Yn ddiweddar mae'r iaith Gernyweg wedi dod yn fwy amlwg i bobl y tu allan i'r Ddugaeth. Yn 2010 adnabu Llywodraeth Prydain y Gernyweg fel iaith swyddogol yng Nghernyw; yn 2018 cymerodd Gwenno yr iaith i wledydd ynysoedd Prydain, i Ewrop a'r tu hwnt efo'i halbwm newydd Le Kov (Lle Cof); ac yn 2019 dan ni'n dathlu pythefnos o Wythnos Siaradwch Gernyweg sy'n dechrau efo gŵyl cerddoriaeth a barddoniaeth Fest Kernewek – y tro cyntaf i ŵyl o'r math hwn gael ei chynnal erioed.
Felly beth am ddysgu ychydig o'r iaith hon? Fel siaradwyr Cymraeg dach chi mewn lle perffaith i ddysgu Cernyweg yn hawdd ac yn gyflym gan fod yr ddwy iaith mor debyg â'i gilydd. Dros y misoedd a ddaw mi fydda i'n cyhoeddi nifer o wersi syml fydd yn dysgu rheolau syml yr iaith i chi, rhoi tipiau am ffyrdd eraill o ddysgu ac yn eich annog chi i fynd allan a defnyddio iaith arall y nefoedd.
Nodyn byr: Dwi'n defnyddio Ffurf Ysgrifenedig Safonol yr iaith yn y gwersi hyn. Ryw bwynt bydda i'n paratoi erthygl am y gwahanol fathau o sillafu'r iaith a sut mae newid o'r un i'r llall.
Lately the Cornish language has become more visible to people outside the Duchy. In 2010 the British Government recognised Cornish as an official language in Cornwall; in 2018 Gwenno took the language into countries of the British Isles, into Europe and beyond with her new album Le Kov (Place of Memory); and in 2019 we are celebrating a fortnight of Talk Cornish Week which begins with a festival of music and poetry, Fest Kernewek – the first time a festival of this kind has ever been held.
So what about learning a bit of this language? As Welsh speakers you are perfectly placed to learn Cornish easily and quickly because the two languages are so alike. Over the coming months I will be publishing a number of lessons which will teach you the simple rules of the language, giving tips on other ways of learning and encouraging you to go out and use the other language of heaven.
Short note: I use the Standard Written Form in these lessons. At some point I will prepare an article on the different ways of spelling the language and how to change from one to another.
Bord Cynnwys / Table of Contents
- Gwers 1: Ynganiad a Chyfarchiadau / Leveryans ha Gorhemynadow / Pronunciation and Greetings
- Gwers 2: Cyflwyniad i'r ferf bos / Kommendyans dhe verb bos / Introducing the verb bos
- Gwers 3: Ffurfiau hirion o bos / Furvow hir a bos
- A verwis hi? / A farwodd hi? / Did it die?
- Moddau Dysgu Ieithoedd: Fy mhrofiad i o ddysgu Cymraeg, Cernyweg & Almaeneg / Methods of Learning Languages: My experience of learning Welsh, Cornish & German
Dysgu Cernyweg: Gwers 1 – Ynganiad a Chyfarchiadau
Dyski Kernowek: Dyskans 1 – Leveryans ha Gorhemynadow
Learning Cornish: Lesson 1 – Pronunciation and Greetings
Un o'r pethau anoddaf wrth ddysgu iaith newydd ydy deud y geiriau'n iawn, ac fel pob iaith mae gan y Gernyweg seiniau syml yn ogystal â seiniau anghyfarwydd a chaled. | One of the most difficult things in learning a new language is saying the words right, and like every language Cornish has simple sounds as well as unfamiliar and hard sounds. |
Yn y tabl isod dwi'n dangos gwyddor y Gernyweg a sut mae deud pob llythyren mewn cymhariaeth â'r Gymraeg a'r Saesneg. Dwi'n cynnwys symbolau o'r Wyddor Seinegol Ryngwladol i helpu dangos yr ynganiad. | In the table below I show the Cornish alphabet and how each letter is said as compared with Welsh and English. I include the symbols of the International Phonetic Alphabet to help show the pronunciation. |
Dydy hyn ddim yn beth hawdd i ddysgu o bell felly peidiwch â phoeni os ydach chi'n drysu neu yn stryffaglu gwneud rhai o'r seiniau hyn ar y cychwyn. Bydd yn dod yn haws wrth i ni fynd yn ein blaen. | It is not an easy thing to learn remotely so don’t worry if you are confused or struggle to make some of these sounds at the beginning. It will become easier as we go on. |
Yr Wyddor / An Abecedari: | The Alphabet |
Yn yr enghreifftiau hyn dwi'n dangos enwau trwy ddefnyddio priflythrennau i helpu gwahaniaethu. | In these examples I show nouns capitalised to help distinguish them. |
Llythyren Gernyweg | Sain cyfartal yn Gymraeg | Sain cyfartal yn Saesneg | Enghraifft (cyfieithiad) |
Cornish letter | Equivalent sound in Welsh | Equivalent sound in English | Example (translation) |
A / a [a:] | A - cath | Ah - cash | Kath (cath) |
B / b [b] | B - bisgedyn | B - abacus | Bora (gwawr) |
C / c [s] | S - wythnos | S - smile | certan (sicr) |
Ch / ch [ʧ] | Tsi - tsieina | Ch - change | Chi (tŷ) |
D / d [d] | D - du | D - dad | du (du) |
Dh / dh [ð] | Dd - defnyddio | Th - this | dhe (i) |
E / e [ɛ] | E - helô | E - envelope | ewn (cywir) |
F / f [f] | Ff - fferyllfa | F - father | fast (sefydlog) |
G / g [g] | G - Gwynedd | G - go | gwynn (gwyn) |
H / h [h] | H - het | H - hat | Hatt (het) |
I / i [i:] | I - gwin | Ee - teeth | Min (ceg) |
J / j [ʤ] | J - garej | J - jam | Jerkyn (siaced) |
K / k [k] | C - cam | Ck - back | Kwilkyn (broga) |
L / l [l] | L - glo | L - help | lamma (neidio) |
M /m [m] | M - mam | M - mum | Mena (bryn/mynydd) |
N / n [n] | N - hen | N - nope | Nans (dyffryn) |
O / o [ɔ] | O - agor | O - hold | Olifans (Eliffant) |
P / p [p] | P - polyn | P - pepper | Power (pŵer) |
R / r [r]* | R - rôl | R - ready | parys (parod) |
S / s [z] | S - sŵ | Z (meddal) - times | Seythen (wythnos) |
T / t [t] | T - tywel | T - toad | Tren (trên) |
Th / th [θ] | Th - peth | Th - thing | Ow thas (fy nhad) |
U / u [y] | W (byr) - wpsi | U - orangutan | Bugh (buwch) |
V / v [v] | F - fodca | V - very | Dha vamm (dy fam) |
W / w [w] | W - gwyn | Oo - poo | Wolkom (croeso) |
Y / y [ɪ] | Y - gwyn | I - win | bryntin (gwych) |
* Gellir rolio'r r neu beidio. Yn bersonol dwi ddim, ond mae 'na rai o bobl sy'n ffafrio fo fel yn Gymraeg. | * The r can be rolled or not. Personally I do not, but some people favour it as in Welsh. |
Ymarfer 1 / Praktis 1: | Practice 1: |
Trïwch ddeud y geiriau ar y dde yn uchel. Mi fyddwch chi'n gweld rhai geiriau cyfarwydd i'r Gymraeg a'r Saesneg, a rhai geiriau hollol newydd. Peidiwch â phoeni os nad ydach chi'n gallu deud nhw'n iawn wrth gychwyn. Os ydach chi'n stryffaglu efo'r ynganiad, sbïwch ar yr enghreifftiau Cymraeg a Saesneg eto a'u deud nhw'n uchel cyn ceisio'r Gernyweg drachefn. | Try to say the words on the right aloud. Again, if you come across any problems, look at the examples. |
Deuseiniau / Diwvogalennow: | Diphthongs: |
Mae 'na hefyd sawl deusain yn y Gernyweg. Mae'r tabl isod yn dangos ychydig o'r rhai mwyaf cyffredin i chi. | There are also several Cornish dialects. The table below shows you some of the most common ones. |
Deusain Cernyweg | Seiniau cyfartal | Enghraifft (cyfieithiad) |
Cornish Dipthong | Equivalent Sounds | Example (translation) |
gh [x] (byth yn dod ar ddechrau geiriau) | fel loch yn Wyddeleg yr Alban | laghel (cyfreithlon) |
eu [ø:] | fel höher yn Almaeneg. | Eus keus? (Oes 'na gaws?) |
oo [o:] | Ô - lôn | Poos (pwysau) |
ou [u:] | Ŵ - dŵr | Gour (gŵr) |
ow [ɔʊ] | fel 'oh dear' yn Saesneg. | Kernow (Cernyw) |
oy [ɔˑɪ] | Oe - anhygoel | Oy (wy) |
yw [ɪʊ] | Iw - heddiw | Yth yw yeyn (mae'n oer) |
Nodyn / Merkyans: | Note: |
Mae'r gh yn debyg iawn i'r ch yn Gymraeg, ond dwedir yn fwy meddal. | Gh is very similar to ch in Welsh, but said more softly. |
Ymarfer 2 / Praktis 2: | Exercise 2: |
Trïwch ddeud y geiriau ar y dde yn uchel. Eto, os dewch chi ar draws unrhyw problemau, edrychwch ar yr enghreifftiau. | Try to say the words on the right aloud. Again, if you come across any problems, look at the examples. |
Hyd llafariaid / Hys bogalennow: | Vowel length: |
Mae'r Gymraeg yn dangos hyd llafariaid trwy ddefnyddio toeau bychain, er enghraifft tap a tâp. Er mwyn dangos y wahaniaeth hon mae'r Gernyweg yn defnyddio cytseiniaid dyblyg, cymharwch tapp (tap) a tapa (tâp). Fel arfer mae hyn yn effeithio ar eiriau unsill, ond mae 'na eithriadau fel y dangosir isod. | Welsh shows vowel length by the use of circumflexes, for example tap and tâp. To show this difference, Cornish uses double consonants: compare tapp (tap) and tapa (tape). As a rule this affects words of one syllable, but there are exceptions as is shown below: |
Os oes un cytsain, mae'r llafariad yn hir. Os oes dau gytsain, mae'n fyr. | If there is one consonant, the vowel is long. If there are two consonants, it is short. |
Gall y geiriau Pel (pêl) a Pell (pell) achosi ychydig o drafferth i siaradwyr Cymraeg oherwydd yr L dyblyg. Mae'n rhaid cofio nad oes y sŵn ll [ɬ] yn bodoli yn y Gernyweg o gwbl a dim ond yn dangos hyd y llafariad maen nhw. | The words Pel (ball) and Pell (far) can cause Welsh speakers a bit of trouble on account of the double L. It must be remembered the sound ll [ɬ] does not exist in Cornish at all, and the double l merely shows the length of the vowel. |
Pan welir ll yn Gernyweg, dwedir fel l yn Gymraeg. | When you see ll in Cornish, say it like l in Welsh. |
Mewn geiriau deusill a mwy mae'r llafariaid yn fyr, er enghraifft: kavas (can), bogalen (llafariad), tapys (tapiau). | In words of two syllables and more the vowel is short, for example: kavas (tin can), bogalen (vowel), tapys (tapes). |
Eithriad i'r rheol hwn ydy geiriau deusill sy'n gorffen efo llafariad. Yn yr achosion hyn mae'r llafariad olaf wastad yn fyr, tra mae hyd y llafariad cyntaf yn dibynnu ar gytseiniaid dyblyg. | An exception to this rule is words of two syllables that end in a vowel. In these cases the last vowel is always short, while the length of the first vowel depends on the double consonant. |
Er enghraifft: tapa (tâp), apa (epa), kanna (can), ranna (rhannu). | For example: tapa (tape), apa (ape), kanna (can), ranna (to share). |
Ymarfer 3 / Praktis 3: | Practice 3: |
Dwedwch y geiriau canlynol gan gofio bod y cytseiniaid dyblyg yn byrhau hyd y llafariaid. | Say the following words remembering that the double consonants shorten the length of the vowel. |
glan (glan) / Glann (glan / ymyl afon) |
|
Sten (tun) |
|
Lann (llan) |
|
Lamm (naid) |
|
bras (mawr) |
|
Snod (rhuban) / Snodow (rhubanau) |
|
Gwen (gwên) / Gwenn (anws) – Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau yma! |
|
Unn (un) – wrth gyfrif. |
|
Myttin (bore) – Wrth fyrhau mae sŵn yr i [i] yn newid i sŵn yr y [ɪ]. Felly [mɪtɪn]. |
|
Cyfarchiadau / Gorhemynadow: | Greetings: |
Felly rŵan dan ni wedi dysgu sut mae gwneud seiniau'r Gernyweg, dan ni'n barod i symud ymlaen i ail rhan y gwers hwn, sef y cyfarchiadau. Sbïwch ar yr geiriau a'r brawddegau isod a thrïwch lenwi'r bylchau wrth ddarllen nhw allan. | As you can see from the examples above, a lot of words in Cornish are similar to Welsh and English, and some look wholly strange. You will see more of these similarities and differences as we learn more Cornish in the months to come. |
Dydh da. Helô / Dydd Da (cyffredinol) |
|
Hou! S'mae |
|
Myttin da. Bore da. |
|
Dohajydh da. P'nawn da. |
|
Gorthugher da. Noswaith da. |
|
Fatla genes? Sut wyt ti? |
|
Yn poynt da, meur ras. Yn dda iawn, diolch. |
|
Pyth yw dha hanow? Beth ydy dy enw? |
|
... yw ow hanow. ... ydy fy enw. |
|
A ble hwre'ta dos? I le wyt ti'n dod? |
|
My a dheu a-dhyworth... Dwi'n dod o... |
|
Splann dhe'th metya. Neis i gwrdd â ti. |
|
Duw genes! Hwyl fawr! (unigolyn cyfarwydd) |
|
Dha weles yn skon! Gwela i di'n fuan! |
|
Agas gweles a-vorow. Gwela i chi yfory! |
|
Nos da. Nos da. |
|
Mar pleg. Plîs. |
|
Meur ras. Diolch. |
|
Drog yw genev. Mae'n ddrwg gen i. |
|
Gav dhymm. Esgusoda fi. |
|
A allav vy mos dhe'n bisva mar pleg? Ga i fynd i'r tŷ bach plîs? |
|
Ple'ma'n privedhyow? Lle mae'r toiled? |
|
Ymarfer 4 / Praktis 4: | Practice 4: |
Trïwch greu cwpl o sgyrsiau byr trwy ddefnyddio'r geiriau a'r brawddegau uchod. | Try to create a couple of short conversations using the words and sentences above. |
Diwedd y gwers / Diwedh an dyskans | End of the lesson |
Fel gallwch chi weld yn yr enghreifftiau uchod, mae 'na lot o eiriau tebyg i'r Saesneg a'r Gymraeg yn y Gernyweg, a rhai sy'n edrych yn hollol estron. Byddwch chi'n gweld mwy o'r tebygrwyddau a'r gwahaniaethau hyn wrth i ni ddysgu mwy o Gernyweg dros y misoedd a ddaw. | As you can see from the examples above, a lot of words in Cornish are similar to Welsh and English, and some look wholly strange. You will see more of these similarities and differences as we learn more Cornish in the months to come. |
Mae'r gwers 'ma wedi bod yn weddol syml fel rhestr o eiriau ac ymadroddion i chi eu cofio, ond yn yr un nesaf bydda i'n dangos i chi sut mae adeiladu brawddegau a dysgu cwpl o eiriau defnyddiol eraill. | This lesson has been fairly simple as a list of words and phrases for you to remember, but in the next one I will be showing you how to build sentences and teaching you a few other useful words. |
Os ydach chi am barhau i ddysgu yn y cyfamser galla i awgrymu gwefan www.gocornish.org fel man cychwyn i ffeindio mwy am yr iaith. I chi sydd wedi dysgu Cymraeg efo Say Something in Welsh, mae 'na hefyd fersiwn Cernyweg! | If you want to carry on learning in the meantime I can suggest the website www.gocornish.org as a starting point for finding out more about the language. For those of you who are learning Welsh with Say Something in Welsh, there is also a Cornish version! |
Dwi'n byw yn ardal Caerfyrddin ac yn awyddus dechrau dosbarth Cernyweg sy'n cwrdd pob hyd yn hyn. Os ydach chi am fod yn rhan o hyn, anfonwch neges ata i trwy Drydar: @SamBrown1993 | I live in the Carmarthen region and am keen to start a Cornish class which will meet from time to time. If you want to be part of it, send a message to me via Twitter: @SamBrown1993 |
Mi fydda i'n ôl cyn bo hir efo mwy o Gernyweg, ond tan wedyn... | I will be back before long with more Cornish, but until then... |
Duw genowgh! |
Dysgu Cernyweg: Gwers 2 – Cyflwyniad i'r ferf bos
Dyski Kernowek: Dyskans 2– Kommendyans dhe verb bos
Learning Cornish: Lesson 2 – Introducton to the verb bos
Dach chi'n ôl - Dynnargh! (Croeso). Gobeithio mwynhaoch chi'r gwers cyntaf a dach chi'n teimlo'n hyderus wrth ynganu geiriau Cernyweg. Os nad ydach chi'n gyfforddus wrth greu'r seiniau eto, peidiwch â phoeni. Gallwch chi fynd yn ôl unrhyw bryd i adolygu'r gwers cyntaf, ond bydda i hefyd yn cynnwys geiriau newydd trwy'r gwersi o'ch blaen i roi help i chi. | You’re back – Dynnargh! (Welcome). I hope you enjoyed the first lesson and that you are feeling confident with pronouncing Cornish words. If you are still not comfortable about creating the sounds, don’t worry. You can go back any time to review the first lesson, but I will also be presenting new words to help you in the lessons to come. |
Cyn cychwyn, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod 'na gwpl o bethau yn y gwers hwn efallai bydd yn eich dychryn. Ond peidiwch â phoeni a chymerwch eich amser wrth fynd trwyddo. | Before we begin, I must confess that there are a couple of things in this lesson that may alarm you. But don’t worry, and take your time going through it. |
Ta beth, ymlaen â ni i'r ail wers! | Anyway, on with the second lesson. |
Ddeud y gwir, dôn i ddim yn bositif beth rôn i am ei ddysgu i chi yn y gwers hwn. Ond dwi'n credu mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir trwy ddewis cyflwyno un o'r berfenwau mwyaf defnyddiol yn y Gernyweg: bos (bod) a dechrau sôn am y treigliadau. | Actually, I was not sure what I wanted to teach you in this lesson. But I think I have made the right decision in choosing to present one of the most useful verb-nouns in Cornish: bos (to be), and to start talking about the mutations. |
Bos - Ffurf hir neu ffurf fer? / Bos - Furv hir po furv verr?: | Bos - Long form or short form?: |
Dan ni i gyd yn gyfarwydd â'r berfenw bos (bod) ym mhob iaith – defnyddies i ffurf ohono fo ar ddechrau'r frawddeg hon. Yn y Gymraeg mae'n anodd meddwl am unrhyw air sy'n fwy defnyddiol na bod, ac felly dyma fydd cynnwys y rhan hon. | We are all familiar with the verb-noun bos (to be) in every language – I used a form of it at the start of this sentence. In Welsh it is hard to think of any word that is more useful than bod, and so this will be the content of this part. |
Cyn i ni ddechrau, mae'n werth sôn am reol anghyfarwydd sy'n effeithio ar ddefnydd o'r berfenw bos yn Gernyweg, a hynny yw os ydy'n ffurf hir neu ffurf fer. Ond beth mae'r rhain yn golygu? A sut mae'n effeithio ar ddefnydd o ffurfiau'r ferfenw? | Before we begin, it is worth mentioning a strange rule that affects the use of the verb-noun bos in Cornish, and that is that there is a long form or a short form. But what do these mean? And what effect do they have on the forms of the verbenw? |
Edrychwch ar y tabl isod i gymharu'r ffurfiau hir a ber â'i gilydd: | Look at the table below comparing the long and short forms with one another. |
Ffurf hir / Furv hir / Long form | Ffurf fer / Furv verr / Short form | Cymraeg / Kembrek |
Yth esov vy | Ov vy | Dw i |
Yth esos ta | Os ta | Wyt ti |
Yma ev/hi | Yw ev/hi | Mae o/hi / yw o/hi |
Yth eson ni | On ni | Dan ni |
Yth esowgh hwi | Owgh hwi | Dach chi |
Ymons i | Yns i | Maen nhw / ydyn nhw |
Y brif wahaniaeth rhwng y ddwy ffurf 'ma yw defnydd ohonyn nhw. Dan ni'n defnyddio'r ffurfiau hir er mwyn llunio'r amseroedd parhaol, hynny yw defnyddio bos + berfenw, ac i ddangos lleoliad. | The chief difference between these two forms is in the use of them. We use the long forms to denote duration of time, in this case using bos + verb-noun, and also to show location. |
Cernyweg / Kernowek | Cymraeg / Kembrek | Saesneg / Sowsnek |
Yma hi ow tos. | Mae hi'n dod. | She is coming. |
Yth esov vy ow tyski. | Dwi'n dysgu. | I am learning. |
Yth esowgh hwi omma. | Dach chi yma. | You are here. |
Cernyweg / Kernowek | Cymraeg / Kembrek | Saesneg / Sowsnek |
Diwedhes yw hi. | Mae'n hwyr. | It's late. |
Medhyk ov vy. | Meddyg ydwi. | I'm a doctor. |
Adhyskys yns i. | Maen nhw'n addysgedig. | They're educated. |
Mae 'na eithriadau i'r rheolau hyn, ond fyddwn ni ddim yn poeni amdanyn nhw heddiw. Yn yr un modd fyddwn ni ddim yn cyffwrdd â'r ffurfiau hir tan wers hwyrach. | There are exceptions to these rules, but we won’t worry about them today. In the same way, we won’t touch on the long forms till a later lesson. |
Mae'n siŵr bod chi'n sgrechian ar ôl gweld y rheiny, ond peidiwch. Dwi ddim yn disgwyl i chi eu dysgu nhw yn syth. Yng ngweddill y rhan hon byddwn ni'n canolbwyntio ar y ffurfiau byrion. | I expect that you are screaming after seeing these, but don’t. I don’t expect you to learn them straight away. In the remainder of this part we will concentrate on the short forms. |
Y ffurfiau byrion / An furvow berr | The short-form verb-nouns |
Fel dudes i uchod, dan ni'n defnyddio'r ffurfiau byrion ym mhob achos ond defnyddio berfenwau neu ddangos lleoliad, ac fel arfer maen nhw'n ymddangos efo enwau, ansoddeiriau ac rhangymeriadau y gorffennol. | As I said above, we use the short forms in every case except with verb-nouns or to show location, and as a rule they appear with nouns, adjectives and past participles. |
Dan ni'n gosod yr enwau/ansoddeiriau/rhangymeriadau o flaen ffurf fer o bos er mwyn llunio brawddegau. | We put the nouns/adjectives/past participles in front of the short form of bos to form sentences. |
Sam ov vy. Sam ydw i. |
|
Yn anhebyg i'r Gymraeg gallwn ni ddefnyddio ansoddeiriau efo'r gystrawen hyn yn Gernyweg. | Unlike in Welsh, in Cornish we can use adjectives with this construction. |
Yeyn on ni. Dan ni'n oer. |
|
Dyma'r ffurfiau byrion eto i chi. | Here the short form verb-nouns again for you. |
Cernyweg / Kernowek | Cymraeg / Kembrek | Enghraifft / Ensampel | Example |
Ov vy | Dw i | Dyskador ov vy. | Athro dw i. |
Os ta | Wyt ti | Lowen os ta. | Ti'n hapus. |
Yw ev/hi | Mae o/hi / yw o/hi | Morwenna yw hi. | Morwenna yw hi. |
On ni | Dan ni | Skwith on ni. | Dan ni wedi blino. |
Owgh hwi | Dach chi | A-varr owgh hwi. | Dach chi'n gynnar. |
Yns i | Maen nhw / ydyn nhw | Peboryon yns i. | Pobyddion ydyn nhw. |
Mi allwch chi weld sut mae'r gystrawen 'ma yn perthyn i'r Gymraeg. | You can see how this construction relates to Welsh. |
Ymarfer 1 / Praktis 1: | Practice 1: |
Cyfieithwch y brawddegau isod i'r Gymraeg. Maen nhw i gyd yn defnyddio geiriau sydd naill ai wedi ymddangos mewn enghreifftiau yn y gwersi hyd yma neu sy'n gyfarwydd i chi fel siaradwyr Cymraeg. | Translate the sentences below into Welsh. They all use words which have either appeared in examples in the lessons so far or which are familiar to you as Welsh speakers. |
1. Gwynn yw hi. 2. Kembrek yns i. 3. Lowen ov vy. 4. Gwin yw ev. 5. Berr os ta. 6. Diwedhes on ni. 7. Du yw an gath. 8. Trist owgh hwi. 9. An ki yw lowen. 10. Dowr yw glas. | ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... |
Peidiwch ag anghofio trïo darllen yr enghreifftiau uchod yn uchel. | Don’t forget to try to read the above examples aloud. |
Atebion ar ddiwedd y gwers. | Answers at the end of the lesson. |
Ymarfer 2 / Praktis 2: | Practice 2: |
Trïwch gyfieithu'r brawddegau isod i Gernyweg. Eto, mae'r geiriau hyn i gyd i'w gweld yn y gwersi hyd yma. | Try to translate the sentences belwo into Cornish. Again, all the words can be seen in the lessons so far. |
1. Athro ydy o. 2. Angharad dw i. 3. Dan ni'n hwyr. 4. Cath yw hi. 5. Dach chi'n oer. | ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... |
Y Treigliadau / An Treylyansow | Mutations |
Fel yr holl ieithoedd Celtaidd, mae treigliadau yn digwydd yn y Gernyweg, ac i fod yn onest mae 'na fwy o dreigliadau yn Gernyweg nag mewn unrhyw un o'r ieithoedd eraill. Ia, mae hynny'n meddwl bod 'na fwy nag yn Gymraeg! | As with all Celtic languages, mutations occur in Cornish, and to be honest there are more mutations in Cornish than in any of the other lenguages. Yes, that means there are more than in Welsh! |
Yn lwcus, mae lot ohonyn nhw yn cyfateb â threigliadau Cymraeg. Heddiw byddwn ni'n canolbwyntio ar y treiglad meddal, ond cyn hynny, dwi'n mynd i roi'r tabl treigliadau Cernyweg i chi gael ei weld a'i ystyried. Dwi ddim yn disgwyl i chi ddysgu'r rhain i gyd yn syth, a byddwn ni'n dod iddyn nhw yn y man. | Luckily, a lot of them correspond to Welsh mutations. Today we will concentrate on the soft mutation, but before this, I am going to give the table of Cornish mutations for you to see and ponder. I don’t expect you to learn them all straight away, and we will come to them in due course. |
1 Dim treiglad / Andreylyes / No mutation | 2 Meddal / Medhel / Soft | 3 Llaes / Hwethys / Aspiriant | 4 Caled / Kales / Hard | 5 Cymysgedig / Kemyskys | 6 Ar ôl 'th / Wosa 'th / After 'th |
B | V | B | P | F | V |
Ch | J | Ch | Ch | Ch | Ch |
D | Dh | D | T | T | T |
G + (a, e, i, y) | - | G + (a, e, i, y) | K | H | H |
G + (o, u, ro, ru) | W | G + (o, u, ro, ru) | K | Hw | W |
G + (l, r) | - | G + (l, r) | K | G | G |
Gw | W | Gw | Kw | Hw | W |
K | G | H | K | K | K |
M | V | M | M | F | V |
P | B | F | P | P | P |
T | D | Th | T | T | T |
Dudes i fod 'na lawer! Mae modd arbennig o ddangos pryd mae'r treigliadau hyn yn digwydd, a hynny trwy cyfeirio at rif y treiglad ar ôl geiriau sy'n ei achosi. | I did say there were a lot! There is a special way of showing when these mutations occur, and that is through referring to the number of the mutation after words which cause it. |
Er enghraifft: ow3 (fy) neu yn5 (yn). | For example: ow3 (fy) neu yn5 (yn). |
Bydda i'n defnyddio'r system 'ma i ddangos pryd mae treiglad yn digwydd. | I will use this system to show when a mutation occurs. |
Treiglad Meddal / Medhelheans | The Soft Mutation |
Yn Gernyweg mae 'na enwau gwrywaidd a benywaidd, ac fel yn Gymraeg mae treiglad meddal yn digwydd i enwau benywaidd unigol ar ôl y fannod benodol: An / 'n. | In Cornish, nouns are masculine and feminine, and as in Welsh a soft mutation occurs in feminine singular nouns after the definite article: An/’n. |
Er enghraifft: mowes (merch), an vowes (y ferch). | For example: mowes (girl), an vowes (the girl). |
Mae sawl enw yn Gernyweg efo'r un genedl ag enwau Cymraeg: kath (cath), an gath (y gath). Ond dydy hyn ddim wastad yn wir: pons (pont), an pons (y bont). Felly cymerwch ofal wrth ddysgu geiriau newydd. | Many nouns in Cornish have the same gender as Welsh nouns: kath (cat), an gath (the cat). But this is not always true: pons (bridge), an pons (the bridge). So take care when learning new words. |
Ymarfer 3 / Praktis 3: | Practice 3: |
Gan ddefnyddio'r tabl treigliadau uchod, treiglwch yr enwau benywaidd hyn. | Using the table of mutations above, mutate these feminine nouns. |
1. An + bugh (buwch) 2. An + benyn (menyw) 3. An + gwlas (gwlad) 4. An + kath (cath) 5. An + milva (sŵ) 6. An + gwedhen (coeden) 7. An + treveglos (pentref) 8. An + mamm (mam) 9. An + kowfordh (twnnel) 10. An + esedhva (lolfa) | ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... |
Ymarfer 4 / Praktis 4: | Practice 4: |
Cyfieithwch y brawddegau isod gan ddefnyddio popeth dan ni wedi'i ddysgu heddiw. | Translate the sentences below using everything that you have learned today. |
1. Y gath yw hi. 2. Mae'r wlad yn oer. 3. Mae'r bont yn hir. 4. Gwyn yw'r ci. 5. Dach chi'n hapus. 6. Dyskador yw ev. 7. An medhyk yw adhyskys. 9. Oberoryon owgh hwi. 10. Skwith on ni. | ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... ................................................... |
Diwedd y gwers / Diwedh an dyskans. | End of the lesson |
Dan ni wedi mynd dros lot o dir newydd yn y gwers hwn, ac mae'n siŵr bod chi'n llawn cwestiynau. Gobeithio nad ydwi wedi codi ofn arnoch chi. Yn y gwers nesaf byddwch chi'n dechrau defnyddio'r Gernyweg dwi wedi'i dysgu i chi yn fwy ac yn creu brawddegau eich hunain gan ddefnyddio popeth dan ni wedi dysgu hyd yma. | We have covered a lot of new ground in this lesson, and no doubt you are full of questions. I hope I have not frightened you. In the next lesson you will begin to use the Cornish I have taught you more and to create your own sentences using everything we have learned so far. |
Yn y cyfamser, teimlwch yn rhydd i fynd dros y ddau wers hyn cwpl o weithiau ac i ddefnyddio'r adnoddau arlein eraill i'ch helpu. | In the meantime, feel free to go over the two lessons a few times and use other online resources to help you. |
Dwi'n hapus i ateb unrhyw gwestiwn neu sylw sydd gynnoch chi, gallwch chi gysylltu â fi drwy Drydar: @SamBrown1993 a pheidiwch ag anghofio mod i am ddechrau dosbarth yn ardal Caerfyrddin. | I am happy to respond to any questions or observations that you have, you can contact me on Twitter: @SamBrown1993 and don’t forget that I am looking to start a class in the Carmarthen area. |
Agas gweles yn skon! |
Atebion / Gorthebow / Answers
Ymarfer 1 / Praktis 1: | Practice 1: |
1. Gwynn yw hi. 2. Kembrek yns i. 3. Lowen ov vy. 4. Gwin yw ev. 5. Berr os ta. 6. Diwedhes on ni. 7. Du yw an gath. 8. Trist owgh hwi. 9. An ki yw lowen. 10. Dowr yw glas. | 1. Mae hi'n wen / Gwen yw hi. 2. Cymreig ydyn nhw. 3. Dwi'n hapus. 4. Mae'n win / Gwin ydy o. 5. Ti'n fyr. 6. Dan ni'n hwyr. 7. Mae'r gath yn ddu. 8. Dach chi'n drist. 9. Mae'r ci yn hapus. 10. Mae dŵr yn las. |
Ymarfer 2 / Praktis 2: | Practice 2: |
1. Dyskador yw ev. 2. Angharad ov vy. 3. Diwedhes on ni. 4. Kath yw hi. 5. Yeyn owgh hwi. | 1. Athro ydy o. 2. Angharad dw i. 3. Dan ni'n hwyr. 4. Cath yw hi. 5. Dach chi'n oer. |
Ymarfer 3 / Praktis 3: | Practice 3: |
1. An vugh 2. An venyn 3. An wlas 4. An gath 5. An vilva 6. An wedhen 7. An dreveglos 8. An vamm 9. An gowfordh 10. An esedhva | 1. An + bugh (buwch) 2. An + benyn (menyw) 3. An + gwlas (gwlad) 4. An + kath (cath) 5. An + milva (sŵ) 6. An + gwedhen (coeden) 7. An + treveglos (pentref) 8. An + mamm (mam) 9. An + kowfordh (twnnel) 10. An + esedhva (lolfa) |
Ymarfer 4 / Praktis 4: | Practice 4: |
1. An gath yw hi. 2. Yeyn yw an wlas. 3. Hir yw an pons. 4. Gwyn yw an ki. 5. Lowen owgh hwi. 6. Athro ydy o. 7. Mae'r meddyg yn addysgedig. 8. Mae'r nos yn ddu. 9. Gweithwyr dach chi. 10. Dan ni wedi blino. | 1. Y gath yw hi. 2. Mae'r wlad yn oer. 3. Mae'r bont yn hir. 4. Gwyn yw'r ci. 5. Dach chi'n hapus. 6. Dyskador yw ev. 7. An medhyk yw adhyskys. 8. An nos yw du. 9. Oberoryon owgh hwi. 10. Skwith on ni. |
Dysgu Cernyweg: Gwers Tri – Ffurfiau hirion o bos
Dyski Kernowek: Dyskans Tri – Furvow hir a bos
Helô eto, a keslowena (llongyfarchiadau) ar gyrraedd gwers tri! Gobeithio bod chi wedi joio'r gwersi hyd yma ac yn teimlo fel bod chi'n dysgu lot. Fel yn y gwersi blaenorol, dwi'n eich annog i ddarllen yr holl enghreifftiau Cernyweg yn uchel er mwyn helpu'ch tafod ddod i afael efo'r holl seiniau. Bydd yn dod yn haws bob tro dach chi'n gwneud hwn.
Adolygu / Dasweles:
Yng ngwers dau dysgon ni am y ferf bos (bod) a'r ddwy ffordd mae hon yn cael ei defnyddio. Felly i ddechrau heddiw, dwi eisiau i chi gyfieithu'r brawddegau dilynol. Cofiwch y defnyddir ffurfiau byrion o bos efo enwau ac ansoddeiriau.
Ymarfer un / Praktis onan:
Teimlwch yn rhydd i edrych ar wers 2 os nad ydach chi'n gallu cofio'r holl eiriau neu batrymau hyn.
- Dan ni'n hapus. .....................................
- Maen nhw'n wyn. .....................................
- Athro dach chi. .....................................
- Mae'r ci yn hwyr. .....................................
- Rwyt ti'n fyr. .....................................
- An gath yw melyn. .....................................
- Hen yw an karr. .....................................
- Berr os ta. .....................................
- Kembrek owgh hwi. .....................................
- Lowen on ni. .....................................
Ffurfiau hirion o bos / Furvow hir a bos:
Prif rhan y gwers hwn fydd dysgu mwy am ffurfiau hirion o bos. Dyma'r tabl i chi eto i ddangos y ffurfiau hirion.
Ffurf hir / Furv hir | Cymraeg / Kembrek |
Yth esov vy | Dw i |
Yth esos ta | Wyt ti |
Yma ev/hi | Mae o/hi |
Yth eson ni | Dan ni |
Yth esowgh hwi | Dach chi |
Ymons i | Maen nhw / ydyn nhw |
Mae'r ffurfiau hirion hyn yn cael eu defnyddio er mwyn llunio'r amseroedd parhaol (lle defnyddiwn bod + yn + berfenw yn Gymraeg a to be + -ing yn Saesneg) ac i ddangos lleoliad. Heddiw mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar ddangos lleoliad, ac yn edrych ar ddefnydd o'r ffurfiau hyn â berfau eraill yn y gwers nesaf.
Er mwyn dangos lleoliad, gosodwch adferf neu arddodiad efo'r ffurf hir. Er enghraifft:
- Yth esov vy omma - Dwi yma.
- Yma ev tre - Mae o adref.
- Yth esowgh hwi y'n chi – Dach chi yn y tŷ.
Edrych ar yr eirfa hon. Dwi wedi dewis geiriau tebyg yn y Gymraeg a'r Gernyweg.
Cymraeg/Kembrek | Cernyweg/Kernowek |
Yma / fa'ma | Omma |
Yno / fa'na | Ena |
Fan'cw | Hons |
Yn/mewn | Yn |
Yn y/yr | Y'n |
Adref | Tre |
O gwmpas | A-dro |
Ymarfer dau / Praktis dew:
Gan ddefnyddio'r geiriau hyn, cyfieithwch y brawddegau hyn:
- Dan ni yma.
- Mae'r ci adref.
- Dach chi yn y tŷ.
- Dwi o gwmpas.
- Maen nhw fan'cw.
- Mae'r gath yma.
- Maen nhw adref.
- Mae'r dŵr fa'na.
- Dwi yn y dŵr.
- Rwyt ti fan'cw.
Ymarfer tri / Praktis tri:
Cyfieithwch y dilynol i Gymraeg:
- Yth esos ta a-dro.
- Yma'n ki y'n karr.
- Yth esowgh hwi tre.
- Ymons i hons.
- Yth eson ni ena.
Yn y gwers blaenorol cyflwynes i'r treigliadau i chi gan ganolbwyntio ar y treiglad meddal neu medhelhean. Ceir hwn mewn geiriau benywaidd ar ôl y fannod benodol, er enghraifft, benyn (benyw) – an venyn (y fenyw).
Ymarfer pedwar / Praktis peswar:
Treiglwch y rhain:
- An + kath
- An + tre
- An + davas (dafad)
- An + loor
- An + bugh
Mae'r treiglad meddal hefyd yn digwydd mewn ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau benywaidd.
An venyn goth (Yr hen fenyw)
An gath dew (Y gath dew)
An gowfordh dewal (Y twnnel tywyll)
Ymarfer pump / Praktis pymp:
Treiglwch y dilynol:
- Kath + koth
- An + tre + gwag
- An + gwedhen + gwyrdh
- An + mamm + lowen
- Esedhva + bras (mawr)
Nodyn pwysig: Ni cheir treiglad meddal mewn ansoddeiriau sy'n dilyn enwau sy'n gorffen efo -S neu -Th.
An yeth Kernowek – Yr iaith Gernyweg
An eglos bras – Yr eglwys fawr
Ond mae'r treiglad yn dal i ddigwydd ar ddechrau'r enwau hyn.
An dreveglos bras – Y pentref mawr
Ymarfer chewch / Praktis hwegh:
Cyfieithwch y rhain:
- Y ddafad wen.
- Yr hen eglwys.
- Benyw fawr.
- Y gath dew.
- Y ci du.
- Yr iaith Gymraeg.
- Y bont wan.
- Y dŵr glas.
- Yr athro hapus.
- Y nos dywyll.
Gosod popeth â'i gilydd / Gorra pubtra war-barth:
Erbyn hyn dan ni wedi dysgu lot. Edrychwch ar y rhain i weld sut mae popeth yn cyd-fynd â'i gilydd.
Yma kath bras y'n chi. Mae cath gawr yn y tŷ
Yth esov vy y'n dowr glas. Dwi yn y dŵr glas
An venyn velyn yw lowen. Mae'r fenyw felyn yn hapus
Yeyn owgh hwi hedhyw. Dach chi'n oer heddiw
Yth eswogh yn le yeyn. Dach chi mewn lle oer
Leun ha tew yw an ki. Mae'r ci'n llawn ac yn dew
Yma'n fleghes hons. Mae'r plant fan'cw
Ymarfer saith / Praktis seyth:
Cyfieithwch y brawddegau isod:
- An dowr glas yw yeyn.
- Yma kath tew y'n gegin.
- An dyskador yw trist.
- Gwann yw an pons koth.
- Yma ki omma.
- Mae'r gegin yn wag.
- Mae'r hen fenyw yn drist.
- Maen nhw yn y dŵr oer fan'cw.
- Dach chi'n hapus a thrist.
- Rwyt ti'n hen.
Diwedd y gwers / Diwedh an dyskans:
Gobeithio ar y pwynt yma dach chi'n teimlo'ch Cernyweg yn cryfhau. Byddwch chi'n dysgu mwy o eiriau a gramadeg defnyddiol. Os oes gynnoch chi syniadau am themâu i wersi a ddaw cysylltwch â fi drwy Twitter - @sambrown1993.
Agas gweles an nessa tro!
Atebion Gwers Tri / Gorthebow Dyskans Tri
Ymarfer un / Parktis onan:
- Lowen on ni.
- Gwynn yns i.
- Dyskador owgh hwi.
- Diwedhes yw an ki.
- Berr os ta.
- Mae'r gath yn felyn.
- Mae'r car yn hen.
- Rwyt ti'n fyr.
- Dach chi'n Gymreig.
- Dan ni'n hapus.
Ymarfer dau / Praktis dew:
- Yth eson ni omma.
- Yma'n ki tre.
- Yth esowgh hwi y'n chi.
- Yth esov vy a-dro.
- Ymons i hons.
- Yma'n gath omma.
- Ymons i tre.
- Yma'n dowr ena.
- Yth esov vy y'n dowr.
- Yth esos ta hons.
Ymarfer tri / Praktis tri:
- Rwyt ti o gwmpas.
- Mae'r ci yn y car.
- Dach chi adref.
- Maen nhw fan'cw.
- Dan ni yno.
Ymarfer pedwar / Praktis peswar:
- An gath
- An dre
- An dhavas
- An loor
- An vugh
Ymarfer pump / Praktis pymp:
- Kath koth
- An dre wag
- An wedhen wyrdh
- An vamm lowen
- Esedhva vras
Ymarfer chwech / Praktis hwegh:
- An dhavas gwynn.
- An eglos koth.
- Benyn vras.
- Yan gath tew.
- An ki du.
- An yeth Kembrek.
- An pons gwann.
- An dowr glas.
- An dyskador lowen.
- An nos tewal.
Ymarfer saith / Praktis seyth:
- Mae'r dŵr glas yn oer.
- Mae cath dew yn y gegin.
- Mae'r athro yn drist.
- Mae'r hen bont yn wan.
- Mae ci yma.
- Gwag yw an gegin.
- Trist yw an venyn goth.
- Ymons i y'n dowr yeyn hons.
- Lowen ha trist owgh hwi.
- Koth os ta.
A verwis hi?
A farwodd hi?
Did it die?
Y'n jydh hedhyw y hwodhyn ni bos nebes 500 kernowegor freth ha moy es teyr mil a wor temmik a'n yeth, kyn hwor peub a Gernow styryans an ger “Kernow”. Yma lyvrow-termyn ha lyvrow ow pos dyllys, yma towlennow pellwolok ha radyo kevadow rag kowsoryon a dyskadoron an yeth, ha Konsel Kernow re dhyllas aga thowlen teyr bledhen rag fatel vynnons skoodhya'n yeth. Grondyes war an re ma yth yw diogel dhe leverel bos an yeth Kernowek bew y'n kensa kansvledhen warn ugens. Mes ny veu desedhans an yeth pub prys mar gler, nyns esa saw yn 2010 y chanjyas UNESCO aga hlassans a'n yeth a varow dhe beryllys yn sevur. Ytho y'n erthygel ma y fynnav dadhla onan a gavylekka testennow yn istori an Kernowek, ha henna yw a verwis an yeth? | Y dyddiau hyn dan ni'n gwybod bod 'na dua 500 o siaradwyr rhugl eu Cernyweg a dros tair mil sy'n gallu ychydig o'r iaith, er bod pawb o Gernyw yn gwybod ystyr y gair “Kernow”. Mae cylchgronau a llyfrau yn cael eu cyhoeddi, mae 'na raglenni teledu a radio ar gael i siaradwyr a dysgwyr yr iaith, ac mae Cyngor Cernyw newydd gyhoeddi cynllun tair blwyddyn am sut maen nhw am gefnogi'r iaith. Ar sail hyn mae'n saff i ddeud bod yr iaith Gernyweg yn fyw yn yr unfed canrif ar ugain. Ond dydy sefyllfa'r iaith ddim wastad wedi bod mor glir, dim ond yn 2010 newidiodd UNESCO eu dosbarthiad o'r iaith o farw i mewn perygl difrifol. Felly yn yr erthygl hon dwi am drafod un o bynciau mwyaf dadleuol yn hanes y Gernyweg, sef a farwodd yr iaith? | These days we know that there are about 500 fluent speakers of Cornish and over three thousand more who know a little of the language, although everyone in Cornwall knows the meaning of the word ‘Kernow’. Books and magazines are being published, there are television and radio programmes available to speakers and learners of the language, and the Cornish Council have recently published a three-year plan of support for the language. On the basis of this it is safe to say that the Cornish language is alive in the twenty-first century. But the prospects for the language have not always been so bright, it was only in 2010 that UNESCO changed its classification of the language from ‘dead’ to ‘in serious danger’. So in this article I want to discuss one of the most controversial subjects in the history of Cornish, that is, did the language die? |
Yn kensa yma res gul mencyon a vernans yethow. Pyth yw mernans yeth, ha fatel geskelm henna dhe'n Kenowek? Y hyllir deskrifa mernans yeth avel hemm: Yn yethonieth y hwer mernans yeth pan gell yeth hy howser genesik finek (rag moy gwelewgh: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). Mar tevnydhyn an deskrifans ma gans an Kernowek yma res bos kowser genesik finek. Ytho piw o an person ma? Mars esons i vyth oll. | Yn gyntaf mae'n rhaid sôn am dranc ieithoedd. Beth yw tranc iaith, a sut mae hynny yn perthyn i'r Gernyweg? Gellir disgrifio tranc iaith fel hyn: Ym maes ieithyddiaeth mae tranc iaith yn digwydd pan golla iaith ei siaradwr brodorol olaf (Am fwy gweler: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). Os defnyddiwn ni'r diffiniad hwn efo'r Gernyweg mae'n rhaid bod wedi bod siaradwr brodorol olaf. Felly pwy oedd y person hwn? Os bodolon nhw o gwbl. | First, we must talk about the death of languages. What is the death of a language, and how does this relate to Cornish? The death of a language can be described thus: In the field of linguistics the death of a language takes place when a language loses it last native speaker (for further details see: https://www.thoughtco.com/what-is-language-death-1691215). If we apply this definition to Cornish, there must have been a last native speaker. So who was this person? If they existed at all. |
Yma unn hanow re deuth aswonys dre vos junyes gans mernans an Kernowek, henn yw Dolly Pentreath. Gwerther puskes a-dhyworth Porthenys y'n 1700ow o Dolly a gowsis Kernowek. Yth esa hi a vri rag sevel orth kowsel Sowsnek ha leverel: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sownsek' y'n Furv Skrifys Savonek). Y tevnydh tus bledhen hy mernans 1777 avel dydhans mernans an yeth yn fenowgh. Mes yma nebes dout yn-kever hemma. Mamm o Dolly, ytho yth yw certan hi dhe basya tamm a'n yeth dhe's flogh, John, ha tus erel y'n gemeneth a's onderstondyas. Onan aral a lavaransow a vri Dolly o “kronek hager du” a leveris hi dhe'n filosofer David Barrington. Ytho gwirhaval yw Dolly dhe waynya titel an kowser finek dre vos gnas bras na vynnas gweles hy mammyeth mones dhe goll yn le an Kernowegor genesik finek gwir. | Mae un enw wedi troi'n enwog trwy gael ei gysylltu â marwolaeth y Gernyweg, sef Dolly Pentreath. Gwerthwr pysgod o Mousehole yn y 1700au oedd Dolly a siaradodd y Gernyweg yn rhugl. Roedd hi'n adnabyddus am wrthod siarad yn Saesneg trwy ddeud: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sowsnek' yn Ffurf Ysgrifenedig Safonol yr iaith. 'Dwi ddim eisiau siarad Saesneg'). Yn aml defnyddia pobl flwyddyn ei marwolaeth 1777 fel dyddiad tranc yr iaith. Ond mae 'na ychydig o amheuaeth ynglŷn â hyn. Mam oedd Dolly, felly mae'n rhaid iddi fod wedi pasio rhyw faint o'r iaith ymlaen i'w phlentyn, John, ac roedd pobl eraill yn y gymuned yn ei dallt hi. Un arall o ddywediadau enwog Dolly oedd “kronek hager du” ('llyffant hyll du') a ddwedodd hi wrth yr athronydd David Barrington. Felly mae'n debyg yr enillodd Dolly deitl y siaradwr olaf trwy fod yn dipyn o gymeriad nad oedd am weld ei mamiaith fynd ar goll yn lle y siaradwr brodorol olaf go iawn. | |
There is one name that has become famous for its connection with the death of Cornish, namely Dolly Pentreath. Dolly was an 19th century fishwife from Mousehole and spoke Cornish fluently. She was well known for refusing to speak English, saying: “Me ne vidn cewsel Sawznek!” ('My na vynn kowsel Sowsnek' in the standardised form of the language. ‘I do not want to speak English’). Frequently people use the year of her death, 1777, as the date of the death of the language. But there is some doubt about this. Dolly was a mother, so she must have passed some amount of the language on to her children, and other people in the community could understand her. Another of Dolly’s famous sayings was ‘kronek hager du’ (ugly black toad) which she said to the philosopher David Barrington. So it is likely that Dolly gained the title of last speaker by being a bit of a character who did not want to see her mother tongue lost, rather than being the actual last native speaker. | ||
Hogen mar pe Dolly an Kernowegor genesik finek, yth esa an yeth hwath owth eksistya ha bos devnydhyes gans niver a dus yn Kernow a dhysksa'n yeth – temmik avel an Manawek esa passyes dhe dhyskoryon gans Ned Madrell, an Manawegor genesik finek. Hag avel gans an Manawek y hyllyn leverel y kwithas an dhyskoryon ma an yeth Kernowek ow pewa. | Hyd yn oed os oedd Dolly y siaradwr Cernyweg brodorol olaf, roedd yr iaith yn dal i fodoli a chael ei defnyddio gan nifer o bobl yng Nghernyw oedd wedi dysgu'r iaith – tipyn bach fel y Fanaweg a basiwyd ymlaen i ddysgwyr gan Ned Madrell, y siaradwr brodorol olaf. Ac fel efo'r Fanaweg gallwn ni ddeud bod y dysgwyr hyn wedi cadw'r iaith Gernyweg yn fyw. | Even if Dolly was the last native speaker of Cornish, the language continued to exist and be used by a number of people in Cornwall who had learnt the language – a bit like Manx which was passed on to learners by Ned Maddrell, the last native speaker. And as with Manx we can say that these learners have kept the Cornish language alive. |
Yn 1776, bledhen kyns Dolly dhe verwel, yth omdhiskwedhas lyther yn Kernowek gans pyskador henwys William Bodinar, keffrys a Borthenys. Y'n lyther ma y teskrif fatel dhyskas an yeth a-dhyworth pyskadoryon erel pan o va yowynk, mes herwydh ev yth esa le ha le a dus orth hy devnydhya dhe'n pols na. William a aswonnas Dolly hag i a gowsis yn fenowgh. A-barth dhe Dolly y leveris William ev dhe aswon pymp person aral y'n dreveglos a wodhya kowsel Kernowek. Y halsa hemm styrya bos tus yn leow erel a wodhya kowsel Kernowek. | Ym 1776, blwyddyn cyn i Dolly farw, ymddangosodd llythyr yn Gernyweg gan bysgotwr o'r enw William Bodinar, hefyd o Mousehole. Yn y llythyr hwn mae'n disgrifio sut dysgodd yr iaith oddi wrth bysgotwyr eraill pan oedd yn ifanc, ond yn ei ôl o roedd llai a llai o bobl yn ei defnyddio y dyddiau hynny. Roedd William yn nabod Dolly ac roedden nhw'n siarad yn aml. Yn ogystal â Dolly roedd William yn deud ei fod yn nabod pump o bobl eraill yn y pentref a oedd yn gallu siarad Cernyweg hefyd. Gallai hyn olygu bod pobl mewn llefydd eraill yn gallu siarad y Gernyweg. | In 1776, the year before Dolly died, a letter appeared in Cornish from a fisherman called William Bodinar, also from Mousehole. In this letter he describes how he learnt the language from other fishermen when he was young, but according to him fewer and fewer people were using it these days. William knew Dolly and they often spoke. As well as Dolly, William said he knew five other people in the village who could also speak Cornish. This could mean that people in other places could speak Cornish. |
Y merwis William yn 1796, hag awos hemma yth yw possybyl leverel nag esa'n yeth dhe's klowes war an stretys yn fenowgh erbyn dalleth an nownjekves kansvledhen. Ny styr hemma na veu'n yeth ow pos kowsys vytholl, mes yth o kalessa dhe's trovya. Unn Kernowegor aswonys a'n oos ma o'n tiek John Davey a Voswydnek a veu genys yn 1812. Y tyskas John an Kernowek a-dhyworth y das hag y hwodhya klappya yn-kever themys sempel herwydh nebes pennfentynnyow, kyn nyns yw kler yn poran pes a'n yeth esa dhodho. Byttegyns John a gemer kresys rag skrifa Rim an Grankan, an gan Gernowek hengovek mogha a-dhiwedhes. Y merwis John yn 1891, mes erbyn an poynt ma y tallathsa akademogyon kovadha'n yeth ha dalleth an hyns dhe's dasserghi. Dyllas A Sketch of Cornish Grammar gans Edwin Norris yn 1859 gans Gwask Pennskol Resoghen avel merkyansow dhe weres tus orth redya dornskrifow yn Kernowek hengovek. | Bu farw William ym 1796, ac oherwydd hyn mae'n bosib deud mai erbyn dechrau'r pedwaredd canrif ar bymtheg doedd yr iaith ddim i'w chlywed ar y strydoedd yn aml. Dydy hyn ddim yn golygu na siaradwyd yr iaith o gwbl, dim ond ei fod yn anos i'w ffeindio. Y siaradwr adnabyddus o'r adeg hon oedd y ffermwr John Davey o Boswednack a anwyd ym 1812. Mi ddysgodd John y Gernyweg oddi wrth ei dad ac roedd yn gallu sgwrsio am themâu syml yn ôl rhai ffynonellau, er nad ydy'n glir yn union faint o'r iaith oedd gynno fo. Serch hynny mae John yn derbyn y clod am fod wedi ysgrifennu Odl y Cranken, y gan ddiweddaraf yn y Gernyweg draddodiadol. Bu farw John ym 1891, ond erbyn y pwynt hwn roedd academyddion bellach wedi dechrau cofnodi'r iaith a dechrau ar y ffordd i'w hadfywio. Cyhoeddwyd A Sketch of Cornish Grammar gan Edwin Norris ym 1859 gan Wasg Prifysgol Rhydychen fel nodiadau i helpu pobl wrth ddarllen llawysgrifau yn Gernyweg draddodiadol. | William died in 1796, and because of this it is possible to say that by the beginning of the nineteenth century the language was not often to be heard on the streets. This does not mean that the language was not spoken at all, only that it became harder to find. A well-known speaker at this time was the farmer John Davey of Boswednack, who was born in 1812. John learnt Cornish from his father and according to some sources could converse on simple subjects, although it is not clear how much of the language he had. In spite of this John gets the credit for having written Odl y Cranken (the Cranken Rhyme), the last song in traditional Cornish. John died in 1891, and by this point academics had now begun to record the language and started on the road to reviving it. A Sketch of Cornish Grammar by Edwin Norris was published in 1859 by the Oxford University Press as notes to assist people in reading manuscripts in traditional Cornish. |
Mar mynnyn leverel y merwis yeth awos mernans hy howser genesik finek, yma keffrys res mires war styryans a gowser genesik. Deskrif Leonard Bloomfield kowsoryon enesik avel: pobel a veu gorrys yn kerghynnedh yeth a-dhia bos genys (Language, 1994). Y hyllyn styrya hemma avel nebonan a dhyskas yeth y'n chi ha/po a-dhyworth y dewgerens. Ny wra'n deskrifans ma mencyon a frethder an gowsoryon ma, hag ytho y kas temmik a wedhynder orth aswon Kernowegoryon enesik. | Os dan ni am ddeud bod iaith wedi marw achos marwolaeth ei siaradwr brodorol olaf, mae hefyd yn rhaid ystyried beth yw siaradwr brodorol. Diffinia Leonard Bloomfield siaradwyr brodorol fel: pobl sydd wedi'u rhoi mewn amgylch iaith ers ei enedigaeth (Language, 1994). Gallwn ni ddehongli hwn fel rhywun sydd wedi dysgu iaith wrth yr aelwyd a/neu oddi wrth ei rieni. Dydy'r disgrifiad hwn ddim yn sôn am rhuglder y siaradwyr hyn, ac felly mae'n caniatáu tipyn o hyblygrwydd wrth adnabod siaradwyr brodorol o'r Gernyweg. | If we are to say that the language died with the death of its last speaker, we must also consider what a native speaker is. Leonard Bloomfield defines a native speaker thus: a person who has been in the environment of a language from birth. We can interpret this as someone who has learnt a language at home and/or from his parents (Language, 1994). This description says nothing about the fluency of these speakers, and so we may allow ourselves a little flexibility in recognising native speakers of Cornish. |
A-dhia ban dhallathas tus leverel bos an yeth ow merwel, y feu derivasow di-niver a bobel a wodhya temmigow a'n yeth, ha tus a wodhya kowsel yn freth ynwedh. An re ma a gomprehend fleghes a wodhya'n Pader ha tavosethow y'n Kernowek a veu dyskys y'n skol, y'n chi hag a-dhyworth aga dewgerens. Ytho hag ow tevnydhya'n styryans a-ugh, y hyllyn leverel bos an re ma kowsoryon enesik hag ytho ny verwis an Kernowek. | Ers i bobl ddechrau deud bod yr iaith yn marw allan, mae 'na wedi bod adroddiadau di-rif o bobl a oedd yn gwybod pytiau o'r iaith, a phobl oedd yn gallu siarad yn rhugl hefyd. Cynhwysa'r rhain blant oedd yn gwybod Gweddi'r Arglwydd ac idiomau yn y Gernyweg a ddysgwyd yn yr ysgol, y cartref ac oddi wrth eu rhieni. Felly gan ddefnyddio'r diffiniad uchod, gallwn ni ddeud mai siaradwyr brodorol oedd y rhain ac felly ni farwodd y Gernyweg. | Since people began saying that the language was dying out, there have been countless reports of people who knew a little of the language, and also people who could speak it fluently. This includes those children who knew the Lord’s Prayer and Cornish expressions that they had learnt at school, at home and from their parents. So by using the broadest definition, we can say that they were native speakers and so Cornish did not die. |
Niverow a gowsoryon yethow a janj dre'n tremyn oll, treweythyow y kressons, treweythyow yth iselhons, ha nyns yw an Kernowek dyffrans. Istori an yeth ma re varyas meur ha hi ow kelli ha kavos kowsoryon nowyth. Yn anfeusik nyns a'n erthygel ma dhe vanylyon yn-kever istori kowethasek an yeth awos nag usi saw komendyans dhe'n govyn a vernans (sopposyes) an Kernowek. Mar krysowgh y merwis an yeth po na, an dra bosek dhe bethi kov anodho yw bos an Kernowek bew y'n jydh hedhyw. Hi a gowsir gans kansow (mar na milyow) a dus ha pob bledhen yma'n niverow a's kows ow kressya. Yma hogen kowsoryon a's dyskas y'n chi. Ha honna yw yeth bew mar kovynnowgh dhymm! | Mae niferoedd o siaradwyr ieithoedd wastad yn newid, weithiau maen nhw'n cynyddu, weithiau maen nhw'n lleihau, a dydy'r Gernyweg ddim yn wahanol. Mae hanes yr iaith hon wedi amrywio lot wrth iddi hi golli a chael siaradwyr newydd. Yn anffodus dydy'r erthygl hon ddim yn mynd mewn i fanylder am hanes cymdeithasol yr iaith gan mai dim ond cyflwyniad i'r cwestiwn o dranc (tybiedig) y Gernyweg ydy hi. Os credwch chi y marwodd yr iaith neu beidio, y prif beth i'w gofio ydy bod y Gernyweg yn fyw y dyddiau hyn. Siaredir hi gan gannoedd (os na filoedd) o bobl a bob blwyddyn mae'r niferoedd a'i sieryd yn cynyddu. Mae 'na hyd yn oed siaradwyr sydd wedi'i dysgu yn y cartref. A dyna iaith fyw os gofynnwch i mi! | The number of people who speak languages is constantly changing, sometimes increasing, sometimes becoming less, and Cornish is no different. The history of the language has varied a good deal as it has lost and gained new speakers. Unfortunately this article cannot go into details about the social history of the language, since it is merely an introduction to the question of the (supposed) death of Cornish. Whether or not you believe that the language died, the main thing to remember is that Cornish is alive today. It is spoken by hundreds (if not thousands) of people and every year the number it is spoken by increases. There are even speakers who have learnt it at home. And that, if you ask me, is a living language! |
My a wayt hwi dhe dhyski neppyth yn-kever isotri an Kernowek ha mernans yeth. Mar mynnowgh trovya moy, yma lyvrow hag erthyglow kevadow a omles war an poynt ma. | Gobeithio bod chi wedi dysgu rhywbeth am hanes y Gernyweg a thranc iaith. Os ydach chi am ddarganfod mwy, mae 'na lyfrau ac erthyglau ar gael sy'n ehangu ar y pwnc hwn. | I hope that you have learnt something about the history of Cornish and the death of a language. If you want to discover more, there are books and articles which expand on this subject. |
Moddau Dysgu Ieithoedd: Fy mhrofiad i o ddysgu Cymraeg, Cernyweg & Almaeneg
Methods of Learning Languages: My experience of learning Welsh, Cornish & German
Gall y proses o ddysgu ieithoedd godi ofn mewn pobl, yn enwedig ar ddechrau'r daith. Rwyf yn gwybod hyn gan fy mod i wedi dysgu tair iaith yn rhugl, ac rwyf yn dysgu pytiau o ieithoedd eraill o hyd. Felly, yn yr erthygl hon byddaf yn cynnig mewnwelediadau personol o wahanol foddau o ddysgu ieithoedd a byddaf yn trio rhoi cwpl o dipiau am sut i wneud y proses o ddysgu yn haws. Yr ieithoedd yr ydw i wedi eu dysgu i lefel dda o ruglder yw: Almaeneg, Cymraeg a Chernyweg, ac fel mae'n digwydd dysgais i nhw i gyd mewn ffyrdd gwahanol. Felly byddaf yn defnyddio fy storïau personol o ddysgu'r rhain i sôn am dri modd o ddysgu iaith, sef: mynd i ddosbarthiadau, cyrsiau clywed, a dysgu o lyfrau. | The process of learning languages can scare people, especially at the start of the journey. I know this as I have learnt to speak three languages fluently, and am still learning bits of other languages. So, in this article, I will be offering personal insights of different methods of learning languages and will try and give a few tips on how to make the learning process easier. The languages that I have learnt to a good level of fluency are: German, Welsh and Cornish, and as it happens I learnt each of them in a different way. So I will be using my personal stories of learning these to discuss three ways of learning languages: going to classes, audio courses, and learning from books. |
I gychwyn rwyf am sôn am fy nhaith o ddysgu Almaeneg a ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd, aeth â fi i'r brifysgol, ac wedyn i'r Almaen ei hun. Os nad oeddech chi'n gwybod yn barod, mae eithaf lot o ramadeg gan yr Almaeneg ac nid yw hwn wastad yn hawdd i'w ddeall (mae'n siŵr bod chi wedi clywed am y cyflyrau gramadegol). Un o'm hatgofion cynharach o ddysgu'r iaith hon yw eistedd yn yr ystafell ddosbarth ac yn adrodd y gwahanol fanodau penodol – mae 16 ohonynt yn Almaeneg! Cefais dipyn o drafferth wrth ddysgu yn wreiddiol, ni chefais ond gradd C yn fy arholiad TGAU, ac E y tro cyntaf sefais yr arholiad Lefel AS (sefais yr arholiad hwnnw tairwaith yn cael C isel ac wedyn C uchel). Pan gyrhaeddais i'r brifysgol roedd gennyf Lefel A ar radd C. Ond os neidiwn ymlaen pedair blynedd, dyna fi yn graddio yn yr Almaeneg â rhagoriaeth mewn sgiliau cyfathrebu. Felly, beth a ddigwyddodd? Dim ond mewn gwersi ffurfiol roeddwn i wedi dysgu'r iaith, felly beth a newidiodd? A yw'r stori hon yn dangos methiant yn y dull dysgu mewn dosbarth? A yw'n dangos llwyddiant? | To begin with I want to mention my journey in learning German, which began when I was in secondary school, took me to university and then to Germany itself. If you didn't already know, German has quite a lot of grammar and this isn't always simple to understand (I'm sure you've heard of the grammatical cases). One of my earliest memories of learning this language is sitting in the classroom and repeating the various definite articles – there are 16 of them in German! I had a bit of trouble learning initially, I only got a C grade for my GCSE, and an E the first time I sat my AS Level exam (which I took three times, getting a low C and then a high C). When I arrived at university I had a C grade A Level. But if we jump forwards four years, there I am graduating with a degree in German with a distinction in oral communication. So, what happened? I had only ever learnt the language by attending formal lessons, so what changed? Does this story show a failure in classroom based learning? Does it show a success? |
Wel, mae'n dangos y ddau i raddau achos yr hyn na ddywedais yn y paragraff uchod oedd sut yr oeddwn i yn ymddwyn yn y dosbarthiadau. Y prif beth a newidiodd wrth symud ymlaen yn yr Almaeneg oedd fy oed. 13 mlwydd oed oeddwn i pan ddechreuais ddysgu Almaeneg. Nid oedd diddordeb gennyf mewn dysgu o gwbl. Roeddwn yn casáu'r ysgol, ac yr unig beth yr oeddwn amdano oedd gadael. Oherwydd hyn, nid oeddwn yn talu sylw mewn gwersi ac nid oeddwn yn gwneud fy ngwaith cartref byth! Ond roeddwn yn gwybod pa mor bwysig oedd cael iaith ar fy CV a daliais ati i ddysgu nes imi sylweddoli sut cymaint yr oeddwn wrth fy modd ag ieithoedd. Erbyn cyrraedd y brifysgol roeddwn am ddysgu. Dechreuais ofyn cwestiynau fel rhan o'r dosbarth, gorffennais fy ngwaith cartref bob dydd. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yno, fi oedd yr un cyntaf (ac weithiau'r unig un) i roi fy llaw yn yr awyr i ateb cwestiynau gan y tiwtoriaid. | Well, it shows both to a degree as what I didn't tell you in the above paragraph was how I behaved during the classes. The main thing that changed as I progressed in German was my age. I was 13 years old when I began learning German, and I wasn't interested in learning at all. I hated school, and the only thing I wanted was to leave. Because of this I didn't pay attention in classes and I never did my homework! But I knew how important it was to have a language on my CV and I kept at it until I realised how much I loved languages. By the time I arrived at university I wanted to learn. I started asking questions in lessons, I finished my homework every day. During my final year there, I was first one (and sometimes the only one) to put my hand up and answer the tutors' questions. |
Mae'n wir beth a ddywedir; rydach yn cael allan ohono'r hyn a roddwch mewn iddo. A dyna'n union sut mae cael y gorau allan o fynychu dosbarthiadau iaith (ac mae hyn yn gweithio ar gyfer unrhyw iaith, nid Almaeneg yn unig). Os eisteddwch yno heb ymrwymo â'r dosbarth, hyd yn oed os ydach chi'n cymryd nodiadau manwl, ni fydd eich sgiliau iaith yn gwella cystal â phobl eraill. Os ydach yn mynd i ddosbarth iaith, trïwch roi eich llaw yn yr awyr, cynigiwch fwy o atebion, a gwnewch eich gwaith cartref. Wrth gwrs, rwyf yn deall nad yw pawb yn gyffyrddus wrth wneud pethau fel hyn o flaen pobl eraill (mae yn ddychrynllyd wrth gychwyn!) ac nid ydwyf yn dweud bod yn rhaid ichi wneud hyn yn unig er mwyn dysgu siarad iaith yn well. Gwnewch yr hyn yr ydach yn gyffyrddus â fe. | It's true what they say; you get out what you put in. And that's exactly how to make the most of attending language lessons (and this works for any language not just German). If you sit there without engaging in the classwork, even if you take detailed notes, your language skills won't improve as much as others. If you go to a language class, try putting your hand up, offer more answers, and do your homework. Of course, I know that not everyone is comfortable with doing things like this in front of other people (it's horrible at the start!) and I'm not saying that you have to do this alone to be able to speak a language better. Do what you're comfortable with. |
Euthum i'r brifysgol ym Mangor, Gwynedd, a chyn imi symud yno ar ôl gorffen fy Lefelau A penderfynais fy mod i'n mynd i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad â phobl leol. Ond sut y medrai Cernywiaid 18 oed ddysgu iaith leiafrifol heb fod wedi symud i'r ardal lle y siaradir eto? Yr ateb – Say Something in Welsh (SSiW)! Dyma oedd yn ôl yn 2011 ac roedd y platfform hynod boblogaidd hwn yn ei ieuenctid o hyd. Pan ymunais â'r wefan, nid oedd ond un cwrs ar gael a wnaed o 26 o wersi unigol ac ychydig wersi ychwanegol i ddysgu cyfrif, y lliwiau, ac yn y blaen. Roedd y fforwm mor dda ag erioed, ond nid oedd mor brysur neu fawr fel y mae'r dyddiau hyn. Ar ôl gorffen y cwrs hwnnw a chyrraedd ym Mangor roeddwn yn gallu cynnal sgyrsiau eithaf hir yn y Gymraeg a chefais neidio dros y lefel gyntaf pan ddechreuais gwrs Wlpan â Chymraeg i Oedolion. O fewn i dri mis roeddwn wedi cwblhau pob gwers a oedd gan SSiW ar y pryd a dysgu digon o'r iaith i siarad yn fwy hyderus na phobl oedd wedi'i dysgu yn yr ysgol! | I went to university in Bangor, Gwynedd, and before moving there after finishing my A Levels I decided that I was going to learn Welsh to be able to speak with locals. But how could an 18 year old Cornishman learn a minority language without having moved to the area it's spoken in yet? The answer – Say Something in Welsh (SSiW)! This was back in 2011 and this popular platform was still in its youth. When I signed up with the website, there was only one course available which consisted of 26 individual lessons and some extra classes to learn counting, colours, etc. The forum was as good as always, but it wasn't as busy or large as it is these days. After finishing the course and arriving in Bangor I was able to hold quite long conversations in Welsh and I was able to skip the first level when I started the Cwrs Wlpan with Welsh for Adults. Within three months I had finished every lesson that SSiW had at the time and I had learnt enough of the language to speak more confidently than people who had learnt at school! |
Llwyddais wrth wneud hwn trwy dorri dau o brif reolau'r cyfrwng; 1) ni chymrais fe'n araf, a 2) ysgrifennais eiriau i lawr. Ond cyn ichi fynd i ffwrdd a dechrau anwybyddu rheolau a chanllawiau SSiW, gadewch imi esbonio. Yn y cwrs roeddent yn awgrymu mai tuag unwaith yr wythnos oeddech chi i fod yn gwneud y cwrs i adael digon o amser i'r wybodaeth setlo yn eich meddwl. Ar y pryd nid oeddwn yn gweithio ac felly roedd gennyf bob dydd yn rhydd. Golygodd hyn fy mod i'n gallu codi yn y bore, gwneud gwers nesaf SSiW, ac wedyn defnyddio gweddill y dydd i ganolbwyntio ar y wers honno a dysgu'r patrymau a geiriau, ayyb. | I succeeded in doing this by breaking two of the medium's main rules; 1) I didn't do it slowly, and 2) I wrote down words. But before you go off and start ignoring SSiW's rules and guidelines, let me explain. In the course it was recommended that you did around one lesson per week to allow enough time for the information to settle in your mind. At the time I wasn't working and so I was free every day. This meant that I was able to get up in the morning, do the next SSiW lesson, and then use the rest of the day to focus on that lesson and learn the patterns and words, etc. |
Weithiau gwrandawais ar yr un wers mwy nag unwaith, weithiau dwywaith y dydd, weithiau un dydd ar ôl y llall. Nid ysgrifennais eiriau i lawr o gwbl wrth wrando ar y wers. Yn lle hynny arhoswn i nes imi ei gorffen ac wedyn copïwn i'r geiriau oddi ar wefan mewn llyfr nodiadau. Ar ôl gwneud hyn cuddiwn i'r geiriau a thrïwn eu cofio heb sbïo arnynt. Roedd yn waith caled, ac am y tri mis hynny roedd yn swydd lawn amser imi. Ni fuaswn i'n awgrymu i unrhyw un drio hyn os maent yn brysur, ac os ydach chi am drio'r modd hwn allan, cofiwch pa mor bwysig yw cymryd egwyliau ac ymlacio trwy edrych ar y teledu, darllen llyfr da, neu drwy fynd am dro. | Sometimes I listened to the same lesson more than once, sometimes twice a day, sometimes two days in a row. I didn't write down words at all whilst listening to the lesson. Instead of that I would wait until finishing and then I would copy down the words from the website into a notebook. After doing this I would hide the words and try to remember them without looking. It was hard work, and for three months that was my full-time job. I wouldn't recommend that anyone try this if they're busy, and if you do want to try this out, remember the importance of taking breaks and relaxing by watching TV, reading a good book, or going for a stroll. |
Mae Say Something in Welsh wedi newid lot ers imi ei wneud saith mlynedd yn ôl. Felly lle roedd yn rhaid imi fynd i ddosbarthiadau Cymraeg er mwyn parhau wrth ddysgu'r iaith, nid oes rhaid y dyddiau hyn. Mae gennyf sawl ffrind sydd wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl trwy ddefnyddio SSiW yn unig a hynny heb ddefnyddio fy null rhyfedd i. Mae SSiW yn dda iawn os ydach am ddysgu siarad yr iaith yn gyflym heb orfod mynd i wersi ffurfiol, er nad ydwyf yn sicr ynglŷn â dysgu darllen ac ysgrifennu â'r cyfrwng hwn yn 2018. Efallai gallai rhywun gynnig y wybodaeth hon imi? | Say Something in Welsh has changed a lot since I used it seven years ago. So where I had to go to lessons to continue learning Welsh, you no longer have to now. I have many friends who have succeeded in learning Welsh fluently by only using SSiW and that's without employing my weird method! SSiW is really good if you want to learn to speak quickly without going to formal classes, though I'm not sure about reading and writing with this medium in 2018. Perhaps someone could offer this information to me? |
Cernywiaid ydw i, a thrwy gymdeithasu a dod i adnabod Cernywiaid eraill sydd yn byw yng Nghymru, rwyf wedi darganfod rhywbeth diddorol iawn... Mae sawl un ohonynt wedi dysgu'r Gymraeg (neu wedi dangos diddordeb mewn dysgu) er mwyn teimlo'n agosach at eu cartref, hynny yw Cernyw. Fi oedd un o'r rhain, i raddau, ond ar ôl blwyddyn o fyw yng Nghymru roedd fy hiraeth wedi cynyddu gormod ac roedd yn rhaid imi wneud rhywbeth amdano. Roeddwn wedi darllen yn rhywle bod tua 70% o eiriau Cymraeg a Chernyweg yn dod o'r un lle. A chan ddefnyddio hyn fel man cychwyn dechreuais wneud tipyn o ymchwil ar y we. Dyma bryd penderfynais fynd ati a dysgu iaith fy hun, Cernyweg. | I'm a Cornishman, and through socialising and getting to know other Cornishmen who live in Wales, I have discovered something really interesting... Many of them who've learnt Welsh (or have shown interest in learning Welsh) want to do so to feel closer to their home, that is Cornwall. I was one of these, to a degree, but after a year of living in Wales my hiraeth had risen too much and I had to do something about it. I had read somewhere that about 70% of Welsh and Cornish words come from the same root. By using this as a starting point I began researching online. This is when I decided to set to it and learn my own language, Cornish. |
Wel, os oedd yn anodd dysgu Cymraeg tra fy mod i'n byw yng Nghernyw, roedd yn mynd i fod yn fwy neu lai amhosib i ddysgu Cernyweg yng Nghrymu. Dyna beth yr oeddwn yn ei feddwl beth bynnag. Euthum yn syth i Amazon ac ar ôl chwilio am oddeutu awr roeddwn yn sicr fy mod i wedi ffeindio'r llyfr perffaith i ddysgu'r Gernyweg: Skeul an Tavas (Ysgol y Tafod). Cefais fy siomi ychydig pan gyrhaeddodd y llyfr o'r diwedd gan ei fod mor denau. Ond roeddwn am ei ddefnyddio i ddysgu beth bynnag, a dyna'r hyn a wneuthum. | Well, if it was difficult to learn Welsh whilst living in Cornwall, it was going to be nearly impossible to learn Cornish in Wales. That's what I thought anyway. I went straight to Amazon and after searching for about an hour I was certain I had found the perfect book to learn Cornish: Skeul an Tavas (The School/Ladder of the Tongue). I was a bit disappointed when the book came at last as it was so thin. But I wanted to use it to learn anyway, and that's what I did. |
Bob dydd cwblheais bennod yn y llyfr, gan ddechrau â chenedl geiriau a gorffen â brawddegau llawn, er eu bod nhw'n fyr. Ond nid oedd y llyfr bach hwn yn ddigon imi- roedd eisiau mwy arnaf. Dyma le mae'r stori hon yn mynd mewn cyfeiriad gwahanol i'r ddwy flaenorol. Nid oedd cymaint o lyfrau neu adnoddau ar gael i ddysgwyr Cernyweg yr adeg honno, ond roedd geiriadur ar-lein, cymuned wych ar Facebook, a chwant siarad yn rhugl yn fy nghalon. | Every day I finished a chapter in the book, starting with noun genders and finishing with full sentences, albeit short ones. But this book wasn't enough for me- I wanted more. This is where this story deviates from the previous two. There weren't as many books or resources available to Cornish learners at the time, but there was an online dictionary, a great Facebook community, and a desire to speak fluently in my heart. |
Y dacteg a ddefnyddiais oedd cyfieithu. Erthyglau byrion ar Wicipedia yn gychwynnol ac wedyn symudais ymlaen at bethau hirach a hirach nes imi ddechrau cyfieithu straeon y Brodyr Grimm. Wrth edrych yn ôl arnynt roedd fy nghyfieithiadau cynnar yn ofnadwy. Roedd yr amseroedd yn anghywir, roeddwn wedi camsillafu sawl gair, ac weithiau roeddwn wedi creu geiriau newydd ac wedyn anghofio beth y golygasant. Ond trwy wneud hyn cryfheais fy sgiliau Cernyweg nes imi ddeall fy nghamgymeriadau ac ailddysgu sut i dynnu fy ngeiriau ffug i ddarnau. | The tactic I used was translating. Short articles on Wikipedia to begin with, then I moved on to longer and longer texts until I started translating some of the Grimm Brothers' Fairy Tales. Looking back at some of my early translation is cringe-worthy. The tenses were all wrong, I had misspelt several words, and on occasion I had created some new words and then forgotten what they meant. But by doing this I strengthened my Cornish until I understood my mistakes and re-learnt how to pull my fake words apart. |
Her feunyddiol oedd hon, yn enwedig gan ystyried y dysgais heb fynd i ddosbarth ac nad oedd llawer o lyfrau gennyf. Felly'r tip gorau yr ydwyf yn gallu ei argymell ichi a ddysga drwy'r modd hwn yw dewis testunau yr ydach yn eu hoffi. Nid oes unrhyw beth gwaethaf na chyfieithu pethau nad ydach yn hoff ohonynt (rwyf yn cael ôl-fflachiau i wersi cyfieithu yn y brifysgol). Mae'n gwneud i'r proses yn llawer mwy hwyliog os ydach yn ymddiddan â'r testun ar fwy nag un lefel. Mae straeon byrion yn fan cychwyn da! | This was a daily challenge, especially considering that I learnt without attending any classes and that I didn't have many books. So the best tip I can offer to those who want to learn like this is choosing texts you like. There's nothing worse than translating things you aren't fond of (I'm having flashbacks to translation classes at university). It makes the process way more fun if you engage with the text in more than one way. Short stories are a good place to start! |
Fel soniais amdano yn gynharach; rydach yn cael allan o ddysgu ieithoedd yr hyn a roddwch mewn i'w dysgu, a dyma fy mhrif dip ichi gael manteisio ar y geiriau hyn... Defnyddiwch eich ieithoedd. Bob dydd. Trwy'r amser. Pan ewch i'r archfarchnad, newidiwch iaith y peiriannau hunanwasanaeth i Gymraeg (gellir hyd yn oed gwneud hyn mewn bwytai McDonalds yn Lloegr), neu yn well na hynny, ffeindiwch aelod o staff a sieryd eich iaith darged. Ysgrifennwch ar Facebook ynddi, darganfyddwch ffilmiau a cherddoriaeth ynddi, darllenwch nofelau yn eich iaith newydd. Manteisiwch ar eich sawl tafod! | As I mentioned earlier; you get out of language learning what you put in, and this is my main tip for you to get the most out of these words... Use your languages. Every day. All the time. When you go to the supermarket, change the language of the self-service machines to Welsh (you can even do this in McDonalds restaurants in England), or even better, find a member of staff who speaks your target language. Write on Facebook in it, discover films and music in it, read novels in your new language. Make the most of you many tongues! |
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen fy narn yma ac rydach yn teimlo wedi'ch ysbrydoli! Ond mae'n fwy tebyg byddwch chi wedi blino erbyn cyrraedd y pwynt hwn, yn enwedig os ydach chi wedi darllen fy Nghymraeg academaidd (sori am honno). Felly cymerwch egwyl fechan â phanad poeth braf ac ymlaciwch. | Hopefully you've enjoyed reading my piece and you are feeling inspired! But it's more than likely that you're tired having gotten to this point, especially if you have read my academic Welsh (sorry for that). So take a short break with a lovely warm cuppa and relax. |
Cernywiaid ydw i, a thrwy gymdeithasu a dod i adnabod Cernywiaid eraill sydd yn byw yng Nghymru, rwyf wedi darganfod rhywbeth diddorol iawn... Mae sawl un ohonynt wedi dysgu'r Gymraeg (neu wedi dangos diddordeb mewn dysgu) er mwyn teimlo'n agosach at eu cartref, hynny yw Cernyw.
Map o enwau llefydd Cernyweg / A map of Cornish place-names
Gwaun Bodminm ger prentre Minions / Bodmin Moor, near the village of Minions
anblogkernowek.blogspot.com / sambrown1993
Merkyans rag Kernowegoryon – mar kwelowgh nebes kammgemeryansow y'n erthygel ma, po mars eus poyntys dhewgh ragov dh'aga frederi, yth esov moy es lowen dhe addya po chanjya homma grondyes war agas kampollow.