Gan Cari Powell, myfyriwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe a’i phwnc arbenigol yw Ffiseg a Chosmoleg.
By Cari Powell, a PhD student in Swansea University, and her speciality subject is Physics and Cosmology.
Adio - Y proses lle mae rhywbeth yn cael ei ychwanegu at rhywbeth arall.
Addition - The process of adding something to something else.
Tynnu - Y proses lle mae rhywbeth yn cael ei thynnu o rywbeth arall.
Subtraction - The process of taking something away from something else.
Lluosi - Gweithrediad mathemategol lle mae rhif yn cael ei ychwanegu at ei hun sawl gwaith.
Multiplication - A mathematical operation where a number is added to itself a number of times.
Rhannu - Grwpio nifer o bethau yn grwpau cyfartal
Division - Grouping a number into equal parts.
Ffwythiant - Mynegiant yn dangos perthynas fathemategol neilltuol rhwng menbwn (x) ac allbwn (f(x)). Gweler yr enghreithiau isod:
Function - An expression showing a particular mathematical relationship between input (x) and output (f(x)). See the examples below:
Defferyn - Cyfradd newid ffwythiant mewn perthynas â newidyn. Ystyried yr esiampl seml isod. Yna, rydych yn lluosi â'r hen bŵer ac yn tynnu un o'r hen bŵer. Differu yw'r enw ar y proses hwn.
Derivative - The rate of change of a function with respect to a variable. You multiply the power at the start of the term and subtract one from the power.
Integru - Y proses sydd yn wrthdroi i ddifferu. Ystyried yr esiampl seml lle byddwch yn integru x^n, (a x =/= -1). Wedyn, byddwch yn adio un i'r hen pŵer ac yn rhannu â'r pŵer newydd.
Mae yna ddau brif fath o integrynnau:
Integryn amhendant - Does dim terfynau (rhifau yr ydych yn integreiddio rhwng felly mae angen adio cysonyn (e.e. C).
Integryn pendant - Mae yna derfynau, ac mae rhaid i chi eu defyddio wedi i chi integru.
Amhendant/Indefinite:
Pendant/Definite:
Integrate - The inverse process to differentiation. Consider this example where you will integrate x ^ n, (and x = / = -1). Then add one to the old power and share with the new power.
There two main types of integrals:
Indefinite integrals - There are no limits (the numbers you integrate between) so you must add a constant (e.g. C) to the end of your expression.
Definite integrals - There are limits, and you have to use them having integrated.
Fformiwla - Grŵp o symbolau mathemategol sy'n mynegi perthynas neu sy'n cael eu defnyddio i ddatrys problem.
Formula - A group of mathematical symbols which are used to solve a problem or express a relationship.
Hafaliad - Pan fydd dau fynegiant mathemategol yn cynnwys newidyn (x) yn gyfartal, gallwch ddatrys yr hafaliad i ddod o hyd i werth(oedd) x.
Equation - Two mathematical expressions which are equal ( indicated by the equals sign).
Theori - Ffaith wyddonol y gellir ei chwirio drwy ddefnyddio profion.
Rhagdybiaeth - Esboniad tybiedig neu arfaethedig wedi'i wneud ar sail tystiolaeth gyfyngedig fel man cychwyn ar gyfer ymchwiliad pellach.
Theory - A scientific fact which can be verified through tests and experiments.
Hypothesis - A proposed or presumed explanation made based on limited evidence as a starting point for further investigation.
Grym - Yr hyn sy'n peri i wrthrych a chanddo fàs gychwyn symud. neu newid ei gyflymder (hynny yw, rhywbeth sy'n achosi cyflymiad). Mae hwn yn fesur fector, sy'n golygu bod ganddo faint a chyfeiriad.
Force - A push or pull on an object with a mass which causes it to change direction.
Momentwm - Lluoswm màs a chyflymder. Mae hwn hefyd yn fesur fector.
Momentum - The product of mass and velocity. This makes it a vector which means that it has a magnitude ( or size) and direction.
Pŵer - Cyfradd gweithio; neu gyfradd trosglwyddo egni.
Pŵer Trydanol/ Electrical Power:
Power - The rate at which work is carried out when energy is transferred from one place to another.
Gwaith - Math o drosglwyddiad egni yw gwaith. Er enghraifft, mae grym yn gwneud gwaith os w'r gwrtheych y mae o'n gwithredu arno yn cael ei ddadleoli yn y cyfeiriaf y mae'r grym yn gweithredu.
Work - A force is said to be doing work if the object it is acting on is displaced in the direction the force is acting.
Egni - Y gallu i wneud gwaith.
Energy -The ability to do work.
Cyflymder - Mesur fector yn cynrychioli buanedd mewn cyfeiriad penodol.
Velocity - A vector quantity which represents the speed of an object in a given direction.
Màs - Eiddo mater sy'n mesur ei wrthwynebiad i gyflymiad, neu sut mae grym disgyrchiant yn effeithio arno.
Mass - It is a property of matter that measures its resistance to acceleration.
Dadleoliad - Mesur fector sy'n mesur pa mor bell mae gwrthrych wedi symud, neu ba mor bell ysy,mewn cyfeiriad penodol, o ryw bwynt neilltuol.
Displacement - A vector which measures how far away an object is in a given direction.
Cyflymiad - Mesur fector sy'n cynrychioli cyfradd newid cyflymder dros amser. Noder bod y gair 'cyflymiad' hefyd yn cynrychioli mesur sgalar yn dangos cyfradd newid buanedd dros amser.
Acceleration - A vector quantity which is defined as the rate at which and object's velocity changes.
Fector - Mesur factor - endid ffisegol sydd â maint a chyfeiriad (e.e. grym, cyflymiad, cyflymder, dadleoliad)
Sgalar - Mesur sgalar - endid ffisegol sydd â maint yn unig (e.e. cyflymiad, buanedd, pellter, amser, màs, dwysedd, tymheredd).
Vector - A value which has a magnitude (size) and direction.
Scalar - A value which only has a magnitude.
Disgyrchiant - Y grym sy'n denu corff tuag sydd â màs tuag at unrhyw gorff arall sydd â màs (e.e. y grym sy'n denu afal yn disgyn tuag at ganol y Ddaear).
Cyflymiad disgyrchiant - Cyflymiad gwrthrych oherwydd grym dysgrychiant.
Gravity - The force that attracts a body towards the centre of the Earth, or towards any other body.
Gravitational acceleration - The acceleration of an object due to the force of gravity.
Pellter - Mesur sgalar sy'n mesur pa mor bell mae gwrthrych wedi symud, neu ba mor bell ydy, o ryw bwynt neilltuol.
Distance - A scalar quantity that measures how far an object has moved.
Buanedd - Mesur sgalar sy'n cynrychioli cyfradd newid pellter dros amser.
Speed - A scalar quantity that measures how fast an object is going.
Pwysau - Y grym a grëwyd ar fàs gan rym disgyrchiant yn gweithredu arno, y mae ei faint wedi'i gynrychioli gan luoswm y màs a gwerth cyflymiad disgyrchiant.
Weight - The force created by gravitational acceleration acting on a mass.
Dwysedd - Màs pob uned o gyfaint o wrthrych.
Density - Mass per unit volume of an object.
Gwasgedd - Maint y grym yn gweithredu'n berpendicwlar i pob uned o arwynebedd.
Pressure - Force per unit area.