Fel rhan o parallel.cymru cyhoeddi eitemau o’r Wladfa, dyma’r newyddion yr haf o Ysgol y Cwm yn Trevelin…
As part of parallel.cymru publishing items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin…
Mae blwyddyn arall wedi dod i ben yma yn Ysgol y Cwm ac mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd! Gyda bron i dri mis o wyliau, bydd cyfle i bawb wneud y mwyaf o’r tywydd braf gydag ymweliad i’r llyn neu i’r campo, i fwynhau asados blasus gyda ffrindiau a theulu. | Another school year has come to an end at Ysgol y Cwm and the summer holidays are well under way! With almost three months of summer holidays there will be ample opportunity to enjoy the fine weather with visits to the lake or the campo, to enjoy a tasty lamb asado with family and friends. |
Daeth y flwyddyn ysgol i derfyn gyda seremoni arbennig yn Neuadd y Dref ar gyfer graddedigion yr ysgol feithrin a fydd yn symud ymlaen i’w blwyddyn gyntaf yr Ysgol y Gynradd ym mis Mawrth. Fel rhan o’r dathliadau diwedd y flwyddyn, cynhaliwyd diwrnod arbennig gyda chyfle i’r plant ddangos eu doniau a’u talentau. Roedd yr ysgol dan ei sang gyda’r plant a’u teuluoedd, ac roedd yn ddiwrnod i’w gofio -felly llongyfarchiadau calonnog i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol am flwyddyn wych arall! Ymlaen a 2019! | The school year finished with a special ceremony at the Town Hall for the nursery school graduates who will be starting their first years at Ysgol y Cwm primary school in March. As part of the end-of-year celebrations a special talent day was held, giving the children an opportunity for the children to show off their skills and talents. The school was filled to the brim with the children and their families and it was a day to remember -so a big llongyfarchiadau to everyone associated with the school on another fantastic year! Onwards with 2019! |
Pob blwyddyn, daw criw o 30 o blant yr Urdd draw i Batagonia am bythefnos, gan dreulio amser draw yn y Dyffryn ac yma yn yr Andes. Daeth y criw i ymweld ag Ysgol y Cwm nol ym mis Hydref, a chafwyd gwledd o ganu a dawnsio, ynghyd a thomen o hwyl a sbri wrth chwarae gemau a chwaraeon. Mae’r profiad o gael criw'r Urdd draw i Ysgol y Cwm wastad yn un gwerth chweil, ac yn gyfle gwych i’r ddau griw gwahanol o blant a phobl ifanc ddysgu mwy am eu gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. | Every year a group of 30 young people visit Patagonia for two weeks with Urdd Gobaith Cymru, spending time both on the coast and here in the Andes. The group visited Ysgol y Cwm back in October and delighted the children with plenty of singing, dancing, games and sport. They also put on a wonderful concert at the Town Hall. Having the Urdd group come to Ysgol y Cwm is always a worthwhile experience , and a fantastic opportunity for both groups of children and young people to meet and learn about their respective cultures and backgrounds. |
Gyda thywydd braf tymor yr haf, roedd cyfle i’r plant fwynhau tripiau diwedd y flwyddyn i rai o’r atyniadau lleol. Ym mis Hydref, aeth criw o blant ar y trên bach, La Trochita, o Esquel i bentref brodorol Nahuel Pan, ble mae amgueddfa fechan, ynghyd a stondinau’n gwerthu tortas fritas a choripanes! | The fine weather brought an opportunity for the children to enjoy end-of-year trips to some local attractions. In October, a group visited the La Trochita steam train, which took them from Esquel to the nearby village of Nahuel Pan, where there is a small museum as well as stands selling choripanes and tortas fritas! |
Ac yn fwy diweddar ym mis Tachwedd ymwelodd blynyddoedd 1 a 2 a Pharc Cenedlaethol Los Alerces, ble cafodd y plant fwynhau picnic a gemau ar lannau Llyn Futalaufquen. Cafodd Blwyddyn 5 hefyd y profiad arbennig o fynd i wersylla yn fferm Margarita a Charli, tra bod Blynyddoedd 1 & 2 wedi mynd i wersylla yn y goedwig ar gyrion y dref! | And more recently in November, Years 1 and 2 visited Los Alerces National Park, where they enjoyed a picnic and games on the shores of Lago Futalaufquen. Year 5 also enjoyed the special experience of camping at Margarita and Charlie's farm, while Years 1 and 2 also went camping in the woods on the outskirts of town! |
Ar y 23ain o Dachwedd cawsom gyfle i ddalthu Dia del Musica - Diwrnod Cerddoriaeth – gyda chyngerdd arbennig yn Ysgol 37, sydd ar gyrion y dref. Daeth ysgolion y dref i gyd at eu gilydd i fwynhau cyngerdd gan yr athrawon cerdd, gan gynnwys ein athrawes ni, Maria. | On the 23rd of November we celebrated Dia del Musica – Music Day – with a special concert in School 37, on the outskirts of town. All the schoolchildren of the town came together to enjoy a concert led by the local music teachers, including Ysgol y Cwm’s own music teacher, Maria. |
Hoffai’r ysgol ddiolch i bawb a fynychodd y ffair wanwyn ac y ffair Nadolig eleni. Roedd llu o gynhyrchwyr lleol wedi gosod stondinau yn y ddwy ffair, gyda chynnyrch fel olew olewydd, jamiau a mel ar werthyn cael ei werthu ochr-yn-ochr a thegannau, dillad a phob mathau o nwyddau eraill. | The school would like to thank everyone who took part in both the spring fair and the Christmas fair this year, which were held to raise money for the school. Several local producers and artisans set up their stalls at both fairs, selling everything from olive oil and jams to toys and clothes. |
Y datblygiad mawr o ran yr adeilad newydd yw bod y wal sy’n gwahanu’r ddwy adran – y dosbarthiadau presennol a’r rhai Newydd - bellach wedi ei ddymchwel. Y camau nesaf fydd gosod y lloriau a’r nenfwd, ac fe fydd yr adeilad newydd yn barod – newyddion cyffrous iawn! Gellir gwylio fideo o’r wal yn cael ei ddymchwel fan hyn. | The big news regarding the ongoing building work is that the partition wall - which separated the current building and the brand-new classrooms and office - has now been demolished. The next steps will be to lay down the flooring tiles and to put the ceiling panels in place, and the new section will be ready – exciting news indeed! A video showing the partition wall being demolished can be viewed here. |
Gyda diwedd y flwyddyn daeth hi’n amser ffarwelio ag Emyr, a fu’n gweithio yn Ysgol y Cwm fel rhan o’i swydd gyda’r Cyngor Prydeinig. Hwyl fawr i ti Emyr a diolch am bopeth– ‘dyn ni’n edrych ymlaen at dy groesau nol rhywbryd! | The time came at the end of the term to farewell with our friend Emyr, who’d spent a year working at Ysgol y Cwm as part of his job with the British Council. Hasta luego Emyr and thank you for everything – we look forward to welcoming you back to Trevelin sometime! |
Rydym yn dal i chwilio am athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her cysylltwch â [email protected]! | We are still looking to recruit a teacher from Wales for 2019, so if you or someone you know would like to apply, email [email protected] for more information. |
Os hoffech chi ein helpu i gyflogi athro neu athrawes drwy wneud cyfraniad tuag at gronfa’r ysgol, gallwch gysylltu gyda’r cyfeiriad e-bost uchod, neu ymweld â gwefan yr ysgol (www.ysgolycwm.com) am ragor o wybodaeth. | If you would like to help us employ a teacher for the coming year by making a contribution to the school fund, you can do so by contacting the above email address or by visiting our website (www.ysgolycwm.com). |
Bydd yr ysgol yn agor ei drysau yn barod am flwyddyn arall ym mis Mawrth – yn y cyfamser, Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! | Ysgol y Cwm will re-open for a brand-new school year in March – in the meantime, Happy New Year to you all! |
Rydym yn dal i chwilio am athro neu athrawes cynradd o Gymru ar gyfer 2019, felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod awydd her cysylltwch â [email protected]!
www.ysgolycwm.com / CwmYsgol / YSGOL-Y-CWM-1442021682782063
Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.