Ask Dr Gramadeg: Arddodiadau yn Gymraeg ffurfiol / Prepositions in formal Welsh

Dw i’n ysgrifennu atoch I am writing to you

Sywch ar y ffaith ein bod wedi hepgor y rhagenw personol chi ar ôl atoch yn yr esiampl uchod.
Notice in the example above, that the personal pronoun chi has been left off the preposition atoch.

Mewn iaith ffurfiol, byddwn ni'n hepgor y rhagenwau personol - fi, ti, fe, hi, ni, chi, nhw– fel arfer, gan fod y terfyniadau'n ddigon i ddangos pa berson y byddwn ni'n ei olygu, e.e. 'at' ('ysgrifennu at berson').
In formal Welsh the personal pronouns - fi, ti, fe, hi, ni, chi, nhw– are usually omitted, as the endings are enough to show the person involved, e.g. ‘at’ (to write to a person).

Siarad Ysgrifennu English
ata i ataf to me
atat ti atat to you
ato fe ato to him
ati hi ati to her
aton ni atom to us (the ‘n’ is changed to an ‘m’ in most 1st person plurals)
atoch chi atoch to you
atyn nhw atynt to them (a ‘t’ is usually added to all 3rd person plurals)

Siarad > Ysgrifennu

Dweud wrthyn nhw > Dweud wrthynt to tell them

Edrych arnon ni > Edrych arnom to look at us

Siarad amdana i > Siarad amdanaf to talk about me

Rhai ohonoch chi > Rhai ohonoch some of you


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Ysgrifennwch ataf ynghylch y mater!
> Ysgrifennwch ata i am y mater!
Write to me about the matter!

2. Byddaf yn anfon y manylion atat
> Bydda i'n hala'r manylion atat ti
> I'll be sending the details to you

3. Aeth y fenwy ato pan oedd mewn trafferth
> Aeth y fenyw ato fe pan oedd hi mewn trafferth
The woman went to him when she was in trouble

4. Rwy'n gobeithio bod eich mam yn iawn. Cofiwch i ati pan gwelwch hi.
> Gobeithio bod eich mam chi'n iawn. Cofiwch i ati hi pan gwelwch chi hi.
I hope your mother is well. Remember me to her when you see her.

5. Daethant ag anrhegion atom yn ystod y parti
> Daethon nhw ag anrhegion aton ni yn y parti
They brought us presents in the party

6. Bydd hi'n dod atoch er mwyn cywno yfory
> Bydd hi'n dod atoch chi i gwyno 'fory
She'll be coming to you to complain tomorrow

7. Yr oedd yr heddlu'n agosáu atynt, ond dihangodd y lladron
> Roedd yr heddlu'n agosáu atyn nhw, ond dihangodd y lladron
The police were getting nearer to them, but the robbers escaped

8. Dywedwch y gwir wrthym!
> Dwedwch y gwir wrthon ni!
Tell us the truth!

9. Mae rhaglen ar y teledu, rwy'n dymuno edrych arni
> Mae rhaglen ar y teledu, dw i eisiau edrych arni hi
There's a programme on the television that I want to watch

10. Oeddech yn siarad amdanaf?
> O'ch chi'n siarad amdana i?
Were you talking about me?

11. Bydd yn rhaid i rai ohonoch aros yn y gwesty
> Bydd rhaid i rai ohonoch chi aros yn y gwesty
Some of you will have to stay in the hotel

Ask Dr Gramadeg Prepositions in Formal Welsh