Top 10 Gwyliau

Gwyliau / Festivals: Top 10

Mae nifer o wyliau poblogaidd sy’n digwydd bob blwyddyn ar draws Cymru. Mae amrywiaeth o bethau y gallech chi eu gwneud ac mae rhywbeth i bawb. Mae llawer o hwyl i’w gael!

There are several popular festivals that take place every year across Wales. There are a variety of things you could do and there is something for everyone. There is a lot of fun to be had!

Gan / By Lydia Hobbs

Gŵyl Fwyd Y Fenni / Abergavenny Food Festival

Gŵyl fwyd blynyddol yn Y Fenni yw Gŵyl Fwyd Y Fenni. Mae’r ŵyl yn gyfle i bobl archwilio a dysgu mwy am fwyd. Mae’r rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau’n ardderchog yno, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys blasu cynnyrch, gweithgareddau i blant, gwersi coginio a llawer mwy. Mae nifer o gogyddion enwog wedi bod i’r digwyddiad yn y gorffennol, fel Hugh Fearnley-Whittingstall a Jamie Oliver. Mae dros 30,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r ŵyl yn y dref fach bob blwyddyn. Mae’n dod â tua £4 miliwn i’r economi lleol bob blwyddyn. Cynhelir Gŵyl Fwyd Y Fenni ar 21 a 22 Medi 2019.

Abergavenny

Abergavenny Food Festival is an annual food festival in Abergavenny. The festival is a chance for people to explore and learn more about food. The programme of activities and events is brilliant there, year after year. There is a variety of events, including product tasting, activities for children, cookery lessons and lots more. A number of famous chefs have been to the event in the past, such as Hugh Fearnley-Whittingstall and Jamie Oliver. Over 30,000 visitors visit the festival in the small town every year. It brings approximately £4 million to the local economy every year. The Abergavenny Food Festival will be held on September 21st and 22nd 2019.

Gŵyl Jazz Aberhonddu / Brecon Jazz Festival

Gŵyl gerddoriaeth blynyddol yn Aberhonddu yw Gŵyl Jazz Aberhonddu. Dechreuodd yr ŵyl ym 1984 a chynhelir Gŵyl Jazz Aberhonddu bob mis Awst. Mae nifer o gerddorion jazz enwog wedi perfformio yn yr ŵyl dros y blynyddoedd. Mae’r ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth fyw, ffair, stondinau a bwyd a diod. Mae gwersylla yn boblogaidd iawn dros benwythnos yr ŵyl. Bydd Gŵyl Jazz Aberhonddu rhwng Dydd Gwener 9 Awst a Dydd Sul 11 Awst yn 2019, am y 36ain tro.

Brecon Jazz

Brecon Jazz Festival is an annual music festival in Brecon. The festival started in 1984 and the Brecon Jazz Festival is held every August. A number of famous jazz musicians have performed at the festival over the years. The festival includes live music, a fun fair, stalls and food and drink. Camping is very popular over the weekend of the festival. The Brecon Jazz Festival will be between Friday 9th August and Sunday 11th August in 2019, for the 36th time.


Gŵyl Rhif 6 / Festival No. 6

Gŵyl ym Mhortmeirion, Gogledd Cymru, yw Gŵyl Rhif 6. Gŵyl gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant yw hi. Mae llawer o bobl wahanol yn perfformio ar y llwyfan yn ystod yr ŵyl. Mae’r lleoliad yn ysblennydd ac yn swreal. Mae’r ŵyl yn boblogaidd am bentref bach gyda tua 13,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae wedi ennill nifer o wobrau. Mae Festival No. 6 yn cael ei chynnal bob mis Medi. Yn anffodus, bydd yr ŵyl yn cymryd egwyl yn 2019 ond gobeithio bydd yn ôl yn fuan!

Festival No. 6

Festival No. 6 is a festival in Portmeirion, North Wales. It is a music, arts and culture festival. Lots of different people perform on the stage during the festival. The location is stunning and surreal. The festival is popular for a small village with approximately 13,000 every year and it has won a number of awards. Festival No. 6 is held every September. Unfortunately, the festival will take a break in 2019 but hopefully it will be back soon!


Gŵyl y Dyn Gwyrdd / Green Man Festival

Gŵyl ym Mannau Brycheiniog yw Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Gŵyl Green Man yw un o’r gwyliau gorau yn Ewrop. Mae nifer o berfformiadau anhygoel gan nifer o gerddorion yn ystod yr ŵyl. Mae llawer o gyfleodd i brynu bwyd a diod yno hefyd eithaf rhad. Hefyd, gallwch chi fwynhau gweithdai i blant, cwisiau tafarn neu yoga yn y bore! Mae llawer o bethau eraill y gallech chi o gwmpas maes Gŵyl Green Man hefyd. Mae’n addas i’r teulu cyfan, mae’r maes parcio yn agos iawn ac mae nifer o stiwardiaid hefyd i’ch helpu chi. Cynhelir o Awst 15 i 18 eleni.

Green Man

Green Man Festival is a festival in the Brecon Beacons. The Green Man Festival is one of the best festivals in Europe. There are a number of amazing performances by a number of musicians during the festival. There are lots of chances to buy quite cheap food there too. Also, you can enjoy workshops for children, pub quizzes or yoga in the morning!  There are lots of other things that you can do around the site of the Green Man Festival too. It is suitable for the whole family, the car park is very close by and there are also a number of stewards who can help you. It will be held from the 16th to 18th of August this year.


Gŵyl y Gelli / Hay Festival

Gŵyl y Gelli yw gŵyl gyda llenyddiaeth fel y prif ffocws. Y Gelli Gandryll, ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw lleoliad Gŵyl y Gelli. Mae’n ŵyl ddwyieithog, mae’r rhan fwyaf yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg ond mae rhai digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mynediad i faes yr ŵyl am ddim, ond rydych chi’n prynu tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau. Dechreuwyd Gŵyl y Gelli ym 1988, gan ddilyn patrwm yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2019, cynhelir yr ŵyl o Ddydd Iau 23 Mai i Ddydd Sul 2 Mehefin.

Hay Festival

The Hay Festival is a festival with literature as the main focus. Hay-on-Wye, on the edge of Brecon Beacons National Park is the location of the Hay Festival. It is a bilingual festival, the majority occurs through the medium of English but some events are through the medium of Welsh. Entrance to the festival site is free, but you buy tickets for some events. The Hay Festival began in 1988, following the pattern of the National Eisteddfod. In 2019, the festival will be held from Thursday 23rd May to Sunday 2nd June.


Yr Eisteddfod Genedlaethol / The National Eisteddfod

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Mae’r lleoliad yn newid rhwng De Cymru a Gogledd Cymru bob blwyddyn. Yn 2018, cynhaliwyd ym Mae Caerdydd a chynhelir yng Nghonwy yn 2019.  Mae dros 150,000 o bobl yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mae croeso cynnes Cymraeg i bawb; siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg. Wythnos o ddathlu Cymru, ei hiaith a’i diwylliant yw hi. Mae llawer iawn o gystadlaethau sy’n digwydd yn ystod yr wythnos. Mae nifer o bethau arall i’w gweld a’u gwneud yno hefyd, gan gynnwys siopau, sioeau a llefydd i fwyta ac yfed. Mae’n wythnos o hwyl i bobl o bob oedran achos bod rhywbeth i bawb yno.

Eisteddfod Genedlaethol

The Eisteddfod Genedlaethol is held during the first week of August. The location changes between South Wales and North Wales every year. In 2018 it was held in Cardiff Bay and it will be held in Conwy in 2019. Over 150,000 visit the National Eisteddfod every year. There is a warm Welsh welcome for everyone, Welsh speakers and non-Welsh speakers. It is a week of celebrating Wales, its language and its culture. There are many competitions which occur during the week. There are a number of other things to see and do there too, including shops, shows and places to eat and drink. It is a week of fun for people of all ages because there is something for everyone there.


Sioe Frenhinol Cymru / Royal Welsh Show

Sioe amaethyddol enfawr yw Sioe Frenhinol Cymru. Y digwyddiad hwn yw’r uchafbwynt yng nghalendr amaethyddol Prydain. Cynhelir y sioe ym Maes y Sioe yn Llanelwedd, Builth Wells. Mae’r sioe yn cynnwys pedwar diwrnod o gystadlaethau da byw. Mae hefyd amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys siopa, chwaraeon a bwyd a diod. Mae’r rhaglen llawn adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd. Mae rhywbeth i bawb yno. Mae’n hwyl i’r holl deulu. Yn 2019, cynhelir Sioe Frenhinol Cymru o Orffennaf 22 i Orffennaf 25.

Royal Welsh Show

The Royal Welsh Show is a huge agricultural show. This event is the highlight in the British Agriculrural calendar. The show is held in the Showground in Llanelwedd, Builth Wells. The show includes four days of livestock competitions. There is also a variety of activities, including shopping, sports and food and drink. The programme is full of entertainment, attractions and displays. There is something for everyone there. It is fun for the whole family. In 2019, the Royal Welsh Show will be held from July 22nd to July 25th.


Tafwyl

Gŵyl Gymraeg blynyddol yng Nghaerdydd yw Tafwyl. Ffair enfawr yw e yng ngerddi Castell Caerdydd dros un penwythnos. Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i Tafwyl bob blwyddyn. Aeth dros 40,000 o bobl yn 2018.  Mae’r digwyddiad yn addas i bawb, does dim ots o gwbl os nad ydych chi’n siarad Cymraeg. Mae mynediad am ddim, ac mae’n wych i’r holl deulu. Mae Tafwyl yn arddangosfa o'r iaith Gymraeg. Mae cerddoriaeth fyw, nifer o stondinau, yn ogystal â llefydd i fwyta ac yfed. Mae Tafwyl yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod. Yn 2019, cynhelir Tafwyl ar 22 a 23 Mehefin.

Tafwyl

Tafwyl is an annual Welsh language festival in Cardiff. It is a huge fair in the grounds of Cardiff Castle over one weekend. Thousands of visitors come to Tafwyl every year. Over 40,000 people went in 2018. The event is suitable for everyone, it doesn’t matter at all if you don't speak Welsh. Entrance is free and it’s great for the whole family. Tafwyl is a showcase of the Welsh language. There is live music, a number of stalls, in addition to places to eat and drink. Tafwyl is a lively mix of music, literature, drama, comedy, art, games, food and drink. In 2019, Tafwyl will be held on 22nd and 23rd June.


Gŵyl Gelfyddydau Dinbych-y-Pysgod / Tenby Arts Festival

 

Gŵyl sy’n darparu rhaglen amrywiol diwedd bob mis Medi yn Ninbych-y-Pysgod, Benfro yw Gŵyl Gelfyddydau Dinbych-y-Pysgod. Mae amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiad gan Gôr Meibion Dinbych-y-Pysgod, cerddoriaeth arall, drama, sgyrsiau ar bynciau gwahanol, gweithdai celf a mwy. Mae'n wythnos bleserus yn Ninbych-y-Pysgod i bawb. Mae’n brofiad bythgofiadwy mewn tref ysblennydd ar lan y môr. Cynhelir GŵylGelfyddydau Dinbych-y-Pysgod rhwng Medi 21 a 28 yn 2019. Hon fydd y 29ain rhifyn o'r ŵyl.

Tenby Arts

Tenby Arts Festival is a festival which provides a varied programme at the end of every September in Tenby, Pembrokeshire. There is a huge variety of events, including a performance by Tenby’s Male Voice choir, other music, drama, talks on different topics, art workshops and more. It is an enjoyable week in Tenby for everyone. It is an unforgettable experience in a stunning seaside town. Tenby Arts Festival will be held between September 21st and 28th in 2019. This will be the 29th edition of the festival.


Eisteddfod yr Urdd / The Urdd Eisteddfod

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl fwyaf ieuenctid Cymru. Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal am yn ail flwyddyn yn Ne Cymru a Gogledd Cymru yn ystod hanner tymor y Sulgwyn. Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn ystod yr wythnos. Mae tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn hefyd. Mae’n ddiwrnod mas gwych i’r teulu cyfan. Canolbwynt yr Eisteddfod yw'r Pafiliwn ble mae'r cystadlu yn digwydd, ac mae’n dal bron 2,000 o bobl. Hefyd, mae llawer o stondinau sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys dringo, sesiynau chwaraeon, ffair a bandiau byw. Bydd Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd eleni.

Eisteddfod yr Urdd

The Urdd Eisteddfod is Wales’ biggest youth festival. The Urdd Eisteddfod is held alternately in North Wales and South Wales each Whitsun half-term. Over 15,000 children and young people compete during the week. There are approximately 90,000 visitors each year too. It is a great day out for the whole family. The main area of the eisteddfod is the Pavilion where the competing occurs, and it holds almost 2,000 people. Also, there are lots of stalls which offer a variety of activities, including climbing, sports sessions, a fun fair and live bands. The Urdd Eisteddfod will be in Cardiff Bay this year.

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are