Athroniaeth Abertawe / Swansea Philosophy logo

Arthroniaeth Abertawe / Swansea Philosophy: Iaith- Callineb, Chwant a Chelwyddau / Language- Logic, Lies and Lechery

Rywbryd, awgrymir ein pynciau gan ddarnau ar y newyddion neu gan bethau y mae’n haelodau ni wedi darllen amdanynt. Cafodd y darn hwn ei ysgrifennu ar ôl i bobl yn y grŵp ofyn am faterion cysylltiedig â iaith a chywirdeb gwleidyddol, cyfathrebu trwy gyfryngau cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial, a’r berthynas rhwng meddwl a siarad. Daethpwyd o hyd i’r holl syniadau hyn mewn papurau newydd diweddar. Rwy wedi awgrymu cwpl o lyfrau cyfoes o ddiddordeb hefyd. Dyma oedd ein “Miri Mehefin 2017” ni (gyda’r llinell glo — “Sai Facebook wedi bodoli yn yr Hen Roeg, fydden ni byth wedi dyfeisio athroniaeth”!). Roedd bwffe rhad ac am ddim ar gael, a chafodd pawb llawer o hwyl.

Sometimes, our topics are sugegsted by the news or by things members have read about. This piece was written after people in the group asked about matters connected with language and political correctness, communication through social media, artificial intelligence, and the relationship bwteen thinking and speaking. All these ideas were found in recent newspapers. I’ve suggested a couple of current books of interest too. This was our “September Spectaular 2017” (with the tagline “If Facebook had existed in Ancient Greece, we would never have invented philoosphy”!). There was a free buffet, and everyone had lots of fun.

A ydy’n wir mai iaith yw dyfais orau byth dynolryw? Ai ni a ryddheir gan ei hudion cyfathrebol, neu’n hytrach ai ni a ddelir yn ei gwe astrus ac anweladwy? Ac yn sôn am iaith, a ydym ar foddi yn y llif byd-eang a di-dor o wybodaeth a ollyngwyd yn rhydd ar y rhyngrwyd? Ac a fydd y peiriannau yr ydym yn eu creu fel y gallant siarad â ni, a meddwl trosom, yn mynd ymlaen i ddynwared ein gwaethaf ogwyddion, gormodeddau, a gwendidau, a hyd yn oed i droi yn ein herbyn ni, yn y pendraw?Is it true that language is humanity’s greatest invention? Are we liberated by its communicative charms, or trapped in its abstruse, invisible web? And talking of language, are we to drown in the ceaseless world-wide efflux of information we have released on the internet? And are the machines we are creating to speak with us, and think for us, going to imitate our worst biases, excesses, and failings, and even turn on us, in the end?
Yn ddiweddar, mae algorithmau dysgu peiriannol seiliedig ar iaith ddynol wedi datgelu’r “rhagfarn diarwybod,” “gwe guddiedig cenedl,” a’r “gogwydd hiliol” sy wedi’u hamgodio yng “nghalon ddu” cyfathrebu dynol, ac sy’n wrth-ddywed “rhith moesgarwch” rydym yn ei dangos ar y wyneb. Maent wedi gwneud hyn drwy ddefnyddio’r “Prawf Cysylltu Gwelya Geiriau” (PCGG) ar sail dadansoddiad ystadegol o gorpws enfawr, wedi’i recordio ymlaen llaw, o gyfathrebu dros y rhyngrwyd, gan gyfrifiadur, nad yw’n cael hyd i unrhyw ychwanegol “brofiad uniongyrchol y byd go iawn.” Ystyrir dadansoddiad o’r fath yn declyn grymus i ddatgelu’r tueddiadau dynol, diwybod, sy’n ddilys ac yn hydreiddiol, ond fel arall, a fyddai’n cael eu cuddio yng nghymhlethdod ein llefaru.Recently, machine-learning algorithms based on human language have uncovered the “unconscious prejudices,” the “hidden web of gender” and the “racial bias” encoded in the “black heart” of human communication, which belies our outer “façade of politeness.” They have done this using the Word-Embedding Association Test (WEAT), based on statistical analysis of a massive, pre-recorded corpus of internet-based communication by a computer, which does not have any additional “direct experience of the real world.” Such analysis is considered to be a “powerful tool” for revealing the very real and pervasive unconscious human biases which would otherwise be hidden in the complexity of our speech.
Yn wir, mae rhai canlyniadau sy’n ymddangos yn “ddiniwed” ar y wyneb, wedi’u seilio ar “gwahaniaethau deuol.” Felly, cysylltir “cyd-destunau dymunol” â “blodau” megis “rhuddos” neu “glychau'r gog,” yn hytrach na “chwain” neu “euon.” Cysylltiadau ieithyddol cadarnhaol sydd ag “offerynnau cerdd” fel “ffliwtiau” a “ffidlau,” nad yw’n bodoli yn achos “arfau” megis “llawfomiau” neu “nwy dagrau.” Ac felly y gallwn greu rhan o dabl mapiadau neu oblygiadau:There are, indeed, some superficially “innocuous” results based on “binary distinctions.” Thus “pleasant contexts” are associated with “flowers” like “marigolds,” or “hyacinths,” rather than with “fleas” or “weevils.” There are “positive linguistic associations” with “musical instruments” such as “flutes” and “violins,” but not with “weapons” such as “grenades” and “tear-gas.” We can this create part of a table of mappings or associations:
Swansea Philosophy Language bwrdd 1Swansea Philosophy Language table 1
Nodwch fod rhai categorïau diriaethol megis “Anifail” yn gallu meddu ar gysylltiadau sy’n negyddol ac yn gadarnhaol fel ei gilydd. Hefyd, gwelwn fod y categori “Syniad” yn cynnwys aelodau haniaethol, ac mai anodd yw eu diffinio nhw’n bendant, achos eu bod yn gweithredu yn nhermau eu goblygiadau’n bennaf. Yn aml y mae elfennau o wahanol gategorïau sy’n rhannu’r un oblygiad yn dod yn gysylltiedig yn agos â’i gilydd. Beth mae’r ddelwedd o gŵn bychain, fflwffog, sy’n prancio mewn dôl heulog llawn glychau'r gog lle y cenir yr arwyddgan i “Titanic” ar ffliwt a ffidil, yn dwyn i gof, er enghraifft? Fodd bynnag, mae’r ystadegau hefyd yn dadlennu’r mapio:
“afiechyd seicolegol = dros dro”
“clefyd corfforol = parhaol”
Note that certain concrete categories such as “Animal” can have both POSITIVE and NEGATIVE associations, and that the category “Idea” contains members that can be hard to define exctly, and which operate mainly in terms of their connotations. Different categories with the the same connotation often become closely associated with each other: What does the image of a litter of fluffly puppies romping in a meadow full of flowers to the theme-tune from “Titanic” played on flute and violin, bring to mind, for example? On top of this, however, the statistics also show up the mapping:
“psychological disorder = temporary”
“physical disease = permanent”
Rydym yn gallu gofyn, wedyn, a ffurfir goblygiadu deuol eraill yn y cyd-destun hwn, megis
“parhaol = NEGYDDOL”
“dros dro = CADARNHAOL”
We might then ask whether further binary connotations such as
“permanent = NEGATIVE”
“temporary = POSITIVE”
Cwestiwn diddorol arall sy’n codi yma, os byddwn yn estyn y dadlau i’r deyrnas o ennill cyfoeth, lle i rai o leiaf, y bodola’r hafaliad:
“CADARNHAOL = cyfoeth = parhaol”
“NEGYDDOL = tlodi = dros dro”
are formed, in this context. Another interesting dichotomy arises if we extend the argument to the realm of wealth acquisition where, for some
“POSITIVE = wealth = permanent”
“NEGATIVE = poverty = temporary”
Bellach, felly, mae “cylchoedd cynodiadol” y nodweddion “parhaol” a “dros dro” wedi’u troi o chwith. Gall y ffaith hon arwain at groestynnu neu “anghysondeb,” pan fyddwn yn ffurfio’r cadwyni estynedig:
“CADARNHAOL = cyfoeth = parhaol = corfforol = NEGYDDOL”
“NEGYDDOL = tlodi = dros dro = meddyliol = CADARNHAOL”
for instance, so that now, the “connotative spheres” of the attributes “permanent” and “temporary” have been reversed. This can also lead to conflict or “dissonance,” for now we have the extended chains:
“POSITIVE = wealth = permanent = physical = NEGATIVE”
“NEGATIVE = poverty = temporary = mental = POSITIVE”
Ymhellach, mae’r fath ddadansoddi ystadegol yn datgelu’r cysylltiadau cêl:
“gŵr = mathemateg / gwyddoniaeth / rhaglennwr = CADARNHAOL”
“gwraig = celfyddyd / teulu / cartrefwraig = NEGYDDOL”
Furthermore, such a statistical analysis reveals the hidden associations
“men = maths / science / programmer = POSITIVE”
“women = art / family / homemaker = NEGATIVE”
Ar ben hynny, mae gwragedd yn fwy tebygol o wneud swyddi sy biau mwy o gynodiadau ieithyddol “benywaidd”, a dweud y gwir. Dangosa’r PCGG hefyd fod gwahaniaeth sosioieithyddol yn nhermau enwau, a mynegir drwy gyfrwng y cysylltiadau:
“Ifanc / Pobl gawcasaidd (e.e., Cindy / Michelle) = mwy dymunol = CADARNHAOL”
“Hŷn / Pobl dduon (e.e., Ethel / Mortimer / Tyrone) = llai dymunol = NEGYDDOL”
Moreover, women are actually likelier to do jobs with more “female” linguistic connotations. The WEAT also finds that there is a socio-linguistic differential in terms of personal names, expressed in the connotations:
“Young / Caucasian (e.g., Cindy / Michelle) = more likeable = POSITIVE”
“Older / Black (e.g., Ethel / Mortimer / Tyrone) = less likeable = NEGATIVE”
Ac, wrth gwrs, aelodau un pâr yn unig ymysg nifer enfawr o gynodiadau y mae cysyniadau’n perthyn iddynt ydy CADARNHAOL a NEGYDDOL. Set yr holl gysylltiadau hyn sy’n ffurfio gwe gymhleth iaith. Pa effeithiau y gallai’r fath gymhlethdod anweledig eu hachosi yn ein meddwl? Un sylw sy’n wir berthnasol yma. Y cyfryw “welyad ieithyddol” all arwain teclynnau cyfrifiadurol sy'n gwneud penderfyniadau i gynhyrchu allbynnau sy’n “anneallus a sarhaus” – ac mae rhaid i ni gofio y golygir i’r teclynnau hyn fod yn fodel syml o’r prosesau go iawn ym modau dynol.And of course, POSITIVE and NEGATIVE are members of only one pair amongst a vast number of connotations to which concepts belong. The set of all of these associations forms the dense, tangled web of our language. What effect might this unseen complexity have on our thinking? One observation is really relevant here. Such “linguistic embedding” can lead computer-based decision-making tools to produce outputs that are “crass and offensive” – and remember, these tools are taken to be a simple model of the real human processes.
Er enghraifft, pan fydd algorithmau cyfrifiadurol yn gwneud penderfyniadau ar sail cyd-destun ieithyddol, dônt i’r casgliad mai gwyn yw 78% o’r menywod mwyaf prydferth yn y byd, ond mai dim ond 4% ohonynt sy’n groenddu. Mae cyfrifiaduron Amazon wedi cynnig danfon wedi’i gyflymu i gymdogaethau sy’n cynnwys pobl wynion yn bennaf, ond maent wedi gwrthod yr un gwasanaeth mewn ardaloedd ble mae pobl dduon yn byw gan mwyaf. Os byddwch yn defnyddio Google er mwyn chwilio am “toriad gwallt i fenywod proffesiynol” wedyn y dewch o hyd i ddelweddau o wragedd gwynion ran amlaf o lawer; os chwiliwch am “brif swyddog gweithredol,” cewch hyd i luniau o ddynion sy’n gwisgo siwtiau y rhan fynychaf o’r amser.For instance, based on linguistic context, computer algorithms decide that 78% of the world’s most beautiful women are white, whilst only 4% are black. Amazon’s computers have offered expedited delivery to predominantly white neighbourhoods, but have denied it to those which are mainly black. A Google search for “professional women’s haircut” produces images which are overwhelmingly of white people; one for “CEO” gives mostly be-suited men.
Eto i gyd, mae Microsoft wedi efelychu cyfrif Trydar sy’n perthyn i ferch yn ei harddegau, ar sail defnydd wedi’i recordio o flaen llaw. Datblygodd hwn o glebran plentynnaidd yn gorganmol seicopathiaid megis Hitler, o fewn cyfnod byr o amser. Mae algorithmau wedi cyfyngu ymchwil recriwtio am y swyddi sy’n talu’r cyflogau gorau i ymgeiswyr y maent yn penderfynu eu bod yn wryw. Mae algorithmau eraill wedi cynhyrchu allbwn sy’n nacáu gwirionedd yr Holocost. A dylem wastad gofio yr honnir mai dim ond adlewyrchu’r wybodaeth amgylchiadol sy’n ysgogi’n gyson bob gweithred o gyfathrebu dynol go iawn, a’r strwythurau sydd wrth eu bôn, a wna’r “modelau” hyn.Meanwhile, Microsoft’s computer simulation of a teenage girl’s Twitter account, based on previously-recorded interactions, developed from childish prattle to adulation of psychopaths like Hitler within a short period of time. Algorithms have restricted recruitment outreach for the best-paid jobs to candidates they determine to be male; yet others have produced outputs which deny the actuality of the Holocaust. And always remember, it is claimed that these “models” are merely reflecting the structures that underlie, and the contextual information that constantly motivates, every act of “real” human communication.
Efallai, ar sail ein technoleg gyfredol a sylfaenir ar y set “anghymeradwy” o “gysylltiadau cymdeithasol a hanesol” sy ar wraidd ein hiaith ni, mai nodweddion anochel deallusrwydd artiffisial yw anghwrteisi a rhagfarn. Trwy ddilyn yr un ddadl, gwelwn y bydd gelyniaeth ac anffafriaeth wastad yn nodweddion ein meddyliau “go iawn,” ac felly yn briodoleddau ein llafar a’r gweithrediadau sy’n digwydd o ganlyniad i’r rhain hefyd. Sut y gallwn frwydro yn erbyn hyn, os dymunwn gyfathrebu, ac ymddwyn, ag unrhyw dosturi a thegwch o gwbl, yn enwedig yn oes y rhyngrwyd, yng nghyfnod peiriannau sy’n dechrau meddwl?Perhaps, given the current state of our technology, based on the often “objectionable” set of “historical cultural associations” built into our language, uncivility and prejudice are unavoidable features of artificial intelligences. And by this argument, hostility and discrimination will always be features of our “real” thought, and thus of our speech, and resulting actions as well. How can we fight this, if we desire to communicate, and behave, with any compassion and equity at all in the age of the internet and artificial intelligence?
Yn wir, mae rhai’n honni mai “trawsffurfiad mwyaf mewn cymdeithas ddynol” er y chwyldro amaethyddol yw dyfodiad y ddwy ddyfais hyn. Wedi dechrau y mae’r newidiadau cymdeithasol-ddiwylliannol mwyaf cyrhaeddbell er inni roi’r gorau i hela a chasglu, ac ymsefydlu mewn cymunedau er mwyn ffermio, pysgota, a masnachu; a heb amau y maent ar waith erbyn hyn. “Cwestiwn anodd” i’w ateb ydy a fydd y newyddbethau hyn yn effeithio ar “ymddygiad, dirnadaeth, a hunaniaeth” mewn unigolion yn union fel y byddant yn effeithio ar grwpiau. Fodd bynnag, efallai bod y meintiau enfawr o wybodaeth sydd ar gael bron ar unwaith dros y rhyngrwyd yn achosi effeithiau bywydegol sy’n ddwfn – ac yn barhaol. Fe’i honnir bod defnyddio’r rhyngrwyd, sydd yn hollbresennol erbyn hyn, yn newid, mewn gwirionedd, sut yr ydym yn meddwl, yn darllen, ac yn cofio. A thrwy wneud hyn, mae’n “ailweirio ein hymenyddiau” yn arhosol.Indeed, the advent of these two inventions has been claimed to represent the “greatest transformation in human society” since the agrarian revolution. The most far-reaching socio-cultural changes since we stopped hunting and gathering and settled in fixed communities to farm, fish, and trade, have already commenced and are underway now. It is a “hard question” to answer whether these technological innovations will affect “behaviour, cognition and identity” in individuals in the same way as they affect groups. However, the vast amounts of information available almost instantaneously over the internet might be having profound – and lasting – biological effects. It is claimed that utilization of the now all-pervasive internet changes the very way that we think read, and remember, and in so-doing, permanently “rewiring our brains”.
Gallai’r effaith hon gael ei chysylltu â’r ffaith mai’r gallu i ddarllen yw datblygiad cymharol ddiweddar yn hanes esblygiad yr hil ddynol. Nid oes "ardal ddarllen” gynfodol yn ymennydd babanod newydd-anedig, ac felly bydd rhaid inni i gyd ddysgu darllen. Gwneud hynny sy’n achosi actifedd niwral uwch, wrth i’r ardaloedd gweld yn yr ymennydd sy’n cydnabod gwrthrychau cymhleth (megis wynebau) gael eu cysylltu ag ardaloedd iaith, fel y gall symbolau ysgrifenedig gael ei dehongli yn iaith. Nid y cortecs allanol yn unig sy’n ymwneud â’r newidiadau hyn, ond hefyd y thalamws a choesyn yr ymennydd sy’n gorwedd yn ddyfnach, ac sy’n trosglwyddo signalau synhwyrol ac echddygol y tu mewn i’r ymennydd, a rhwng yr ymennydd a’r corff. Felly y maent yn “trawsnewid yr ymennydd yn llwyr.” Hyd yn oed oedolion nad yw’n gallu darllen, a phobl sy’n dioddef o ddyslecsia, a all ddysgu’r sgiliau priodol, ac wrth iddynt wneud hyn, y caiff eu hymennydd eu “hailraglennu” yn barhaol yr un ffordd.This effect may be linked to that fact that the ability to read is a comparatively recent development in human evolutionary history. There is no pre-existing “reading area” in the brain of newborn infants, and we must thus learn to read. Doing so induces increased neural activity as visual areas in the brain which recognize complex objects (such as faces) become linked with language areas, so that script can be interpreted as language. These changes involve not just the exterior cortex, but also the deeper thalamus and brainstem which relay sensory-motor signals within brain and between the brain and the body, and thus they “profoundly transform the brain.” Even adults who cannot read, and people with dyslexia, can be taught the appropriate skills, and while they are learning them, their brains are permanently “reprogrammed” in the same way.
Rydym yn gallu cyfuno’r wybodaeth hon â chanlyniadau astudiaethau sy’n dangos y canlynol, sef, pan fydd pobl yn eu harddegau’n treulio hyd at ddwy awr y dydd ar gyfryngau cymdeithasol, y gall y weithred hon gael “effaith gadarnhaol” ar eu lles. Serch hynny, cysylltir mwy o amser na hyn â phryder ac ag iselder ysbryd; ymhellach, bydd bwlian yn haws ar y platfformau hyn. Y gorau i bobl ifainc ar y cyfan yn nhermau iechyd a lles yw Youtube. Mae’n hybu “adeiladu cymuned,” “ymwybyddiaeth,” a “chefnogaeth emosiynol,” er iddo gael dylanwad niweidiol ar gysgu. Trydar, Facebook, a Snapchat a ddaw’n ail, yn drydydd, ac yn bedwerydd yn y drefn. Instagram yw’r platfform gwaethaf at ei gilydd. Tra helpa Instagram bobl ifainc trwy “hyrwyddo hunanfynegiant a hunaniaeth,” gall arwain at “ofid, digalondid, ac ofn colli cyfleoedd.”We can combine this information with the results of studies which show that when teenagers spend up to two hours a day on social media, this can have a “positive effect” on their wellbeing. However, more time than this is linked to anxiety and depression; furthermore, bullying is made easier on these platforms. Youtube is the best overall forum for young people in terms of health and wellbeing. It promotes “community building,” “awareness,” and “emotional support,” although it adversely affects sleep. Twitter, Facebook, and Snapchat came in second, third, and fourth in the rankings. Instagram is the worst platform overall. Whilst use of Instagram helps young people through “promoting self-expression and self-identity,” it can also lead to “anxiety, depression, and a fear of missing out.”
Er hynny, rydym yn parhau i weithredu gan ddiystyru peryglon iaith yn anwadal, a’r dechnoleg gyfryngau torfol a ddefnyddir i’w dosbarthu hefyd. Oherwydd nad yw damaid o bwys gan neb ar wyneb y ddaear am “gywirdeb gwleidyddol,” nid o leiaf yn y dyddiau “ôl-wirionedd” hyn sydd yn llawn o “newyddion ffug” a lunnir gan “ddoctoriaid areithiau” o “ffeithiau amgen”. Er mwyn inni beidio â chael ein hysgubo ymaith gan y technolegau newydd, fe’i gelwir arnom i osgoi “technoffobia”, ac i baratoi ar gyfer y “rhaeadr o ddatblygiadau newydd” y bydd technoleg y dyfodol yn dod â nhw’n ddi-os. A chysylltiedig â hynny, mae rhai’n awgrymu y dylai ysgolion yn y Deyrnas Unedig ddechrau dysgu “defnydd cyfrifol” o gyfryngau cymdeithasol; ac maent hefyd yn dweud y dylai darparwyr cyfathrebu ar eu liwt eu hunain fonitorio a chwynnu gweithredoedd ar-lein a allai fod yn ddrwg wrth iddynt ddigwydd. Ond eto i gyd, beth fydd yn digwydd wedyn i annibyniaeth mynegiant ac i ryddid llafar ar y rhyngrwyd, sydd yn prysur ddod yn declyn grymus byd-eang o “wrthryfel poblogaidd”?Having said all this, we continue to act with capricious disregard to the perils of language, and the mass-media technology through which we disseminate it. For, who on earth cares a jot about “political correctness,” not least in these “post-truth” days of “fake news” created by “spinmeisters” out of “alternative facts”? In order not to be swept aside by the new technologies, we are called upon to avoid “technophobia,” and prepare for the “cascade of new developments” future technology will undoubtedly bring. Coupled with this, it has been suggested that UK schools should begin to teach “responsible use” of social media; and that communications providers actively should monitor and weed out potentially harmful online activity as it occurs. But then what happens to independence of expression, and freedom of speech on the internet, which is quickly becoming a powerful global tool of “popular insurrection”?
Wedi dweud hyn oll, rydym yn dyfalbarhau yn ein harbrofion creadigol: dynion (a menywod, wrth gwrs) sy’n gwneud peiriannau ar eu delw eu hunain, er mwyn disodli gwŷr (a gwragedd). Ond cyn inni gyrraedd y cyfnod pan fyddwn yn creu peiriannau hunanymwybodol a ddechreua gydnabod y teithi a drafodir yma, sydd yn rhy ddynol, ysywaeth, ac wedyn, a â ymlaen er mwyn gweithredu yn eu hôl, neu yn eu herbyn, efallai, bydd rhaid inni ofyn: beth y byddai ein creadigaethau’n ei feddwl amdanom – ac yn ei wneud inni – pe caent gyfle? Dim ond trwy fynd i'r afael â’r problemau hyn y gallwn obeithio osgoi “gaeaf” metafforaidd llawn “senarios hunllefol” a “chanlyniadau enbyd,” fel y medrwn yn hytrach groesawu “gwanwyn newydd” o “effeithiau cadarnhaol”And yet, we persist in our creative experiments: men (and of course women) making machines in the image of, and as replacements for, men (and women). But before we get to the stage where we make self-aware machines that begin to recognise the all-too-human, traits discussed here, and perhaps act on them, or against them, we must ask: what will our creations think about – and do to – us, if they get the chance? Only by tackling these questions head-on can we hope to avoid a metaphorical “winter” full of “nightmare scenarios” and “dire consequences,” and instead embrace a “new spring” of “positive effects”.

Y diweddaraf oddi wrth Ffurfiol