Dafydd Roberts Y Daith i Batagonia 2

Y Mis Yma yn Hanes Cymru- Y Daith i Batagonia 2: Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts

Yn Darllen a Deall gyda Dafydd Roberts/Dysgwyr

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.

This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.

Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Y Glanio a’r Dyddiau Cynnar

Tir ar y [simple_tooltip content=’Horizon’]Gorwel[/simple_tooltip]

Dafydd Roberts Patagonia Map

Ddydd Gwener, 28ain o Orffennaf 1865, glaniodd yr [simple_tooltip content=’settlers’]ymfudwyr[/simple_tooltip] mewn bae o’r enw Porth Madryn a cherddon nhw ar dir eu cartref newydd am y tro cyntaf.

Roedd dau Gymro – Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones yno yn barod i gwrdd â nhw ar y tir mawr. Daethon nhw ar long arall ym mis Mehefin er mwyn [simple_tooltip content='(to) transport’]cludo[/simple_tooltip] anifeiliaid a stoc o goed i ddechrau ar y gwaith o adeiladau cabanau pren. [simple_tooltip content=’cynnal – (to) hold (an event)’]Cynhaliodd[/simple_tooltip] yr ymfudwyr wasanaeth byr ar y traeth er mwyn diolch am gyrraedd yn ddiogel.

Puerto (Porth) Madryn

Yn 1862, dair blynedd yn gynharach, teithiodd dau o drefnwyr y prosiect i Batagonia er mwyn penderfynu a oedd yr ardal yn [simple_tooltip content=’suitable’]addas[/simple_tooltip] i’r Cymry. Y ddau oedd Lewis Jones (oedd ar ei ail [simple_tooltip content='(a) visit’]ymweliad[/simple_tooltip] – gweler uchod) a Syr Love Jones Parry. Teithion nhw mewn llong fach o’r enw ‘Candelaria’. Cawson nhw eu gyrru gan storm annisgwyl i fae bach. Penderfynon nhw enwi’r bae yn Borth Madryn, ar ôl Castell Madryn, cartref Syr Love Jones-Parry ym Mhenryn Llŷn.

Wel, wel… Yr enw [simple_tooltip content=’modern’]cyfoes[/simple_tooltip] ar y dref a dyfodd o gwmpas y bae yw Puerto Madryn. Mae tua 58.000 o bobl yn byw ym Mhuerto Madryn heddiw. Mae’r dref wedi’i [simple_tooltip content='(to) twin with’]gefeillio â[/simple_tooltip] phentref Nefyn, Penrhyn Llŷn.

Dafydd Roberts Patagonia Syr Love Jones-Parry
Syr Love Jones-Parry
Dafydd Roberts Patagonia Lewis Jones
Lewis Jones

Yr Wythnosau Cyntaf

Roedd [simple_tooltip content=’government’]llywodraeth[/simple_tooltip] Yr Ariannin wedi cynnig can milltir sgwâr o dir ar hyd yr Afon Camwy (Chubut) i’r ymfudwyr o Gymru ond roedd sawl [simple_tooltip content=’difficulty’]anhawster[/simple_tooltip] i’w [simple_tooltip content=’goresgyn = (to) overcome’]oresgyn[/simple_tooltip] ar y dechrau. Doedd dim llawer o [simple_tooltip content=’cysgod = shelter’]gysgod[/simple_tooltip] yn y bae, felly am yr ychydig wythnosau cyntaf, penderfynodd y menywod gysgu ar y llong. Roedd lle i rai gysgu yn y cabanau pren a adeiladwyd ac aeth rhai eraill i  fyw mewn [simple_tooltip content=’caves’]ogofâu[/simple_tooltip] ar [simple_tooltip content=’cliffs’]glogwyni[/simple_tooltip] traeth Porth Madryn.

Chymerodd e ddim llawer o amser i’r ymfudwyr [simple_tooltip content=’darganfod = (to) discover’]ddarganfod[/simple_tooltip] nad oedd [simple_tooltip content=’condition’]cyflwr[/simple_tooltip] y tir yn debyg o gwbl i [simple_tooltip content=’lowlands’]iseldiroedd[/simple_tooltip] Cymru. Yn wir, roedd y tir yn fwy tebyg i [simple_tooltip content=’desert’]anialwch[/simple_tooltip] na chaeau gwyrddion Cymru – dim dŵr, prinder [simple_tooltip content=’food sources’]ffynonellau bwyd[/simple_tooltip] a dim coedwigoedd i ddarparu [simple_tooltip content=’resources’]deunyddiau[/simple_tooltip] adeiladau neu gysgod!!

Doedd dim dewis gan yr ymfudwyr felly ond i gerdded ar draws y [simple_tooltip content=’pampas’]paith[/simple_tooltip] sych tuag at y dŵr agosaf, yn gwthio eu [simple_tooltip content=eiddo = property’]heiddo[/simple_tooltip] a’u bwyd mewn [simple_tooltip content=’wheelbarrows’]whilberi[/simple_tooltip]. Buodd rhai farw ar y siwrne ond cafodd merch fach, Mary Humphreys, ei geni ar y daith. Unwaith iddyn nhw gyrraedd dyffryn yr Afon Camwy, sefydlon nhw [simple_tooltip content='(a) dwelling’]anheddiad[/simple_tooltip] bach a ddatblygodd yn ddiweddarach yn dref o’r enw Rawson.

Dafydd Roberts Patagonia Ymfudwyr yn Rawson

Yn y llun, mae aelodau o’r grŵp cyntaf o ymfudwyr yn Rawson, Dyffryn Camwy – y dref gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry, Medi 1865. Aeth y Cymry ymlaen i sefydlu trefi yn Y Gaiman a Threlew.

Oeddech chi’n gwybod? Pan aeth Syr Love Jones Parry a Lewis Jones i Batagonia yn 1862, cynhalion nhw [simple_tooltip content=’discussions’]drafodaethau[/simple_tooltip] gyda [simple_tooltip content=’Minister of State’]Gweinidog Gwladol[/simple_tooltip] yr Ariannin, Guillermo Rawson.  Cafodd tref Rawson ei henwi ar ôl y Gweinidog yma.

Wel wel… Yr [simple_tooltip content='(a) promise’]Addewid[/simple_tooltip] a’r Realiti [simple_tooltip content=’addo = (to) promise’]Addawodd[/simple_tooltip] Michael D Jones y byddai bywyd gwell i’r ymfudwyr yn Y Wladfa.

Dafydd Roberts Patagonia Y Wladfa Gymreig

Dyma’r poster a ysgrifennwyd gan Michael D. Jones er mwyn [simple_tooltip content='(to) attract’]denu[/simple_tooltip] ymfudwyr i’r Wladfa. Addawodd e ‘Gwlad [simple_tooltip content=’toreithiog = fertile’]doreithiog[/simple_tooltip] nad yw’n [simple_tooltip content=’meddiannol = occupied‘]feddiannol[/simple_tooltip] gan neb ond ychydig Indiaid. Rhoddir i bob teulu 100 [simple_tooltip content=’acre’]erw[/simple_tooltip] o dir, ceffylau, [simple_tooltip content=’oxen’]ychain[/simple_tooltip], defaid, [simple_tooltip content=’wheat’]gwenith[/simple_tooltip] a chelfi. Rhed yr afon drwy y [simple_tooltip content=’meadowland’]doldir[/simple_tooltip] a [simple_tooltip content=’heidio = (to) flock‘]heidia[/simple_tooltip] yr anifeiliaid yn y [simple_tooltip content=’grassy lands’]porfeydd gwelltog[/simple_tooltip]’.

Ond roedd realiti’r sefyllfa’n hollol wahanol. Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau. Roedd y tywydd yn wahanol iawn i Gymru gyda [simple_tooltip content=’tymheredd = temperature’]thymheredd[/simple_tooltip] uchel iawn yn ystod y dydd yn yr haf, ac eira a glaw trwm yn ystod y gaeaf. Roedd problemau gyda thir [simple_tooltip content=’barren’]diffaith[/simple_tooltip], diffyg dŵr yfed ac ychydig o gysgod. Ar ben hyn, cafodd y tai cyntaf a’r [simple_tooltip content=’crops’]cnydau[/simple_tooltip] o datws ac [simple_tooltip content=’corn’]ŷd[/simple_tooltip] eu distrywio gan [simple_tooltip content=’floods’]lifogydd[/simple_tooltip]. Adegau eraill, cafwyd llai o law na’r disgwyl a methodd y cnydau. Cofiwch, doedd ond ychydig o ffermwyr profiadol [simple_tooltip content=’amongst’]ymhlith[/simple_tooltip] yr ymfudwyr cyntaf.

Brodorion y Wlad yn Cynorthwyo

Cafodd y Cymry help mawr gan ffynhonnell annisgwyl – [simple_tooltip content=’native tribes’]llwythi brodorol[/simple_tooltip] y wlad. Daeth y Cymry i gysylltiad â’r [simple_tooltip content=’native tribes’]llwythi brodorol[/simple_tooltip] tua blwyddyn ar ôl cyrraedd. Roedd un llwyth, sef Y Tehuelche’n ffrindiau da i’r Cymry, yn eu dysgu sut i [simple_tooltip content=’drin y tir= (to) treat the land’]drin y tir[/simple_tooltip] sych, marchogaeth, [simple_tooltip content='(to) hunt’]hela[/simple_tooltip] anifeiliaid a physgota. Yn wir, roedden nhw’n edrych ar y Cymry fel eu brodyr.

Dafydd Roberts Patagonia Llun 1867

Llun o 1867 – Lewis Jones (1836-1904) gyda chwech o lwyth Y Tehuelche. Edrychwch pa mor dal maen nhw.

Roedd y Cymry yn eu tro yn garedig iawn tuag atyn nhw. Dechreuodd y Cymry [simple_tooltip content=’masnachu – (to) trade’]fasnachu[/simple_tooltip] gyda llwythi’r Mapuches a’r Pampas yn ogystal â’r Tehuelcha. Gwerthodd y Cymry fara a menyn i’r llwythi a rhoddodd y llwythi gig a dillad i’r Cymry. Yn ôl rhai, roedd y llwythi yma yn defnyddio geiriau Cymraeg am nwyddau fel bara!

Os oes copi gyda chi o’r ffilm ‘Patagonia’ (2010), edrychwch eto ar ddechrau’r ffilm er mwyn gweld pa mor bwysig oedd llwyth y Tehuelche i’r Cymry.

Oeddech chi’n gwybod … ?

Roedden y Tehuelche’n hela gyda chŵn ac ar gefn ceffylau. Roedden nhw’n defnyddio [simple_tooltip content=’bow and arrow’]bwa a saeth[/simple_tooltip] fel [simple_tooltip content=’arms’]arfau[/simple_tooltip] hela ac yn byw ar gig gwanaco. Roedden nhw hefyd yn bwyta peth bwyd [simple_tooltip content=’vegetarian’]llysieuol[/simple_tooltip]. Cyn y Goncwest Sbaenaidd, roedd tua phedair mil o’r Tehuelche yn byw ym Mhatagonia. Ond erbyn canol ganrif ddiwethaf roedd llai na chant. Heddiw, dim ond ychydig sy’n dal i gynnal eu hen ffordd o fyw.

Trin y Tir

Doedd dim dewis gyda’r Cymry cyntaf felly – dysgu trin y tir neu adael i’r prosiect fethu. Ar ôl symud tuag at Ddyffryn Camwy (Chubut), penderfynodd y Cymry gynllunio [simple_tooltip content=’irrigation system’]system ddyfrhau[/simple_tooltip]. Adeiladon nhw gyfres o [simple_tooltip content=’camlesi =  canals’]gamlesi[/simple_tooltip] dyfrhau, dair neu bedair milltir bob ochr i’r afon Camwy. Dyma’r system ddyfrhau gyntaf erioed yn yr Ariannin. Roedd y system ddyfrhau mor [simple_tooltip content=’effective’]effeithiol[/simple_tooltip] fel bod y Cymry’n cynhyrchu 6 mil o [simple_tooltip content=’tunelli = tons’]dunelli[/simple_tooltip] o [simple_tooltip content=’gwenith = wheat’]wenith[/simple_tooltip] y flwyddyn erbyn 1885.

Dafydd Roberts Patagonia Cerdyn Post 1866

Mae’r cerdyn post hwn yn dangos y drol gyntaf a gafodd ei hadeiladu yn y Wladfa, tua 1866, Defnyddiodd y saer Hugh Hughes bren o [simple_tooltip content=’shipwreck’]longddrylliad[/simple_tooltip] yn Afon Camwy.

Erbyn 1874, roedd tua 270 o bobl yn byw yn ardal Dyffryn Camwy (Chubut), a dechreuodd [simple_tooltip content='(a) network’]rhwydwaith[/simple_tooltip] o ffermydd dyfu. Yn 1875, cafodd y Cymry [simple_tooltip content=’ownership’]berchnogaeth[/simple_tooltip] swyddogol ar y tir gan lywodraeth Yr Ariannin ac o ganlyniad, daeth llawer mwy o ymfudwyr o’r hen wlad i’r Wladfa newydd rhwng 1880–87 a rhwng 1904-12.

Gwyliwch y clip gwych yma o gyfweliad gyda Nain Maggie am ei phrofiadau yn croesi’r paith gydag ymfudwyr 1891:

https://www.facebook.com/jeremy.wood.5836711/videos/3919161861465/

Dafydd Roberts Patagonia Cynaefau 1880
Cynaeafu – tua 1880

Y Rheilffordd Gyntaf
Problem arall oedd y ffyrdd [simple_tooltip content=’rough’]garw[/simple_tooltip]. Roedd rhaid sefydlu system deithio [simple_tooltip content=’efficient’]effeithlon[/simple_tooltip]. Hefyd, erbyn canol yr 1880au, roedd llawer o’r [simple_tooltip content=’fertile land’]tir ffrwythlon[/simple_tooltip] yn rhan isaf Dyffryn Camwy wedi’i [simple_tooltip content='(to) claim’]hawlio[/simple_tooltip]. Penderfynodd y Cymry felly ofyn am ganiatâd i [simple_tooltip content='(to) explore’]archwilio[/simple_tooltip] rhan uchaf y dyffryn.
Roedd aber yr Afon Camwy yn fas ac yn anodd ei [simple_tooltip content='(to) navigate / steer’]llywio[/simple_tooltip]. Yn 1884 felly, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladau Rheilffordd Canolbarth Camwy. Erbyn 1885, cyrhaeddodd y Cymry ardal ffrwythlon a enwyd ganddyn nhw yn Gwm Hyfryd. Wrth i’r boblogaeth dyfu, sefydlwyd dwy dref arall sef Esquel a Threvelin.

Dafydd Roberts Patagonia Amgueddfa Trelew
Plac tu allan i Amgueddfa Trelew i gofio’r glanio, fis Gorffennaf, 1865

Dafydd Roberts Patagonia Map Chubut

Wel wel… Lewis Jones oedd y [simple_tooltip content=’power’]grym[/simple_tooltip] tu ôl i adeiladu’r rheilffordd a chafodd y dref a adeiladwyd ar [simple_tooltip content=’terfyn = terminus / end’]derfyn[/simple_tooltip] y rheilffordd, Trelew, ei henwi ar ei ôl e.

Ond, doedd bywyd ddim yn [simple_tooltip content=’mêl i gyd – all sweetness and light’]fêl i gyd[/simple_tooltip]. Cafwyd llifogydd mawr yn yr 1890au a’r 1900au a wnaeth [simple_tooltip content=’damage’]difrod[/simple_tooltip] mawr i Rawson a Gaiman. Roedd [simple_tooltip content=’disagreements’]anghytundebau[/simple_tooltip] hefyd rhwng llywodraeth Yr Ariannin oherwydd consgripsiwn i [simple_tooltip content=’byddin = army’]fyddin[/simple_tooltip] y wlad honno. Gadawodd llawer o’r Cymry am Ganada ac Awstralia, [simple_tooltip content=’in addition to’]yn ogystal â[/simple_tooltip] dychwelyd i Gymru.
Mae clip gwych ar y linc yma o raglen ddogfen o 1961 sy’n portreadu bywyd y Gauchos Cymraeg yn yr 1950au.

Cadw’r Hen Ffordd Gymreig O Fyw

Bwriad y Cymry oedd gwneud Y Wladfa [simple_tooltip content=’as similar as possible’]mor debyg â phosibl[/simple_tooltip] i’r hen wlad. Y cam cyntaf yn y broses hon oedd adeiladau capeli. Roedd y capeli yn bwysig iawn – fel canolfannau crefyddol ac fel canolfannau cymdeithasol, man cynnal eisteddfodau, ysgolion a hyd yn oed [simple_tooltip content=’courts  of law’]llysoedd barn[/simple_tooltip]. Mae capeli’r Wladfa yn ddiddorol dros ben. Mae rhai ond yn [simple_tooltip content=’cytiau = huts’]gytiau[/simple_tooltip] bach pren neu [simple_tooltip content=’corrugated iron’]haearn rhychiog[/simple_tooltip] a rhai eraill yn fwy tebyg i gapeli Cymru heddiw.

Dafydd Roberts Patagonia Capel Moriah

Dyma lun o Gapel Moriah, Dyffryn Camwy. Mae nifer o’r Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa yn 1865 wedi’u [simple_tooltip content='(to) bury’]claddu[/simple_tooltip] ym [simple_tooltip content=’graveyard’]mynwent[/simple_tooltip] y capel hwn.

Dafydd Roberts Patagonia Capel Glan Alaw

Dyma un ychydig yn llai crand – Capel Glan Alaw, Bethesda

Gallwch chi weld y capeli i gyd heddiw trwy ddilyn llwybr ar ddwy ochr yr afon Chubut. Mae tudalen ddiddorol ar weplyfr o’r enw Capeli Cymraeg y Wladfa fydd yn eich [simple_tooltip content='(to) lead’]arwain[/simple_tooltip] ar hyd llwybr y capeli. https://www.facebook.com/AndesCeltig/photos/a.267731564239.143199.165471514239/267740379239/?type=1. Hefyd, gwyliwch hanes Rhys a Gwen yn y ffilm Patagonia wrth iddyn nhw ddilyn llwybr capeli Cymraeg Y Wladfa.

Yr Eisteddfod

Roedd yr ymfudwyr cyntaf yn [simple_tooltip content=’aware’]ymwybodol[/simple_tooltip] iawn o [simple_tooltip content=’traddodiadau = traditions’]draddodiadau[/simple_tooltip] eisteddfodol Cymru. Doedd hi ddim yn syndod felly iddyn nhw benderfynu dathlu’r Eisteddfod yn gynnar iawn yn hanes Y Wladfa. Digwyddodd yr Eisteddfod gyntaf yn Chubut rhwng 1865 ac 1875. Mae’r traddodiad eisteddfodol yn parhau hyd heddiw, ond mwy am hynny yn nes ymlaen yn y gyfres. Beth am ddod yn ffrindiau gydag Eisteddfod Trevelin ar weplyfr? https://www.facebook.com/photo.php?fbid=380227178779911&set=a.380225858780043.1073741826.174948579307773

Addysg

Ysgolion cynnar y Wladfa

Roedd arweinwyr y prosiect yn credu’n gryf mewn sefydlu ysgolion Cymraeg yn Y Wladfa er mwyn cadw’r iaith yn fyw am [simple_tooltip content=’cenedlaethau = generations’]genedlaethau[/simple_tooltip] i ddod. Ysgol Rawson oedd yr ysgol gyntaf. Roedd yr ysgol mewn adeilad pren. Yr unig werslyfr ar y dechrau oedd y Beibl Cymraeg.

Dafydd Roberts Patagonia Ymfudwyr yn Rawson
Dyma lun o ddisgyblion Ysgol Rawson yn 1880

Richard (Berwyn) Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol. Gwelodd e fod angen [simple_tooltip content=’materials’]deunyddiau[/simple_tooltip] darllen gwell ac ysgrifennodd e werslyfr yn arbennig ar gyfer plant Y Wladfa. Yn y llyfr mae geirfa, gwersi, [simple_tooltip content=’verses’]penillion[/simple_tooltip], [simple_tooltip content=’proverbs’]diarhebion[/simple_tooltip], storïau a rhestr o enwau Cymraeg i blant.

Dafydd Roberts Patagonia Gwerslyfr Richard Berwyn Jones
Dyma glawr y gwerslyfr a ysgrifennwyd gan Richard Berwyn Jones

Wel wel… Roedd Richard Berwyn Jones yn [simple_tooltip content='(to) insist’]mynnu[/simple_tooltip] bod plant yr ysgol yn [simple_tooltip content='(to) sentence’]brawddegu[/simple_tooltip]’n gywir ac yn [simple_tooltip content=’standard’]safonol[/simple_tooltip]. Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio geiriau Cymraeg yn unig fel “[simple_tooltip content=’gentleman’]Bonwr[/simple_tooltip]” [simple_tooltip content=’rather than’]yn hytrach na[/simple_tooltip] “Mr”!

Y Wasg

Roedd cyhoeddi papurau newydd yn [simple_tooltip content=’all-important’]hollbwysig[/simple_tooltip] er mwyn i’r Cymry fedru darllen newyddion yn eu hiaith eu hunain ac er mwyn cadw [simple_tooltip content=’communities’]cymunedau[/simple_tooltip] Cymraeg Y Wladfa mewn cysylltiad â’i gilydd. Fis Ionawr 1865, cyhoeddwyd papur newydd cyntaf y Wladfa sef Y Brut. Dechreuwyd papur arall Ein Breiniad yn 1878.

Dafydd Roberts Patagonia Y Dravod

Y cyhoeddiad mwyaf [simple_tooltip content=’successful’]llwyddiannus[/simple_tooltip] beth bynnag oedd Y Dravod, a ddechreuwyd yn 1891.

WEL WEL…. parhaodd Y Dravod mewn [simple_tooltip content=’circulation’]cylchrediad[/simple_tooltip] tan 1961!

Dafydd Roberts Patagonia Y Dravod

Dafydd Roberts Patagonia Y Dravod
Tudalennau o bapur newydd mwyaf llwyddiannus Y Wladfa – y Dravod

Os hoffech chi ddarllen mwy am hanes y wasg yn Y Wladfa, ewch i: https://docplayer.net/56643841-Welsh-print-culture-in-y-wladfa-the-role-of-ethnic-newspapers-in-welsh-patagonia.html

Cymraeg- Iaith Swyddogol

Am gyfnod hir, Cymraeg oedd iaith swyddogol Y Wladfa – iaith addysg, [simple_tooltip content=’the law’]y gyfraith[/simple_tooltip], crefydd, y wasg a digwyddiadau cymdeithasol. Cafodd yr iaith ei defnyddio mewn llywodraeth ac ysgrifennwyd [simple_tooltip content=’records/minutes’]cofnodion[/simple_tooltip] cyfarfodydd yn Gymraeg yn unig. Yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru, roedd [simple_tooltip content=’freedom’]rhyddid[/simple_tooltip] i’r iaith Gymraeg [simple_tooltip content='(to) extend’]ehangu[/simple_tooltip] a [simple_tooltip content='(to) influence’]dylanwadu[/simple_tooltip] yn Y Wladfa. Er enghraifft, datblygwyd y system newydd o gyfrif er mwyn [simple_tooltip content='(to) facilitate’]hwyluso[/simple_tooltip] dysgu mathemateg yn Gymraeg i blant yn Y Wladfa.

Wrth i ymfudwyr o rannau eraill o’r wlad a gwledydd gwahanol ymsefydlu yn Y Wladfa, [simple_tooltip content=’gwanychu – (to) weaken’]gwanychodd[/simple_tooltip] yr iaith. Yn wir, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg.

Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r [simple_tooltip content=’tide has turned’]llanw wedi troi[/simple_tooltip] ychydig ac mae Ysgolion Cynradd Cymraeg yn Y Wladfa.

Diwedd y 19eg Ganrif

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd tua 4 mil o Gymry’n byw yn Y Wladfa gan gynnwys tua mil a gyrhaeddodd rhwng 1886 a 1901. Cyrhaeddodd y grŵp olaf o ymfudwyr ychydig cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl 1914, o’r Eidal a gwledydd eraill yn ne Ewrop daeth y rhan fwyaf o’r ymfudwyr. Yn 1915, roedd tua 20,000 o bobl yn byw yn Nyffryn Camwy gyda hanner ohonyn nhw’n dod o wledydd heblaw am Gymru.

Oeddech chi’n gwybod…?

Yn 1875, cafodd fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau ei ysgrifennu gan Lewis Evans, un o’r Cymry cyntaf i ymfudo i Batagonia. Y bwriad oedd defnyddio’r fersiwn yma yn lle Anthem Cymru. Roedd y fersiwn yma ar goll am tua 150 o flynyddoedd. Cafodd y fersiwn ei ddarganfod yn y Llyfrgell Genedlaethol mewn taflen o’r enw [simple_tooltip content='(a) report’]Adroddiad[/simple_tooltip] y Parch. D S Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig.
Dyma’r geiriau:

Dafydd Roberts Patagonia Gwlad Newydd y Cymry

Erbyn heddiw, mae Cymry Patagonia yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i ddathlu digwyddiadau arbennig.

Colli cysylltiad â Cymru

Ar ôl 1914, roedd ond ychydig o gysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa. Newidiodd hynny ddim tan 1965 pan ddechreuodd niferoedd mawr o Gymry ymweld â’r Wladfa er mwyn dathlu [simple_tooltip content=’centenary’]canmlwyddiant[/simple_tooltip] y glanio.

 


Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.

Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.