Top 10 Traethau Cymru

Traethau Cymru / Beaches of Wales: Top 10

Mae llawer o hwyl i’w gael ar draethau ac mewn trefi ar lan y môr yng Nghymru, gyda llawer o bethau gwahanol i’w wneud. Heb os nac onibai, mae arfordir Cymru’n ysblennydd. Mae’n syniad gwych i fynd am ddiwrnod ar y traeth gyda’ch teulu a’ch ffrindiau!

There is a lot of fun to be had on beaches and in seaside towns in Wales, with lots of different things to do. Without a doubt, the Welsh coast is stunning. It’s a great idea to go for a day on the beach with your family and friends.

Gan / By Lydia Hobbs

Aberdyfi

Mae traeth Aberdyfi ar y ffin rhwng Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae gan y traeth dywod perffaith ac ambell i dwyni tywod bob hyn a hyn yn ymestyn am filltiroedd, oddi wrth Aberdyfi ei hun yr holl ffordd i Dywyn. Mae traeth Aberdyfi yn boblogaidd gyda theuluoedd achos ei fod yn lle da i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd. Rydych chi’n gallu gweld golygfeydd o draeth Ynys Las ar ochr arall yr aber. Gallwch fynd ar deithiau cwch neu deithiau pysgota o’r harbwr. Mae gan Aberdyfi ganolfan hwylio a chwaraeon dŵr prysur.

Aberdyfi

Aberdyfi beach in on the border between Mid and North Wales. The beach has perfect sand and the occasional sand dune extends for miles, from Aberdyfi all the way to Tywyn. Aberdyfi beach is popular with families because it is a good place to relax and enjoy the magnificent views. You can see views of Ynys Las beach on the other side of the estuary. You can also go on boat trips or fishing trips from the harbour. Aberdyfi has a popular sailing and watersports centre.


Abermaw / Barmouth

Lleolir traeth Abermaw yng Ngogledd Cymru ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae mewn lleoliad hyfryd am fod mynyddoedd o’i gwmpas. Mae’r traeth yn enfawr, felly hyd yn oed pan fo’r traeth yn brysur yn yr haf, dydy e byth yn teimlo’n llawn. Hefyd, mae’r golygfeydd ar draeth Abermaw ar fachlud haul yn ysblennydd.  Mae gan Abermaw bopeth y hoffech chi yn ystod diwrnod mas ar y traeth – mae siopau yn agos, yn ogystal â nifer o gaffis, tai bwyta a thafarndai.

Barmouth

Barmouth beach is located in North Wales in Snowdonia National Park. It is in a lovely location as it is surrounded by mountains. The beach is huge, therefore even when the beach is busy in the summer, it never feels crowded. Also, the views on Barmouth beach at sunset are spectacular. Barmouth has everything you would want during a day out on the beach – there are shops close by, in addition to a number of cafes, restaurants and pubs.


Ynys Y Barri (Bae Whitmore) / Barry Island (Whitmore Bay)

Mae Ynys y Barri yn ffurfio rhan o’r dref Y Barri Ym Mro Morgannwg. Mae pobl wedi bod yn ymweld ag Ynys y Barri ers y 1870au. Mae gan arfordir Barri, ar Fôr Hafren, amrediad llanw o 15m (yr ail fwyaf yn y byd, ar ôl Bae Fundy yn Nwyrain Canada). Mae rhywbeth i bawb yno, mae nifer o gaffis a bwytai, gweithgareddau i blant (e.e. wal dringo ac antur golff) ac mae Parc Pleser Ynys y Barri gyda nifer o atyniadau cyffrous. Heddiw, mae Ynys y Barri hefyd yn boblogaidd iawn achos ffilmiwyd y gyfres BBC ‘Gavin & Stacey’ yn yr ardal.

Barry Island

Barry Island forms part of Barry town in the Vale of Glamorgan. People have been visiting Barry Island since the 1870s. The Barry coastline, on the Severn Estuary, has a tidal range of 15m (the second largest in the world, after Bay of Fundy in East Canada). There is something for everyone there, with a number of cafes and restaurants, activities for children (e.g. climbing wall and adventure golf) and there is Barry Island Pleasure Park with exciting rides. Today, Barry Island is also very popular because the BBC series ‘Gavin & Stacey’ was filmed in the area.


Aberllydan / Broad Haven

Mae traeth Aberllydan yn rhan o’r pentref bychan Aberllydan yn Sir Benfro. Mae’r traeth yn dywodlyd hir a chul ar lanw uchel, ond ar lanw isel mae’n datgelu ehangder enfawr o dywod cadarn ac mae digon o le i bawb. Mae clogwyni ar y ddwy ochr sy’n rhoi baeau gwarchod. Ar lanw isel, rydych yn gallu cerdded ar y traeth, heibio’r pentir i fae arall, sef The Settlands, ac wedyn rownd i’r pentir nesaf, Little Haven. Bydd rhaid i chi ystyried y llanw cyn gwneud hyn! Mae’r traeth yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf.

Broad Haven

Broad Haven beach is part of the small village of Broad Haven in Pembrokeshire. The sandy beach is long and narrow at high tide, but at low tide it reveals a huge amount of firm sand and there is plenty of space for everyone. There are cliffs on both sides which provide some sheltered bays. At low tide, you can walk on the beach, around the headland to another bay, the Settlands, and then around to the next headland, Little Haven. You will need to consider the tide before doing this! The beach is very busy during the summer months.


Llangrannog

Pentref ar lan y môr rhwng trefi Aberteifi a Chei Newydd ar arfordir Ceredigion, yng Ngorllewin Cymru yw Llangrannog. Mae traeth Llangrannog yn un o'r traethau mwyaf poblogaidd yng Ngheredigion. Mae’n addas i’r teulu i gyd ac mae gwarchodwyr bywyd ar y traeth dros fisoedd yr haf. Mae traeth Llangrannog wedi ennill statws baner las Ewropeaidd. Mae’r traeth hwn hefyd wedi dod yn boblogaidd oherwydd bod Gwersyll Yr Urdd Llangrannog yn agos. Agwedd ddiddorol o'r traeth hwn yw'r graig fawr i'r gogledd, o'r enw ‘Carreg Bec.’

Llangrannog

Llangrannog is a seaside village between Aberteifi and Newquay, on the Ceredigion coast line in West Wales. Llangrannog beach is one of the most popular in Ceredigion. It is suitable for the whole family and there are life guards on the beach during the summer months. Llangrannog beach has won European blue flag status. This beach has also become popular because the Llangrannog Urdd camp is close by. An interesting element of the beach is the big rock to the north, called ‘Carreg Bec.’


Cei Newydd / New Quay

Traeth poblogaidd yng Ngheredigion yw Cei Newydd. Mae’r traethau tywodlyd a harbwr cysgodol yng Nghei Newydd yn golygu ei fod yn le gwych i’w ymweld unrhyw bryd o’r flwyddyn. Mae’n berffaith er mwyn ymlacio, cerdded ar lan y môr neu eistedd mewn caffi yn edrych dros yr harbwr tra edrych am ddolffiniaid. Hefyd, roedd Dylan Thomas yn byw yno am gyfnod. Meddylir mai Cei Newydd ei hun yw’r sail ar gyfer ei ddrama enwog, Under Milk Wood.

New Quay

New Quay is a popular beach in Ceredigion. The sandy beaches and sheltered harbour in New Quay means that it is a great place to visit any time of the year. It’s perfect in order to relax, walk along the seaside or sit in a café overlooking the harbour whilst looking for dolphins. Also, Dylan Thomas lived there for a short period. It is believed that New Quay is the basis for his famous play, Under Milk Wood.


Poppit Sands

Traeth tywodlyd ar arfordir gorllewinol Cymru yn Sir Benfro yw Poppit Sands. Mae hwylio a syrffio’n boblogaidd iawn ar y traeth hwn ac mae traeth Poppit Sands yn berffaith i dorheulo. Mae’n wych i deuluoedd hefyd, mae achubwyr bywyd ar y traeth bob dydd yn ystod misoedd yr haf ac mae ardal nofio wedi’i farcio. Mae twyni tywod y tu ôl i’r traeth. Mae caffi, tafarn, siop a gwesty yn agos.  Mae'r traeth yn nodi dechrau, neu ddiwedd, Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n 186 milltir o hyd ac mae’n mynd yr holl ffordd i Amroth.

Poppit Sands

Poppit Sands is a sandy beach on the west coast of Wales in Pembrokeshire. Sailing and surfing are very popular on this beach and Poppit Sands beach is perfect for sunbathing. It is great for families too, with lifeguards on the beach every day during the summer months and a designated swimming area has been marked out. The beach is backed by sand dunes. There is a café, pub, shop and hotel nearby. The beach marks the start, or the end, of the Pembrokshire Coast Path which is 186 miles long and it goes all the way to Amroth.


Bae Rhossili / Rhossili Bay

Lleolir Bae Rhossili ym mro Gŵyr, de-orllewin Cymru ar ben de-orllewin Penrhyn Gŵyr, tua 14 milltir i'r gorllewin o Abertawe. Mae gan draeth Bae Rhossili dair milltir o draethlin dywodlyd ysblennydd.  Mae’r traeth yn enwog iawn am ei dywod braf ac mae wedi’i enwi fel un o’r traethau gorau yn y byd! Mae syrffio nawr yn dod yn fwyfwy poblogaidd yna ac mae’n lle hyfryd i fynd am dro, mae’n bosib cyrraedd yr ynys Worms Head ar lanw isel. Pan fo’r llanw'n mynd mas, gellir gweld olion yr Helvetia ar y traeth, sy'n llongddryllio yna yn 1887. Heddiw, mae’r traeth o dan ofal Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhossili

Rhossili Bay is located in the Gower, south west Wales on the south-western tip of the Gower Peninsula, approximately 14 miles to the west of Swansea. Rhossili Bay has three miles of stunning sandy shoreline. The beach is very famous for its fine sand and it has been named as one of the best beaches in the world! Surfing is now becoming more and more popular there and it is a lovely place to go for a walk, it is possible to reach the island Worms Head at low tide. When the tide goes out, you can see remains of the Helvetia on the beach, which shipwrecked there in 1887. Today, the beach is under the care of The National Trust.


Saundersfoot

Traeth yn ne-ddwyrain Sir Benfro yw Saundersfoot. Traeth tywodlyd yw e gyda harbwr bach. Mae traeth Saundersfoot yn boblogaidd dros ben ac mae’n wych i ddiwrnodau mas gyda’r teulu. Hefyd, mae’r traeth yn dda achos ei fod yn lle diogel i fynd nofio yn y môr. Mae popeth y byddech ei angen arnoch chi ar gael yn Saundersfoot, gan gynnwys caffis a siopau. Mae’n ddwy filltir i ffwrdd o Ddinbych y Pysgod, felly mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae nifer o ddigwyddiadau hwyl yn digwydd ar y traeth, fel nofio ar Ddydd Calan a thriathlon bob mis Medi.

Saundersfoot

Saundersfoot is a beach in the south-east of Pembrokeshire. It is a sandy beach with a small harbour. Saundersfoot beach is extremely popular and it is great for days out with the family. Also, the beach is good because it is a safe place to go swimming in the sea. Everything you would need is available in Saundersfoot, including cafes and shops. It is only two miles away from Tenby, therefore it is one of the most popular holiday destinations in Wales. A number of fun events happen on Saundersfoot beach, such as a swim on New Year’s Day and a triathlon every September.


Traeth y Gogledd, Dinbych y Pysgod / North Beach, Tenby

Traeth tywodlyd a chysgodol yw Traeth y Gogledd yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro. Mae’r Graig Goscar enwog yn sefyll yng nghanol y traeth. Mae’r golygfeydd yn ysblennydd drwy’r amser ac fel canlyniad, dyma un o'r golygfeydd mwyaf ffotograffig yng Nghymru gyda'r harbwr hardd yn y pen gorllewinol. Mae Traeth y Gogledd, Dinbych y Pysgod, yn le anhygoel wedi'i amgylchynu gan dai a gwestai lliw pastel ar y clogwyni. Mae’r promenâd a thref Dinbych-y-pysgod yn edrych dros Draeth y Gogledd. Yn ddiweddar, mae’r traeth hwn a Dinbych y Pysgod gyfan wedi dod yn fwyfwy poblogaidd achos bod y triathlon ‘Ironman’ yn cael ei gynnal yn yr ardal bob mis Medi, gyda dros ddwy fil o athletwyr a miloedd o gefnogwyr.

Tenby

North Beach in Tenby, Pembrokeshire, is a sandy and sheltered beach. The famous Goscar rock stands in the middle of the beach. The views are stunning all the time and as a result, it is one of the most photographed views in Wales, with the beautiful harbour at the western end. North Beach, Tenby is an amazing place surrounded by pastel colored houses and hotels on the cliffs. The promenade and Tenby town look over North Beach. Recently, this beach and the whole of Tenby has become increasingly popular because the Ironman triathlon is held in the area every September, with over two thousand athletes and thousands of supporters.

Y diweddaraf oddi wrth Fun

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are