Ask Dr Gramadeg: Adolygu Ateb Cwestiynau / Revising Answers to Questions

Mae ateb cwestiwn uniongyrchol yn Gymraeg yn debyg i ateb cwestiwn yn llawn yn Saesneg.
Answering a direct question is generally like answering in full in English. 

Cwestynau'n dechrau â:               Atebion
Questions beginning with:
          Answers

Bod (to be) - Yr Amser Presennol ac Yr Amser Perffaith / Present and Perfect (wedi) Tense

Ydw i?             Am/do I..?
Wyt/Nac wyt (nagwyt)            Yes you are/do/No you aren’t/don’t.

Wyt ti?             Are/do you..?
Ydw/Nac ydw (nagw)             Yes I am/do/No I’m not/don’t.

Dych chi?        Are/do you..? (singular)
Ydw/Nac ydw (nagw)             Yes I am/do/No I’m not/don’t.

Dych chi?        Are/do you..? (plural/formal)
Ydyn/Nac ydyn (nagyn)         Yes we are/do/No we aren’t/don’t.

Ydy e/hi?         Is he/she/it..?
Ydy/Nac ydy (nady/nagyw)    Yes he/she it is/does/No he/she it isn’t.

Ydyn nhw?      Are/do they..?
Ydyn/Nac ydyn (nagyn)         Yes they are/do/No they aren’t/don’t            .

Oes?               Is/are there..?
Oes/Nac oes (nagôs)              Yes there are/No there aren’t/don’t.


Bod (to be) - Yr Amser Amherffaith / Imperfect Tense

O’n i?               Was I..?
O’t/Nac o’t (nagôt)                  Yes you were/No you weren’t.

O’t ti     ?          Were you..? (singular)
O’n/Nac o’n (nagôn)               Yes I was/No I wasn’t.

O’ch chi?         Were you..? (plural form)
O’n/Nac o’n (nagôn)               Yes we were/No we weren’t.

Oedd e/hi?      Was he/she/it..?
Oedd/Nac oedd (nagôdd)       Yes he/she/it was/No he/she/it wasn’t.

O’n ni?             Were we..?
O’ch/Nac o’ch (nagôch)         Yes you were/No you weren’t.

O’n nhw?         Were they..?
O’n/Nac o’n (nagôn)               Yes they were/No they weren’t.

 

Bod (to be) - Yr Amser Dyfodol / Future Tense

Fydda i?          Will I (be)..?
Byddi/Na fyddi                       Yes you will (be)/No you won’t (be).

Fyddi di?         Will you (be)..?
Bydda/Na fydda                     Yes I will (be)/No I won’t (be).

Fyddwch chi? Will you (be)..? (singular)
Bydda/Na fydda                     Yes I will (be)/No I won’t (be).

Fyddwch chi?   Will you (be)..? (plural/formal)
Byddwn/Na fyddwn                Yes we will (be)/No we won’t (be).

Fydd e/hi?       Will he/she/it (be)..?
Bydd/Na fydd                          Yes he/she/it will (be)/No… won’t (be).

Fyddwn ni?     Will we (be)..?
Byddwch/Na fyddwch              Yes you will (be)/No you won’t (be).

Fyddan nhw?  Will they (be)..?
Byddan/Na fyddan                  Yes they will (be)/No they won’t (be).


Bod
(to be) - Yr Amodol / Conditional Tense

Fyddwn i?       Would I (be)..?
Byddet/Na fyddet           Yes you would(be)/No you wouldn’t(be)

Fyddet ti?        Would you (be)..?
Byddwn/Na fyddwn         Yes I would(be)/No I wouldn’t(be).

Fyddech chi?  Would you (be)..? (singular)
Byddwn/Na fyddwn          Yes I would(be)/No I wouldn’t(be).

Fyddech chi? Would you (be)..? (plural/formal)
Bydden/Na fydden            Yes we would(be)/No we wouldn’t(be).

Fyddai fe/hi?   Would he/she/it (be)..?
Byddai/Na fyddai              Yes he/she/it would/No he/she wouldn’t

Fydden ni?      Would we (be)..?
Byddech/Na fyddech         Yes you (be) would /No you wouldn’t.

Fydden nhw?  Would they (be)..?
Bydden/Na fydden             Yes they would (be)/No they wouldn’t.

 

Cael (to get/to have)- Yr Amser Presennol & Yr Amser Dyfodol / Future & Present Tense

Ga(f) i..?          May I (have)..?
Cei/Na chei (singular)      Yes you may (have)/no you may not.

Ga(f) i..?          May I (have)..?
Cewch/Na chewch (plural/formal) Yes you may (have)/no you may not.

Gaiff e/hi..?     May he/she (have)..?
Caiff/Na chaiff                    Yes he/she may (have)/no… may not.

Gawn ni..?       May we (have)?
Cewch/Na chewch             Yes they may (have)/no they may not.

Gân nhw..?                          May they (have)?
Cân/Na chân                     Yes they may (have)/no they may not.


Gwneud
(to do/make) - Yr Amser Dyfodol / Future Tense

Wnei di?          Will you..?
Gwnaf/Na wnaf                      Yes I will/no I won’t

Wnewch chi? Will you..? (plur./form.)
Gwnaf/Na wnaf                     Yes I will/no I won’t

 

Dim ond dwy eithriad sydd, lle bydd atebion Cymraeg yn wahanol i atebion llawn Saesneg:
There are two exceptions to Welsh answers being like full English answers:

1)         Yr Amser Gorffennol - Yes/No   / Past Tense yes and no, e.g:
Est ti ma’s?             Welon nhw’r gêm?  Do/Naddo
Did you go out?     Did they see the game?

2)         Cwestiynau Pwysleisiol / Emphatic yes and no, e.g:
Ma’s est ti?               Nhw yw’r gorau?             Nyrs yw e?  Ie/Nage
Out you went?         They were the best?       A nurse he is?

Dyw cwestiynau pwysleisiol ddim yn dechrau gyda berf. Yn syml, byddwch chi'n gwneud cwestiwn pwysleisiol mewn unrhyw amser, drwy symud rhan y cwestiwn byddwch chi eisiau ei physleisio i ddechrau'r frawddeg. Pan fydd hyn yn digwydd, Ie/Nage fydd yr atebion, ni waeth beth fydd yr amser, e.e:
Emphatic questions
are those which do not start with a verb. An emphatic question can be formed in any tense by putting what you are emphasising first. When this happens the answers are always Ie/Nage regardless of the tense, e.g:

Y Presennol / Present

Wyt ti’n nyrs?    Are you a nurse?
Ydw/Nac ydw

Y Presennol - Gyda phwyslais / Emphatic

Nyrs wyt ti?         A nurse you are?  (noun first - nurse)
Ie/Nage

Y Gorffennol / Past

Aeth Ffred?        Did Ffred go?
Do/Naddo

Y Gorffennol - Gyda physlais / Emphatic

Ffred aeth?        Ffred  went? (noun first - Ffred)
Ie/Nage

Yr Amherffaith / Imperfect

Oedd e yn y dre?    Was he in town?
Oedd/Nac oedd

Yr Amherffaith - Gyda phwyslais / Emphatic

Yn y dre (r)oedd e?   In town he was?  (adverb 1st - ‘where’)
Ie/Nage

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Ydw i'n gallu dod i'r cyngerdd? Wyt / Nac wyt (Nagwyt).
Am I able to come to the concert? Yes / No.

2. Wyt ti'n mwynhau'r sioe? Ydw / Nac ydw (Nagw).
Are you enjoying the show? Yes / No.

3. Ydy hi'n gweithio'n galed? Ydy / Nac ydy (Nady / Nagyw).
Is she working hard? Yes she is/ No she isn’t.

4. Ydy e'n rhedeg lan y mynydd? Ydy / Nac ydy (Nady / Nagyw).
Is he running up the mountain? Yes he is / No he isn’t.

5. Dyn ni'n medru mynd i'r parti? Ydyn / Nac ydyn (Nagyn).
Are we able to go to the party? Yes we are / No we aren't.

6. Dyn ni'n mynd i aros yn y tŷ? Ydych / Nac ydych.
Are we going to stay in the house? Yes you are / No you aren't.

7. Dych chi'n lico cŵn? Ydw / Nac ydw (Nagw).
Do you like dogs? Yes I do / No I don’t.

8. Dych chi'n hoff o gathod? Ydyn / Nac ydyn (Nagyn).
Are you fond of cats? Yes we are / No we aren’t.

9. Ydyn nhw'n dod â'r caws glas? Ydyn / Nac ydyn (Nagyn).
Are they bringing the blue cheese? Yes they are / No they aren’t. .

10. Oes gwin coch yn y cwpwrdd? Oes / Nac oes (Nagôs).
Is there red wine in the cupboard? Yes there is / No there isn't.

11. Oes cŵn yn yr ardd? Oes / Nac oes (Nagôs).
Are there any dogs in the garden? Yes there are / No there aren't.

12. O’n i'n dda pan o'n i'n blentyn? O’t / Nac o’t (Nagôt)
Was I good when I was a child? Yes you were / No you weren’t.

13. O’t ti'n hapus ddoe? O’n / Nac o’n (Nagôn)
Were you happy yesterday? Yes I was / No I wasn’t.

14. Oedd hi'n chwarae yn yr ardd? Oedd / Nac oedd (Nagôdd).
Was she playing in the garden? Yes she was / No she wasn’t.

15. Oedd e'n bwyta'r cyri malwod? Oedd / Nac oedd (Nagôdd).
Was he eating the snail curry? Yes he was / No he wasn’t.

16. O’n ni'n dlawd pan o'n ni'n ifanc? O’ch / Nac o’ch (Nagôch).
Were we poor when we were young? Yes you were / No you weren’t.

17. O’n ni'n gyfoethog pan o'n ni'n byw yno? O’n / Nac o’n (Nagôn).
Were we rich when we lived there? Yes we were / No we weren’t.

18. O’ch chi'n oer neithiwr? O’n / Nac o’n (Nagôn).
Were you cold last night? Yes I was / No I wasn't.

19. O’ch chi'n rhy dwym ddoe? O’n / Nac o’n (Nagôn).
Were you too warm yesterday? Yes we were / No we weren’t.

20. O’n nhw'n rhedeg drwy'r caeau? O’n / Nac o’n (Nagôn).
Were they running through the fields? Yes they were /No they weren’t.

21. Fydda i'n cymryd rhan? Byddi / Na fyddi.
Will I be taking part? Yes you will be / No you won’t be.

22. Fyddi di'n dod i'r parti? Bydda / Na fydda.
Will you come to the party? Yes I will / No I won’t.

23. Fydd hi'n chwarae yn y parc? Bydd / Na fydd.
Will she be playing in the park? Yes she will / No she won't.

24. Fydd e'n dod i ymweld? Bydd / Na fydd.
Will he come to visit? Yes he will / No he won’t.

25. Fyddwn ni'n chwarae sboncen 'fory? Byddwch / Na fyddwch.
Will we be playing squash tomorrow? Yes you will / No you won’t.

26. Fyddwch chi'n 'neud brechdanau? Bydda / Na fydda.
Will you make sandwiches? Yes I will /No I won’t.

27. Fyddwch chi'n dod â'r gwin coch? Byddwn / Na fyddwn.
Will you bring the red wine? Yes we will / No we won’t.

28. Fyddan nhw'n mwynhau'r canu? Byddan / Na fyddan.
Will they enjoy the singing? Yes they will / No they won’t.

29. Fyddwn i'n barod mewn pryd? Byddet / Na fyddet.
Would I be ready on time? Yes you would be / No you wouldn’t be.

30. Fyddet ti'n fodlon aros? Byddwn / Na fyddwn.
Would you be willing to wait? Yes I would be /No I wouldn’t be.

31. Fyddai hi'n barod i ddechrau ar unwaith? Byddai / Na fyddai.
Would she be ready to start at once? Yes she would / No she wouldn’t.

32. Fyddai fe'n teithio o gwmpas y byd? Byddai / Na fyddai.
Would he travel around the world? Yes he would / No he wouldn’t.

33. Fydden ni'n gallu aros yma? Byddech / Na fyddech.
Would we be able to stay here? Yes you would / No you wouldn’t.

34. Fyddech chi'n falch o helpu? Byddwn / Na fyddwn.
Would you be happy to help? Yes I would / No I wouldn’t.

35. Fyddech chi'n lico bwydo'r lamaod? Bydden / Na fydden.
Would you like to feed the llamas? Yes we would / No we wouldn’t.

36. Fydden nhw'n ystyried y cynnig? Bydden / Na fydden.
Would they consider the proposal? Yes they would / No they wouldn’t.

37 Ga i brechdan gaws? Cei / Na chei.
May I have a cheese sandwich? Yes you may / No you may not.

38. Ga i yfed y gwin coch? Cewch / Na chewch.
May I drink the red wine? Yes you may / No you may not.

39. Gaiff hi orffen y cyri malwod? Caiff / Na chaiff.
May she finish the snail curry? Yes she may / No she may not.

40. Gawn ni fynd i weld y plant? Cewch / Na chewch.
May we go to see the children? Yes you may / No you may not.

41. Gân nhw ddisgled o de? Cân / Na chân.
May they have a cup of tea? Yes they may / No they may not.

42. (W)nei di aros? (Gw)na / Na (w)na.
Will you stay? Yes I will / No I won’t.

43. (W)newch chi brynu'r bwyd? (Gw)na / Na (w)na.
Will you buy the food? Yes I will / No I won’t.

44. Ddest ti â'r caws glas? Do / Naddo.
Did you bring the blue cheese? Yes / No.

45. Glywch chi'r stŵr? Do / Naddo.
Did you hear the commotion? Yes / No.

46. I'r garej aethon nhw? Ie / Nage.
Did they go *to the garage*? Yes / No.

47. Chi yw’r gwaetha? Ie / Nage.
Are *you" the worst? Yes / No.

48. Ydy dy frawd di'n athro? Ydy / Nac ydy.
Is your brother a teacher? Yes / No.

48. Athro yw dy frawd di? Ie / Nage
Is your brother a *teacher"? Yes / No.

49. Ydych chi'n hapus? Ydw / Nac ydw.
Are you happy? Yes I am / No I'n not.

50. Hapus ydyn nhw? Ie / Nage.
Are they *happy"? Yes / No.

51. Ddest ti i'r cyngerdd? Do / Naddo.
Did you come to the concert? Yes / No.

52. Nhw aeth â'r cyri malwod? Ie / Nage.
Did *they" bring the snail curry? Yes / No.

53. O't ti yn yr ysgol ddoe? O'n / Nac o'n.
Were you in school yesterday? Yes / No.

54. Ti oedd yn yr ysgol ddoe? Ie / Nage.
Was it you who was in school yesterday? Yes / No.

55. Rhedeg lan y mynydd ro'n nhw neithiwr? Ie / Nage.
Were they *running up the mountain* last night? Yes / No.