Ask Dr Gramadeg: Defnyddio’r geiriau pwysleisiol Taw & Mai / Using the emphatic words Taw & Mai

Pan fyddwn ni'n pwysleisio enw neu ansoddair mewn brawddegau byr fel y rhai isod, byddwn ni'n defnyddio yw yn lle mae.
When a noun or an adjective are stressed in short sentences like the ones below, yw is used instead of mae.

Mae e’n ddyn.                         >                      Dyn yw e.
He’s a man.                                                    A man he is.

Mae hi’n feddyg.                     >                      Meddyg yw hi.
She’s a doctor.                                                A doctor she is.

Mae e’n las.                             >                     Glas yw e.
It’s blue.                                                          Blue it is.

Mae e’n rheolwr y cwmni.       >                     Rheolwr y cwmni yw e.
He is the manager of the company.               The manager of the company he is.

Mae e’n dywyll                        >                     Tywyll yw e.
It is dark.                                                        Dark it is.

Yng ngogledd Cymru, bydd pobl yn defnyddio ydy yn lle yw, e.e:
Ydy
is used in north Wales instead of yw, e.g:

Dyn yw e                                >                      Dyn ydy o.
Meddyg yw hi                         >                      Meddyg ydy hi

Yng ngogledd Cymru, bydd pobl yn defnyddio mai yn lle taw i olgyu 'that' mewn brawddegau pwysleisiol, e.e:
Mai
is used for emphatic ‘that’ in north Wales instead of ‘taw’, e.g:

A:        Glas yw e!                                B:        Dw i’n meddwl taw glas yw e!            De
A:        Glas ydy o!                               B:        Dw i’n meddwl mai glas ydy o!           Gogledd
A:        Blue it is!                                  B:        I think (that) blue it is!                            Literally

This/these That/those
Masculine y cwpan ’ma y cwpan ’na
Feminine y gyllell ’ma y gyllell ’na
Plural y cwpanau/cyllyll ’ma y cwpanau/cyllyll ’na

Byddai'n bosibl cyfieithu'r ymadroddion uchod yn llythrennol fel:

The cup/knife/cups/knives here
The cup/knife/cups/knives there.

Fel arfer bydd pobl yn talfyrru yma ac yna yn 'ma a 'na ar lafar.

Dim ond enwau benywaidd unigol sy'n treiglo ar ôl y fannod ('the'). Dyw ffurfiau lluosog ddim yn treiglo hyd yn oed os benywaidd ydynt, e.e:

Y gyllell ’ma       y cyllyll ’ma          y gadair ’na    y cadeiriau ’na
This knife           these knives         that chair      those chairs

A literal translation of the above would be:
The cup/knife/cups/knives here
The cup/knife/cups/knives there.

Yma and yna or usually shortened to ’ma and ’na in speech.

Only femine singular words are mutated after y. Plurals are not mutated after y even if  they are feminine, e.g:
Y
gyllell ’ma           y cyllyll ’ma           y gadair ’na    y cadeiriau ’na
This knife              these knives        that chair       those chairs

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Mae e'n athro yn yr ysgol leol
He's a teacher in the local school

2. Athro yn yr ysgol leol yw e, nage nyrs yn yr ysbyty!
He's a teacher in the local school, not a nurse in the hospital!

3. Mae hi’n filfeddyg
She’s a vet

4. Milfeddyg yw hi, yn hytrach na balerina
She's a vet, rather than a ballerina

5. Mae'n car newydd ni'n goch
Our new car is red

6. Coch yw e'n car newydd ni, ond roedd yr hen gar yn wyrdd
Our new car is red, but the old car was green

7. Mae e’n ysgrifennydd yn yr ysgol
He's a secretary in the school

8. Ysgrifennydd yn yr ysgol yw e bellach, ond roedd e'n arfer gweithio mewn ffatri
He's a secretary in the school now, but he used to work in a factory

9. Mae e’n hyfryd yn y gwesty 'ma
It's lovely in this hotel

10. Hyfryd yw e yn y gwesty 'ma, ond mae'r lle arall yn ofnadw'!
It's lovely in this hotel but the other place is awful!

11. Dynes hyfryd ydy hi'n wir!
She is indeed a lovely lady!

12. Hogyn drwg ydy o, ond mae'i frawd o'n dda
He's a bad lad, but his brother is good

13. Dw i'n credu + Gwyrdd yw e
> Dw i'n credu taw gwyrdd yw e

I believe + It is green
> I believe that it is green

14. Dyn ni'n siŵr + Hyfryd yw hi
> Dyn ni'n siŵr taw hyfryd yw hi

We are sure + She is lovely
> We are sure that she's lovely

15. Maen nhw'n honni + hen iawn ydy o
> Maen nhw'n honni mai hen iawn ydy o

They claim + It is very old
> They claim that it's very old

16. Dw i'n lico'r gadair bren ’ma, ond sa i'n hoff iawn o'r gadair fetal ’na
I like this wooden chair, but I'm not very fond of that metal chair

17. Byddwn ni'n prynu'r cadeiriau 'ma, ond fyddwn ni ddim talu am y cadeiriau 'na
We'll buy these chairs, but we won't pay for those chairs