Jonathan Simcock- Cymraeg yn Derby

Jonathan Simcock: Dysgu a defnyddio Cymraeg yn Derby / Learning and using Welsh in Derby

Mae’r Gymraeg yn ffynnu yn ninas Derby yng nghanolbarth Lloegr. Pam mae hyn, a sut maen nhw’n defnyddio’r iaith?

Welsh is thriving in the city of Derby in central England. Why is this, and how do they use the language?

Dechreuodd y grŵp mewn dosbarth Cymraeg gyda’r WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) yn Nhŷ Sant Heledd yn Derby gan ddefnyddio’r cwrs ‘Dosbarth Nos’ yn 1998. Roedd tua 20 o bobl yn y dosbarth o dan ofal athrawes Delyth Neill, mae Delyth gynt o Gydweli ond bellach yn byw ger Derby. Doedd y WEA yn Derby dim yn cynnal gwersi Cymraeg yn ystod tymor yr Haf, felly dyna oedd nifer o’r dosbarth yn parhau ar ôl tymor y gwanwyn heb yr athrawes.The group started off in an evening class in Welsh offered by the WEA (Workers’ Educational Association) in St Helen’s House, Derby in 1988. There were twenty people in the class under the care of teacher Delyth Neill; Delyth is formerly from Kidwelly but now lives near Derby. The WEA did not hold Welsh lessons during the summer term, which is why a number of the class carried on after the spring term without the teacher.
Ar ôl rhai blynyddoedd daeth y dosbarth WEA i ben ond penderfynodd nifer o gyn dysgyblion y dosbarth i gario ymlaen i gyfarfod ac i ymarfer eu sgiliau iaith. I ddechrau yr oedden ni’n parhau efo ein hathrawes Delyth ond yn 2005 penderfynodd hi ymddeol ac roedd rhaid chwilio am diwtor newydd. Wnaeth y grŵp hysbysebu ym mhobman, yn lleol ar gardiau post mewn ffenestri siopau ac yn y wasg, a hefyd ar newyddion Cymraeg y BBC yng Nghymru.After some years the WEA class came to an end but a number of the class’s former pupils decided to carry on meeting and practising their language skills. To begin with we still had our teacher Delyth but in 2005 she decided to retire and we had to look for a new tutor. The group advertised everywhere, locally on postcards in shop windows and in the press, and also in Wales on the BBC’s Welsh news.
Trwy lwc yr oedd ferch leol, Elin Merriman, newydd ddod adref i Swydd Derby ar ôl cwblhau gradd yn y Gymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Daeth Elin yn diwtor i’n grŵp ni ac mae hi sy’n arwain y gwersi o hyd.Luckily there was a local girl, Elin Merriman, who had just come home to Derbyshire after completing a degree in Welsh at Aberystwyth University. Elin became our group tutor and still leads the lessons.
Erbyn hyn mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ar fore Sadwrn yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Derby. Fel arfer mae 15 - 20 o bobl yn dod i'r cyfarfod, ac mae hyn yn cynnwys pobl o bob safon o Gymraeg o ddechreuwyr pur i siaradwyr rhugl a Chymry Cymraeg alltud. Mae Elin Merriman yn cynnal y gwersi ar gyfer y dechreuwyr pur a’r dysgwyr canolradd tra mae dysgwyr rhugl a’r Cymry alltud yn cwrdd ar wahân yn yr un stafell yn darllen eitemau o’r wasg Gymreig ac yn trafod pob pwnc dan haul.At present the group meets once a month on a Saturday morning in the Friends’ Meeting House in Derby. There are usually 15-20 people at the meeting, and this includes people of every standard in Welsh from rank beginners to fluent speakers and native Welsh expatriates. Elin Merriman conducts the lessons for the beginners and intermediate learners while the fluent speakers and Welsh expatriates meet in a separate room to read items from the Welsh press and discuss every topic under the sun.
Ysgol Undydd Cymraeg
Mae Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby hefyd yn trefnu Ysgol Undydd Cymraeg yn flynyddol yn yr Hydref. Mae’r Ysgol Undydd fel arfer yn tynnu rhwng 40 a 50 o bobl, ar ben hynny mae’r grŵp yn trefnu ambell daith gerdded, noson mewn tafarn a hyd yn oed cystadleuaeth Scrabl Cymraeg. Mae gan y grŵp ‘papur bro’ o’r enw Llais y Derwent, gwefan ar lein o dan yr enw Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby a safle Facebook o dan yr enw Menter Iaith Lloegr.
One-day Welsh School
The Derby Circle of Welsh Learners also holds an annual one-day Welsh School in the autumn. The one-day School usually attracts 40 to 50 people, and at the end of it the group arrange some walk, an evening in the pub, and even a Welsh Scrabble tournament. The group produce a ‘local paper’ called ‘Llais y Derwent’ (Voice of the Derwent), have a website called Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby (Derby Circle of Welsh Learners) and a Facebook page under the name Menter Iaith Lloegr.
Dros y blynyddoedd dyn ni wedi colli ambell aelod sy wedi symud i Gymru ond oherwydd ein safle we a’r grŵp Facebook dyn ni wastad yn cael pobl newydd yn dod i gymryd eu lle.Over the years we have lost some members who have moved to Wales but thanks to our website and Facebook group we are constantly getting new people to take their place.
Aeth Jonathan Simcock i weithio dros dro yn Abertawe yn 2007, am chwe mis, i Fenter Iaith Abertawe, ond daeth o yn ôl yn 2008. Jonathan sy’n cyfrifol am y gwefan www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com a Llais y Derwent.Jonathan Simcock went to work in Swansea for six months in 2007, in Swansea’s Menter Iaith (Menter Iaith is a community based organisation that seesk to raise the profile of the Welsh language), but came back in 2008. It is Jonathan who is responsible for the website www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com and for Llais y Derwent.
Yn 2012 cafodd y grŵp aelod newydd yn Martin Coleman, mi wnaeth o weithio yn galed i ddysgu’r iaith ac o fewn dwy flynedd roedd o’n siarad yn dda iawn. Erbyn 2016 roedd o wedi pasio’r arholiadau Cymraeg fel ail iaith i Oedolyn canolradd ac Uwch ac yn symud i ardal Aberhonddu i weithio i’r Parc Cenedlaethol Bannau’r Brycheiniog. Yn anffodus doedd y swydd dim yn para ac mae o yn ôl yn y grŵp erbyn hyn. Ers dod yn ôl i Swydd Derby mae o wedi dechrau cystadlu mewn ambell Eisteddfod leol ac mae o wedi ennill mewn un gystadleuaeth ac wedi dod yn ail mewn un arall.In 2012 the group acquired a new member in Maritn Coleman, who worked hard at learning the language and within two years was speaking it very well. By 2016 he had passed both intermediate and higher examinations in Welsh as a second language for adults and had moved to the Brecon region to work for the Brecon Beacons National Park. Unfortunately the job did not last and he is now back in the group. Since coming back to Derbyshire he has begun competing in various local Eisteddfods and has won one competition and taken second place in another.
Nosweithiau Sgwrs a Pheint
Pan mae Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn cynnal y nosweithiau Sgwrs a Pheint fel arfer maen nhw’n digwydd yn Yr Hop, tafarn yn Belper sy’n bia i deulu Elin Merriman, ond er gwaetha’r ffaith ein bod ni’n siarad yn Gymraeg mewn tafarn yn Lloegr hyd yn hyn does dim problemau wedi codi. Dyn ni hefyd wedi cwrdd yn y Queens Head, Belper. Un tro roedd grŵp o bump ohonon ni’n siarad yn y Queens Head o amgylch bwrdd ger y tân a daeth diethryn draw ac yn dweud yn Gymraeg “braf clywed y Gymraeg yn cael ei siarad fan hyn”. Roedd o’n Gymro alltud sy’n mynd i’r Queens Head am beint ar ôl gwaith ar y nos Wener pob wythnos.
'Chat and Pint’ nights
When the Derby Welsh Learners Circle holds ‘Chat and Pint’ nights, these usually take place in The Hop, a pub in Belper owned by the family of Elin Merriman, and despite the fact that we are speaking Welsh in a pub in England so far no problems have arisen. We also meet in the Queen’s Head, Belper. On one occasion a group of us were talking in the Queen’s Head round a table near the fire and a stranger came across and said in Welsh ‘great to hear Welsh being spoken here’. He was a Welsh expatriate who went to the Queen’s Head for a pint after work every Friday night.
Tro arall roedd Jonathan a Martin yn cael panad o goffi mewn Caffi yn Cromford ar ôl daith cerdded Cymraeg, ac yn siarad Cymraeg wrth ei gilydd. Roedd dwy fenyw yn y caffi yn sbïo arnon ni am sbel, ac yn y pendraw gofynasant nhw i ni ‘Pa iaith ydych chi’n siarad- Norwyeg neu Swedeg?’ Rhaid i mi ddweud, ar y cyfan dyn ni dim wedi gweld llawer o ymateb negyddol i’r grŵp Gymraeg. Mae Radio Derby hyd yn oed wedi dangos diddordeb yn y grŵp, ac mae Jonathan wedi rhoi gwersi Cymraeg yn fyw ar y Radio teirgwaith i rai o gyflwynwyr Radio Derby.Another time Jonathan and Martin were having a cup of coffee in a café in Cromford after a Welsh walk, and speaking Welsh to each another. Two women in the café looked at us for a while, and finally asked us ‘What language are you speaking- Norwegian or Swedish?’ I must say that on the whole we have not seen much in the way of negative responses to our Welsh group. Even Radio Derby have shown an interest in the group, and Jonathan has on three occasions given live Welsh lessons to Radio Derby presenters.
Croeso cynnes
Os oes dysgwyr yn Lloegr neu ymhelwyr o Gymru eisiau cysylltu â’r grŵp, anfonwch neges at [email protected]. Mae’na groeso i bawb sy eisiau ymuno a’r grŵp.
Warm welcome
If there are English learners or visitors from Wales who want to get in touch with the group, message us at [email protected] There is a welcome for everyone who wants to join the group.

Mae’r Ysgol Undydd fel arfer yn tynnu rhwng 40 a 50 o bobl, ar ben hynny mae’r grŵp yn trefnu ambell daith gerdded, noson mewn tafarn a hyd yn oed cystadleuaeth Scrabl Cymraeg.

derbywelshlearnerscircle.blogspot.com


Llais Y Derwent- Rhif 37, Mis Mai/Mehefin 2018

Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho / Click on the picture below to download:

Llais y Derwent 2018-06

Casgliad o ôl-rifynnau / A collection of previous issues

Jonathan Simcock- Llais y Derwent

 

Llwytho i Lawr fel PDF


Wales Around the World

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol