Ask Dr Gramadeg: Strwythur Brawddegau / Sentence Structure & Word Order

Mewn brawddeg Saesneg, mae'r person yn dod yn gyntaf fel rheol, ac wedyn y ferf sy'n dod yn ail (oni bai eich bod yn gofyn cwestiwn - I am > Am I?).

Mewn brawddeg Gymraeg, mae'r ferf yn dod yn gyntaf fel rheol, ac wedyn y person sy'n dod yn ail.

English     I went         I am
Welsh       Es i               Dw i

In an English sentence the person usually comes first, and the verb second (unless asking a question – I am > Am I?).

In a Welsh sentence, the verb usually comes first, and the person second.

English        I went                 I am
Welsh           Es i (went I)      Dw i (am I)

Goddrych (Subject) Y person neu'r peth sy'n gweithredu
Berf (Verb) Y gair sy'n dangos beth yw'r gweithred
Gwrthych (Object) Y person neu'r peth sy'n 'derbyn' gweithred y ferf

Subject            the person or thing doing the action
Verb                the action word
Object             the thing/person to which/whom the action is being done

Yn Saesneg, trefn arferol y frawddeg yw: Goddrych (S) Berf (V) Gwrthrych (O)
[Mae ieithyddion yn tueddu i ddefnyddio'r talfyriadau Saesneg hyd yn oed mewn ieithoedd eraill]

S       V             O                   S      V          O
I        bought    a paper         He    saw      a car

Normal English sentence structure:   Subject   Verb   Object

S                 O                    S               O
I       bought     a paper         He      saw     a car

Yn Gymraeg, trefn arferol y frawddeg yw: Berf (V) Goddrych (S) Gwrthrych (O)

V              S    O                     V               S     O
Bought    I      a paper           Saw          he    a car
Prynais    i      bapur              Gwelodd   e      gar

Normal Welsh sentence structure:-    Verb   Subject    Object

            S          O                      V          S      O
Bought     I           a paper           Saw     he    a car
Prynais     i           bapur              Gwelodd e   gar

Mae treiglad meddal yn digwydd i wrthrych uniongyrchol ('direct object') berf gryno (bôn + terfyniad):

Yr amser gorffennol:
What did I buy? a paper – papur (Gwrthrych) Prynais i bapur
What did he see? a car – car (Grthrych) Gwelodd e gar

Yr amser dyfodol:
What will I buy? a paper – papur (Grthrych) Pryna i bapur

The direct object of a short form verb (verb root + ending) takes a soft mutation:

Past tense:
What did I buy?     a paper - papur (object)    Prynais i bapur
What did he see?  a car     - car (object)        Gwelodd e gar

Future tense:
What will I buy?     a paper - papur (object)    Pryna i bapur

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Gwelais i gi - V S O
I saw a dog - S V O

2. Darlleni di lyfr - V S O
You will read a book - S V O

3. Dewisodd e wobr - V S O
He chose a prize - S V O

4. Ysgrifennodd hi lythyr - V S O
She wrote a letter - S V O

5. Prynith y ferch fara - V S O
The girl will buy bread - S V O

6. Clywon ni gath - V S O
We heard a cat - S V O

7. Coginiwch chi frecwast - V S O
You will cook breakfast - S V O

8. Gwerthon nhw docynnau - V S O
They sold tickets - S V O