Byddwn ni'n defnyddio wedi i wneud yr amser perffaith. Yn Saesneg byddech chi'n dweud have neu has yma. Mae'r amser perffaith yr un peth â'r amser presennol, ond mae'r presennol yn defnyddio yn, lle mae'r perffaith yn defnyddio wedi, e.e:
Dw i’n cyrraedd > I am arriving / I arrive
Dw i wedi cyrraedd > I have arrived
Dyw wedi nac yn byth yn ymddangos yn nesaf at ei gilydd
Wedi is the perfect tense. You can think of wedi as meaning have or has here. It is the same as the present tense but wedi is substituted for yn, e.g:
Dw i’n cyrraedd > I am arriving / I arrive
Dw i wedi cyrraedd > I have arrived
Wedi and yn never appear next to each other.
Atebion
Os byddwch chi'n ateb cwestiwn yn yr amser perffaith, byddwch chi'n gallu defnyddio'r atebion sylfaenol, sef 'ydw, wyt, ydy, ydyn, ydych' (a 'nac ydw, nac wyt, nac ydy, nac ydyn, nac ydych'), yn enwedig fel y byddech chi'n ei wneud yn yr amser presennol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, bydd pobl yn defnyddio 'Do' i ddweud 'yes' yn yr amser perffaith, a byddan nhw'n defnyddio 'Naddo' i ddweud no. A bod yn hollol gywir, dylech chi ddefnyddio Do a Naddo i ateb cwestiynau yn yr amser gorffennol yn unig. Wedi dweud hynny, math o 'amser gorffennol' yw'r amser perffaith gyda 'wedi', a dyna pam bydd pobl yn defnyddio Do a Naddo i ateb heb broblem.
Answers
The standard answers are the same as for the present tense, e.g. ydw, ydy, ydyn etc. However, in some areas Do is used for all the yes answers and Naddo for all the no answers. These are, strictly speaking, the past tense answers but the wedi or perfect tense is a kind of past tense (past perfect).
Siarad yn gyflym
Pan fyddan nhw'n siarad yn gyflym, yn aml bydd pobl yn hepgor y gair wyt o'r ymadrodd wyt ti, a hefyd, byddan nhw'n talfyrru'r gair wedi, gan adael 'di, e.e:
(Wyt) ti (we)di gweld Ffred? > ’Ti ’di gweld Ffred?
Have you seen Fred? = Tee dee gweld Ffred?
(D)w i (we)di gweld y ffilm. > Wi ’di gweld y ffilm.
I have seen the film = Wee dee gweld uh ffilm
In rapid speech
People often leave out the wyt from wyt ti and the we from wedi, e.g:
(Wyt) ti (we)di gweld Ffred? > ’Ti ’di gweld Ffred?
Have you seen Fred? > Tee dee gweld Ffred?
Dw i wedi gweld y ffilm. > Wi ’di gweld y ffilm.
I have seen the film = Wee dee gweld uh ffilm
Erioed
Mae'r gair Cymraeg erioed yn gallu golygu ever a never yn Saesneg
Mae Erioed yn golygu never mewn brawddeg negyddol:
Sa i wedi bod yn Sbaen erioed - I’ve never been to Spain.
Mae 'erioed' yn golygu 'ever' mewn cwestiwn:
Wyt ti wedi bwyta cafiar erioed? - Have you ever eaten caviar?
Erioed
Erioed can mean ever or never.
Never in a negative sentence:-
Sa i wedi bod yn Sbaen erioed = I’ve never been to Spain.
Ever in a question:
Wyt ti wedi bwyta cafiar erioed? > Have you ever eaten caviar?
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Dw i’n cerdded i'r siopau ar hyn o bryd
I am walking to the shops at the moment
2. Dw i'n cerdded i'r siopau yn y bore cyn brecwast
I walk to the shops in the morning before breakfast
3. Dw i wedi cerdded i'r siopau bob dydd ers pan o'n i'n blentyn
I have walked to the shops every day since when I was a child
4. Wyt ti wedi clywed y newyddion?
> (Wyt) ti (we)di clywed y newyddion?
> Ti 'di clywed y newyddion?
Have you heard the news?
5. Dw i wedi talu'r bil
> (D)w i (we)di talu'r bil
> Wi 'di talu'r bil
I've paid the bill
6. Dw i ddim wedi bod yn yr Alban erioed
> Wi ddim 'di bod yn yr Alban 'rioed
I’ve never been to Scotland
7. So ni wedi bod yn Sbaen erioed
> So ni 'di bod yn Sbaen 'rioed
We've never been to Spain
8. Wyt ti wedi bwyta cyri malwod erioed?
> Ti 'di bwyta cyri malwod 'rioed?
Have you ever eaten snail curry?