi. Ewch ar y wefan:

mentrauiaith.org/dod-o-hyd-i-fenter

Edrychwch ar y rhestr er mwyn darganfod ble mae’ch Menter Iaith agosa.

Ar ôl cyrchu’r wefan, cliciwch ar enw’r ardal er mwyn ymweld â gwefan eich Menter Iaith leol. Mae gwybodaeth yno am y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn eich ardal chi, a sut i gael hyd i’r manylion. Mae’r gwefannau yn hawdd eu darllen, yn lliwgar ac yn hollol ddwyieithog. Dyma ffenest siop leol eich ardal ar gyfer yr iaith Gymraeg!

Beth mae'r Mentrau Iaith yn ei wneud?

Mae’r Mentrau Iaith yn rhoi help i gymunedau Cymru i hyrwyddo ac i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r Mentrau hefyd yn rhoi help a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith.

Menter Iaith CaerffiliCyngor: bydd y Fenter Iaith yn:

  • Helpu pobl i ddefnyddio Cymraeg pob dydd trwy fwynhau gweithgareddau.
  • Helpu pobl i ddysgu Cymraeg
  • Helpu rhieni newydd i fagu eu plant yn ddwyieithog
  • Helpu cymdeithasau a busnesau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg a chynnig gwasanaeth dwyieithog i’r cwsmeriaid
  • Helpu gyda gwaith cyfieithu
  • Helpu gydag addysg Gymraeg i blant

Gweithgareddau: bydd y Fenter Iaith yn:

  • Trefnu gweithgareddau cymdeithasol i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Trefnu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol eraill er mwyn trefnu gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned

Prosiectau: bydd y Fenter Iaith yn:

  • Cynnal cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ ar y cyd â rhaglen C2 radio Cymru
  • Cynnal prosiect treftadaeth er enghraifft ‘Cymraeg Morgannwg’

Jôc Gymraeg yr WythnosBeth ydy hanes y Mentrau Iaith?
• Cafodd y Fenter Iaith gyntaf ei sefydlu yng Nghwm Gwendraeth yn 1991 gan wirfoddolwyr. Roedd y gwirfoddolwyr hyn eisiau hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal yn dilyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r cwm yn 1989.
• Cafodd ‘Mentrau Iaith Cymru’ ei sefydlu yn 1999 er mwyn helpu’r Mentrau Iaith i gydweithio’n agos a rhannu syniadau.

Dyma beth sy’n digwydd gyda rhai o’r Mentrau Iaith lleol

Menter Iaith y Fflint
Mae Menter Iaith Sir y Fflint wedi diweddaru’r straeon plant poblogaidd Magi Ann, Pero, Tedi, Doli a Dicw mewn lliw ac wedi eu hanimeiddio am y tro cyntaf ar ffurf apiau. Mae plant nawr yn gallu darllen y storïau ar eu pennau eu hunain, neu wrando ar y straeon ar yr ap.

Menter Iaith Rhondda Cynon-taf - Dosbarth Pilates
Dyma gyfle gwych i gadw’n heini yn y flwyddyn newydd a dysgu mwy o Gymraeg ar yr un pryd. Mae’r dosbarthiadau yng Nghanolfan Gartholwg ger Pontypridd.

Menter PatagoniaMenter Iaith Caerdydd
Dewch i Tafwyl - Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Dechreuodd yr ŵyl yn 2006. Bydd Tafwyl 2018 yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod, sef 30ain o Fehefin tan 1af o Orffennaf yng nghaeau Castell Caerdydd.

Y Fenter Iaith Leol
Enw’r Fenter Iaith leol ydy Menter Iaith Tawe. Mae pencadlys y fenter yn Nhŷ Tawe, Heol Christina, Abertawe. Mae’r fenter yn cynnal llu o ddigwyddiadau cyffrous trwy’r flwyddyn. Dyma rai ohonyn nhw:
Radio Dysgwyr
Ydy Radio Cymru ychydig yn rhy anodd i chi? Beth am wrando ar ‘Radio Dysgwyr’ Menter Iaith Tawe? Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y poster.

Cerddoriaeth Fyw
Ydych chi’n hoffi cerddoriaeth fyw? Beth am fynd i un o sesiynau cerddoriaeth Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe?
Sesiynau Gwerin: Ail nos Wener y mis
Jacs yn Joio: Trydydd nos Wener y mis
Sesiwn Acwstig gan Tyrfe Tawe: Pedwerydd nos Wener y mis.

Mae manylion llawn ar wefan Menter Iaith Tawe: menterabertawe.org/cy

Menter PatagoniaOeddch chi'n gwybod?
Mae Menter Iaith ym Mhatagonia hefyd. Dyma bosteri yn hysbysebu digwyddiadau Menter Iaith Patagonia. Ewch ar wefan Menter Iaith Patagonia er mwyn cael mwy o wybodaeth am weithgareddau Cymraeg yn Y Wladfa.

Felly, beth am i chi ymuno â’ch Menter Iaith leol chi?
Mae’n gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd ac i ymarfer eich Cymraeg.

Menter Iaith Abertawe
Radio D

Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda'r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.


Mentrau Iaith Logo

Y diweddaraf oddi wrth Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts