Ar ei ben ei hunan, mae'r ymadrodd wrth fy modd yn gallu golygu delighted neu in one’s element yn Saesneg. Edrychwch ar y dabl isod:
On its own, wrth fy modd can mean delighted or in one’s element, as in the below table:
Dw i | wrth | (f)y modd | I’m delighted/in my element |
Rwyt ti | wrth | dy fodd | You’re delighted |
Mae e | wrth | ei fodd | He’s delighted |
Mae hi | wrth | ei bodd | She’s delighted |
Dyn ni | wrth | ein bodd | We’re delighted |
Dych chi | wrth | eich bodd | You’re delighted |
Maen nhw | wrth | eu bodd | They’re delighted |
Ond, os byddwch yn rhoi wrth yn modd o flaen yn traethiadol + berfenw bydd yr ystyr yn newid. Weydn bydd yr ymadrodd yn golygu to really like (doing something) neu to love (doing something), e.e:
Followed by yn and a verb-noun it can mean - to really like/love doing something, e.g:
Dw i wrth fy modd yn darllen I really like reading
Dyn ni wrth ein bodd yn nofio We love swimming
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Fyddwn i fwynhau gwrando ar y cyngerdd? Byddwn i wrth fy modd!
Would I enjoy listening to the concert? I'd be in my element!
2. Roedd Ffred yn sôn am y sioe, ac yn dweud dy fod di wrth dy fodd
Ffred was talking about the show, and saying that you were delighted
3. Bydd e wrth ei fodd os byddwn ni'n canu'n dda
He’ll be delighted if we sing well
4. Roedd hi wrth ei bodd o weld y plant
She was delighted to see the children
5. Dyn ni wrth ein bodd o dalu am ginio
We’re delighted to pay for dinner
6. Ro'ch chi wedi bod wrth eich bodd yn ystod y ddrama, mae'n dweud
You had been in your element during the play, he says
7. Falle y byddan nhw wrth eu bodd os byddan nhw'n dawnsio'n dda
Perhaps they'll be delighted if they dance well
8. Mae Sandra wrth ei bodd o helpu Ffred i lwyddo yn yr arholiad
Sandra's delighted to help Ffred to succeed in the exam
9. Ro'n i wrth fy modd yn chwarae yn yr ardd pan o'n i'n blentyn, ond bellach mae'n well 'da fi ganu
I really liked playing in the garden when I was a child, but now I prefer singing
10. Dyn nhw wrth eu bodd yn nofio , ond ro'n nhw'n arfer dwlu ar sgio
They love swimming, but they used to love skiing