Rhea Seren Phillips How Ancient Poetry Could Help Wales Understand its Modern Cultural Identity

Rhea Seren Phillips: Sut y Gallai Barddoniaeth Hynafol Helpu Cymru i Ddeall ei Hunaniaeth Ddiwylliannol Heddiw / How Ancient Poetry Could Help Wales Understand its Modern Cultural Identity

Mae Rhea Seren Phillips yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe sy’n ymchwilio i sut y gellir defnyddio ffurfiau a mesurydd barddonol Cymraeg i ailystyried hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes ac i ennyn diddordeb yn hon. Yma, mae hi’n esbonio sut y gall llenyddiaeth ein helpu i gysylltu â’n hunaniaeth ddiwylliannol

Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she explains how literature can help us connect with our cultural identity…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Beth yw ystyr bod yn Gymreig heddiw? Ai cael eich geni yng Nghymru, dod o deulu Cymreig, neu ddim ond byw yno sy’n bwysicaf? Mae’n gallu bod yn anodd i rywun o unrhyw ddiwylliant ddiffinio’n benodol sut y ffurfir ei hunaniaeth. Ond, o ran y Cymry – sydd a chanddynt ganrifoedd yn ogystal â haenau amryfal o ddiwylliant i’w gweithio trwyddynt – mae’n gallu bod yn eithriadol o anodd.What does it mean to be Welsh today? Is it being born in Wales, having Welsh family, or simply a matter of living there? It can be hard for a person of any culture to specifically define what makes up their identity but, for the Welsh – who have hundreds of years as well as multiple layers of culture to work through – it can be particularly tricky.
Un agwedd o ddiwylliant Cymraeg y byddai pawb yn cytuno amdani yw’r cysylltiad cryf rhwng y wlad a’i llenyddiaeth. Mae’r Gymraeg yn iaith delynegol, oslefol, sy’n ymgynnig yn dda ar gyfer canu a barddoni ers canrifoedd – yn gymaint felly nes ei bod wedi’i gwau â hunaniaeth y werin, a ydynt yn sylweddoli hyn neu beidio.One defining aspect of Welsh culture that all would agree on is the country’s strong relationship with its literature. Wales’s rolling, lyrical language is one that has lent itself well to song and poetry for centuries – so much so that it has become interwoven with the people’s identity, whether they realise it or not.
Mae hanesyddion yn gallu disgrifio llawer o’r digwyddiadau sy wedi gwneud y wlad fel y mae hi heddiw. Ond nid mor syml yw diffinio beth sy wedi arwain at hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes. Felly er mwyn archwilio’r syniad hwn, rwy’n defnyddio ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg.Historians can point to a lot of the events that have made the country what it is today. But defining what has led to the contemporary Welsh cultural identity is not quite so simple. So, to explore this idea, I am using Welsh poetic forms and metre.
Mae barddoniaeth wedi bod yng nghalon diwylliant Cymreig er yr Oesoedd Canol, ac mae’r enghreifftiau cynharaf yn dyddio o’r bumed a’r chweched ganrif. Roedd beirdd yn yr Oesoedd Canol yn ennill parch gyda’u gwaed a thrwy eu geiriau – nid gwahanol oedd yr awduron Cymraeg Aneirin a Taliesin. Yn bennaf roedd eu cerddi’n darlunio clod a threchiad mewn brwydr, wrth iddynt ddilyn eu noddwr brenhinol i ryfela.Poetry has been at the heart of Welsh culture since medieval times, with the earliest known examples dating back to the fifth and sixth century. Poets of the medieval period earned their respect in blood and words – and the Welsh writers Aneirin and Taliesin were no different. Their poetry chiefly depicted glory and defeat in battle, as they followed their royal patron to war.
Ceir, er enghraifft, y llinellau hyn o Marwnad Owain ab Urien, gan Taliesin, sy’n cael eu cyfieithu’n fras fel, “The wide host of England sleeps with the light in their eyes”:Take, for example this line from from Marwnad Owain ab Urien, by Taliesin, which roughly translates to, “The wide host of England sleeps with the light in their eyes”:
Cysgid Lloegr llydan nifer a
lleufer yn eu llygaid.
Bellach mae Cymru’n cael ei hymosod llai, ond mae cymynrodd parhaol y 24 o’r ffurfiau barddonol Cymraeg yn dal i gysylltu’r wlad â’r gorffennol. Llinell cynghanedd, er enghraifft– mesur barddonol sy’n unigryw i’r Gymraeg wedi’i seilio ar batrymau rhythmig neilltuol yr iaith, ac ar ailadrodd cytseiniaid- sy’n hanes byw, ac nid dim ond o ran y geiriau wedi’u defnyddio ynddi.Now, Wales is going through a less embattled time, but the lasting legacy of the 24 Welsh poetic forms still connects the country to the past. A line of cynghanedd, for example– a poetic metre unique to Welsh which uses the language’s consonantal repetition and syllabic stress– is a living history, and not just in terms of the words that are set to it.
Cyfieithu mesur
Mae’n ddihareb am ba mor anodd yw ceisio defnyddio pob un o’r ffurfiau a’r mesurau Cymraeg yn Saesneg – mewn gwirionedd, mae llawer yn credu nad yw’n bosibl cyflawni hyn yn iawn na’n fanwl gywir. Fe fyddent yn dadlau’n gall, ond nid cywirdeb yw’r peth mwyaf pwysig yma. Yn hytrach, rwy’n ymddiddori mewn dysgu’r grefft a deall nodweddion y ffurfiau barddonol a’r mesurau Cymraeg sy’n dangos mai rhai Cymraeg ydynt.
Translating metre
Each of the Welsh poetic forms and metre is notoriously difficult to write in the English language – in fact many believe that writing these forms and metre in English is almost impossible to accomplish well or accurately. They would have a sound argument, but accuracy is not the most important thing here. Rather, it is engagement with the learning of the craft and the characteristics of Welsh poetic forms and metre which identify them as Welsh.
Mae barddoniaeth Eingl-Gymreig wedi’i sefydlu fel rhan o hanes barddoniaeth Cymru, ac yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth feirdd Saesneg yn ogystal ag ysgrifenwyr rhyngwladol sy wedi ymgartrefu yng Nghymru. Er enghraifft, bardd o’r Ariannin oedd Lynette Roberts, a ddefnyddiai ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg yn ei cherddi. Efallai bod y gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas yn un o’r enghreifftiau mwy adnabyddus o farddoneg Gymraeg yn Saesneg:Anglo-Welsh poetry is an established part of Welsh poetic history and includes contributions from English poets as well as international writers who have settled in Wales. Lynette Roberts, for example, was an Argentinian poet who used Welsh poetic forms and metre in her poetry. Perhaps one of the more well known examples of Welsh poetics in the English language, is Dylan Thomas’s Fern Hill:
Though I sang in my chains like the sea.”
Yn debyg i’r beirdd sy wedi defnyddio cynghanedd mewn cerddi Saesneg, rwy’n credu’n frwd ei bod yn bosibl defnyddio amrywiadau ar ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg i lunio barddoniaeth yn Saesneg, a’i bod yn bwysig dechrau annog mwy o gerddi Saesneg sy’n defnyddio cynghanedd.Like the poets who have used cynghanedd in English poems, I strongly believe that it is possible to use variations of Welsh poetic forms and metre to create poetry in the English language, and that it is important that we start encouraging more English poems using cynghanedd.
Fe all y grefft o ddefnyddio ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg arwain y gwrandäwr ar daith trwy hanes, tirwedd, diwylliant a mytholeg Cymru. Trwy’i defnyddio mewn cerddi Saesneg, mae’n bosibl ailddiffinio llais barddonol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn y byd sydd ohonom, a ellir ei ddefnyddio mewn sawl iaith. Nid datblygu llais barddonol heb ei debyg a ystyrir i fod yn Gymreig yw nod y prosiect hwn. Yn hytrach gobeithiaf y bydd beirdd yn gallu edrych trwy lens fydd yn eu cysylltu â gwreiddiau cyfrannol y wlad, lens y gallant ffocysu eu profiadau o hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig trwyddi.The craft of Welsh poetic forms and metre has the potential to take the listener on a journey through the history, landscape, culture and mythology of Wales. By using it in English poems, it is possible to redefine a contemporary national Welsh poetic voice that can be used in several languages. It is not about developing a singular poetic voice that is considered to be Welsh, but giving poets a lens which links them to the country’s collective roots through which they can focus their experiences of Welsh cultural identity.
O bosibl y byddai archwilio hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig trwy ddefnyddio’r fath hon o farddoniaeth yn hyrwyddo sgwrs newydd, genedlaethol am hunaniaeth ddiwylliannol. Trwy hybu’r ffurfiau a’r mesurau, fe allwn ddechrau ymosod ar y dadymafael diwylliannol a’r arwahanu sy’n bod oddi mewn i rai unigolion a grwpiau sy’n byw yng Nghymru. Efallai y helpai hyn i greu llwyfan lle y cyfrannai safbwyntiau gwahanol at drafod hunaniaeth ddiwylliannol mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn well â Chymru fodern, amlddiwylliannol.Exploring Welsh cultural identity using this type of poetry could potentially facilitate a new, national conversation about cultural identity. By promoting the forms and metre, we can begin to address the cultural disengagement and isolation which exists within certain individuals and groups who live in Wales. It could help to create a platform where different perspectives could contribute to a discussion on cultural identity that is more in keeping with a modern, multicultural Wales.
Mae’n bosibl y bydd y fath hon o drafodaeth yn herio’n syniadau ynglŷn â hunaniaeth ddiwylliannol trwy feithrin gwreiddiau y tu hwnt i’r Gymraeg, er mwyn cofleidio’r rhai sy’n bodoli ar ei hymylon. Trwy gyfuno
diwylliant cyfoes Cymreig â thraddodiadau hynafol o farddoni, fe all Cymru groesawu’i hunaniaeth genedlaethol gyfnewidiol, wrth anrhydeddu’r oes o’r blaen o hyd.
These kinds of discussions have the potential to challenge our ideas of cultural identity by nurturing roots outside of the Welsh language in order to embrace those who exist on its borders. By melding modern Welsh culture with the ancient traditions of rhyme and verse, Wales can embrace its changing national identity while still honouring its past.

Un agwedd o ddiwylliant Cymraeg y byddai pawb yn cytuno amdani yw’r cysylltiad cryf rhwng y wlad a’i llenyddiaeth.

Rhea Seren on Patreon

The Lonely Crowd Magazine

Previously In Molly Bloom Magazine

rhea_seren

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Barddoniaeth yng Nghymru gyda Rhea Seren